Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

UAC yn diolch i’w haelodau hiraf o staff

Published

on

Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones, Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans

Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones,
Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans

CYNHALIODD UNDEB AMAETHWYR CYMRU seremoni wobrwyo arbennig yn ddiweddar er mwyn cydnabod yn gyhoeddus a diolch i’r aelodau hynny o staff sydd wedi rhoi 25 mlynedd a mwy o wasanaeth i’r Undeb.

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae hyn yn wobr newydd sy’n cydnabod ac yn dangos ein gwerthfawrogiad i nifer o aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Undeb ers 25 mlynedd neu’n fwy.

“Dywedir yn aml fod cwmni ond cystal â’i gweithwyr. Mae gan UAC ddigon o staff ardderchog, ymroddedig sy’n parchu’r sefydliad ac sy’n anrhydeddu gwerthoedd yr Undeb.

“Heddiw, rwy’n falch iawn medru cydnabod a gwobrwyo pum aelod o staff sydd wedi bod gyda ni ers 25 mlynedd neu fwy. Rhwng Kate Ellis Evans, Margaret Shepherd, Dai Jones, Huw Jones a Peter Davies, mae yna fwy na 125 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt.

Yr un sydd wedi bod gyda’r Undeb hiraf yw Kate Ellis Evans, a hynny ers 37 mlynedd ar ôl ymuno gyda’r Undeb ym mis Ionawr 1979 fel Swyddog Cyllid.

“Mae Kate yn uchel ei pharch, ac yn aelod o staff effeithiol a chymwys dros ben. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddi am ei ffyddlondeb a’i gwaith gwych,” dywedodd Glyn Roberts.

Yn ogystal â’i gwaith gyda’r Undeb, mae Kate hefyd yn helpu ar y fferm deuluol yn Llanon gyda’i gŵr Ben. Mae’r cwpwl yn cadw oddeutu 700 o ddefaid ac yn rhedeg siop gig yn Llanon, yn ogystal â busnes bythynnod gwyliau.

Ymunodd Margaret Shepherd gyda UAC ym mis Mawrth 1981 ac mae wedi cael ei chyflogi gan yr Undeb ers 35 mlynedd. Dechreuodd Margaret fel Clerc/Teipydd, ac yna ymunodd gyda’r Adran Gyllid.

Yna, dechreuodd Margaret gyda’r gwaith gweinyddol, ac ers nifer fawr o flynyddoedd, hi yw goruchwyliwr y swyddfa. Mae’n briod â Jimmy, postmon o Aberystwyth, ac mi fydd ei mab Bryn, yn dechrau ar ei swydd fel athro yn ysgol gynradd Penllwyn, Capel Bangor ym mis Medi.

“Margaret sy’n gyfrifol am redeg y brif swyddfa yn Aberystwyth ac mae’n gweithio’n agos gydag aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog. Mae Margaret yn aelod o staff gwerthfawr, ardderchog ac yn tu hwnt o gymwys, ac nid wyf yn siŵr beth y byddem yn ei wneud hebddi,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae Dai Jones wedi bod yn gweithio gyda UAC ers 30 mlynedd fel Gweithredydd Cyfrif ar gyfer gogledd Ceredigion, sef yr ardaloedd o’r gogledd o Lanrhystud i Bonterwyd.

Ymunodd â UAC ym mis Rhagfyr 1986, a chyfarfod ei wraig, Elen, yng Nghynhadledd Busnes Flynyddol yr Undeb. Ar y pryd, roedd Elen yn Swyddog Ardal UAC yng Nghaernarfon.

Mae’r cwpwl yn rhedeg tyddyn 25 erw ac yn cadw oddeutu 60 o ddefaid. Mae’r ferch, Manon, yn gyfreithwraig dan hyfforddiant gyda Chyfreithwyr Arnold Davies a Vincent Evans a’r mab yn Llanbedr Pont Steffan ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r mab, Dewi, newydd gwblhau ei ail flwyddyn yn astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi fydd yn treulio blwyddyn o brofiad gwaith gyda Menter a Busnes cyn dychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau ei astudiaethau cyn graddio ac ennill gradd yn amaethyddiaeth.

