Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cyngor Sir Ceredigion yn ôl ar y brig ar gyfer ailgylchu a charbon

Published

on

screen-shot-2016-09-12-at-12-16-43YN YSTOD 2015/2016 ailgylchodd Ceredigion fwy o wastraff nag erioed o’r blaen. 

58% oedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer y 12 mis hyd ddiwedd mis Mawrth 2016.

Llwyddodd Cymru gyfan i ailgylchu 60%, ond Ceredigion a ddaeth i’r brig gyda ffigur gwych o 68% (2% yn unig o dan darged 2025).

Esboniodd Huw Morgan, Cyfarwyddwr Strategol y Cymunedau Cynaliadwy fod yna nifer o resymau dros berfformiad mor wych.

Un ohonynt yw parodrwydd y trigolion i gymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu y mae’r Cyngor Sir yn ei ddarparu. Mae Ceredigion yn darparu sachau plastig clir ar gyfer ailgylchu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau. “Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n boblogaidd gan y trigolion. Mae ein data’n awgrymu bod 98% o’r tai sydd yng Ngheredigion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu o leiaf rhan o’r amser, sy’n dipyn o gamp” meddai..

Rheswm arall sydd wedi helpu Ceredigion wneud hyn yw’r newid yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwastraff gweddillol (y sachau duon) ar ôl eu casglu o dai pobol. Yn y gorffennol roedd y gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at safleoedd tirlenwi. Yn ddiweddar mae Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at orsaf bŵer yn Sweden. Yn yr orsaf bŵer, mae’r gwastraff gweddillol yn cael ei losgi er mwyn cynhyrchu gwres a thrydan. Mae’r lludw sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil y broses yn cael ei ailgylchu ac mae hynny wedi ychwanegu at berfformiad ailgylchu Ceredigion. Nid oes nwyon gwenwynig yn cael eu rhyddhau i’r awyr yn y broses yma, ac mae’r orsaf bŵer yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop gyfan; mae delio â’r gwastraff na ellir ei ailgylchu trwy’r dull yma’n well i’r amgylchedd na thirlenwi.

Mae’r Cyngor hyd yn oed yn ailgylchu’r ysgubiadau y mae’n eu casglu yn ymyl y ffordd ac mae hynny wedi gwella perfformiad Cyngor Sir Ceredigion lle mae ailgylchu yn y cwestiwn yn ddirfawr yn ystod 2015/2016.

Nid yn unig mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni’n dda i’r Sir, mae hefyd yn llesol i’r blaned gyfan. Mae ailgylchu’n lleihau allyriadau’r nwyon tŷ gwydr oherwydd mae’n golygu nad yw’r gwastraff yn pydru mewn safleoedd tirlenwi nac yn cael ei losgi mewn llosgwr – mae hefyd yn lleihau’r angen i gloddio am y deunyddiau crai o grombil y ddaear a’r holl ynni sydd ei angen i wneud hynny. Cyhoeddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cyrraedd y brig yn y Mynegai Ailgylchu Carbon blynyddol. Mae tabl y cynghrair, sy’n cael ei baratoi gan gwmni Ymchwil ac Ymgynghori Eunomia, yn cyfrifo cyfanswm yr allyriannau carbon deuocsid sydd wedi eu harbed o ganlyniad i ymdrechion y trigolion lleol i ailgylchu.

Arbedodd gwasanaeth ailgylchu’r cyngor 104kg o Garbon Deuocsid i bob person yn yr ardal, a dyma’r gwasanaeth mwyaf effeithiol o ran lleihau allyriadau carbon trwy Gymru gyfan – er ei bod yn gystadleuaeth glos iawn ac enillwyr llynedd, Powys, yn dynn ar ein sodlau, gydag 1kg y person yn llai. Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod portffolio ar gyfer Gwastraff: “Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r trigolion lleol wedi ein helpu ni gyflawni, ac mae’n wych bod ar y brig ar gyfer ailgylchu a’r Mynegai Carbon. Mae’r canlyniad yn dangos bod ymroddiad y trigolion ddidoli eu sbwriel yn talu ei ffordd o ran arbed carbon”.

