Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Y bardd Hedd Wyn yn sioe fideo arbennig

Published

on

Hedd Wyn: Symbol o genhedlaeth o Gymry a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd

Bydd prosiect fideo unigryw sy’n coffáu canmlwyddiant marwolaeth bardd y Rhyfel Mawr Ellis Humphrey Evans, yn cael ei daflunio ar furiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod wythnos y cofio ar ôl derbyn cefnogaeth gan ScottishPower Foundation.

Bu i’r bugail ifanc a adnabuir wrth ei enw barddol – Hedd Wyn gael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn 1917, ddiwrnodau ar ôl cael ei anfon i’r rheng flaen fel conscript.

Bu i gerdd Yr Arwr yr oedd y milwr wedi ei gorffen ychydig cyn ei farwolaeth, ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917.

Pan gyhoeddodd beirniaid cystadleuaeth Y Gadair, yr anrhydedd pennaf i fardd yng Nghymru, enw’r enillydd, safodd neb. Bu’n rhaid gofyn dair gwaith iddo ddod ymlaen i gymryd ei sedd anrhydeddus, ond ni chawsant ateb.

Yn y diwedd, bu’n rhaid dweud wrth y gynulleidfa a oedd yn cynnwys Prif Weinidog a phensaer y consesiwn, David Lloyd George, fod Hedd Wyn wedi marw yn y frwydr ar feysydd Flanders cyn gallu cyflawni uchelgais ei fywyd.

Gorchuddiwyd y gadair a lliain du, ac o’r adeg honno ymlaen byddai’r Eisteddfod yn cael ei galw yn “Eisteddfod y Gadair Ddu”. Yn ystod yr wythnos yn dilyn yr Eisteddfod, anfonwyd y gadair at deulu Hedd Wyn ar eu fferm, Yr Ysgwrn, yn Nhrawsfynydd, Eryri lle mae’n dal i gael ei harddangos heddiw.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n cynnal fferm teulu Hedd Wyn fel amgueddfa, yn geidwaid i gasgliadau helaeth ac wedi cydweithio mewn rhaglen estyn allan uchelgeisiol a phellgyrhaeddol drwy gydol 2017 gan ddod â stori y bardd a’i waith yn fyw i genhedlaeth newydd.

Mae eu gwaith, gyda chymorth ScottishPower Foundation, wedi cynnwys cyflwyno 26 o weithdai i dros 800 o blant ac oedolion ysgol, a dosbarthu 3000 o gopïau o lyfryn a grëwyd yn arbennig ar etifeddiaeth Hedd Wyn i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.

Bydd y fenter yn dod i ben ar 9 Tachwedd – dau ddiwrnod cyn Dydd y Cofio – pan fydd gosodiad fideo yn cynnwys plant o bentref brodorol Hedd Wyn yn cael ei daflunio ar flaen adeilad eiconig Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Bydd disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn yn darllen ei waith enwocaf, Rhyfel, ar gyfer y prosiect sydd wedi’i gomisiynu’n arbennig gan ScottishPower Foundation.

Mae llinellau o’r gerdd sy’n sôn am ddyfodol rhyfel wedi cael eu cydblethu gyda ffilm o gartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, a delweddau yn ymwneud â’r bardd a’r profiad Cymreig ehangach yn y Rhyfel Mawr a ddarparwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Bydd y digwyddiad yn benllanw ar raglen wych o waith estyn allan. Rydym yn ddiolchgar iawn i ScottishPower Foundation am ariannu’r rhaglen yn hael ac i Mr Gerald Williams, nai Hedd Wyn ac Yr Ysgwrn am eu cefnogaeth barhaus.”

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Ym mis Medi 1917, daeth Hedd Wyn yn symbol o genhedlaeth o Gymry a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers hynny, mae ei gartref teuluol yn Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, wedi bod yn gofeb tawel i’r genhedlaeth hon, gan barhau i arwain ar negeseuon heddwch, rhyfel, diwylliant a chymdeithas.

