Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Sefydliad newydd yn cymryd rheolaeth o ddysgu Iaith

Published

on

Screen Shot 2016-08-24 at 12.39.32

Mae Prifysgol Aberystwyth: Bydd yn cael ei ddarparu gwasanaeth gwahanol

RHOI dysgwyr yn gyntaf yw nod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, corff newydd sy’n cymryd cyfrifoldeb dros y maes Cymraeg i Oedolion o 1 Awst 2016 ymlaen. 

Mae’r Ganolfan, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi gwahodd un ar ddeg o ddarparwyr i weithredu ar ei rhan ar draws Cymru.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i gwahodd i ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am yr holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion a Phowys yn ogystal â chyrsiau dwys a chyfunol a chyrsiau ar gyfer Lefelau Uwch a Hyfedredd yn Sir Gâr.

Cyngor Sir Gâr fydd yn darparu cyrsiau wythnosol ar gyfer Lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, gan gynnwys cyrsiau Cymraeg i’r Teulu.

Caiff y cyrsiau i gyd eu darparu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – corff cynllunio newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes.

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith un ar ddeg o ddarparwyr sydd wedi’u gwahodd i weithredu ledled Cymru ar ran y Ganolfan.

Bydd y drefn newydd yn adeiladu ar y gwaith pwysig a gyflawnwyd yn flaenorol gan chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wrth i ni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, gan gyflwyno cwricwlwm ac adnoddau cyfoes a chyffrous a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth brofiad helaeth ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion a dealltwriaeth drylwyr o anghenion dysgwyr yn y Canolbarth a’r Gorllewin. Byddwn yn cynnig ystod atyniadol o gyrsiau safon uchel i gwrdd â’r anghenion amrywiol, gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu a defnyddio’r Gymraeg.

“Edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan ar lefel genedlaethol a Chyngor Sir Gâr. Byddwn ni hefyd yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion, gyda staff yr awdurdod yn darparu cyrsiau unwaith yr wythnos ar ein rhan ar lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd.”

Dywedodd Siôn Meredith, Cyfarwyddwyr Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth: “Mae cyfraniad Cymraeg i Oedolion yn allweddol i ffyniant y Gymraeg yn rhai o’i chadarnleoedd yn yr ardal hon, a byddwn yn cydweithio â’n partneriaid addysgol a chymunedol i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw i bawb.’

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Sêr Seland Newydd wedi gosod y safon

Published

on

WRTH i gystadleuaeth Super Rugby Aotearoa gyrraedd ei ddiweddglo, mae sylwebydd Clwb Rygbi, Gareth Charles, yn credu fod timau Seland Newydd wedi gosod safon rhyfeddol i weddill y byd rygbi i’w ddilyn.

Ar benwythnos olaf y gystadleuaeth rhwng pum tîm proffesiynol y wlad, bydd y Blues a’r Crusaders, yn mynd benben â’i gilydd yn Eden Park, tra bod Highlanders yn croesawu’r Hurricanes i Stadiwm Forsyth Barr yn Dunedin. Bydd uchafbwyntiau o’r ddwy gêm i’w gweld ar Clwb Rygbi, am 9.00 ar nos Sul 16 Awst, ar S4C.

Dywedodd Gareth, sydd yn rhan o’r tîm sylwebu ar gyfer y rhaglen: “Mae e wedi bod yn ffantastig i’r gwylwyr sydd wedi bod heb rygbi ers shwt gymaint. O’r cychwyn cyntaf, mae drama wedi bod ym mhob gêm. Doeddwn i ddim cweit yn disgwyl iddo fod mor dda, ond yn bendant mae’r safon wedi bod yn aruthrol.

“Mae pob tîm wedi dangos awydd i chwarae rygbi positif a dydyn nhw ddim wedi chwarae’n geidwadol. Trafod y bêl sydd wedi bod yn bennaf yn eu meddwl nhw, ac mae hynny bendant yn rhywbeth allwn ni edrych arno wrth i’r gêm ddychwelyd i hemisffer y gogledd.

“Y Blues a’r Crusaders yw’r ddau dîm gorau sydd wedi bod yn y gystadleuaeth. Maen nhw’n gallu chwarae rygbi ym mhob ffordd. Maen nhw’n chwarae gêm sy’n seiliedig ar sgiliau, ond mae’r elfennau gosod, fel cael sgrym cryf, yno hefyd. Mae’n ddiweddglo addas iawn i’r gystadleuaeth.”

Tro chwaraewyr Cymru fydd hi i ddychwelyd i’r maes yr wythnos ganlynol, wrth i’r Guinness PRO14 ail-gychwyn. Gyda dau rownd o gemau darbi yn weddill o’r tymor, bydd Scarlets yn herio Gleision Caerdydd ar ddydd Sadwrn 22 Awst, tra bod y Gweilch a’r Dreigiau yn cwrdd yn y Stadiwm Liberty ar ddydd Sul 23 Awst. Bydd modd gwylio pob un o gemau darbi rhanbarthau Cymru yn eu cyfanrwydd, yr un diwrnod, ar S4C.