Dechreuodd Huw Jones fel ysgrifennydd sirol ym 1988 yn y swyddfa yn Nolgellau. Mae’n briod â Eirian, ac mae ganddynt ddwy ferch sef Glesni a Mererid.

Graddiodd Huw o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes. Yn wreiddiol, ymunodd a Banc Barclays a bu gyda’r banc am bedair blynedd a hanner yn gweithio yng nghangen Llanllieni cyn ymuno gyda UAC.

“Mae Huw wedi gweithio’n ddiflino a diolchwn iddo heddiw am ei holl waith caled. Mae’n uchel iawn ei barch ac yn aelod gwych o staff ac yn rhoi gwasanaeth rhagorol i aelodau. Nid oes amheuaeth ei fod bob amser yn sicrhau bod yr Undeb yn weithgar ac yn amlwg yn y gymuned amaethyddol ym Meirionnydd.

“O drefnu digwyddiadau megis y brecwastau o fewn ei sir, mae Huw hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian arall megis, Her y Tri Chopa a cherdded Llwybr Arfordir Cymru,” dywedodd Glyn Roberts.

Dechreuodd Peter Davies fel Swyddog Gweithredol Sirol gyda’r Undeb yng Nghaerfyrddin ym 1991 ac yna cafodd ei benodi fel Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth ym 2006. Derbyniodd Peter yr MBE fel rhan o restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1996. Mae’n briod â Barbara ac mae ganddynt 3 o blant sef Michael, Robert a Kate.

Mae wedi bod yn gyfrifol am nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ar ran yr Undeb. Mae’r rhain yn cynnwys trefnu brecwastau Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, Tŷ’r Arglwyddi ac yn y senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, cinio noson cyn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin, ac arwain tarw Du Cymreig o amgylch Parc y Scarlets er mwyn hyrwyddo ansawdd cig eidion Cymreig cyn gem y Scarlets yn erbyn tîm o Ffrainc yng Nghwpan Ewropeaidd Heineken.

Peter hefyd oedd yn gyfrifol am dair gwobr newydd sydd bellach yn cael eu cydnabod fel digwyddiadau urddasol yn y calendr amaethyddol. Cyflwynir y gwobrau i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghymru; gwasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, a gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghaerfyrddin.

Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau yn sir Gaerfyrddin, gan gynnwys protest yn erbyn mewnforion cig eidion o Frasil. Hefyd, arweiniodd Peter brotestiadau yn erbyn y fyddin yn defnyddio tir amaethyddol lleol at ddefnydd hyfforddi er mwyn dangos yr angerdd yn erbyn gwahardd hela gyda chŵn.

Tu allan i amaethyddiaeth, mae ganddo brofiad helaeth o sefydliadau arall. Bu Peter yn Gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin am 12 mlynedd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Ymddiriedolaeth am bron iawn yr holl amser yna.

Gwasanaethodd fel aelod o fwrdd S4C ac mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas Tai Cantref ac Antur Teifi.

“Mae Peter wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus gyda ni yma yn UAC – a gobeithio bydd hyn yn parhau am flynyddoedd eto i ddod. Rydym yn gwerthfawrogi ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad. Ar ran yr Undeb, rwy’n diolch iddo am ei gyfraniadau a’i waith gwych,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Simon Thomas yn Dod i Ben â Choginio Ynni Isel

Published

on

Nid yw'n Nigella: Mae Simon Thomas yn ceisio coginio ynni isel

MAE Simon Thomas AC yn edrych ymlaen at fynnu rheolaeth ar ei ddefnydd o ynni ar ôl cymryd rhan mewn arddangosiad coginio a gynhaliwyd gan Ynni Clyfar GB i ddangos manteision mesuryddion clyfar i bobl ar draws Cymru.

Ymunodd Simon Thomas â chyd-Aelodau Cynulliad mewn ymgais i goginio bentwr o grempogau gan ddefnyddio cyn lleied o drydan â phosib. Costiodd ymdrechion coginio Simon 1.76c mewn ynni o’i gymharu â chost gyfartalog coginio crempog, sef 2.19c. Defnyddiwyd mesurydd clyfar i fesur defnydd ynni’r Aelod Cynulliad, gan ddangos y canlyniad mewn punnoedd a cheiniogau ar sgrîn ddigidol.

