Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ansicr fydd dyfodol ‘Y Cymro’

Published

on

MAE YMGYRCHWYR iaith wedi galw ar i Lywodraeth Cymru ystyried cynyddu’r grant ar gyfer papur wythnosol Y Cymro er mwyn sicrhau ei barhad.

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd perchennog Y Cymro, cwmni papurau newydd Tindle, eu bod yn bwriadu gwerthu’r papur erbyn diwedd mis Mehefin. Mae perygl y gallai’r papur ddod i ben os nad ydynt yn dod o hyd i brynwr credadwy.

Mewn llythyr at y Cyngor Llyfrau a Gweinidog y Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn iddynt ystyried buddsoddi er mwyn i’r papur newydd barhau a datblygu dros y blynyddoedd i ddod.

Yn y llythyr, dywedodd Carl Morris, llefarydd ar faterion cyfryngau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Fel y gwyddoch, fel iaith leiafrifedig, mae cyhoeddiadau Cymraeg yn dibynnu ar gefnogaeth arian gyhoeddus gan fod tueddiadau’r farchnad rydd mor niweidiol i’r iaith. Mae’r Cymro yn bapur o bwys hanesyddol eithriadol i’r Gymraeg gan iddo ddyddio yn ôl dros 150 o flynyddoedd. Yn ogystal, ac yn bwysicach, mae ei fodolaeth yn bwysig i ddefnydd, statws a gwelededd y Gymraeg heddiw: mae’n rhaid i’r iaith gael ei chyhoeddi mewn papurau newydd os yw hi i ffynnu. Gwyddom yn iawn fod darpariaeth ddigidol yn werthfawr iawn i’r Gymraeg, ond mae angen darpariaeth argraffedig yn ogystal, a hynny gan fwy nag un darparwr. Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar sawl ffynhonnell newyddion.

“Credwn fod achos cryf dros gynyddu’n sylweddol y gefnogaeth ariannol i’r Cymro fel bod modd diwygio a buddsoddi i ddatblygu’r papur a’i wefan ymhellach, gan gydweithio gydag eraill lle bo’n bosibl.”

Ychwanegodd Carl Morris: “Mae’n bwysig iawn i’r Llywodraeth sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg, yn lle ein bod yn gorfod dibynnu ar un neu ddau ddarparwr. Yn nhermau darlledu cenedlaethol, y BBC yw’r unig ddarparydd newyddion Cymraeg ac mae hynny’n peryglu democratiaeth. Mae angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes rhagor o ganoli yn digwydd.”

Dywedodd Sian Gwenllian, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg: “Mae Y Cymro wedi gwneud cyfraniad aruthrol am flynyddoedd lawer i fywyd Cymru.

“Mae angen sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ‘r cwmni i ddatblygu yn gyffredinol, o ystyried y cyfnod trawsnewidiol mae papurau newydd yn ei brofi ar hyn o bryd wrth i newyddiaduraeth symud o brint i ddigidol.

“Mae hi’n bwysig cael sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg ac felly rwyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig pob cefnogaeth posib i sicrhau fod gan Y Cymro dyfodol disglair o fewn y sector newyddiaduriaeth Gymraeg.”

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ‘Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant cyhoeddi yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a nhw sy’n penderfynnu pa deitl sy’n cael faint o arian ac ar ba sail’.

30 Mehefin 2017 fod yr olaf i’w gyhoeddi am y tro

Continue Reading

Cymraeg

O Rwbel i Fenter

Published

on

Mae 2020 yn dod â datblygiadau newydd cyffrous yn Llambed wrth i’r gwaith ar ailddatblygu safle Canolfan Dulais yn y dref gychwyn. Gyda chymorth buddsoddiad Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid Targedu Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn dod â buddsoddiad o £3.2m i’r dref.

