Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Pennaeth Cynorthwyol Karina Shaw yn cael Gradd Baglor er Anrhydedd

Published

on

Screen Shot 2016-08-05 at 09.35.41MAE KARINA SHAW, un o Benaethiaid Cynorthwyol Ysgol Penglais, Aberystwyth, wedi cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau a gyflwynwyd iddi gan Brifysgol Aberystwyth. 

Mae gan Karina hanes hir o weithio yn Ysgol Penglais, a hithau’n dysgu yno ers 16 o flynyddoedd.

Mae hi’n teimlo’n gryf ynglŷn â chynhwysiant cymdeithasol nid yn unig o fewn i’r ysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach.

Hi yw Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau ac mae’r swyddogaeth hon wedi rhoi cyfle iddi fod yn gysylltiedig â phob math o brosiectau cymunedol.

Mae hi hefyd yn frwdfrydig ynghylch cadw hanes lleol a threftadaeth leol yn fyw er budd cenedlaethau’r dyfodol. Hi yw sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau.

Yn ei horiau hamdden mae Karina’n gwirfoddoli yn y gymuned ar amrywiaeth o brosiectau ac yn gweithio’n wirfoddol bob wythnos yn siop elusen Tŷ Hafan Aberystwyth.

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd i Karina Shaw ddydd Mawrth 12 Gorffennaf gan Mr Prysor Mason Davies o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Karina Shaw yn cael ei chyflwyno: Dirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Karina Shaw am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau gan Brifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Karina Shaw for an Honorary Bachelor Degree of Arts of Aberystwyth University.

As a representative of the School of Education and Lifelong Learning, it is seems fitting that we have this opportunity to celebrate the contribution of a person who has, and does contribute significantly to education in the local area.

Fel cynrychiolydd o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n hyfryd cael cydnabod cyflawniadau rhywun sydd, fel ni yn yr Adran, yn gweld Addysg fel rhywbeth sydd a’r gallu i drawsnewid bywydau a gobeithion pobl ac sydd yn hawl i bob person heb ystyriaeth o’u cefndir, eu cyllid, eu hoed na’u safle.

It is very pleasing to introduce someone who sees education as something far broader than the school walls and as something which is a right and a necessity for all members of society, regardless of their background, financial status, age or position. This is an attitude that we would passionately subscribe to in the School of Education.

Karina Shaw is an Assistant Headteacher at Ysgol Penglais, Aberystwyth and teaches in the Widening Participation Unit. She has a long history with Ysgol Penglais having taught there for the last 16 years and prior to this she was also a pupil at the school (I am sure that she deserves an honorary degree just for being a Secondary School teacher for 16 years). This shows that she is therefore passionate about social inclusion within the school environment, enabling students to achieve and succeed regardless of background and I am sure you would agree that this is a vital and essential role.

Mae Karina yn amlwg felly yn berson sydd yn rhoi gwerth ar cynhwysiant cymdeithasol o fewn muriau’r ysgol, gan roi cyfleoedd unigryw ac arbennig i nifer fawr o ddisgyblion, i’w galluogi i lwyddo a chyflawni. Ond nid gwerthoedd o fewn ei gwaith yn unig yw’r rhain, ond gwerthoedd sydd yn cylchynnu ei bywyd ehangach hefyd, lle mae’n cyfrannu yn helaeth i addysg a datblygiad y gymuned leol yn arbennig ym maes hanes a threftadaeth.

Her passion for education is not limited by the classroom walls or her employment – it extends to the wider community. As a resident of Penparcau, she is a Director of the Penparcau Community Forum and this role has given her the opportunity to be involved in a wide range of community projects. She is passionate about preserving local history and heritage for future generations and ensuring that the community develops and is provided with education and knowledge of the past. She is a founder member and current Chairwoman of the Penparcau History and Heritage group which is open to anyone who wishes to share memories, stories and photographs of the village and involves a number of heritage trips and events. The History & Heritage Group now has in excess of 500 Facebook Members, with regular posts from a wide range of people, evidencing the role it plays in widening participation in education and heritage across the region. In her spare time (how an assistant head who does so much in the community has any spare time baffles me completely!) In her spare time she volunteers within the community on a variety of projects and she volunteers weekly at the Aberystwyth Ty Hafan charity shop.

Rwy’n siŵr y cytunwch â mi fod gwaith Karina Shaw yn torri’r rhwystrau i addysg a datblygiad ac yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

I am sure that Karina Shaw’s work in breaking down the barriers to education and development in this local area is an inspiration to us and an example for us to aspire to.

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Karina Shaw i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau.

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Karina Shaw to you for an Honorary Bachelor Degree of Arts.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

Published

on

“Y byd yn uno mewn dathliad lliwgar a llawen”: Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Continue Reading

Cymraeg

Eglwys Madagascar yn ymweld â Cheredigion

Published

on

Dwy gan mlynedd o bartneriaeth: Pwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion

AR DDYDD Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl – eglwys sy’n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu’r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy’n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a’r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Published

on

'Un gam o’r ffordd': Dai Lloyd, AC

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Continue Reading

Popular This Week