Ond nid yw’r Cyngor yn gorffwys ar ei fri. Esboniodd Huw Morgan: “Roedd perfformiad llynedd yn wych ond nid da lle gellir gwell. Fel Cyngor bach gwledig, rydym weithiau yn ei chael hi’n anodd darparu’r gwasanaethau y mae’r trigolion yn eu disgwyl ac yn eu haeddu. Rydym yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth gwastraff ac i wneud hynny bydd angen ymdrech ar ran y staff, y contractwyr a’r trigolion fel ei gilydd. Bydd angen inni fod yn fwy hyblyg yn y dyfodol er mwyn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gennym. Rydym yn chwilio am gyfleoedd newydd i ailgylchu mwy ac i leihau’r costau ar bob adeg. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n wedi ein helpu ni gyrraedd y brig ac i barhau â’r gwaith da fel y bydd modd i ni ailgylchu mwy byth y flwyddyn yma”.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Luke Evans yn Magu Adenydd

Published

on

2018: Blwyddyn y Môr

BYDD Luke Evans, yr actor o Gymru sy’n enwog am ffilmiau hynod lwyddiannus fel Beauty and the Beast, Girl on the Train a The Hobbit, i’w weld unwaith eto ar ein sgriniau yn lansio’i ffilm newydd ar gyfer ymgyrch Blwyddyn y Môr.

Cafodd yr hysbyseb, a fydd ar gael ar-lein o heddiw ymlaen, ei chreu i lansio ymgyrch dwristiaeth Croeso Cymru ar gyfer 2018 − Blwyddyn y Môr. Mae’n dangos Evans yn hedfan awyren fôr ar hyd arfordir trawiadol Cymru, gan roi cyfle inni weld golygfeydd ysblennydd, gweithgareddau ar y môr, a bywyd gwyllt yr arfordir.

Bydd y ffilm yn cael ei dangos yng Nghymru ar S4C ac ITV Cymru rhwng 1-7 Ionawr.

Luke, sy’n hanu o Bont-y-pŵl, oedd seren un o ffilmiau mwyaf proffidiol y flwyddyn – fersiwn newydd Disney o Beauty and the Beast – cyn iddo ddychwelyd i wlad ei febyd i ffilmio’r hysbyseb.

Gan ddechrau ym mherfeddion Eryri, mae Evans yn hedfan awyren fôr glasurol, gan esgyn o Lyn Gwynant a dilyn yr arfordir ysblennydd cyn glanio o’r diwedd ym Mae Caerdydd wrth i’r haul fachlud.

Wrth iddo’n tywys ar hyd y daith, mae’n cyfeirio at amryfal ffeithiau daearyddol, diwylliannol a hanesyddol ac yn dathlu’r ffaith mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddarparu llwybr troed pwrpasol sy’n dilyn yr arfordir ar ei hyd – pob un o’r 870 o filltiroedd ohono.

Wrth sôn am ei gysylltiad ag ymgyrch Blwyddyn y Môr Cymru, dywedodd Luke: “Roedd cael gweld arfordir Cymru fel hyn yn anrhydedd ac yn fraint.

“Aethon ni heibio i gannoedd o draethau, harbyrau, cilfachau ac ynysoedd – gan wylio llamhidyddion a dolffiniaid trwyn potel yn chwarae yn y pellter – a phobl yn mwynhau rhwyfo mewn ceufadau a phadlfyrddio a chymryd rhan mewn arforgampau. Mae cymaint i’w wneud ar hyd arfordir Cymru.

“Mae gennyf atgofion melys iawn o dreulio gwyliau ar yr arfordir yng Nghymru, a dw i’n trïo dod ‘nôl yma mor aml ag y galla i. Mae’n gyfle i gael seibiant llwyr o ffair a ffwndwr bywyd bob dydd ac mae’n fy atgoffa o ba mor lwcus oeddwn i gael dod i oed ynghanol golygfeydd mor anhygoel.”

Mae ffilm Croeso Cymru ar gyfer 2018 yn ddilyniant i stori Blwyddyn Chwedlau Cymru a ddechreuodd yn 2017. Mae’n epig fach o ddarganfyddiadau ac anturiaethau a gafodd ei chyfarwyddo gan Marc Evans (Y Gwyll/Hinterland, Safe House, Trauma), ac mae’n rhoi golwg o’r awyr inni ar forweddau hardd Cymru.

Yr actores Hannah Daniel sy’n trosleisio fersiwn Gymraeg yr hysbyseb deledu. Ganed Hannah yng Nghaerdydd ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei rhan fel DS Owens yn y Gwyll/Hinterland (BBC) ac fel Beca Matthews yn y ddrama gyfres Gwaith Cartref ar S4C. Mae Hannah i’w gweld ar hyn o bryd yn Un Bore Mercher, drama ddiweddaraf S4C ar nos Sul, yn chwarae Cerys Jones. Bydd y fersiwn Saesneg, Keeping Faith, ar y BBC ym mis Ionawr 2018.

