Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dilyn yr heriau sy’n wynebu doctoriaid y dyfodol

Published

on

Meddyg dan hyfforddiant: Rhodri James o Aberystwyth

BOB BLWYDDYN mae 300 o fyfyrwyr meddygol uchelgeisiol yn cerdded drwy ddrysau Ysgol Feddygol Caerdydd.

Mor ifanc â 20 oed, maen nhw’n chwarae rhan bwysig mewn ysbytai trwy Gymru – o goridorau prysur yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys i theatrau llawfeddygaeth.

Mae’n dymor newydd ac mae camerâu S4C yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i ddilyn hynt a helynt 11 o fyfyrwyr meddygol yn ystod blwyddyn o hyfforddiant yn Doctoriaid Yfory, sy’n dychwelyd nos Fawrth, 24 Hydref.

Mae’r gyfres ddogfen chwe-rhan yn dilyn taith emosiynol y myfyrwyr, sy’n amrywio o 18 i 23 oed, wrth iddynt fynd i’r afael â gofynion blwyddyn academaidd ddwys, a thensiwn theatrau llawdriniaeth prysur, meddygfeydd a wardiau ledled Cymru a thu hwnt.

O ddiogelwch yr ystafell ddosbarth, i realiti caled wardiau ysbytai ar draws Cymru, bydd llawer ohonyn nhw’n wynebu profiadau cyntaf anodd. Ar groesffordd yn eu bywydau, rydym yn gweld y meddygon ifanc yn wynebu sefyllfaoedd dwys, o golli claf i reoli clefydau cronig, gan ddelio ag effaith canser ar gleifion a theuluoedd a meistroli sgiliau sylfaenol fel cymryd gwaed a phwytho am y tro cyntaf. Byddwn yn cael cipolwg ar bwysau a heriau dysgu o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â chlywed straeon pwerus am gleifion a gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig sy’n mowldio meddygon yfory. Gan rannu eu dyheadau a’u ofnau, mae’r myfyrwyr yn adlewyrchu gwaith anhygoel a diflino staff y GIG ar draws y wlad.

Y myfyrwyr sy’n cymryd rhan yw: Ainsley Richards o Lanelli; Moshan Anwar o Landegfan; Eleri Sweeny o Benrhyndeudraeth; Eben Rees o Ben Llŷn; Dafydd Pearce o Aberhonddu; Emily Lloyd o Grymych; Jess McVeigh o Abertawe; Rhodri James o Aberystwyth a Ffion Thrythall o Bwllheli.

Mae’r pryderon am brinder meddygon Cymraeg i wasanaethu cleifion mewn ysbytai a meddygfeydd ar draws Cymru yn hawlio’r penawdau’n gyson. Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi torri tir newydd mewn gwahanol agweddau o waith meddygol, ac un agwedd ar y gwaith hwn yw defnyddio mwy nag un iaith ar gyrsiau hyfforddi. Gan weithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Ysgol yn paratoi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Dr Anwen Iorwerth sy’n Ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd ac yn gweithio ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, “Mae’r cwrs yma i fod i ddatblygu meddygon ifanc sy’n barod i wasanaethu’r gymuned rydym yn byw ynddi. Felly, rydyn ni ishio pobl ifanc brwdfrydig sy’n adnabod eu cymdeithas ac yn gallu eu gwasanaethu nhw. ‘Dan ni ishio myfyrwyr sy’n gallu cynnig gwasanaeth yn y Gymraeg a Saesneg ond rydyn ni am roi hyder i’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg i weithio yn yr ardaloedd gwledig, fel nad ydynt yn ofn y Gymraeg.”

Yn y rhaglen gyntaf, mae Emily Lloyd, sy’n fyfyrwraig yn y bedwaredd flwyddyn, ar wythnos gyntaf ei lleoliad yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr. Ceisio dod i’r afael â llawdriniaeth agored wrth roi pen-glin newydd i glaf bydd Ainsley Richards, sydd yn y Bedwaredd Flwyddyn, ac mae Jess McVeigh a Rhodri James sy’n fyfyrwyr yn y drydedd flwyddyn yn dygymod â realiti achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Meddai Jess McVeigh, “Hoffwn i fod yn ddoctor mae pobl yn gallu ymddiried ynddi, ac yn gallu siarad â hi. Un o’r uchafbwyntiau gorau ges i ar leoliad eleni, yn enwedig yn Ysbyty Gwynedd oedd bod yn A&E a bod yn rhan o’r tîm. Wy’n cofio fy niwrnod cyntaf – do’n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl, a wy’n cofio teimlo fel fish out of water. Chi jest yn gorfod mynd i mewn yna a dysgu ar y job. Dyna’r tro cyntaf i fi sylwi pa mor hectic oedd placement.”

Dywedodd cynhyrchydd y gyfres Llinos Griffin-Williams o Green Bay Media: “Ni allai’r gyfres ddarluniadol hon wedi bod yn bosib heb gydweithrediad gweithredol Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol led led Cymru a phartneriaeth agos rhwng S4C ac Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

“Mae caredigrwydd a goddefgarwch y staff ymroddedig ym mhob agwedd ar feddyginiaeth led led Cymru, sydd wedi ymrwymo i addysgu’r genhedlaeth nesaf o Feddygon Cymreig yn ganmoladwy, fel agwedd arloesol at feddygaeth addysgu gan y Brifysgol. Mae’r myfyrwyr hyn yn rhyfeddol; yn wydn, yn empathetig ac yn benderfynol; rydym yn falch iawn o allu dangos Cymru bod ein hiechyd mewn dwylo diogel.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

Published

on

“Y byd yn uno mewn dathliad lliwgar a llawen”: Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Continue Reading

Cymraeg

Eglwys Madagascar yn ymweld â Cheredigion

Published

on

Dwy gan mlynedd o bartneriaeth: Pwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion

AR DDYDD Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl – eglwys sy’n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu’r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy’n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a’r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Published

on

'Un gam o’r ffordd': Dai Lloyd, AC

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Continue Reading

Popular This Week