“Yn ystod blwyddyn canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn, bu’n fraint i ni weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a ScottishPower Foundation, gan ddefnyddio ein casgliadau i ddod â stori a etifeddiaeth Hedd Wyn yn fyw i genhedlaeth newydd o bobl ifanc, a fydd yn warchodwyr ein treftadaeth a’n heddwch yn y dyfodol “.

Sefydlwyd Sefydliad ScottishPower ym mis Mai 2013 ac eleni mae wedi rhoi record o £1.8m i achosion da ledled y DU.

Meddai Ann McKechin, Ymddiriedolwr ScottishPower Foundation: “Mae hanes Hedd Wyn, ei farddoniaeth, a’i farwolaeth drasig cyn iddo allu hawlio ei anrhydedd fel enillydd y Gadair Farddol yn Eisteddfod 1917 yn etifeddiaeth ddiwylliannol bwysig, nid yn unig i bobl o Gymru, ond i ni i gyd.

“Dau o amcanion allweddol Sefydliad ScottishPower yw cefnogi addysg yn y gymuned a hefyd hyrwyddo treftadaeth a diwylliant. Mae prosiect estyn allan Hedd Wyn yn cyd-fynd â’r ddau uchelgais hwn yn berffaith ac mae ScottishPower Foundation yn falch o gefnogi’r fenter hon 100 mlynedd ers marwolaeth Hedd Wyn, ac i gefnogi’r gosodiad fideo hwn,gan obeithio y bydd ychwanegiad teilwng i ddathlu ei waith.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dod o hyd i gi mwyaf arwrol Cymru!

Published

on

Gelert: Ci arwr y chwedl

UN O STRAEON mwyaf adnabyddus Cymru yw hanes Gelert y ci ffyddlon ac fel rhan o dymor Chwedlau ym mis Tachwedd, mae S4C yn chwilio am gi dewraf Cymru.

Mae’r sianel yn chwilio am straeon am gŵn dewr, arwrol a ffyddlon yn rhan o gystadleuaeth ar y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, Heno. A’r wobr i’r dewraf yw gwerth blwyddyn o fwyd ci gan noddwyr y gystadleuaeth, cwmni Pero.

Yn ystod y mis, bydd Heno yn dathlu campau eithriadol cŵn dewr iawn a byddwn yn clywed am anifeiliaid blewog sy’n gymorth neu’n gysur i’w perchnogion.

Un o’r straeon rhyfeddol yw hanes Pero’r ci defaid oedd wedi teithio 240 o filltiroedd o Cumbria i Geredigion i fod nôl gyda’i deulu. Ac mae stori’r berthynas arbennig rhwng Malan Wilkinson a’i chi, Wini Lwyd, yn profi fod y dywediad ‘Ffrind gorau dyn’, yn sicr yn wir i’r ddau yma.

“Pan da chi’n cael ci bach, mae’r bond yno gyda’r perchennog yn syth. Unwaith fyddwch chi’n ffrindiau, fyddwch chi’n ffrindiau am oes,” meddai Alan James, perchennog Pero’r ci defaid sy’n byw ym Mhenryncoch, Ceredigion.

“Danfonwyd Pero i fyny i Cockermouth, Cumbria i weithio gyda’r defaid yno ond roedd e’n colli ei gartref. Roedd e’n gwrthod gwneud unrhywbeth achos ei fod e’n ein colli ni gymaint. Sut ffeindiodd ei ffordd adref nawn ni byth wybod! Erbyn hyn mae Pero yn arwr yn lleol. Pan fyddai’n mynd i’r Sioe Frenhinol, mae pobl yn adnabod Pero cyn fi!”

Mae stori Wini Lwyd a’i pherchennog Malan Wilkinson yn ddigon i ddod a deigryn i’r llygad. Mae Malan, sy’n dod o Gaernarfon, wedi siarad yn agored yn y gorffennol am ddioddef o iselder ac mae hi’n canmol Wini am ei helpu yn ystod adegau tywyll ei bywyd.

“Mae rhywbeth am Wini sydd wedi fy helpu i yn ystod cyfnodau o iselder ac mae cael mynd allan efo hi yn bleser pur,” meddai Malan. “Dwi wrth fy modd bod S4C yn chwilio am arwr neu arwres achos yn ddi-os, Wini Lwyd yw fy arwres i. Ar ddiwrnodau lle dwi di methu codi, golchi a gwneud y pethau mwyaf syml, mae Wini wedi rhoi ei phawen fach ar fy ysgwydd a da ni wedi dechrau’ r diwrnod efo’n gilydd.”

