Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

UAC yn pwysleisio cyfraniad amaethyddiaeth i’r Iaith Gymraeg

Published

on

MAE Undeb Amaethwyr Cymru’n edrych ymlaen at wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol (4-12 Awst) yn hyrwyddo pam bod #AmaethAmByth, a chyfraniad hanfodol teuluoedd amaethyddol wrth ddiogelu’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig.

“Bydd cyfle i’r rhai sy’n ymweld â stondin UAC ddysgu mwy am bwysigrwydd #AmaethAmByth i’n economi wledig a bywyd gwledig Cymreig wrth gwrs. Bydd croeso cynnes yn aros pawb sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol, ac rwy’n gobeithio gweld nifer o’n haelodau ar y stondin,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae ymchwil yn dangos, bod y rhai hynny sy’n siarad Cymraeg o fewn y categori ‘Amaethyddiaeth, egni a dŵr’ ar draws Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelu’r iaith yn nhermau niferoedd ac yn enwedig o safbwynt y gyfran sy’n siarad Cymraeg o fewn y categori (29.5%) ac yn sylweddol uwch na’r gyfran gyffredinol sy’n siarad Cymraeg (17%).

Gellir dadlau, byddai dadansoddiad tebyg o rai sy’n ymwneud yn unig a’r diwydiant amaethyddol yn dangos canran uwch eto, ac yn dangos cyfraniadau uwch o ran y rôl a chwaraeir gan ffermio wrth warchod yr iaith Gymraeg. Bydd yna wybodaeth bellach a’r adroddiad ‘Ffermio yng Nghymru a’r Gymraeg’ ar gael ar stondin UAC (rhif stondin 405-406).

Felly mae camau sy’n tanseilio hyfywedd amaethyddiaeth yng Nghymru yn debygol o fod yn fygythiad sylweddol i’r iaith Gymraeg. Mae effeithiau Brexit ar amaethyddiaeth yn bwnc sy’n cael ei drafod yn gyson: Bydd Llywydd UAC Glyn Roberts yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfnod pontio Brexit fesul cam yn ystod trafodaeth ar ‘ddyfodol cymunedau amaethyddol ar ôl Brexit’ ar stondin Cymdeithas yr Iaith dydd Llun am 2yp. Mae traean o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig lle mae ffermio, a busnesau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth yn chwarae rôl hanfodol mewn economïau lleol, yn ogystal â’r iaith Gymraeg.

Wrth siarad am bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg, dywedodd Llwydd UAC Glyn Roberts: “Mae’n rhaid i ni gydnabod y ffaith bod patrymau iaith yn newid, ond mae angen i economi gref Gymreig gael ei chefnogi gan ein hiaith, er mwyn cadw’n hunaniaeth Gymreig.

“Felly, nid ffermio’n unig sydd ar ein stondin, mae’n ymwneud â’r gydnabyddiaeth ehangach o ‘#AmaethAmByth’, y cadwyni cyflenwi, sut mae arian yn cylchredeg yn yr economi leol, lle mae pobl yn goroesi, lle mae elw yn cael ei wneud, a’n diwylliant yn parhau i ffynnu.”

Continue Reading

Cymraeg

Penbwlydd Hapus Merched y Wawr

Published

on

Cymaint mwy na’r te a'r bara brith: Gyda Jess Davies a Hannah Daniel

TYDI MODEL ​’glamour​’ ac actores ifanc ddim yn cael eu cysidro fel aelodau nodweddiadol Merched y Wawr! Ond ar hanner canfed blwyddyn y mudiad, mae dwy aelod newydd arbennig iawn yn camu o’r colur a’r camerâu, ac yn ymuno â’r chwiorydd.

Mewn rhaglen arbennig, 50! Penblwydd Hapus Merched y Wawr ar nos Sul 10 Medi, cawn ddilyn Jess Davies a Hannah Daniel wrth iddyn nhw ddarganfod gwir natur y sefydliad. Y bara brith a’r tê sydd wedi eu gwneud yn enwog, ond mae ‘na gymaint mwy i’r mudiad na hynny.

Mae Jess Davies, sy’n 24 mlwydd oed, yn wreiddiol o Benrhyncoch ger Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi gwneud enw i’w hun fel un o fodelau glamour gorau Prydain tra’r oedd hi’n astudio ar gyfer gradd mewn Cymdeithaseg. Ers dwy flynedd mae hi’n rhedeg busnes yn gwerthu gwisgoedd nofio ac yoga.

Mae Hannah Daniel, sy’n actores 31 oed o Gaerdydd yn adnabyddus am ei rôl fel D.S. Siân Owens yn y gyfres ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland. Byddwn ni’n ei gweld hi nesaf ar S4C yn y gyfres ddrama Un Bore Mercher ym mis Tachwedd.

Yn y rhaglen 50! Penblwydd Hapus Merched y Wawr mae’r ddwy yn cwrdd ag amryw o gymeriadau sy’n aelodau o Ferched y Wawr – gan gynnwys Zonia Bowen, Sulwen Lloyd Davies a Lona Puw fu’n gyfrifol am sefydlu’r mudiad yn Y Parc, Y Bala ‘nôl yn 1967. Fe’i sefydlwyd fel mudiad iaith Gymraeg i ferched oedd yn anfodlon gyda natur uniaith Saesneg Sefydliad y Merched.

Maen nhw hefyd yn dod i ddysgu am draddodiad ymgyrchu a phrotest y mudiad. Yn ystod yr 1980au, Merched y Wawr fu’n gyfrifol am gael gwasanaeth sgrinio cancr y fron i Gymru, wedi i 300 o aelodau ddod ynghyd i orymdeithio yn Westmister, Llundain, ac ymgyrchu yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’r mudiad hefyd wedi bod yn brwydro i gael hawliau i’r iaith Gymraeg ar hyd y blynyddoedd – nhw oedd yn gyfrifol am sicrhau’r hawl i gael talu gyda siec oedd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg.

Roedd clywed am yr hanesion yma yn syndod i Jess a Hannah. Meddai Hannah Daniel; “Mae’n eitha’ annoying bod cymaint o ystrydeb ynglŷn â’r mudiad achos maen nhw wedi, ac yn dal i, wneud cymaint o waith gwych, ac yn gwneud hynny heb unrhyw ffỳs a ffwdan a broliant. Achos hynna, dy’n nhw ddim yn cael y clod maen nhw’n haeddu.

“Cafodd Merched y Wawr ei sefydlu mewn cyfnod gwleidyddol, a dyna’r egni oedd y tu ôl i’r sefydlu. Yn fuan, nes i ddod i ddeall bod y merched ‘ma’n llawn sbardun ac yn llawn brwydr. Dwi’n teimlo cywilydd braidd, fel rhywun o genhedlaeth apathetic, sy’n cymryd y pethau ‘ma’n ganiataol. Dy’n ni’n anghofio bod cymaint o frwydro wedi bod yn y gorffennol. Does prin dim ymdrech, o’i gymharu, gennym ni i warchod yr iaith ar gyfer y dyfodol,” ychwanega Hannah.

Ond wedi hanner canrif o frwydro ac ymgyrchu, dathlu yw’r nod eleni, ac mae Jess a Hannah’n cael blas o’r digwyddiadau sydd wedi’u cynnal i nodi’r penblwydd arbennig. Un o’r rhain yw sioe ffasiwn a gynhaliwyd yn ystod y Sioe Frenhinol lle bu’r ddwy yn modelu ffasiynau o bob degawd.

Ac wrth gwrs, does dim modd anghofio am y bara brith, a Jess gafodd y dasg o flasu 36 o wahanol fathau wrth feirniadu cystadleuaeth goginio yng ngŵyl flynyddol y mudiad!

Gyda hanner canrif o hanes i’w ddathlu, mae Merched y Wawr yn parhau wrth galon y gymuned Gymraeg ac mae ei haelodaeth yn mynd o nerth i nerth.

“Mae ‘na dal dân ym moliau Merched y Wawr,” ychwanega Hannah Daniel. “Tydi’r aelodau ‘ry’n ni wedi cwrdd â nhw ddim yn cymryd eu hunain yn rhy o ddifri, er gwaetha’r gwaith maen nhw wedi’i gyflawni – maen nhw dal yn gallu cael laff fel y gwelwch chi yn y rhaglen!”​

Continue Reading

Cymraeg

Cadeirydd HCC yn rhybuddio am ddyfodol masnach Ewrop

Published

on

Cadeirydd HCC: Kevin Roberts​

M​AE newyddion da iawn i’r sector ddefaid yn yr ystadegau diweddara gan wasanaeth Cyllid a Thollau EM (HMRC) ar gyfer hanner cyntaf 2017.

Yn ôl HMRC, bu lleihad o ran y cig oen a fewnforiwyd i Brydain – o Seland Newydd yn bennaf – o 15% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Ar yr un pryd gwelwyd cynnydd sylweddol o 25% yng ngwerth allforion cig oen o Brydain, sef cyfanswm o £177.3 miliwn dros y chwe mis. Bydd cyfraniad Cymru i’r cynnydd yma yn sylweddol, gan fod y wlad yn gartref i bron i draean o ddiadell gwledydd Prydain ac yn meddu ar frand ryngwladol gref Cig Oen Cymru PGI.

