Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Darlithydd ac un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn serennu

Published

on

Comedi rhyfedd a thrasiedi chwerw: Cynhyrchiad llawer disgwyliedig

MAE DAVE AINSWORTH, Cyfarwyddwr y Rhaglen BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn newid y ddarlithfa am Theatr y Torch wrth iddo baratoi i serennu yn One Flew Over the Cuckoo’s Nest’.

Bydd un o raddedigion Actio Y Drindod Dewi Sant, sef Connor Allen, yn ymuno â Dave yn y darn pen-blwydd arbennig hwn.

Wedi’i gyfarwyddo gan Peter Doran, bydd y cynhyrchiad yma gan Theatr Torch o un o’r dramâu mwyaf poblogaidd yn dathlu pen-blwydd y cwmni o Aberdaugleddau yn 40. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf gan y cwmni yn 2002 pan oedd Dave hefyd yn rhan o’r cast ac mae’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddychwelyd i’r darn bymtheg mlynedd yn ddiweddarach.

Mae addasiad Dale Wasserman o nofel glasur Americanaidd Ken Kesey yn adrodd hanes gwallgofrwydd sefydliadol, lle caiff y gwallgof eu drygio, trydanu a lobotomeiddio er mwyn gorfodi syniad brawychus o reswm, un lle ufudd-dod a chydymffurfiad yw’r unig arwyddion derbyniol o iechyd meddwl.

Mae Dave Ainsworth yn chwarae rhan Ruckly, claf y mae gweithrediad ei ymennydd wedi’i ddinistrio gan lobotomy.

“Mae’n rôl heriol iawn ond mae’n wych cael ailymweld â rhan a chwaraeais yng nghynhyrchiad gwreiddiol y Torch llawer o flynyddoedd nôl,” meddai Dave, sydd yn actor, comedïwr ac awdur yn ogystal â darlithydd.

“Mae’n rhan fach ond hollbwysig,” ychwanega Dave. “Mae’n wers wych i ni gyd allu ei haddysgu i’r myfyrwyr nad oes ffasiwn beth â rhan fach mewn cynhyrchiad. Rwyf yn y ddrama o’r dechrau i’r diwedd ac yn rhan allweddol o’r tîm.”

Mae cyfoeth o brofiad Dave Ainsworth o weithio yn y theatr yn golygu ei fod yn gallu addysgu’r hyn sy’n berthnasol a chyfredol, gan sicrhau bod ei fyfyrwyr yn barod am ofynion y diwydiant.

“Fel actor a chomedïwr, rwyf wedi perfformio ar hyd a lled y wlad ac wedi rhedeg tri chlwb comedi yng nghanol Llundain am gyfnod. Rwyf wedi ysgrifennu llawer o ddramodydd hefyd sydd wedi cael eu perfformio’n broffesiynol, gan gynnwys Oh Hello a enillodd gwobr y beirniaid am y ‘Ddrama Orau’ yng Ngŵyl Caeredin 2015; Greville’s Whore a deithiodd llynedd ac rwy’n ysgrifennu sioe newydd ar hyn o bryd o’r enw Derek, the Prince of Wales,” aeth Dave yn ei flaen. “Mae’n wych gallu rhannu fy mhrofiadau o weithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau ac mewn ystod o genres gydag ein myfyrwyr ac i’w haddysgu am bob agwedd ar y diwydiant.”

Ynghyd â chyd-ddarlithydd BA Actio Dave, Lynne Seymore – sydd hefyd yn actores a chyfarwyddwraig uchel ei pharch – maent yn gallu paratoi myfyrwyr ac i’w tywys drwy eu hastudiaethau yn ogystal â thrwy eu gyrfaoedd. Yn wir, yn y cynhyrchiad hwn o One Flew Over the Cuckoo’s Nest, mae Dave hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda dau o raddedigion diweddar Celfyddydau Perfformio Y Drindod Dewi Sant.

“Elfen arall o’r cynhyrchiad hwn sy’n arbennig iawn yw fy mod hefyd yn cael gweithio gyda dau o’n graddedigion – Connor Allen, sy’n actio gyda fi a Joe Jones, sef Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol y cynhyrchiad.