Datgelodd Tai Ceredigion – a brynodd yr adeilad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2018 – y cynlluniau newydd cyffrous i ddymchwel hen adeiladau’r Llywodraeth ar ddechrau 2019. Cafodd y strwythur presennol ei inswleiddio’n wael ac nid oedd y system wresogi yn addas. Bydd y cynlluniau newydd yn creu unedau busnes ecogyfeillgar modern, yn enwedig ar gyfer busnesau busnesau bach a chanolig, elusennau a sefydliadau sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y ganolfan newydd gyfleuster telegynadledda a fydd yn gallu cael ei logi.

Roedd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi prosiect Canolfan Dulais trwy annog y datblygiad drwy geisiadau am gyllid. Mae’r cyngor hefyd yn chwarae rôl ymgynghorol ar y prosiect ac yn cynrychioli’r prosiect mewn trafodaethau gyda chyrff ariannu a’r bartneriaeth ranbarthol.

Mae’r contractwyr, TR Jones o Rydaman, wedi ennill y tendr a fe wnaethant gychwyn ar y safle ar 13 Ionawr 2020 i ddymchwel yr adeilad presennol. Bydd y datblygiad hefyd yn dod â gwaith adeiladu pwysig i fusnesau adeiladu lleol o fewn y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn gweld Canolfan Dulais yn flaenoriaeth i’r economi leol a rhanbarthol. Mae’n rhaid i ni greu gofodau modern i fusnesau lleol allu defnyddio ac i dyfu yno. Mae’r sector gofal cymdeithasol yn brin o gapasiti yn yr ardal lle gwelwn alw cynyddol. Rydym yn hyderus y bydd Canolfan Dulais yn gam pwysig tuag at dyfu’r sector.”

Ychwanegodd Steve Jones, Prif Weithredwr Tai Ceredigion: “Mae wedi cymryd llawer o waith caled gan ein tîm i gyrraedd y pwynt lle gall y contractwyr ddechrau ar y safle a’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru, Swyddfa Ewropeaidd Cymru a Chyngor Sir Ceredigion am rannu ein gweledigaeth ac am y gefnogaeth i helpu i wireddu’r syniad. Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad a dechrau sgyrsiau gyda darpar denantiaid newydd ar gyfer yr adeilad.”

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn bod adeilad o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau cychwynnol a thwf, yn enwedig yn y sector Gofal Cymdeithasol, yn dod i Lambed gyda’r gwaith ar ddechrau. Mae Canolfan Dulais yn ddatblygiad hanfodol bwysig i’r ardal, y mae’r Cyngor yn falch o’i chefnogi.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn: “Mae’n wych bod gwaith wedi dechrau ar y prosiect hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1,530,000 o arian a fydd yn helpu i wella mynediad i gyfleuster cymunedol pwysig, a fydd yn dod â phobl ynghyd, i helpu i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol, cefnogi swyddi, darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoli mentrau cymdeithasol.

“Rydyn ni am gefnogi busnesau lleol, tyfu ein canol trefi gwych ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn cymryd siâp.”

Continue Reading

Cymraeg

Newidiadau i orsafoedd pleidleisio Ceredigion ar ôl adolygiad

Published

on

Fe gymeradwyodd cynghorwyr yng Ngheredigion adolygiad o orsafoedd pleidleisio yn y sir ar 23 Ionawr. Mae’r adolygiad yn gweld tair gorsaf bleidleisio yn cael eu huno â gorsafoedd pleidleisio cyfagos.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio yng Nghwmystwyth, Blaenpennal a Chapel Tyngwndwn yn Nhalsarn yn uno â gorsafoedd cyfagos.

Eifion Evans yw’r Swyddog Canlyniadau Gweithredol. Dywedodd: “Fe wnaethon ni gynnal yr adolygiad i wneud yn siŵr bod gorsafoedd pleidleisio yng Ngheredigion yn addas at ein dibenion ac yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosib.

“Fe wnaethom ymweld â phob gorsaf bleidleisio a gynigiwyd yn yr adolygiad, ac rwy’n hyderus mai’r lleoliadau yw’r rhai mwyaf priodol posibl i bleidleiswyr a staff etholiadol.”

