Cymraeg News

Beth yw Pwerdy Iaith Tregaron?

Tregaron: 67% o boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg
Tregaron: 67% o boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg

LAWNSIWYD Cered: Menter Iaith Ceredigion brosiect o’r enw Pwerdy Iaith Tregaron Nhregaron yn ystod mis Gorffennaf eleni gyda’r bwriad o asesu sefyllfa’r Gymraeg yn y dref ac i greu cynllun Gweithredu’n Lleol er mwyn rhoi hwb i’r iaith yn lleol.

Mae rhyw 67% o boblogaeth Tregaron yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011 sydd yn golygu mai’r dref sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion. Ond, gyda nifer o fusnesau a gwasanaethau lleol naill ai wedi eu colli dros y blynyddoedd diwethaf neu dan fygythiad teimlwyd fod angen creu prosiect i sicrhau fod y Gymraeg ddim yn dirywio ymhellach. Nod Pwerdy Iaith Tregaron felly yw i sicrhau bod modd i’r Gymraeg barhau fel prif iaith bywyd pob dydd y cylch mewn cyfnod o doriadau a newidiadau mawr i’r dref ac i ysgogi tŵf a ffyniant.

Mae cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen gweithredu ar y lefel mwyaf lleol posib i ddiogeli’r iaith a dyna’r rhesymeg y tu ôl i sefydlu’r prosiect yma sydd yn bartneriaeth rhwng trigolion lleol a Cered.

Er fod Pwerdai wedi cael eu sefydlu gan Cered mewn amrywiaeth o ardaloedd dros ddegawd yn ôl mae Pwerdy Iaith Tregaron yn un o’r genhedlaeth newydd o Bwerdai Iaith rydym yn creu sydd fel rhan o waith sydd yn cael ei lywio gan fframwaith Gweithredu’n Lleol Llywodraeth Cymru. Mae Pwerdy Iaith hefyd i’w gael yn Llandysul, Aberystwyth ac Aberteifi ac fe fydd rhai pellach yn cael eu sefydlu yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron dros y misoedd nesaf.

Mae Grŵp Gweithredu wedi ei ffurfio o unigolion blaenllaw sydd yn cynrychioli rhwydweithiau a gweithgareddau amrywiol yn y gymdogaeth ac mae’r Grŵp yn cydweithio gyda Cered er mwyn asesu sefyllfa’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd y dref:

  • Demograffeg y Gymraeg
  • Bwrlwm Cymdeithasol a Diwylliannol
  • Trosglwyddo Iaith a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Addysg Ffurfiol ac Anffurfiol
  • Yr Economi, Gwasanaethau Lleol ac Isadeiledd

Gofynnom i Steffan Rees o Cered sut mae’r cynllun yn gweithio.

Dywedodd wrth Yr Herald: “Wedi i ni asesu sefyllfa’r Gymraeg yn y dref byddwn yn meddwl am ba fath o dasgiau a phrosiectau sydd eu hangen i geisio taclo pryderon a gwendidau a nodwyd. Bydd Cered yna yn paratoi adroddiad a chynllun gweithredu wedi ei selio ar gyfarfodydd y Grŵp Gweithredu ac ymchwil pellach er mwyn i ni fel Cered: Menter Iaith Ceredigion a phobl Tregaron i weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg yn lleol.”

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment