Uncategorized

`Pwy wers sy ‘da chi nawr?` holai Jâms Niclas

garregMISH RHAGFYR 1968 wedd hi. Finne newydd dreulio fy nhymor cyntaf yn y brifysgol yn Aberystwyth. Fel nifer o’m cyfoedion roeddwn yn awyddus i roi tro am yr athrawon fu yn fy nysgu yn Ysgol y Preseli yn ogystal âm ffrindie o blith y disgyblion. I mewn â fi rhyw ganol prynhawn yn gwisgo jîns a rhyw grys ffasiynol yn ôl pob tebyg a thamed o whisgers ar fy nghern. Pwy ddaeth ar hyd y coridor tuag ataf ond neb llai na’r prifathro, James Nicholas. Rhaid cydnabod bod y coridor yn lled dywyll ar y gore.

Dyma fi ’n meddwl nawr y bydde Jâms yn siwr o ofyn i mi shwt oeddwn i’n setlo lawr, beth oeddwn i’n ei astudio, pwy oedd fy narlithwyr, pa feirdd oedd yn mynd â’m bryd, oeddwn i’n ymwneud â gwleidyddiaeth, oeddwn i’n aelod o gymdeithas Y Geltaidd a Thaliesin a chant a mil o gwestiyne eraill. Wedi’r cyfan roedd y gŵr o Dyddewi’n gyn-fyfyriwr ei hun ac wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg yn y coleg ger y lli. Gwibiai hyn oll trwy fy meddwl. Esum i damed o banig. Credwn y bydde yn fy nhywys i’w stafell. Doeddwn i ddim yn anghyfarwydd â honno. Teimlwn fy ngheg yn mynd yn sych. Beth fedrwn i ei ddweud i greu argraff fy mod yn fyfyriwr cydwybodol? Thale hi ddim i fi sôn am y sbri a’r rhialtwch yn y Llew Du a’r Marine a’r Skinners.

Ond daeth ymwared. Wyddoch chi beth oedd cyfarchiad Jâms Niclas wrth iddo edrych heibio i mi i’r pellter a fi nne wedi gadael yr ysgol ers yr haf cynt? `Pa wers sy ‘da chi nawr?` Dyna linell anfarwol. Oedd tywyllwch y coridor wedi’i wneud yn ddall i’r ffaith nad oeddwn yn gwisgo lifrai ysgol? Nid oedd wedi fy adnabod neu doedd e ddim wedi sylweddoli fy mod wedi gadael yr ysgol. Ond yn hytrach na’m cystwyo am grwydro ar hyd y coridor ar adeg gwers aeth yn ei fl aen heibio i mi i ben draw’r coridor rhywle.

Daeth y stori honno i gof wrth wrando ar grwt hynaf Parc Nest, y cyn-archdderwydd Jim, yn traddodi darlith gyntaf Gŵyl Jâms yn Nhyddewi yn ddiweddar. Traethodd ynte straeon cyffelyb am hynodrwydd Jâms o’i brofi ad ei hun ac o brofi ad eraill. Daeth i’r casgliad fod yna ddoethineb yn ei ymddygiad ecsentrig. A gwir bo hynny. Fel Jim roedd Jâms yn gyn-Archdderwydd hefyd. Clywsom fod gan Jâms ddiddordeb ysol ym marddoniaeth T. S. Eliot a cherfl unwaith Henry Moore a’i fod yn gyfaill mynwesol i Waldo Williams. Dywedwyd wrthym fod ei gyfrol, ‘Cerddi’r Llanw’, yn hynod am ei bod yn gyforiog o gerddi serch i’w wraig, Hazel, tra bydde’r rhelyw o feirdd yn cyfyngu eu cerddi serch yn eu cyfrole i un neu ddwy.

Pan oedd yn athro ifanc yn Y Bala fe’i hyfforddwyd yn nyrys faterion y gynghanedd gan y rheithor Euros Bowen. Clywsom hefyd iddo fod yng nghanol aml i ymrafael i gynnal Cymreictod Ysgol y Preseli. Cofi af inne am gais un rhiant am i’w fab gael ei esgusodi o wersi Cymraeg ar y sail na fydde gwybodaeth o’r iaith o unrhyw fudd iddo yn ardal Glandŵr a thu hwnt. Bu llythyru brwd ac amrwd yn y wasg. Ni ddywedodd Jâms ddim yn gyhoeddus. Daliodd ei dir. Delai Jimmy i’r ysgol bob dydd â’i ddillad yn hade gwair i gyd. Gwnâi ddiwrnod o waith cyn brecwast.

Cafodd ei ddal yn gyrru tractor ar y ffordd o dan oedran wrth fynd mas â’r tshyrns. Yn ôl yr adroddiad llys roedd ei dad yn dal yn ei wely pan aeth y plisman i’r clos i chwilio amdano. Ni esgusodwyd neb rhag derbyn gwersi Cymraeg yn Ysgol y Preseli. Erbyn heddiw mae dros fi l o blant yn mynychu’r ysgol ac yn derbyn y rhan fwyaf o’u gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg nid dim ond y wers Gymraeg yn unig. O edrych nôl ac wrth i T. James Jones ein hatgoffa mai yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffl int 1969 yr enillodd Jâms Niclas y Gadair, wedi’i symbylu gan gerfl un o’r fam feichiog, mae’n rhaid mai gwewyr y creu oedd yn ei dywys pan na wnaeth fy adnabod ar goridor Ysgol y Preseli. Am hynny dwi’n madde iddo!

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment