Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

UAC yn herio safbwynt profion ar ôl symud Defra

Published

on

FUW: Dr Hazel Wright

​MAE Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at Defra i herio ei safbwynt ar y rheolau profion ar ôl symud sy’n ymwneud â symud gwartheg o Ardal TB Isel yng Nghymru i Ardal Risg Isel yn Lloegr.

Er gwaethaf trafodaethau Llywodraeth Cymru ar y pwnc, bydd profion ôl symud Defra yn parhau ar gyfer ffermwyr sy’n symud gwartheg ar draws y ffin o Gymru ac mae gan yr Undeb bryderon sylweddol ynglŷn â’r goblygiadau o barhau gyda’r drefn bresennol ac effaith andwyol y polisi hwn ar ffermwyr Cymru​.​

Mae nifer yr achosion o TB yng Nghymru yn amrywio’n sylweddol ar draws rhanbarthau ac mae ystadegau TB mewn gwartheg Defra a Llywodraeth Cymru yn dangos bod gan yr Ardal TB Isel yng Nghymru lefelau TB sy’n cymharu â, neu’n well na’r rhai hynny sydd mewn Ardal Risg Isel yn Lloegr.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC: “Drwy barhau â’r gofyniad o brofi ar ôl symud, mae Defra wedi parhau i gyflwyno camsyniadau ynglŷn â’r drefn brofi flynyddol yng Nghymru, ac yn anfwriadol wedi dynodi pob plwyf Cymreig fel ardaloedd ‘risg uchel’.

“Mae’r ffaith bod Defra yn gwrthod trafod hyn gyda Llywodraeth Cymru yn hynod o rwystredig gan nad oes rhaid i wartheg sy’n dod i Gymru o Ardal Risg Isel yn Lloegr naill ai gael eu profi cyn symud neu brofi ar ôl symud.

“O gofio lefel y TB yn Ardal TB Isel Cymru, a diffyg unrhyw berthynas rhwng risg TB a threfn brofi flynyddol Cymru, mae UAC wedi ysgrifennu at Defra i ofyn am eglurder ynghylch y broses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at barhau gyda’r drefn bresennol o brofi ar ôl symud ar draws y ffin.”

Mae UAC yn credu bod y drefn o brofi’n flynyddol sy’n digwydd yng Nghymru yn golygu bod y nifer gwirioneddol o ddadansoddiadau nas datgelir yn debygol o fod yn gymharol fach. Felly, mae canlyniad y trafod hwn yn ddiangen ac mae UAC yn aros am ohebiaeth gan Defra ar y gwerthusiad gwyddonol a ddefnyddir yn y broses o wneud penderfyniadau.

“Bydd aelodau UAC yn siomedig nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu sicrhau’r rhan allweddol hon o’r cynigion newydd cyn lansio’r rheoliadau newydd.

“Yng ngoleuni trafodaethau Brexit yn y dyfodol, mae’r safbwynt a gymerwyd gan Defra ar y mater hwn yn annerbyniol. Os na all y gweinyddiaethau datganoledig drin ei gilydd gyda rhywfaint o gyfwerth o fewn y DU, yna nid yw’n arwydd da ar gyfer cysylltiadau y tu allan i’r UE yn y dyfodol, ” ychwanegodd Dr Wright.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Community

Range of topics for Safeguarding Week

Published

on

Hazardous co-sleeping with infants and adults who self-neglect are among topics for discussion highlighted in National Safeguarding Week in Mid and West Wales which runs from next Monday (November 4).

A wide-ranging programme is taking place throughout the week across Pembrokeshire, Ceredigion, Carmarthenshire and Powys including conferences, engagement events and workshops.

The programme has been co-ordinated by CWMPAS and CYSUR, the Mid and West Wales Regional Safeguarding Board.

A highlight of the week is the Board’s annual conference at Pembrokeshire College in Haverfordwest on Thursday, November 14.

The keynote address is being delivered by Dr Eileen Munro, Emeritus Professor of Social Policy at the London School of Economics.

Dr Munro is the author of the Munro Review of Child Protection – a child-centred system which made a number of recommendations to reform the child protection system from being over-bureaucratised to one that keeps a focus on the child.

The conference will highlight key achievements across the region in implementing the Signs of Safety approach to working with families.

Signs of Safety is a more inclusive, solution-focused approach which encourages families to find their own solutions to the challenges they may be experiencing.

During the week, the Safeguarding Board will also seek to raise awareness of circumstances in which co-sleeping becomes unsafe, as well as the dangers of self-neglect and hoarding.