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae’n hysbyseb ar gyfer Blwyddyn y Môr yn harneisio doniau creadigol gorau Cymru − gan gyfuno’n golygfeydd ysblennydd â doniau Luke Evans, yr actor o Hollywood, doniau Hannah Daniel, a hefyd ddoniau cynhyrchwyr o’n sector creadigol. Mae’r hysbyseb yn dangos bod Cymru’n wlad hyderus a bydd yn denu pobl i ddysgu mwy am yr hyn y bydd gan Gymru i’w gynnig yn ystod Blwyddyn y Môr 2018.”

Mae’r gweithgarwch hwn yn rhan o ymgyrch farchnata ehangach ar sawl platfform sy’n hyrwyddo Cymru i’r byd fel cyrchfan arfordirol o’r radd flaenaf yn ystod Blwyddyn y Môr. Bydd y ffilm yn ôl ar y sgrin ym mis Mawrth i gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi a bydd hysbysebu helaeth hefyd yng ngorsaf Waterloo yn Llundain − rhan o ymgyrch integredig o weithgareddau ar-lein ac all-lein.

Continue Reading

Cymraeg

Perfformiad cyntaf o ‘Y Pêr Ganiedydd’

Published

on

Is-Ganghellor: Ar berfformiad cyntaf y Nadolig

CYNHALIWYD cyngerdd Nadolig blynyddol yr Is-Ganghellor ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Roedd y cyngerdd hwn yn cynnwys y perfformiad cyntaf o – ‘Y Pêr Ganiedydd’ – darn newydd o gerddoriaeth gan Eilir Owen Griffiths er mwyn dathlu 300 mlwyddiant geni William Williams Pantycelyn. Gyda pherfformiadau gan fyfyrwyr o Academi Llais Ryngwladol Cymru y Brifysgol (WIAV); Myfyrwyr BA Perfformio, y Tenor a’r cyn-fyfyriwr Rhodri Prys Jones ynghyd â’r Sinffonieta Brydeinig, roedd y cyngerdd hefyd yn cynnwys ystod o glasuron y Nadolig.

Mae’r cyngerdd yn ddigwyddiad Nadoligaidd hyfryd sydd bellach yn un o brif ddathliadau’r Ŵyl o fewn y Brifysgol. Mae’n rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddangos eu doniau tra hefyd yn rhoi’r cyfle i’r gynulleidfa gael ei hudo gan gerddoriaeth wych o dan arweiniad Eilir Owen Griffiths, Darlithydd Cerddoriaeth gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

“Mae cyngerdd Nadolig blynyddol yr Is-Ganghellor yn gyfle gwych i’r myfyrwyr i berfformio gydag un o gerddorfeydd proffesiynol mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ac i dynnu sylw at y cyfoeth o dalent sydd gennym ni yma yn y Brifysgol,” meddai Eilir, Cyfarwyddwr Canolfan Berfformio Cymru.

“Yn ystod y noson cafodd y gynulleidfa gyfle i glywed y ‘Pêr Ganiedydd’ – darn yr wyf wedi’i gyfansoddi i nodi pen-blwydd 300 mlynedd ers genedigaeth yr emynydd William Williams, Pantycelyn. Nid oes amheuaeth bod William Williams, Pantycelyn yn un o’n ffigurau mwyaf amlwg nid yn unig oherwydd ei gyfraniad at ddiwygiad y Methodistiaid a’r 900 emyn a ysgrifennodd ond hefyd ei gyfraniad tuag at fywyd diwylliannol ac addysgol a datblygiad Cymru. Roeddwn yn awyddus i dalu fy nheyrnged fy hun ac roeddwn yn falch iawn bod y darn hwn o gerddoriaeth wedi’I berfformio am y tro cyntaf yn ystod y cyngerdd hwn.”

Bu rhai o fyfyrwyr Academi Llais Ryngwladol Cymru yn canu ystod o ganeuon Nadolig clasurol gyda myfyrwyr o’r cwrs BA perfformio, yn canu detholiad o ganeuon o glasur Stephen Sondheim, Sweeney Todd

Continue Reading

Cymraeg

Cyllid ychwanegol am Mudiad Meithrin

Published

on

Eluned Morgan: Mudiad Meithrin gyfraniad hollbwysig i’w wneud

DYFARNWYD miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i Fudiad Meithrin, i gynorthwyo’r sefydliad i feithrin gallu ychwanegol a chyfrannu tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y sefydliad yn cael £3.031 miliwn y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031 miliwn o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gyllideb.

Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i Fudiad Meithrin:

  • gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau â blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd.
  • cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth gyhoeddi’r cyllid: “Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o’r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’. Mae’r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.”

Continue Reading

Popular This Week