Gydag mwy na 8.6 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi’u gosod ledled Prydain Fawr, mae Simon Thomas AM yn edrych ymlaen at weld mesuryddion clyfar yn helpu pobl i fesur eu defnydd o ynni ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r rhai sydd wedi uwchraddio i fesurydd clyfar eisoes yn gweld y manteision. Mae thri chwarter o bobl sydd â mesurydd clyfar eisoes yn dweud y byddent yn argymell un i’w teulu a ffrindiau, a chyfran debyg (80 y cant) yn cymryd camau i gwtogi ar eu defnydd o ynni. (Awst 2017 Rhagolwg ynni clyfar.)

Ar ôl cael gwybod mwy am y dechnoleg gan Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar, meddai Simon Thomas AC: “Pan wyf yn coginio gartref, dwi ddim yn gwybod faint o ynni rwy’n ei ddefnyddio. Trwy gymryd rhan yn yr arddangosiad coginio hwn, roeddwn yn gallu cael ychydig o ymarfer fflipio crempogau yn barod at Ddydd Mawrth Ynyd, ac ar ben hynny, gweld o lygad y ffynnon sut y bydd mesuryddion clyfar yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni i gyd ar yr hyn a wariwn ar nwy a thrydan ac, o’r diwedd, dod â biliau wedi’u hamcangyfrif i ben.

Byddwn yn annog fy holl etholwyr i ffonio eu cyflenwr ynni heddiw a gofyn am apwyntiad i gael eu gosodiad mesurydd clyfar.”

Bydd mesuryddion clyfar yn golygu biliau cywir i bawb yn Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac ar draws gweddill Prydain Fawr. Maent yn golygu hefyd y gallwch weld faint yn union o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real.

Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni heddiw ynghylch gosod eich mesurydd clyfar.

Continue Reading

Cymraeg

Darganfod eich Chwedl y mis Chwefror hwn ar Arfordir Penfro

Published

on

Castell Henllys: Darganfod Bywyd yn yr Oes Haearn

OS YDYCH chi’n chwilio am ddiwrnod o hwyl yn ystod hanner tymor mis Chwefror, mae gan atyniadau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddigon i’ch ysbrydoli chi i archwilio’r dirwedd hon sydd o safon fyd-eang wrth i Flwyddyn y Môr ddechrau o ddifrif.

Mae Pentref yr Oes Haearn Castell Henllys, Castell a Melin Heli Caeriw ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc i gyd yn cynnig digwyddiadau a dyddiau allan cyfeillgar i’r teulu ar gyfer pob oed.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae bob un o’r tri safle wedi trefnu gweithgareddau cyffrous er mwyn eich helpu chi i ddathlu Blwyddyn y Môr ar Arfordir Penfro, drwy gynnal digwyddiadau am bythefnos ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr o bob rhan o’r DU.

“P’un ai yw’n dod o hyd i ddraig yng Nghastell Caeriw, darganfod bywyd yr Oes Haearn yng Nghastell Henllys ynteu bod yn greadigol wrth y môr yn Oriel y Parc, mae rhywbeth yn digwydd ym mhob cornel o’r Parc Cenedlaethol.”

Ymysg y digwyddiadau yng Nghastell Henllys, tan 25 Chwefror, er mwyn eich helpu chi i gynhyrchu anrheg wedi’i wneud â llaw mewn pryd ar gyfer Diwrnod Sant Ffolant neu rywbeth i chi ei gadw eich hun!

Yn y gweithdy, byddwch yn cael dysgu sut i greu eich modrwy droellog eich hun gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam i’w gwneud y maint cywir ar eich cyfer chi. Mae archebu lle yn hanfodol drwy ffonio 01239 891319. £20 y pen.

Bydd Môr-ladron a Thywysogion yn rhoi cyfle i chi ddarganfod chwedlau am y môr ar ddydd Mercher 21 Chwefror, gyda thaith dywys a storïwyr am 11.30am, a gweithgareddau yn y gaer yn dilyn hynny. Yn ogystal, bydd straeon yn y gaer am 2pm a bydd gweithgareddau yn dilyn. £3 a thâl mynediad.