“Mae gallu gweithio gyda Connor a Joe yn wych ac rwy’n teimlo’n falch iawn i fod yn rhan o’r un cynhyrchiad. Mae gallu gweithio gyda nhw ar sioe broffesiynol yn grêt ac i’w gweld yn rhoi’r hyn y bu iddynt ei ddysgu yn Y Drindod Dewi Sant ar waith yn ogystal â’u gweld yn tyfu a datblygu yn eu dewis feysydd.”

Mae Connor Allen yn chwarae rhan Aide Warren yn y cynhyrchiad hwn, ac wedi cael ei hyfforddiant yn Y Drindod Dewi Sant, mae’n ymhyfrydu mewn cael y cyfle i ddysgu gan ei gyn-ddarlithydd unwaith eto.

“Mae’n neis ofnadwy cael gweithio gyda Dave ar y cynhyrchiad rhagorol hwn,” meddai Connor. “Fe addysgodd cymaint i mi pan oeddwn yn Y Drindod Dewi Sant ac mae’n dal i fy addysgu nawr – mae’n cwblhau’r cylch.

“Hefyd, mae cael bod yn rhan o gast mor wych â hynny yn un o brif theatrau cynhyrchu Cymru yn brofiad a hanner – mae’n gyffrous ac yn hwyl.”

Ers graddio yn 2013, mae Connor wedi chwarae amrywiaeth o rannau gyda chwmnïau amrywiol – a chan lawer ohonynt gysylltiad â’r Drindod Dewi Sant.

“Yr haf y bu i mi raddio, anogodd Dave i mi fynd am glyweliad i Theatr Ieuenctid Genedlaethol Prydain Fawr ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn.

“Yna, mi es gyda sioe i Gaeredin – sioe a gefnogwyd gan Y Drindod Dewi Sant – cyn cael rôl gyda Taking Flight, y roedd ei gyfarwyddwr artistig wedi fy nysgu am Shakespeare.

“Mae’r ychydig flynyddoedd cyntaf ar ôl graddio yn reit anodd ond rwy’n ffodus i fod â rhwydwaith cefnogi gwych sy’n cynnwys staff Y Drindod Dewi Sant. Mae’n wych nawr i gael y cyfle i fod yn rhan o’r cynhyrchiad arbennig hwn ac i ddysgu a thyfu’n fwy fel perfformiwr – yn arbennig drwy ddysgu gan Dave eto, rhywun sydd wedi addysgu cymaint i mi pan oeddwn yn hyfforddi,” ychwanega Connor.

Gyda disgrifiadau fel ‘anarchaidd’, ‘direidus’ a ‘didostur o hudol’, mae cynhyrchiad Theatr Torch o One Flew Over the Cukoo’s Nest yn un i’w weld.

Bydd y cynhyrchiad yn Theatr Torch, Aberdaugleddau o ddydd Mercher, Hydref 11eg nes dydd Sadwrn, Hydref 28ain. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys iaith gref a themâu oedolion ysgafn ac nid yw’n addas i blant. I archebu tocynnau, ewch i http://torchtheatre.co.uk/

I ddysgu rhagor am y cwrs BA Actio, gallwch gysylltu â Dave yn uniongyrchol drwy e-bostio d.ainsworth@uwtsd.ac.uk

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Simon Thomas yn Dod i Ben â Choginio Ynni Isel

Published

on

Nid yw'n Nigella: Mae Simon Thomas yn ceisio coginio ynni isel

MAE Simon Thomas AC yn edrych ymlaen at fynnu rheolaeth ar ei ddefnydd o ynni ar ôl cymryd rhan mewn arddangosiad coginio a gynhaliwyd gan Ynni Clyfar GB i ddangos manteision mesuryddion clyfar i bobl ar draws Cymru.

Ymunodd Simon Thomas â chyd-Aelodau Cynulliad mewn ymgais i goginio bentwr o grempogau gan ddefnyddio cyn lleied o drydan â phosib. Costiodd ymdrechion coginio Simon 1.76c mewn ynni o’i gymharu â chost gyfartalog coginio crempog, sef 2.19c. Defnyddiwyd mesurydd clyfar i fesur defnydd ynni’r Aelod Cynulliad, gan ddangos y canlyniad mewn punnoedd a cheiniogau ar sgrîn ddigidol.