Yn ôl y corff cig coch Hybu Cig Cymru (HCC), mae’r perfformiad masnach rhagorol i’w briodoli i gyfuniad o gyfradd is y Bunt a’r galw cynyddol mewn nifer o farchnadoedd pwysig am gynnyrch o safon fel Cig Oen Cymru.

“Yn ddi-os mae’r ffigurau yma’n newyddion da i ddiwydiant cig oen Cymru,” meddai Cadeirydd HCC Kevin Roberts. “Mae’r lleihad mewn mewnforion o Seland Newydd i’w groesawu, ac yn dangos fod manwerthwyr Prydain yn ymateb i alw eu cwsmeriaid am gig o safon sydd wedi ei gynhyrchu gartref.”

Ychwanegodd Mr. Roberts; “Mae’r ystadegau allforio hefyd yn hwb sylweddol. Calonogol iawn, er enghraifft, yw gweld cynnydd o 29% mewn gwerthiant i’r Almaen, lle y bu HCC yn gweithredu rhaglenni marchnata llwyddiannus ar gyfer Cig Oen Cymru PGI o fewn y diwydiant arlwyo a gwasanaeth bwyd anferth sydd yno.”

Ond rhybuddiodd Kevin Roberts fod y ffigurau’n atgyfnerthu’r angen dybryd i gynnal masnach rydd a di-rwystr i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd i Gig Oen Cymru.

“Dengys ystadegau HMRC fod rhywfaint o gynnydd mewn marchnadoedd newydd fel Hong Kong, ond fod y rhan helaeth o’r twf diweddar mewn allforion wedi dod o wledydd o fewn yr UE fel Ffrainc a Gwlad Belg, lle mae brand Cig Oen Cymru eisoes yn adnabyddus,” meddai.

“Mae HCC yn barod i weithio gyda’r diwydiant i gymryd mantais o unrhyw gyfleon newydd yn yr UDA neu wledydd eraill os a phan y daw datrysiad diplomataidd i’r rhwystron sydd i’r marchnadoedd hynny, ond ar hyn o bryd mae dros 90% o’n allforion yn mynd i Ewrop,” meddai. “Croesawaf y ffigurau allforio calonogol yma, ond bydd ffermwyr Cymru angen mynediad teg i farchnadoedd Ewrop er mwyn cynnal y momentwm yma wedi Brexit ym mis Mawrth 2019.”

Continue Reading

Cymraeg

‘Gael y sgwrs’

Published

on

MAE LLYWODRAETH CYMRU yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i sgwrsio gyda theulu a ffrindiau ynghylch rhoi organau er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cofrestru eu penderfyniad naill ai drwy ymuno â’r rhestr o roddwyr organau neu drwy wneud yn siŵr bod eu teulu yn gwybod beth yw eu dymuniad.

Yn 2016-17, roedd data a gyhoeddwyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn dangos bod 21 o achosion lle’r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi’r caniatâd tybiedig.

O ystyried y cafwyd 3.3 o organau ar gyfartaledd fesul rhoddwr yn y DU yn 2016-17, gallai hynny fod wedi golygu cynifer â 69 o drawsblaniadau ychwanegol.

Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau. O dan y system hon, os nad yw unigolyn wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) na phenderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad oes ganddo wrthwynebiad i roi ei organau – gelwir hyn yn ganiatâd tybiedig.

O ganlyniad i’r newid, disgwylir y bydd cynnydd yn nifer yr organau a roddir dros gyfnod o amser. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad o 18.5% yn nifer y cleifion sydd wedi marw tra’n disgwyl trawsblaniad ar y rhestr aros.

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: “Tra bod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid inni weithio’n galetach i gynyddu canran y boblogaeth sy’n cydsynio er mwyn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sydd ar y rhestrau aros am drawsblaniad.

“Dw i’n awyddus i annog pawb yng Nghymru i siarad â’u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. Er ein bod yn gwybod bod mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, mae’n hynod bwysig bod pobl Cymru yn egluro eu penderfyniad wrth eu teuluoedd.

“Y cyfan sydd ei angen i sicrhau y bydd eich teulu a’ch ffrindiau yn gallu anrhydeddu eich dymuniad pan fyddwch yn marw, yw cael sgwrs gyda nhw ynghylch eich penderfyniad.”

Gall un sgwrs fel hon ddod â budd i bobl Cymru a’r DU drwy leihau nifer y bobl sy’n marw tra’n disgwyl i organ addas ddod ar gael, a thrawsnewid bywydau pobl eraill.

Cewch gofrestru eich penderfyniad unrhyw amser drwy ffonio 0300 123 23 23; mynd i www.rhoiorganau.org; neu drwy ddweud wrth eich teulu a’ch ffrindiau.

Continue Reading

Popular This Week