Ychwanega Gareth: “Roedd Rhys Patchell yn sylwebu gyda fi ar Super Rugby Aotearoa yn ddiweddar, ac mi oedd e’n dweud, yr unig beth nawr yw fod pobl yn gyfarwydd efo’r rygbi yn Seland Newydd ac maen nhw’n mynd i ddisgwyl timau Cymru fynd syth lan i’r safon yna! Yn amlwg, fydden nhw ychydig yn rhydlyd ar ôl cyfnod mor hir heb rygbi.

“Beth sy’n gyffrous am y gemau yma yw bod lot o wynebau newydd yn y rhanbarthau, ac mae’r seibiant wedi rhoi cyfle i sawl chwaraewr wella o anafiadau, felly mae’r carfanau yn llawn chwaraewyr rhyngwladol. Wrth gwrs, rydw i’n edrych ymlaen at gael rygbi yn ôl yma yng Nghymru ac mae’n grêt i ddechrau nôl gyda gemau darbi.”

Continue Reading

Cymraeg

Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020

Published

on

MAE S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae’r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy’n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C – cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw – wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dogfen Sengl Orau – Cartref’.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gyda Alzheimer’s ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai’r Cynhyrchydd, Sion Aaron: “Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w ddweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: “Mae’r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi’n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy’n sefyll ymysg y gorau yn y byd.”
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: “Weithiau, mae ‘na gomisiwn sy’n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi’n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.

Continue Reading

Cymraeg

Ail-ymweld â Gwesty Aduniad

Published

on

DROS y blynyddoedd mae ‘na westy arbennig sydd wedi newid bywydau am byth. Mae’r gyfres Gwesty Aduniad wedi dod â phobl yn ôl at ei gilydd, a hynny weithiau ar ôl oes ar wahân.
Roedd rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, mae’r Gwesty hwn wedi dad-gloi stôr o straeon.
Ond sut beth oedd darganfod teulu neu ffrindiau coll? A sut wnaeth bywyd newid ar ôl yr aduniadau?
Mewn cyfres newydd, Goreuon Gwesty Aduniad, sy’n dechrau ar 17 Awst, cawn ail ymweld â rhai wnaeth brofi’r wefr o wireddu breuddwydion, a chael gwybod ychydig mwy am y broses o sut i ddod o hyd i deulu gwaed, wrth brofi eto rhai o aduniadau mwyaf cofiadwy’r gyfres – a chlywed be ddigwyddodd wedyn.
Bydd thema arbennig i bob rhaglen, gan gynnwys ‘Chwilio am Dad’ ‘Cyfrinachau’, ‘Ffrindiau Oes’, ‘Brodyr a Chwiorydd’ ‘Dweud Diolch’ ac ‘O Ben Draw Byd’. Ond troi at luniau mae’r rhaglen gyntaf, ‘Y Stori tu ôl i’r Llun’, lle cawn ail-fyw stori dau berson oedd yn chwilo am deulu gwaed a chlywed eu hanes wedyn ar ôl bod yn y gwesty.
Pan ddaeth Cheryl Davies o hyd i lun o fabi yn ei thŷ yn San Clêr yn 2017 fe sylweddolodd mai hwn oedd y cliw oedd angen arni i geisio dod o hyd i’r ferch fach roddodd ei chwaer i’w mabwysiadu 50 mlynedd ynghynt. O fewn 6 mis wedi i Cheryl gysylltu â Gwesty Aduniad gyda’r gobaith o ddod ag oes o chwilio i ben, daeth newyddion da.
“Ar ôl addo i Elinor byddwn i’n ffindo Helen, doeddwn i ddim yn gwybod byddai mor galed” meddai Cheryl.
Cawn glywed sut wnaeth y wybodaeth angenrheidiol yn y llun hollbwysig helpu darganfod ei nith oedd wedi’i magu dan yr enw Virginia, a chawn ail-fyw’r aduniad bythgofiadwy.
“Pan weles i hi, dwi ddim yn gallu esbonio sut o’n i’n teimlo, achos roedd hi yna – dim jest meddwl amdani fel o’n i wedi gwneud am 50 mlynedd. Heblaw am Westy Aduniad byddwn i ddim wedi dod o hyd iddi” ychwanega Cheryl.
Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn y gyfres cawn glywed am y llawenydd wedi’r aduniad wrth i bawb ddod at ei gilydd a chreu teulu cyflawn o’r diwedd.
Stori am sut mae hen lun yn medru camarwain pobl oedd un John Jones o Lechryd, Ceredigion pan drodd at Westy Aduniad wedi blynyddoedd o chwilio am hanes ei dad.
A llun fu’n ganolog i stori Trebor Roberts o Lansannan hefyd – llun oedd wedi’i gario yn ei waled am ddegawdau.
Mae gan y tri hyn bellach stôr o luniau newydd i’w trysori i’r dyfodol. Ymunwch â’r daith emosiynol, fydd yn cynhesu’r galon yn y gyfres newydd hon.

Continue Reading

Popular This Week