Cymraeg

Stori Mwgsi wedi ei addasu i’r llwyfan

Mirain Fflur: Sy’n chwarae rhan Mwgsi

YN ÔL ym Mehefin 2015 roedd Megan Davies yn ferch 18 oed cyffredin o Bwllheli, Pen Llŷn.

Roedd hi newydd orffen ei Lefel A ac roedd hi’n paratoi am haf o gymdeithasu a gwyliau tramor gyda’r genod cyn cychwyn gradd nyrsio yng Nghaerdydd.

Ond ar ddydd Llun 29 Mehefin, fe newidiodd bywyd Megan am byth. Ar y diwrnod hwnnw, cafodd wybod ei bod yn dioddef o Hodgkin Lymphoma, math o gancr.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, gyda Megan bellach wedi goroesi’r driniaeth ac yn rhydd o gancr, mae ei stori wedi ei addasu i’r theatr gan Frân Wen, un o gwmniau sy’n derbyn arian refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r arbenigwyr theatr i gynulleidfaoedd ifanc o Ynys Môn yn teithio Mwgsi, sydd wedi ei sgwennu gan yr awdur a dramodydd Manon Steffan Ros.

Yr actorion Mirain Fflur – sy’n chwarae rhan Mwgsi – Catrin Mara a Ceri Elen fydd yn perfformio’r ddrama, gyda’r cyfarwyddwr Iola Ynyr o Frân Wen yn clymu’r sioe at ei gilydd. Mae hi’n addo “drama creulon o onest ond llawn hiwmor tywyll.”

“Yr hyn ‘nath y nharo i yn syth am blog Mwgsi oedd ei gonestrwydd dewr hi. Doedd yna ddim math o hunan-dosturi dim ond wynebu’r salwch a hynny hefo digon o hiwmor. Mi oedd ‘na rannau anghyfforddus iawn ond y teimlad o gariad a chyfeillgarwch sy’n trechu trwy’r cyfan,” meddai Iola, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

“Mi oedd y blog yn creu darluniau trawiadol wrth wibio o un lleoliad i’r llall. Roeddwn i’n gallu ei ddychmygu yn syth yn gweithio ar lwyfan ac yn gafael yn emosiynol mewn cynulleidfa.”

Roedd Megan a’i ffrind Gwenllian – sydd hefyd yn cyfrannu i’r blog – yn rhan o’r broses greadigol ers y cychwyn.

“Mae wedi bod yn lot o hwyl bod yn rhan o ddod a bob dim at ei gilydd,” meddai Megan, sydd ar hyn o bryd yn astudio Nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Dwi ‘di bod yn darllen llyfrau Manon ers blynyddoedd, yn enwedig pan roeddwn yn astudio ar gyfer fy lefel A, felly roedd o’n brofiad gwych gallu datblygu’r stori hefo hi.”

Roedd y broses greadigol yn cynnwys cyfnod dwys o rannu straeon, byrfyfyrio, gwaith corfforol, strwythuro stori ac arbrofi.

“Roedd ‘na lot o chwerthin a chrio ond roedd yn hanfodol bod Megan a Gwenllian yn rhan o hyn o’r cychwyn. Roedd y ddwy yn teimlo ddigon hyderus i leisio eu barn pan oedd dychymyg y gweddill ohonan ni yn mynd dros ben llestri!” ychwanegodd Iola.

“Mae hi’n bleser pur cydweithio hefo tîm sydd mor agored i syniadau, sydd ddim yn dal dig ac sy’n benderfynol o ddatblygu’r sgript orau posib.”

Roedd meddwl am rannu ei stori ar y llwyfan yn un od i Megan: “Dwi’n teimlo’n falch fy mod yn cael y cyfle i rannu fy stori mewn ffordd fwy eang, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gancr o fewn yr ifanc,” meddai.

“Mae Manon wedi defnyddio fy stori i fel ysbrydoliaeth, a da’ ni wedi ceisio gwneud y ddrama mor abstract â phosib, gan ddefnyddio fy mlog fel sylfaen.

“Dwi’n gobeithio gwneith y ddrama ysbrydoli pobl eraill i siarad – siarad am gancr, salwch ac iechyd meddwl. Dyda ni ddim yn siarad digon.”