Community Cymraeg

Adeiladwch hi ac mi ddôn nhw?

Trenau newydd: Hen lwybrau
Trenau newydd: Hen lwybrau

MAE POBL yn dal i gofio rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth. Fe’i caewyd yn derfynol i nwyddau, sef llaeth, ym 1973, bron union ganrif ar ôl ei chodi.

Dros y blynyddoedd, bu nifer yn ceisio adfer rhan o’r lein ar gyfer rheilffordd dreftadaeth, ond, ers tua 2000, bu’r galw a’r drafodaeth am ail-greu cledrau rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cynyddu. Yn ddiweddar iawn, sefydlwyd grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru i weithio dros adfer y cyswllt hwn, a’r cyswllt atodol i Fangor. Nid peiriannydd sifil mohonof ac nid wyf yn ymddiddori mewn trenau yn arbennig, felly fy unig ddiddordeb i yw adnabod y posibiliad o agor cefn gwlad gorllewin Cymru i drafnidiaeth fodern a gweld datblygiadau cyffrous a all gryfhau’r economi yn sylweddol.

Felly, nid wyf am gynnig lein, yn benodol, na’r math o lwybr y gellid ei gymryd, ond mae’n werth trafod yr opsiynau. Mae’r hyrwyddwyr y tu ôl i Traws Link Cymru yn awgrymu defnyddio tipyn o’r hen lein, sydd yno o hyd, gyda darn newydd o Alltwalis i Gaerfyrddin ac ail-leoli pwrpasol mewn lleoedd eraill.

Byddai hynny’n golygu taith o ryw awr a hanner rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Mae hyn yn cymharu’n ffafriol gyda’r awr a chwarter a gymerir, i bob pwrpas, mewn car, a’r ddwy awr – fel y gwn yn iawn -ar y bws. Byddai eraill yn ffafrio ailystyried y beirianneg yn llwyr, gan gynnig dull cledrau ysgafn, efallai, o’r math sy’n caniatáu i drenau fynd oddi ar y cledrau i redeg ar olwynion yn hytrach na chledrau traddodiadol. Byddai hynny yn golygu, o bosibl, llai o waith peirianyddol. Yr hyn sydd gennym erbyn hyn, yn siŵr, yw’r dechnoleg a’r beirianneg nad oedd gan y Fictoriaid, ac ni fyddai codi lein o’r fath yn anhawster peirianyddol o gwbl.

Cwestiwn arall, mae’n wir, yw’r defnydd a’r gost. Rwy’n ffyddiog nad oes amheuaeth y daw pobl i ddefnyddio’r lein hon. Aiff yn gyswllt hanfodol rhwng de a gogledd Cymru, ac o’r gorllewin i Abertawe a Chaerdydd. Mae 55,000 o bobl yn byw ar hyd y llwybr arfaethedig rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, sy’n cymharu â’r 50,000-sydd ychydig yn llai – sydd yn byw ar hyd y llwybr o Aberystwyth i’r Amwythig. Mae’r lein honno nid yn unig ar agor o hyd, ond mae’n cynyddu o ran ei defnydd. Gyda thwf Caerfyrddin ac Aberystwyth fel canolfannau gwaith ac economaidd – ac mae Plaid Cymru am weld mwy o ffocws ar hynny – nid oes dwywaith na fyddai’r lein yn denu pobl yn eu cannoedd o filoedd. Byddai llawer yn ei defnyddio i gymudo, i ymweld ag ysbytai, i siopa ac fel rhan o’r rhwydwaith o’r de i’r gogledd. Byddai llawer o bobl eraill am ei defnyddio ar gyfer twristiaeth, mae’n siŵr. Byddai hyd yn oed yn gyfle i symud ambell un o lorïau Mansel Davies oddi ar yr hewl ac i’r rheilffordd.

Byddai’r gost, yn wir, yn her. Adeiladwyd lein newydd ar gyfer ardal y Borders yn yr Alban – yn wir, mae’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd – sy’n 31 milltir o hyd. Bydd yn costio tua £11m y filltir.

Amcangyfrif cost o hyd at £750m i ailgysylltu Caerfyrddin ac Aberystwyth trwy reilffordd.

Mae’n wir fod hynny’n llawer o arian, ond gallai peirianwaith arall ddod â chost y lein i lawr. Os dodwch chi’r mater yng nghyd-destun cau’r bwlch rhwng Cricieth a Bangor, gwelliannau ar lein y Cambrian a lein Calon Cymru, ac yng nghyd-destun cysylltiadau bysus, yr hyn a gewch chi yw rhwydwaith cyfan gwbl genedlaethol a fyddai’n cynnig opsiynau go iawn i deithio heb gar drwy’r rhan fwyaf o Gymru.

At hynny, bydd gennych gynllun a fyddai’n creu gwaith a sgiliau yn y gorllewin ac yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd drwy Ewrop. Byddai cyfle am brentisiaethau lleol, cyfle am sgiliau yn y coleg, a chyfle am gaffael lleol i fusnesau dros gyfnod hir. Byddai buddsoddiad o dros £500m i gysylltu’r ddwy dref bwysig hon yn gwneud mwy i gadw’r iaith yn fyw yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion na’r un strategaeth iaith na’r un tasglu, waeth ba mor wych ydynt.

Yr hyn yr wyf yn chwilio amdano yw ymdeimlad o ddychymyg a gweledigaeth y gallai’r gorllewin gael gwasanaeth rheilffordd go iawn unwaith eto. Y dasg gyntaf i unrhyw Lywodraeth sy’n cymryd trafnidiaeth gyhoeddus o ddifrif yw sicrhau bod y llwybr rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael ei drin fel coridor trafnidiaeth o bwys cenedlaethol, sydd â gwasanaethau bysiau rheolaidd.

Ar ôl yr astudiaeth dichonoldeb a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru rydym angen rhaglen fuddsoddi fawr yn isadeiledd trafnidiaeth er mwyn adeiladu’r peiriant economaidd y gorllewin.

About the author

Jon Coles

Add Comment

Click here to post a comment