Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ymgyrch newydd i adfywio cynefinoedd gwerthfawr

Published

on

Safle bywyd gwyllt enwog: Cors Caron ger Tregaron

MAE PROSIECT cadwraeth i wella rhai o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru yn cychwyn yr wythnos hon.

Bwriad prosiect £4 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw adfywio cyforgorsydd Cymru – cynefinoedd prin a grëir pan fydd llystyfiant cors yn ffurfio cromen o fawn dros gyfnod o filenia.

Bydd y prosiect yn gwella cyflwr saith o’r safleoedd pwysicaf yng Nghymru.

Mae canrifoedd o dorri mawn a thorri ffosydd wedi eu dirywio.

Ond pan fyddant mewn cyflwr da, gall cyforgorsydd helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd trwy storio symiau enfawr o garbon.

Mae’r gwaith i’w hadfer yn cynnwys gwella’r systemau draeniad, torri rhywogaethau goresgynnol a phrysgwydd, a chyflwyniad pori ysgafn – oll mewn partneriaeth â chymunedau lleol, tirfeddianwyr, a chontractwyr.

I nodi’r achlysur, ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a materion gwledig, Lesley Griffiths, y safle bywyd gwyllt enwog yng Nghors Caron, ger Tregaron, ddydd Iau 19 Hydref.

Mae’r safle yma, yn ogystal â Chors Fochno yng ngogledd Ceredigion, dan reolaeth CNC. Dyma’r ddau safle mwyaf yn y prosiect.

Bydd gwaith adfer hefyd yn cael ei gynnal ar safleoedd ger Trawsfynydd, Abergwaun, Crosshands, Crughywel, a Llanfair-ym-muallt.

Ariannir y prosiect pedair blynedd gan nawdd y cynllun EU LIFE a CNC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lelsey Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod CNC wedi llwyddo i dderbyn nawdd y cynllun EU LIFE er mwyn adfer mawndir Cymru.

“Bydd y cynllun uchelgeisiol yn arddangos y buddion hirdymor a ddaw yn sgil adfer mawndir – rhai amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol. Mae’n cyd-fynd â’n Cynllun Adfer Natur yn ogystal â’n hymroddiad i les cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym wedi ymroi i reoli holl fawndir Cymru, a’u cynefinoedd cefnogol, mewn modd cynaliadwy erbyn 2020, gan sefydlu rhaglen integredig er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i wneud hynny.

“Amcan y prosiect yw gwella statws cadwriaethol oddeutu 690ha o fawndir o fewn saith o gyforgorsydd Cymru. Maent yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, ac ymysg y mawndiroedd pwysicaf yn Ewrop.”

Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “I rai, nid yw corsydd yn ddim mwy na thirwedd foel ac anial. Ond, mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir. Gall cors iach gynnig buddion mawr i fywyd gwyllt a phobl.

“Maent yn cynnig lloches i anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys gweirlöyn mawr y waun ac andromeda’r gors. Maent hefyd yn arafu newid hinsawdd trwy storio carbon, ac yn fannau gwych ar gyfer mwynhau natur a’r awyr agored.

Mae’r nawdd yma gan LIFE UE yn ein galluogi i wella cyflwr cyforgorsydd Cymru, gan adael iddynt barhau i greu mawn ac echdynnu carbon o’r aer.

“Bydd budd y gwaith yn parhau ymhell wedi i’r prosiect orffen, gan gael effaith bositif ar genedlaethau’r dyfodol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Simon Thomas yn Dod i Ben â Choginio Ynni Isel

Published

on

Nid yw'n Nigella: Mae Simon Thomas yn ceisio coginio ynni isel

MAE Simon Thomas AC yn edrych ymlaen at fynnu rheolaeth ar ei ddefnydd o ynni ar ôl cymryd rhan mewn arddangosiad coginio a gynhaliwyd gan Ynni Clyfar GB i ddangos manteision mesuryddion clyfar i bobl ar draws Cymru.

Ymunodd Simon Thomas â chyd-Aelodau Cynulliad mewn ymgais i goginio bentwr o grempogau gan ddefnyddio cyn lleied o drydan â phosib. Costiodd ymdrechion coginio Simon 1.76c mewn ynni o’i gymharu â chost gyfartalog coginio crempog, sef 2.19c. Defnyddiwyd mesurydd clyfar i fesur defnydd ynni’r Aelod Cynulliad, gan ddangos y canlyniad mewn punnoedd a cheiniogau ar sgrîn ddigidol.