Gydag mwy na 8.6 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi’u gosod ledled Prydain Fawr, mae Simon Thomas AM yn edrych ymlaen at weld mesuryddion clyfar yn helpu pobl i fesur eu defnydd o ynni ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r rhai sydd wedi uwchraddio i fesurydd clyfar eisoes yn gweld y manteision. Mae thri chwarter o bobl sydd â mesurydd clyfar eisoes yn dweud y byddent yn argymell un i’w teulu a ffrindiau, a chyfran debyg (80 y cant) yn cymryd camau i gwtogi ar eu defnydd o ynni. (Awst 2017 Rhagolwg ynni clyfar.)

Ar ôl cael gwybod mwy am y dechnoleg gan Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar, meddai Simon Thomas AC: “Pan wyf yn coginio gartref, dwi ddim yn gwybod faint o ynni rwy’n ei ddefnyddio. Trwy gymryd rhan yn yr arddangosiad coginio hwn, roeddwn yn gallu cael ychydig o ymarfer fflipio crempogau yn barod at Ddydd Mawrth Ynyd, ac ar ben hynny, gweld o lygad y ffynnon sut y bydd mesuryddion clyfar yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni i gyd ar yr hyn a wariwn ar nwy a thrydan ac, o’r diwedd, dod â biliau wedi’u hamcangyfrif i ben.

Byddwn yn annog fy holl etholwyr i ffonio eu cyflenwr ynni heddiw a gofyn am apwyntiad i gael eu gosodiad mesurydd clyfar.”

Bydd mesuryddion clyfar yn golygu biliau cywir i bawb yn Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac ar draws gweddill Prydain Fawr. Maent yn golygu hefyd y gallwch weld faint yn union o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real.

Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni heddiw ynghylch gosod eich mesurydd clyfar.

Continue Reading

Cymraeg

Darganfod eich Chwedl y mis Chwefror hwn ar Arfordir Penfro

Published

on

Castell Henllys: Darganfod Bywyd yn yr Oes Haearn

OS YDYCH chi’n chwilio am ddiwrnod o hwyl yn ystod hanner tymor mis Chwefror, mae gan atyniadau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddigon i’ch ysbrydoli chi i archwilio’r dirwedd hon sydd o safon fyd-eang wrth i Flwyddyn y Môr ddechrau o ddifrif.

Mae Pentref yr Oes Haearn Castell Henllys, Castell a Melin Heli Caeriw ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc i gyd yn cynnig digwyddiadau a dyddiau allan cyfeillgar i’r teulu ar gyfer pob oed.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae bob un o’r tri safle wedi trefnu gweithgareddau cyffrous er mwyn eich helpu chi i ddathlu Blwyddyn y Môr ar Arfordir Penfro, drwy gynnal digwyddiadau am bythefnos ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr o bob rhan o’r DU.

“P’un ai yw’n dod o hyd i ddraig yng Nghastell Caeriw, darganfod bywyd yr Oes Haearn yng Nghastell Henllys ynteu bod yn greadigol wrth y môr yn Oriel y Parc, mae rhywbeth yn digwydd ym mhob cornel o’r Parc Cenedlaethol.”

Ymysg y digwyddiadau yng Nghastell Henllys, tan 25 Chwefror, er mwyn eich helpu chi i gynhyrchu anrheg wedi’i wneud â llaw mewn pryd ar gyfer Diwrnod Sant Ffolant neu rywbeth i chi ei gadw eich hun!

Yn y gweithdy, byddwch yn cael dysgu sut i greu eich modrwy droellog eich hun gyda chyfarwyddiadau cam wrth gam i’w gwneud y maint cywir ar eich cyfer chi. Mae archebu lle yn hanfodol drwy ffonio 01239 891319. £20 y pen.

Bydd Môr-ladron a Thywysogion yn rhoi cyfle i chi ddarganfod chwedlau am y môr ar ddydd Mercher 21 Chwefror, gyda thaith dywys a storïwyr am 11.30am, a gweithgareddau yn y gaer yn dilyn hynny. Yn ogystal, bydd straeon yn y gaer am 2pm a bydd gweithgareddau yn dilyn. £3 a thâl mynediad.