Mae’r gystadleuaeth ar agor tan 14 Tachwedd ac fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid. Y wobr yw gwerth blwyddyn o fwyd ci gan y cwmni o Ogledd Cymru, Pero, sy’n noddi’r gystadleuaeth a hamper o nwyddau.

Y tri sy’n beirniadu’r gystadleuaeth yw Sara Manchipp, cyn Miss Cymru sy’n lys genhades y ganolfan RSPCA Llys Nini, y milfeddyg Dr Lowri Davies a Jonathan Rees o’r cwmni bwyd ci, Pero.

“Mae’r berthynas rhwng ci a’i berchennog yn arbennig iawn, ac yn un i’w ddathlu. Mae Pero yn hapus iawn i weithio gyda S4C i ddod o hyd i gi dewraf Cymru ac o beth ry’ ni eisoes wedi ei weld, mae digon ohonyn nhw yng Nghymru!” meddai Jonathan Rees, Cyfarwyddwr gyda chwmni Pero.

I gymryd rhan, anfonwch lun a disgrifiad o’ch ci i heno@tinopolis.com

Continue Reading

Cymraeg

Teitlau Bocsio Ewrop a Chymru yn y fantol – yn fyw ar S4C

Published

on

Ashley Brace: Ar S4C

GORNEST am deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Ewrop fydd uchafbwynt noson o focsio ym Merthyr ar nos Wener 15 Rhagfyr, ac mi fydd y ffeit fawr yn cael ei dangos yn fyw ar S4C – y tro cyntaf i’r sianel ddarlledu bocsio yn fyw.

Ashley Brace o Lyn Ebwy, y Pencampwr Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol, fydd yn ymladd Melania Sorrcoche o Sbaen am y teitl Ewropeaidd yng Nghanolfan Hamdden Merthyr. Bydd y noson, sydd wedi ei threfnu gan Sanigar Events, hefyd yn cynnwys dwy ornest am wregysau Bencampwriaeth Cymru.

Bydd y rhaglen ar S4C yn dechrau am 9.30 yr hwyr, ar nos Wener 15 Rhagfyr, gyda Rhys ap William yn cyflwyno a Gareth Roberts yn y blwch sylwebu.

Dywedodd hyrwyddwr y noson, Jamie Sanigar: “Bydd y noson yn un hanesyddol i focsio yng Nghymru ac rydw i’n falch iawn ein bod ni wedi medru sicrhau gornest gartref wrth i Ashley Brace gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop. Dyma gyfle euraidd i Ashley ennill pencampwriaeth fawr a’i rhoi mewn safle gwych i gystadlu am deitlau byd yn 2018. Mae hefyd yn hwb fawr i’r gamp yng Nghymru fod y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C.”

Yn ei gyrfa hyd yma mae’r bocsiwr 26 oed, Ashley Brace, wedi ennill pob un o’i saith gornest. Ym mis Ebrill fe drechodd Alexandra Vlajk o Hwngari yng Nglyn Ebwy i hawlio’r bencampwriaeth Pwysau Bantam WBC Rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi dweud y buasai’n dymuno ymladd yn erbyn y pencampwr Olympaidd dwbl, Nicola Adams, yn y dyfodol.

Mae gan ei gwrthwynebydd Sorroche, sy’n 27 oed, record o 12 buddugoliaeth, dwy golled ac un gornest cyfartal, ac mae hi’n drydydd ar restr detholion Ewrop. Fe gystadlodd am y gwregys WBA Pwysau Bantam y Byd y llynedd, ond fe gollodd ar benderfyniad hollt.

Dywedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Am y tro gyntaf bydd S4C yn darlledu noson o focsio yn fyw ac ry’ ni’n gobeithio am noson i’w chofio. Mae gyrfa Ashley Brace yn mynd o nerth i nerth ac wrth iddi gystadlu am Bencampwriaeth Ewrop, ry’ ni’n falch o allu dangos yr ornest i’r genedl a thu hwnt.”