Gydag mwy na 8.6 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi’u gosod ledled Prydain Fawr, mae Simon Thomas AM yn edrych ymlaen at weld mesuryddion clyfar yn helpu pobl i fesur eu defnydd o ynni ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r rhai sydd wedi uwchraddio i fesurydd clyfar eisoes yn gweld y manteision. Mae thri chwarter o bobl sydd â mesurydd clyfar eisoes yn dweud y byddent yn argymell un i’w teulu a ffrindiau, a chyfran debyg (80 y cant) yn cymryd camau i gwtogi ar eu defnydd o ynni. (Awst 2017 Rhagolwg ynni clyfar.)

Ar ôl cael gwybod mwy am y dechnoleg gan Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar, meddai Simon Thomas AC: “Pan wyf yn coginio gartref, dwi ddim yn gwybod faint o ynni rwy’n ei ddefnyddio. Trwy gymryd rhan yn yr arddangosiad coginio hwn, roeddwn yn gallu cael ychydig o ymarfer fflipio crempogau yn barod at Ddydd Mawrth Ynyd, ac ar ben hynny, gweld o lygad y ffynnon sut y bydd mesuryddion clyfar yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni i gyd ar yr hyn a wariwn ar nwy a thrydan ac, o’r diwedd, dod â biliau wedi’u hamcangyfrif i ben.

Byddwn yn annog fy holl etholwyr i ffonio eu cyflenwr ynni heddiw a gofyn am apwyntiad i gael eu gosodiad mesurydd clyfar.”

Bydd mesuryddion clyfar yn golygu biliau cywir i bawb yn Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac ar draws gweddill Prydain Fawr. Maent yn golygu hefyd y gallwch weld faint yn union o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real.

Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni heddiw ynghylch gosod eich mesurydd clyfar.

Continue Reading

Cymraeg

Darganfod eich Chwedl y mis Chwefror hwn ar Arfordir Penfro

Published

on

Castell Henllys: Darganfod Bywyd yn yr Oes Haearn

OS YDYCH chi’n chwilio am ddiwrnod o hwyl yn ystod hanner tymor mis Chwefror, mae gan atyniadau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddigon i’ch ysbrydoli chi i archwilio’r dirwedd hon sydd o safon fyd-eang wrth i Flwyddyn y Môr ddechrau o ddifrif.

Mae Pentref yr Oes Haearn Castell Henllys, Castell a Melin Heli Caeriw ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc i gyd yn cynnig digwyddiadau a dyddiau allan cyfeillgar i’r teulu ar gyfer pob oed.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae bob un o’r tri safle wedi trefnu gweithgareddau cyffrous er mwyn eich helpu chi i ddathlu Blwyddyn y Môr ar Arfordir Penfro, drwy gynnal digwyddiadau am bythefnos ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr o bob rhan o’r DU.

“P’un ai yw’n dod o hyd i ddraig yng Nghastell Caeriw, darganfod bywyd yr Oes Haearn yng Nghastell Henllys ynteu bod yn greadigol wrth y môr yn Oriel y Parc, mae rhywbeth yn digwydd ym mhob cornel o’r Parc Cenedlaethol.”

Ymysg y digwyddiadau yng Nghastell Henllys, tan 25 Chwefror, er mwyn eich helpu chi i gynhyrchu anrheg wedi’i wneud â llaw mewn pryd ar gyfer Diwrnod Sant Ffolant neu rywbeth i chi ei gadw eich hun!

Yn y gweithdy, byddwch yn cael dysgu sut i greu eich modrwy droellog eich hun gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam i’w gwneud y maint cywir ar eich cyfer chi. Mae archebu lle yn hanfodol drwy ffonio 01239 891319. £20 y pen.

Bydd Môr-ladron a Thywysogion yn rhoi cyfle i chi ddarganfod chwedlau am y môr ar ddydd Mercher 21 Chwefror, gyda thaith dywys a storïwyr am 11.30am, a gweithgareddau yn y gaer yn dilyn hynny. Yn ogystal, bydd straeon yn y gaer am 2pm a bydd gweithgareddau yn dilyn. £3 a thâl mynediad.