Bydd Castell Caeriw yn croesawu Chwilio am y Ddraig tan ddydd Sul 25 Chwefror, a fydd yn eich herio chi i ddefnyddio pob un o’ch sgiliau hela’r ddraig wrth i chi chwilio ym mhob cornel o’r Castell er mwyn darganfod y bwystfil. £1 i bob plentyn a thâl mynediad.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, byddwch chi’n gallu Dod yn Greadigol wrth y Môr o 2pm tan 4pm ar ddydd Iau, 22 Chwefror. Byddwch chi’n cael ei annog i gael ysbrydoliaeth o’r dirwedd arfordirol er mwyn cynhyrchu eich campwaith eich hun, gyda help gan staff a gwirfoddolwyr y Parc Cenedlaethol. £3 i bob plentyn. Mae’n rhaid i bob plentyn ddod gydag oedolyn. Cynghorir i chi archebu drwy ffonio 01437 720392.

Continue Reading

Cymraeg

Holl emosiwn a drama rhoi tŷ Ar Werth

Published

on

O BLASTAI moethus ar lannau’r Fenai i fflatiau un stafell yng Nghaerdydd, does dim prinder o dai ar werth yng Nghymru.

Mae cyfres newydd, Ar Werth, sy’n dechrau nos Fercher, 21 Chwefror, yn dilyn rhai o werthwyr tai amlycaf Cymru ac yn profi’r holl emosiynau a drama sy’n dod wrth werthu a phrynu tai mewn cyfnod heriol i’r diwydiant.

Yn y rhaglen gyntaf cawn weld sut mae hen blasty ar lan y Fenai yn Sir Fôn wedi cael ei droi’n fflatiau moethus, a’r her sy’n wynebu’r gwerthwr tai Dafydd Hardy i’w gwerthu nhw. Draw yn Aberystwyth, mae’r gwerthwr tai Iestyn Leyshon o gwmni Lloyd Herbert & Jones yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wneud i’r tai mae e’n eu gwerthu edrych yn fwy deniadol ar y we.

Ond dydy prynu na gwerthu eiddo ddim yn hawdd, yn enwedig i bobl ifanc sy’n chwilio am eu cartref cyntaf. Mae ffigyrau diweddar Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn awgrymu bod prisiau tai Cymru wedi codi 3.3% yn 2017 – cyfradd sy’n tyfu’n gynt nag yng ngweddill y Deyrnas Gyfunol – ac ar gyfartaledd, mae tŷ neu fflat yng Nghaerdydd yn costio £200,000 i’w brynu.

Mae Catrin Thomas wedi bod yn byw yn y brifddinas ers tair blynedd. Ar ôl cyfnod o rentu, mae hi nawr yn awyddus i brynu ei lle ei hun.

“Dwi wedi bod yn siarad hefo mam a dad am y peth a dwi’m yn meddwl bo nhw’n dallt pa mor anodd ydi hi i ni i brynu tŷ rŵan,” meddai Catrin, 24 oed, sy’n wreiddiol o Sir Fôn ac yn gweithio yn y cyfryngau. “Dydy safio am deposit ddim yn beth hawdd pan ti’n rhentu, yn enwedig gan bo fi’n trio gwneud hyn ar fy mhen fy hun. Dwi’n meddwl ei fod o am fod yn reit anodd ac yn broses hir ond fydd rhaid i fi jyst dal ati a chario ‘mlaen a pheidio digalonni os dwi’m yn gweld rhywle yn syth.”

Cawn weld dros yr wythnosau nesaf a fydd Catrin yn dod o hyd i’w chartref delfrydol. Ond oes ganddi rywbeth arbennig mewn golwg?

“Be fyswn i’n licio’i gael ydi tŷ neu fflat hefo open plan kitchen diner, dwy ‘stafell wely – neu dair os dwi’n lwcus – er bo fi’n gwybod yn barod bod hynny tu hwnt i’n price range i.”

Hefyd yn y rhaglen gyntaf, fe gawn gyfarfod cwpl o Aberystwyth sydd wedi ymddeol ac sydd â chynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer eu cartref newydd a dynes o Sir y Fflint sydd wedi gwerthu’r cartref teuluol ers colli ei mam a’i gŵr. A byddwn yn cael cipolwg ar dŷ hardd yng Nghricieth sydd ar werth am bron i filiwn o bunnoedd.

Continue Reading

Popular This Week