Cyn i Brace a Sorroche gamu i’r sgwâr, bydd dwy ornest arall am wregysau Bencampwriaeth Cymru. Yn y gyntaf bydd Gavin Gwynne o Ferthyr yn herio Henry Janes o Gaerdydd, am Bencampwriaeth adran pwysau ysgafn Cymru. Mae Gwynne yn brolio record berffaith o saith buddugoliaeth heb golli ac fe fydd yn siŵr o dderbyn anogaeth gref gan y cefnogwyr lleol.

10 buddugoliaeth, 21 colled a dau ornest cyfartal ydi record Henry Janes yn y sgwâr hyd yn hyn, ond ar ôl iddo ennill tair a sicrhau dau ornest cyfartal yn y flwyddyn ddiwethaf, bydd Janes yn hyderus wrth baratoi ar gyfer yr ornest yma.

Bydd y Bencampwriaeth Pwysau is drwm Cymru hefyd yn y fantol ym Merthyr, wrth i Nathan Thorley o Gaerdydd ymladd yn erbyn Jermaine Asare o Bontypridd.

Mae Thorley eisoes di ennill pob un o’i saith ornest hyd yn hyn, tra bod Asare wedi colli dwy ac ennill ar saith achlysur. Mae’r ddau ymladdwr wedi ennill medalau efydd dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad fel amaturiaid, ac mae’r ddau yn cael ei ystyried fel paffwyr pwerus.

Bydd gornestau eraill y noson yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i’w ddod. Y cwmni cynhyrchu, Cwmni Media Atom, fydd yn darparu’r rhaglen ar ran S4C.

Continue Reading

Cymraeg

Gwaith newydd ar daith gyda chwmni opera Cymraeg

Published

on

Mererid Hopwood: Gwaith newydd ar daith

MAE MERERID HOPWOOD, sy’n Athro yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi ysgrifennu’r libreto i opera newydd a gaiff ei pherfformio gan Opra Cymru’r mis hwn.

Mae’r opera wedi’i seilio ar y nofel Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis, a’r cyfansoddwr yw’r cerddor adnabyddus, Gareth Glyn. Mae’r daith yn dechrau ar 10 Tachwedd yn Pontio, Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yna bydd yn ymweld â Wrecsam, Y Drenewydd, Aberystwyth, y Barri, Abertawe a Phwllheli.

Mae Islwyn Ffowc Elis yn un o lenorion pwysicaf Cymru ac ystyrir ei waith ymhlith clasuron yr iaith Gymraeg. Bu hefyd yn Ddarlithydd ac yn Ddarllenydd yn Y Drindod, Caerfrddin ac ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, rhwng 1975 a 1988. Enwebwyd ei nofel Cysgod y Cryman yn Llyfr y Ganrif gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1999. Ysgrifennwyd Wythnos yng Nghymru Fydd union chwe deg mlynedd yn ôl ym 1957 ac mae’n cymryd y darllenwyr ar ddwy daith i Gymru’r flwyddyn 2033, y naill yn Gymru rydd a’r llall yn Western England.

“Mae’r nofel yn ein hatgoffa fod y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn a wnawn ni yn y presennol”, meddai Mererid Hopwood, “ac yn hynny o beth, mae’n ein herio ni ond mae hefyd yn cynnig gobaith i ni.”

Mae’r opera ei hun yn cael ei chyflwyno yn y Gymraeg. Fodd bynnag, mae Opra Cymru wedi datblygu ap, o’r enw ‘Sibrwd’ i alluogi siaradwyr di-gymraeg a dysgwyr Cymraeg i fwynhau’r opera. Gellir lawrlwytho’r ap mewn lleoliadau gyda WiFi.

Mae’r Athro Mererid Hopwood yn Athro yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn 2001, hi oedd y wraig gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hi wedi ennill Cadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith. Yn 2005 roedd hi’n Fardd Plant Cymru, ac yn 2011 enillodd Wobr Glyndŵr am ei chyfraniad i lenyddiaeth yng Nghymru. Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr categori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn yn 2016.

Continue Reading

Popular This Week