Bydd nifer o orsafoedd pleidleisio yn newid lleoliad. Y rhain yw:

· Ward Canol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Fyddin yr Iachawdwriaeth, Ffordd Alexandra.

· Ward Rheidol Aberystwyth – Gorsaf bleidleisio i symud o adeilad y Band Arian, Coedlan y Parc i Dŷ’r Harbwr, Y Lanfa.

· Gorsaf bleidleisio i symud o’r hen ysgol yn Cross Inn ger Llanon, i’r hen ysgol, Pennant ger Llanon.

· Caiff y Feithrinfa yn Ysgol Gynradd Gymunedol Comins-coch ei defnyddio yn hytrach na’r ysgol.

· Gorsaf bleidleisio i symud o Ysgol Trewen i Festri Capel Bryngwyn.

· Gorsaf bleidleisio i symud o Caffi Sali Mali i Festri Capel Bronant.

Bydd gorsaf bleidleisio arall yn symud o Festri Capel Pisgah i Neuadd Talgarreg yn amodol ar gymeradwyaeth Pwyllgor y Neuadd. Bydd yr orsaf bleidleisio yn aros yn festri’r capel os nad yw Pwyllgor y Neuadd yn cytuno.

Continue Reading

Cymraeg

The Little Mill Players yn cyflwyno Robin Hood and the Babes in the Wood gan Ben Crocker

Published

on

Robin Hood and the Babes in the Wood’ yw Pantomeim y Little Mill Players eleni. Bydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach o Nos Iau 30 Ionawr i Nos Sadwrn 01 Chwefror am 7:30pm. Cynhelir perfformiad matinée hefyd ar brynhawn Sadwrn, 01 Chwefror am 2:30yp.

Efallai mai Robin Hood yw’r saethwr gorau yn yr ardal, ond a wnaiff e lwyddo i ddianc o grafangau Siryf Nottingham ac achub y babanod? Dewch i ymuno â Winnie Widebottom, Marion, Little Joan, Friar Tuck a’r cymeriadau eraill (a hefyd, er syndod, Sefydliad y Merched ‘Smugglers Cove’ sydd wedi dod i Goedwig Sherwood ar wyliau gwersylla a llwyddo i gael eu dal yn yr antur). Dewch i floeddio, hisian a chael gwledd o hwyl trwy chwerthin a chân yn y cynhyrchiad teuluol hwn.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers cychwyn Theatr Felinfach yn 1972. Daw aelodau’r cwmni o wahanol rannau o Geredigion a hyd yn oed Sir Gaerfyrddin. Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae eu swyddi’n amrywio o waith llafur i reolwyr yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni maent wrth eu bodd eto o gael sawl wyneb newydd ac maent yn obeithiol y bydd y duedd hon yn parhau.

Mae cyfarwyddwr y sioe, Stephen Entwistle, wedi bod yn aelod o’r grŵp ers dros 16 mlynedd. Dechreuodd fywyd gyda’r grŵp fel y Cyfarwyddwr Cerdd, yna aeth ymlaen i’r llwyfan a bellach ef yw’r bos!

Un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y cast cyfredol yw Dilys Megicks, cynorthwyydd cynhyrchu’r sioe, ac mae wedi bod yn aelod ers rhyw 24 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys dynes ddrwg, cyw iâr ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Sefydliad y Merched Smuggler’s Cove! Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’r pantomeim traddodiadol.

Aelod arall, sydd bellach yn aelod sefydlog o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd, dros y blynyddoedd, wedi perchenogi rôl y panto ‘Dame’ iddo’i hun. Yn sicr, fe yw digrifwr y cast. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am adeiladu propiau ac unrhyw anghenion adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach i gael cyfleoedd i ennill tocynnau i’r cynhyrchiad. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy theatrfelinfach.cymru. Prisiau’r tocynnau yw £9 i oedolion, 8 i bensiynwyr a £6 i blant.

Continue Reading

Popular This Week