Uncategorized

Cliriad yn dilyn stormydd yn flaenoriaeth i Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Cliriad ynMAE AWDURDOD Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn parhau i flaenoriaethu gwaith clirio yn dilyn y tywydd difrifol parhaus ac mae’n ymdrechu i gadw mynediad yn agored lle bynnag mae hynny’n bosibl.

Mae cyfanswm o 35 lleoliad o gwmpas y Parc Cenedlaethol wedi profi difrod yn ystod stormydd mis Ionawr, yn amrywio o sbwriel yn cronni i golli tir a thwyni arfordirol. Yn fewndirol, arweiniodd llifogydd a gwyntoedd cryfion at erydu gyli difrifol i rai llwybrau ceffyl yn ogystal â choed yn syrthio dros lwybrau.

Er bod y rhan fwyaf o drwsio neu ddargyfeirio wedi digwydd yn y lleoliadau hyn, dioddefodd rhai ddifrod pellach yn ystod stormydd dechrau Chwefror a bydd rhaid ail adrodd peth o’r gwaith.

Dywedodd Anthony Richards, Rheolwr Mynediad a Hawliau Tramwy Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae trwsio difrod y stormydd yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod y safleoedd a’r llwybrau mor ddiogel a hygyrch ag sy’n bosibl. Bydd rhai atgyweiriadau yn rhai dros dro a bydd gwaith mwy parhaol yn digwydd ar ôl llanw uchel diwedd Chwefror.

“Mae’r pwyslais ar waith atgyweirio yn y meysydd parcio, llwybrau mynediad i’r traeth a Llwybr yr Arfordir yn barod ar gyfer y prif dymor ymwelwyr er lles pob defnyddiwr, cymunedau lleol, heb anghofio’r economi lleol.

“Diogelwch y cyhoedd yw ein prif gonsyrn ac mae’r Awdurdod yn cynghori pobl i gadw draw o ardaloedd y twyni gan fod erydu o ganlyniad i’r llanw uchel wedi achosi i rai o’r twyni fod yn ansefydlog ac mewn perygl o gwympo.”

Yn dilyn diweddariad i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar Chwefror 5ed, diolchodd y Cynghorwr Mike James ac Aelodau’r Awdurdod i’r swyddogion am ymateb mor brydlon i’r difrod ac am eu gwaith caled parhaus.

Ychwanegodd y Cynghorwr Mike James: “Fe hoffwn hefyd ddiolch i aelodau’r gymuned sydd wedi gwirfoddoli i helpu gydag ymdrech y clirio, yn cynnwys myfyrwyr Coleg Ceredigion fu’n clirio sbwriel ym Mharrog Trefdraeth a Thraeth Trefdraeth a disgyblion o Ysgol Aberteifi fu’n helpu ar Draeth Poppit.”

Er bod yna ymdrechu caled i gadw mynediad yn agored, mae materion mwy cymhleth mewn dau leoliad poblogaidd bob pen i’r sir wedi arwain at gau estynedig wrth i fwy o archwilio a derbyn cyngor arbenigol ddigwydd er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau yn y tymor hir.

O ganlyniad, mae’r llwybr mynediad i draeth Caerfai ger Tyddewi yn dal ar gau gan fod tirlithriad wedi tanseilio’r llwybr mynediad i’r traeth hanner y ffordd i lawr y llethr.

Ar Lwybr yr Arfordir ar ben Penalun o Draeth y De yn Ninbych y Pysgod, mae’r platfform gwylio a grisiau mynediad i’r traeth wedi eu difrodi’n ddifrifol gan stormydd mis Ionawr a chollwyd tri metr ychwanegol o Lwybr yr Arfordir oherwydd erydu’r twyni. Mae yna lwybr amgen ar gael, a hyd nes bydd y twyni wedi sefydlu eto, nid yw’n bosibl asesu’n llawn yr opsiynau neu ddatblygu ateb tymor hir.

Mae safleoedd a llwybrau a ystyrir yn beryglus neu angen eu trwsio ar gyfer cadeiriau olwyn er enghraifft wedi eu symud dros dro o wefan y Parc hyd nes y byddan nhw’n cael eu trwsio. Ymhob achos darperir esboniad am yr ymyriad hwn gydag arwyddion ar y safle.

Mae Parcmyn y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda Cadw Cymru’n Daclus, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Sir Penfro i gydlynu cyfres o waith clirio gwirfoddol ar y traethau a thir cyhoeddus ar droedleoedd. Mae trigolion cymunedau lleol a cheidwaid gwirfoddol hefyd wedi dod i helpu gyda’r dasg hon. Rhoddwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda chostau clirio Llwybr yr Arfordir, tra bod ffyrdd eraill o gyllido yn cael eu harchwilio er mwyn cyfyngu ar y gost i’r Awdurdod.

Am y wybodaeth ddiweddara a chyngor yn dilyn y difrod o ganlyniad i’r stormydd ewch i’r wefan www.pembrokeshirecoast.org.uk.