Cymraeg News

Wyneb yn wyneb â her yr hinsawdd

Rybudd wrth wynebu’r dyfodol: Athro Siwan Davies
Rybudd wrth wynebu’r dyfodol: Athro Siwan Davies

CAWN ddechrau taith ddirdynnol nos Fawrth, 5 Gorffennaf, wrth i gyfres newydd S4C Her yr Hinsawdd ddilyn arbenigwr blaenllaw yn y maes, Yr Athro Siwan Davies, o’r Ynys Las i’r Maldives i weld sut mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar y Ddaear.

Bydd Siwan yn cychwyn ei thaith yn yr Ynys Las, ac yno bydd hi’n ymweld â thrwyn rhewlif sy’n prysur grebachu a thoddi oherwydd effaith cynhesu byd-eang.

“Mae hi’n frawychus gweld effaith hirdymor newid hinsawdd, a gweld yr iâ yn diflannu i’r môr, a goblygiadau hynny i weddill y byd,” meddai Siwan, 39 oed, sy’n Athro Prifysgol ym maes Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Siwan wedi gweithio cryn dipyn yn yr Ynys Las wrth ymchwilio i newid hinsawdd naturiol ddigwyddodd yn y gorffennol, ac yn defnyddio data a thystiolaeth o lwch folcanig sydd wedi ei gladdu yn y llen iâ.

Ond roedd ffilmio Her yr Hinsawdd yn agoriad llygad i Siwan, wrth iddi glywed storiau’r bobl sydd eisoes yn teimlo effeithiau difrifol newid hinsawdd wrth i’r iâ doddi. Aeth i ymweld â chymunedau a ffermydd yn yr Ynys Las sydd yn wynebu newid byd, a hefyd ynysoedd isel y Maldives sydd wedi gorfod addasu eu bywydau er mwyn goroesi wrth i lefel y môr godi.

“Gwyddonydd ydw i, ac astudio data fydda i bob dydd, ond y tro hwn dwi wedi gadael fy labordy er mwyn gweld â’m llygaid fy hun sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar bobl heddiw. Roedd hi’n frawychus clywed am brofiadau’r bobl ond roedd ‘na obaith hefyd a chefais fy ysbrydoli wrth weld sut mae cymunedau mewn perygl difrifol yn ymateb a gweithredu i ddelio gyda’r sialensiau. Cefais gyfarfod ffermwyr, pysgotwyr, pobl ifanc, pobl dan bwysau i achub eu cymunedau a’u cartrefi.”

Mae miloedd o dwristiaid yn ymweld ag ynysoedd trofannol y Maldives bob blwyddyn, a’u disgrifio fel paradwys. Ond gwelodd Siwan, sy’n wreiddiol o Drefdraeth yn Sir Benfro, mor fregus yw’r Maldives, ac mor ddifrifol yw hyd a lled problemau’r bobl yno.

“Fe ges i groeso twymgalon gan bobl y Maldives, roedden nhw mor falch ein bod ni wedi dod i’w gweld nhw a dod i ddeall realiti eu sefyllfa. Mae perygl y gallen nhw golli eu hynysoedd oherwydd bod lefel y môr y codi. Ar ben hyn, mae’r riffiau cwrel yn marw oherwydd newid hinsawdd. Cwrel sydd yn amddiffyn yr ynysoedd rhag tonnau’r môr; cwrel sydd yn denu twristiaid, a chwrel sydd yn gartref i’r pysgod, sef unig ffynhonnell protein y bobl,” meddai Siwan sy’n byw yn Llandeilo Ferwallt, Bro Gŵyr, Abertawe.

“Maen nhw nawr yn cael cymorth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer prosiectau lleol i achub y cwrel ac i blannu miloedd ar filoedd o goed i atal erydu. Mae ‘na ddyfodol ansicr iawn i ynysoedd y Maldives Mae’n debygol y bydd pob plentyn a aned yno heddiw yn gorffen eu bywyd yn ffoaduriaid hinsawdd.”

Ac mae gan Siwan rybudd ar ein cyfer ni hefyd wrth wynebu’r dyfodol, “Yn ôl cofnodion, mae’n debygol mai 2016 fydd y flwyddyn gynhesaf erioed, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gweithredu. Mae’n bwysig ein bod ni’n defnyddio a datblygu mwy o ynni gwyrdd a bydd y gyfres yn adrodd am nifer o brosiectau cyffrous a blaengar yng Nghymru sy’n llwyddo yn y maes yma.

“Rydym ni wedi profi llifogydd difrifol yng Nghymru yn ddiweddar ac mae hyn yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Yn ystod y gyfres cawn weld llawer o goed yn cael eu plannu gan bobl yn yr Ynys Las a’r Maldives er mwyn amddiffyn rhag llifogydd ac erydu. Ond mae plannu coed yn bwysig am reswm arall – mae coed yn tynnu un o’r nwyon tŷ gwydr sydd yn achosi newid hinsawdd nôl lawr o’r atmosffer, sef CO2. Ac i wneud yn iawn am y tanwydd rydyn ni wedi llosgi wrth hedfan ar ein taith fe wnaethom blannu 60 goed.”

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment