Cymraeg

Anrhydedd Orsedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

Gwisg Las: Brian Jones o Cwmni Bwydydd Castell Howell
Gwisg Las: Brian Jones o Cwmni Bwydydd Castell Howell

CYHOEDDIR ENWAU’R rheini a fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, fore Gwener 5 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Gwisg Las

Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin yw pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell, darparwr bwydydd mwyaf Cymru erbyn hyn, sydd hefyd yn gweithredu mewn rhannau o Loegr. Sefydlodd y cwmni wrth arallgyfeirio ar ôl cyfnod yn amaethu ar y fferm deuluol, Castell Howell.

Mae’r cwmni’n enwog am hyrwyddo bwydydd o Gymru, ac mae Brian a’r cwmni hefyd yn adnabyddus am gefnogi pob math o gymdeithasau a sefydliadau Cymreig, yn enwedig y rheiny sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Bydd Brian Jones hefyd yn Llywydd y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf, wrth i Sir Gaerfyrddin noddi’r Sioe’r flwyddyn honno.

Anrhydeddir Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf am ei gyfraniad arbennig dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, ac yn arbennig i Ganolfan Hywel Dda dros gyfnod o flynyddoedd lawer.

Yn gyn-athro yn Ysgol Dyffryn Taf, mae Ken Rees yn rhan annatod o’i gymuned leol a’i ymroddiad i’r Ganolfan fel garddwr, gofalwr, saer, tywysydd, gohebydd a’r trefnydd cyrsiau, yn amhrisiadwy.

Yn lladmerydd cryf dros dwristiaeth a thros ei ardal, mae Ken wedi trefnu amryw o arddangosfeydd dros y blynyddoedd, gan godi statws a phroffil Cyfreithiau Hywel a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’u pwysigrwydd yn hanes Cymru.

Mae’r gymuned a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni’n rhan bwysig o fywyd Dafydd Wyn, Glanaman, a bu ei gyfraniad i’r gymuned honno’n fawr dros y blynyddoedd. Yn un o sylfaenwyr y papur bro Glo Mân bron i ddeugain mlynedd yn ôl, bu’n golofnydd cyson yn y papur hwnnw dros y blynyddoedd.

Ef oedd yn gyfrifol am gychwyn Cylch Darllen Llyfrau Cymraeg Llyfrgell Rhydaman, ac mae’n parhau i gyd-redeg y cynllun hwn hyd heddiw. Mae’n gynghorydd cymuned, a bu’n Faer Cwmaman ddwywaith dros y blynyddoedd. Mae’n fardd ac yn enillydd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol.

Gwisg Werdd

Brodor o UDA yw Martha Davies, Lincoln, Nebraska, ond mae ei Chymreictod yn gryf, a bu’n weithgar yng nghymuned Gymreig Gogledd America ers bron i hanner canrif. Daeth i fyw i Gymru am bedair blynedd, a dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth cyn dychwelyd i’r UDA lle bu’n gweithio fel archifydd, llyfrgellydd a chyfieithydd nifer o lyfrau a dogfennau Cymreig.

Gyda’i gŵr, Berwyn Jones, mae’n rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska, sy’n derbyn pob math o ddogfennau, llyfrau ac arteffactau o gartrefi a chapeli Cymreig dros y wlad. Mae hefyd yn gyfrifol am ddigideiddio dau o bapurau newydd Cymreig Gogledd America sef Y Drych a Ninnau.

Mae Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli, yn adnabyddus i wylwyr S4C fel y cymeriad Denzil yng nghyfres Pobol y Cwm. Er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, Cwm Gwendraeth oedd ei gartref drwy’r blynyddoedd.

Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chadeirydd menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli, ac yn weithgar gyda’r clwb rygbi lleol, gan hyfforddi timau ieuenctid am flynyddoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae’n Weinidog ar Gapel Seion Drefach, gyda’r Ysgol Sul a’r oedfaon yn ffynnu unwaith eto dan ei ofal. Actor, gweinidog, Cymro gwladgarol a dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd a diwylliant Cymru.

Bu Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth, yn ddiwyd iawn ei chefnogaeth i nifer fawr o fudiadau dyngarol yng Ngheredigion, gan godi miloedd i elusennau ac achosion da. Mae’n cefnogi digwyddiadau diwylliannol yn ardal Aberystwyth, yn gadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac yn gyfrwng i ail-gychwyn yr Eisteddfod yn Aberystwyth.

Mae hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar o’i changen leol o Ferched y Wawr ac wedi bod yn llywydd droeon. Bu hefyd yn Llywydd Rhanbarth Ceredigion y mudiad o 2013-15.

Mae Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli, yn adnabyddus i bawb fel ‘Y Dyn Jazz’. Cafodd yrfa eithriadol lwyddiannus yn y byd jazz,a chyfle i deithio’r byd yn perfformio, a bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu dros y blynyddoedd.

Y clarinet yw offeryn Wyn, ac mae’n gerddor amryddawn, sydd wedi gosod tonau a chaneuon Cymraeg a Chymreig i steil jazz. Mae hefyd wedi darlithio’n helaeth ar hanes ac ystyr jazz, ac wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol yma yng Nghymru a thu hwnt.

About the author

Jon Coles

Add Comment

Click here to post a comment