Bydd Castell Caeriw yn croesawu Chwilio am y Ddraig tan ddydd Sul 25 Chwefror, a fydd yn eich herio chi i ddefnyddio pob un o’ch sgiliau hela’r ddraig wrth i chi chwilio ym mhob cornel o’r Castell er mwyn darganfod y bwystfil. £1 i bob plentyn a thâl mynediad.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, byddwch chi’n gallu Dod yn Greadigol wrth y Môr o 2pm tan 4pm ar ddydd Iau, 22 Chwefror. Byddwch chi’n cael ei annog i gael ysbrydoliaeth o’r dirwedd arfordirol er mwyn cynhyrchu eich campwaith eich hun, gyda help gan staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol. £3 i bob plentyn. Mae’n rhaid i bob plentyn ddod gydag oedolyn. Cynghorir i chi archebu drwy ffonio 01437 720392.

Continue Reading

Cymraeg

Holl emosiwn a drama rhoi tŷ Ar Werth

Published

on

O BLASTAI moethus ar lannau’r Fenai i fflatiau un stafell yng Nghaerdydd, does dim prinder o dai ar werth yng Nghymru.

Mae cyfres newydd, Ar Werth, sy’n dechrau nos Fercher, 21 Chwefror, yn dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru ac yn profi’r holl emosiynau a drama sy’n dod wrth werthu a phrynu tai mewn cyfnod heriol i’r diwydiant.

Yn y rhaglen gyntaf cawn weld sut mae hen blasty ar lan y Fenai yn Sir Fôn wedi cael ei droi’n fflatiau moethus, a’r her sy’n wynebu’r gwerthwr tai Dafydd Hardy i’w gwerthu nhw. Draw yn Aberystwyth, mae’r gwerthwr tai Iestyn Leyshon o gwmni Lloyd Herbert & Jones yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud i’r tai mae e’n eu gwerthu edrych yn fwy deniadol ar y we.

Ond dydy prynu na gwerthu eiddo ddim yn hawdd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n chwilio am eu cartref cyntaf. Mae ffigyrau diweddar Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn awgrymu bod prisiau tai Cymru wedi codi 3.3% yn 2017 – cyfradd sy’n tyfu’n gynt nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol – ac ar gyfartaledd, mae tŷ neu fflat yng Nghaerdydd yn costio £200,000 i’w brynu.

Mae Catrin Thomas wedi bod yn byw yn y brifddinas ers tair blynedd. Ar ôl cyfnod o rentu, mae hi nawr yn awyddus i brynu ei lle ei hun.

“Dwi wedi bod yn siarad hefo mam a dad am y peth a dwi’m yn meddwl bo nhw’n dallt pa mor anodd ydi hi i ni i brynu tŷ rŵan,” meddai Catrin, 24 oed, sy’n wreiddiol o Sir Fôn ac yn gweithio yn y cyfryngau. “Dydy safio am deposit ddim yn beth hawdd pan ti’n rhentu, yn enwedig gan bo fi’n trio gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Dwi’n meddwl ei fod o am fod yn reit anodd ac yn broses hir ond fydd rhaid i fi jyst dal ati a chario ‘mlaen a pheidio digalonni os dwi’m yn gweld rhywle yn syth.”

Cawn weld dros yr wythnosau nesaf a fydd Catrin yn dod o hyd i’w chartref delfrydol. Ond oes ganddi rywbeth arbennig mewn golwg?

“Be fyswn i’n licio’i gael ydi tŷ neu fflat hefo open plan kitchen diner, dwy ‘stafell wely – neu dair os dwi’n lwcus – er bo fi’n gwybod yn barod bod hynny tu hwnt i’n price range i.”

Hefyd yn y rhaglen gyntaf, fe gawn gyfarfod cwpl o Aberystwyth sydd wedi ymddeol ac sydd â chynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer eu cartref newydd a dynes o Sir y Fflint sydd wedi gwerthu’r cartref teuluol ers colli ei mam a’i gŵr. A byddwn yn cael cipolwg ar dŷ hardd yng Nghricieth sydd ar werth am bron i filiwn o bunnoedd.

Continue Reading

Popular This Week