Bydd Castell Caeriw yn croesawu Chwilio am y Ddraig tan ddydd Sul 25 Chwefror, a fydd yn eich herio chi i ddefnyddio pob un o’ch sgiliau hela’r ddraig wrth i chi chwilio ym mhob cornel o’r Castell er mwyn darganfod y bwystfil. £1 i bob plentyn a thâl mynediad.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, byddwch chi’n gallu Dod yn Greadigol wrth y Môr o 2pm tan 4pm ar ddydd Iau, 22 Chwefror. Byddwch chi’n cael ei annog i gael ysbrydoliaeth o’r dirwedd arfordirol er mwyn cynhyrchu eich campwaith eich hun, gyda help gan staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol. £3 i bob plentyn. Mae’n rhaid i bob plentyn ddod gydag oedolyn. Cynghorir i chi archebu drwy ffonio 01437 720392.

Continue Reading

Cymraeg

Holl emosiwn a drama rhoi tŷ Ar Werth

Published

on

O BLASTAI moethus ar lannau’r Fenai i fflatiau un stafell yng Nghaerdydd, does dim prinder o dai ar werth yng Nghymru.

Mae cyfres newydd, Ar Werth, sy’n dechrau nos Fercher, 21 Chwefror, yn dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru ac yn profi’r holl emosiynau a drama sy’n dod wrth werthu a phrynu tai mewn cyfnod heriol i’r diwydiant.

Yn y rhaglen gyntaf cawn weld sut mae hen blasty ar lan y Fenai yn Sir Fôn wedi cael ei droi’n fflatiau moethus, a’r her sy’n wynebu’r gwerthwr tai Dafydd Hardy i’w gwerthu nhw. Draw yn Aberystwyth, mae’r gwerthwr tai Iestyn Leyshon o gwmni Lloyd Herbert & Jones yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud i’r tai mae e’n eu gwerthu edrych yn fwy deniadol ar y we.

Ond dydy prynu na gwerthu eiddo ddim yn hawdd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n chwilio am eu cartref cyntaf. Mae ffigyrau diweddar Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn awgrymu bod prisiau tai Cymru wedi codi 3.3% yn 2017 – cyfradd sy’n tyfu’n gynt nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol – ac ar gyfartaledd, mae tŷ neu fflat yng Nghaerdydd yn costio £200,000 i’w brynu.

Mae Catrin Thomas wedi bod yn byw yn y brifddinas ers tair blynedd. Ar ôl cyfnod o rentu, mae hi nawr yn awyddus i brynu ei lle ei hun.

“Dwi wedi bod yn siarad hefo mam a dad am y peth a dwi’m yn meddwl bo nhw’n dallt pa mor anodd ydi hi i ni i brynu tŷ rŵan,” meddai Catrin, 24 oed, sy’n wreiddiol o Sir Fôn ac yn gweithio yn y cyfryngau. “Dydy safio am deposit ddim yn beth hawdd pan ti’n rhentu, yn enwedig gan bo fi’n trio gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Dwi’n meddwl ei fod o am fod yn reit anodd ac yn broses hir ond fydd rhaid i fi jyst dal ati a chario ‘mlaen a pheidio digalonni os dwi’m yn gweld rhywle yn syth.”

Cawn weld dros yr wythnosau nesaf a fydd Catrin yn dod o hyd i’w chartref delfrydol. Ond oes ganddi rywbeth arbennig mewn golwg?

“Be fyswn i’n licio’i gael ydi tŷ neu fflat hefo open plan kitchen diner, dwy ‘stafell wely – neu dair os dwi’n lwcus – er bo fi’n gwybod yn barod bod hynny tu hwnt i’n price range i.”

Hefyd yn y rhaglen gyntaf, fe gawn gyfarfod cwpl o Aberystwyth sydd wedi ymddeol ac sydd â chynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer eu cartref newydd a dynes o Sir y Fflint sydd wedi gwerthu’r cartref teuluol ers colli ei mam a’i gŵr. A byddwn yn cael cipolwg ar dŷ hardd yng Nghricieth sydd ar werth am bron i filiwn o bunnoedd.

Continue Reading

Popular This Week