Cymraeg

Gallai gadael yr UE fod yn gatalydd

YN ÔL Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai seneddau’r DU ddod at ei gilydd i drafod sut y gallent weithio’n agosach yn sgil gadael yr UE.

Wrth siarad â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o’i ymchwiliad Llais Cryfach i Gymru dywedodd y Llywydd hefyd bod yn rhaid cryfhau’r broses sy’n caniatáu i safbwynt y Cynulliad gael ei ystyried pan fydd Senedd y DU yn bwriadu deddfu ar faterion datganoledig.

Yn ôl Elin Jones: “Dros flynyddoedd lawer mae nifer o Gomisiynau ac Ymchwiliadau wedi dod i’r casgliad bod angen proses fwy ffurfiol i ddarparu fforwm ar gyfer trafodaeth rhwng seneddau’r DU. Cafodd y syniad o greu fforwm ffurfiol i bob un o bedair deddfwrfa y DU ei argymell gan Bwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin yn 2009, gan Gomisiwn Calman yn yr un flwyddyn, a chomisiynau Strathclyde a Silk yn 2014. Roedd yr angen am well cydweithio rhwng seneddau wedi’i nodi yn adroddiad Pwyllgor Datganoli Senedd yr Alban hefyd ac adroddiad Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi yn 2015.

Dylai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fod yn gyfle i sicrhau bod hyn yn digwydd a, gyda chymorth Aelodau’r Cynulliad, byddwn yn fwy na bodlon ceisio hwyluso trafodaethau rhwng y cyrff deddfwriaethol er mwyn bwrw ymlaen â hyn.

“Mae’n amser i’r seneddau ddod at ei gilydd i drafod sut y gallwn weithio’n agosach. Os yw gadael yr UE yn golygu y bydd llywodraethau yn cydweithio i wneud penderfyniadau ar gyfer y DU, yna mae’n hanfodol bod y prosesau penderfynu hyn yn dryloyw er mwyn galluogi gwaith craffu effeithiol.

“Dylid cryfhau gweithdrefnau cydsyniad deddfwriaethol, lle mae seneddau datganoledig yn cytuno i San Steffan ddeddfu ar faterion datganoledig, er mwyn adlewyrchu eu pwysigrwydd o ran llunio deddfwriaeth yn ymwneud â gadael yr UE. Rhaid i’r Cynulliad gael digon o amser i graffu ar gynigion yn drylwyr ac mae’n rhaid parchu ei benderfyniadau ar gydsyniadau.”