Technology will also be a theme as the Board formally launches its newly designed website and enhanced social media presence in order to improve awareness of its work and functions.

The new All-Wales Protection Procedures is also due to launch while Dyfed Powys Police will follow a comprehensive programme of activities to engage schools and communities, focussing on a variety of themes such as sexting, cyber-crime and exploitation.

Other events taking place in Pembrokeshire include the Junior Safeguarding Conference during which secondary school pupils will receive a safeguarding module devised by Pembrokeshire’s Safeguardians. There will also be a County Lines workshop to be facilitated by Fearless, a branch of Crimestoppers.

Carmarthenshire County Council will be facilitating consultation with partner agencies to finalise the draft regional self-neglect policy.
Hywel Dda University Health Board will also hold a Learning Event related to this theme as part of Safeguarding Week activities.

Events taking place across Powys include the formal launch of new procedures relating to deprivation of liberty safeguards, as well as training across Health Boards on a range of adult safeguarding issues delivered jointly with Trading Standards and Police.

TESTUNAU AMRYWIOL AR GYFER YR WYTHNOS
DDIOGELU

Mae cyd-gysgu peryglus gyda babanod, ac oedolion sy’n hunan-esgeuluso ymhlith testunau i’w trafod y tynnir sylw atynt yn yr Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy’n rhedeg o ddydd Llun nesaf (4 Tachwedd).

Mae rhaglen eang yn cael ei chynnal trwy gydol yr wythnos ledled Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys yn cynnwys cynadleddau, digwyddiadau ymgysylltu a gweithdai.

Cydgysylltwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos yw cynhadledd flynyddol y Bwrdd yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd ddydd Iau, 14 Tachwedd.

Cyflwynir y prif anerchiad gan Dr Eileen Munro, Athro Emeritws Polisi Cymdeithasol yn Ysgol Economeg Llundain.

Dr Munro yw awdur Munro Review of Child Protection – a child-centred system, a wnaeth nifer o argymhellion i ddiwygio’r system amddiffyn plant o fod yn system or-fiwrocrataidd i un sy’n cynnal ffocws ar y plentyn.

Bydd y gynhadledd yn tynnu sylw at y prif gyflawniadau ar draws y rhanbarth o ran gweithredu’r ymagwedd Arwyddion Diogelwch wrth weithio gyda theuluoedd.

Mae Arwyddion Diogelwch yn ymagwedd fwy cynhwysol, yn canolbwyntio ar atebion, sy’n annog teuluoedd i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i’r heriau y gallant fod yn eu hwynebu.

Yn ystod yr wythnos, bydd y Bwrdd Diogelu yn mynd ati hefyd i gynyddu ymwybyddiaeth o amgylchiadau lle mae cyd-gysgu yn anniogel, yn ogystal â pheryglon hunan-esgeuluso a chelcio.

Bydd technoleg yn thema hefyd wrth i’r Bwrdd lansio’i wefan yn ffurfiol ar ei newydd gwedd, ynghyd â gwell presenoldeb yn y cyfryngau
cymdeithasol er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’i waith a’i swyddogaethau.

Bydd fersiwn newydd Gweithdrefnau Amddiffyn Cymru Gyfan yn cael ei lansio hefyd, a bydd Heddlu Dyfed Powys yn dilyn rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau i ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o themâu fel secstio, seiberdroseddu a chamfanteisio.

Mae digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal yn Sir Benfro yn cynnwys y Gynhadledd Diogelu Plant Iau lle bydd disgyblion ysgolion uwchradd yn derbyn modiwl diogelu a ddyfeisiwyd gan Warchodwyr Sir Benfro. Hefyd, bydd gweithdy Llinellau Cyffuriau yn cael ei gynnal gan Fearless, sef cangen o Crimestoppers.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn hwyluso ymgynghoriad gydag asiantaethau partner i roi’r wedd derfynol ar y polisi hunan-esgeuluso rhanbarthol drafft. Hefyd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal Digwyddiad Dysgu yn gysylltiedig â’r thema hon fel rhan o weithgareddau’r Wythnos Ddiogelu.

Mae digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Powys yn cynnwys lansio gweithdrefnau newydd yn ffurfiol yn ymwneud â threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, yn ogystal â hyfforddiant ar draws Byrddau Iechyd ar amrywiaeth o faterion diogelu oedolion a gyflwynir ar y cyd â Safonau Masnach a’r Heddlu.

Continue Reading

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading

Popular This Week