Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Published

on

Cerddwyr Cylch Teifi yn edmygu cerflun y Twrch Trwyth ar stad Clynfyw, gyda Howard Williams yn arwain

Cerddwyr Cylch Teifi yn edmygu cerflun y Twrch Trwyth ar stad Clynfyw, gyda Howard Williams yn arwain

YM MIS Mawrth, buom yn ardal Cwm Cuch gyda Howard Williams i’n harwain. Gan gychwyn wrth dafarn y Nag’s Head, aethom ar daith gylch ar hen stad Clynfyw. Roedd Howard wedi paratoi taflen o nodiadau am nodweddion diddorol y daith i bawb, a chawsom fwynhau llwybr y Cerfluniau, eirlysiau wrth y miloedd, golygfa dda i lawr ar Afon Cych a’r Cwm, a chlywed am gysylltiadau â’r Mabinogi, hanes y stad a’r hen ardd furiedig. Aeth llawer ohonom i gael croeso a lluniaeth yn Nhafarn y Nag’s Head ar ôl cerdded. Taith hyfryd eto, ac roedd yn dda gweld rhai cerddwyr newydd yn ymuno â ni.

Fis Ebrill 9fed, bydd Reg Davies yn arwain taith yn ardal Dinas ac Aber-bach. Cychwynnwn o Faes Parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384 Cod post: SA42 0XG). O gyfeiriad Aberteifi, trowch i’r dde gyferbyn â lloches byses ar ôl mynd heibio’r troad i Bwllgwaelod). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Awn ar daith gylch ddwy awr, tua 2.5 milltir, ar lwybrau i fferm Tre-wrach, lawr lôn dawel a llwybr da i draeth Aber-bach ac yn ôl ar y lôn i ddychwelyd i’r Capel. Bydd un llecyn a all fod yn fwdlyd, dwy sticil, ac esgyniad o ryw 400 troedfedd, y rhan fwyaf ohono ar y ffordd yn ôl i’r Capel, sy’n eithaf serth ar y dechrau. Gallwn ddisgwyl daith brydferth, hanesyddol gydag ymweliad â pherl o draethell anghysbell. Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn nhafarndai Trefdraeth a Dinas a hefyd yng nghaffi Flas Fronlas, Trefdraeth.

Ym mis Mai, 14eg, cerddwn yn ardal Cwm Soden a Chastell Bach, ger Cwm Tydu, gan adael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb. Howard Williams fydd yr arweinydd eto. Mae’r man parcio ryw 200 metr yn brin o Eglwys St Tysilio. O’r A487 rhwng Plwmp a Synod trowch i Gaerwedros, mynd trwy’r pentref a syth ymlaen, ar draws yr heol rhwng Llwyndafydd a Nanternis, tuag at Gwmtydu; ar ôl rhyw filltir trowch i’r dde tuag at yr eglwys. Nid oes lle i fwy na rhyw 15 car ar y tir pwrpasol ond gallwn barcio’n ofalus hefyd ar y borfa ar hyd yr heolydd o bobtu’r gyffordd. Er hynny, fe fydd yn syniad da dod â chyn lleied o geir ag y bo modd, er enghraifft drwy gwrdd â gyrwyr eraill yng Nghwmtydu a rhannu ceir wrth fynd ymlaen. Dewch mewn da bryd i ddechrau fel arfer ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir ar lwybrau da; dros gaeau i’r penrhyn i’r gogledd o Gwmtydu, ar lwybr yr arfordir i lawr i Draeth Cwm Soden (serth mewn mannau) ac wedyn lan y Cwm a’i lethr ddeheuol i’r Eglwys. Bydd esgyniad o ryw 350 troedfedd, yn bennaf wrth ddringo’r llwybr serth gyda llawer o risiau ar y diwedd i gyrraedd yr eglwys. Wrth gerdded, cawn weld golygfeydd gwych o’r arfordir, blodau ar eu gorau, Castell Bach, caer amlwg o’r Oes Haearn, cwm prydferth, rhaeadrau annisgwyl, ac eglwys mewn llecyn hyfryd. Ac wedyn bydd cyfle i gael lluniaeth yn y Crown yn Llwyndafydd neu yn y Caffi yng Nghwmtydu.

Fis Mehefin 11eg, cerddwn yn ardal Cilgerran a Llechryd gydag Emyr Phillips yn arwain, a hon fydd ein taith olaf y tymor hwn.

Bydd croeso cynnes i bawb ar bob taith. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Philippa Gibson, 01239 654561 philippa.gibson@gmail.com

Dyddiadau’r teithiau nesaf:

9 Ebrill: Ardal Dinas ac Aber-bach

Gadael maes parcio Capel Tabor, Dinas (SN005 384) (Cod post SA42 0XG), am 10.30yb. Arweinydd: Reg Davies

14 Mai: Cwm Soden, ger Cwm Tydu

Gadael man parcio Eglwys Llandysiliogogo (SN363 572) (Cod post SA44 6LH), am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams

11 Mehefin: Ardal Cilgerran a Llechryd

Gadael maes parcio Neuadd Cilgerran (SN198 428) (Cod post SA43 2TE), am 10.30yb. Efallai bydd y man cychwyn yn newid yn nes at y dyddiad.

Arweinydd: Emyr Phillips

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

Published

on

“Y byd yn uno mewn dathliad lliwgar a llawen”: Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Continue Reading

Cymraeg

Eglwys Madagascar yn ymweld â Cheredigion

Published

on

Dwy gan mlynedd o bartneriaeth: Pwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion

AR DDYDD Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl – eglwys sy’n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu’r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy’n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a’r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Published

on

'Un gam o’r ffordd': Dai Lloyd, AC

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Continue Reading

Popular This Week