Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

‘Comisiwn Iaith – nid Comisiynydd – sydd ei angen’

Published

on

Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am ddeddfwriaeth: Eluned Morgan

MAE DYFODOL i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith.

Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.

Meddai cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awr yn bwriadu deddfu i sefydlu ‘r Comisiwn newydd hwn.

“Er ein bod yn anghytuno ynghylch rhai agweddau o’r Papur Gwyn a gyhoeddodd y gweinidog Alun Davies yn Eisteddfod Ynys Môn, mae’r Llywodraeth wedi derbyn prif drywydd ein gofynion ni. Mae’n holl bwysig nawr i garedigion yr Iaith gyd-dynnu i wneud llwyddiant o’r trefniadau newydd. Wrth i’r Bil newydd ddilyn ei gwrs drwy’r Cynulliad bydd angen pwyso er mwyn sicrhau nad yw bwriadau’r Papur Gwyn yn cael eu glastwreiddio a bod rhai gwendidau yn cael eu cywiro”

Meddai Cynog Dafis, “Bydd rhaid i’r Llywodraeth ddangos na fydd hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwanhau drwy fod rol y Comisiynydd presennol yn cael ei chynnwys o fewn y Comisiwn newydd. Ond bydd sefydlu’r Comisiwn yn gyfle euraid i ddatblygu rhaglenni cyffrous i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu a’r gymdeithas ac ym myd gwaith ac wrth gwrs drwy helaethu addysg Gymraeg yn ddirfawr.

“Fodd bynnag dyw bwriadau da ddim yn ddigon. Os yw nod y llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 i’w gymryd o ddifrif, rhaid wrth adnoddau ariannol sylweddol a chael pobl gymwys ac ymroddedig yn y swyddi allweddol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn gydnabyddus â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnya lle y gweithredwyd polisïau cynhwysfawr i adfywhau eu hieithoedd cynhenid yn llwyddiannus.”

Fe gyflwynir a thrafodir hyn ymhellach mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan heno yn Festri Capel Brondeifi am 7 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadeirydd y cyfarfod yn Llanbed heno yw Ben Lake AS a ddywedodd “Rwy’n falch o gael cadeirio’r cyfarfod hwn yn nhref fy magwraeth a chlywed am y gwaith pwysig y mae Dyfodol wedi’i wneud i ddylanwadu ar bolisiau Llywodraeth Cymru”.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr gan Gymdeithas Rhyngwladol y Comisiynwyr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg.

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi’r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny.

“Roedd papur gwyn y Llywodraeth wedi’i seilio ar ddim ond naw mis o waith Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau. Ond mae tystiolaeth glir yn dangos bod y swydd eisoes yn cael dylanwad ar hawliau pobol ar lawr gwlad. Ffolineb llwyr fyddai cael gwared â’r swydd ar ôl cymryd amser, arian ac egni i’w sefydlu, ond yn bwysicach am ei bod hi’n amlwg ei fod yn swyddogaeth sy’n cynnig gwerth clir am arian ac yn effeithiol. Adeiladu ar y swydd a’i datblygu sydd eisiau nawr, nid ei gwaredu.”

“Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a’i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel mae’r Llywodraeth yn ei gynnig. Byddai’n well iddyn nhw beidio deddfu o’r newydd o gwbl na throi’r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Rydym yn gwrthwynebu yn chwyrn gynlluniau presennol y Llywodraeth, ac rydyn ni’n galw ar bobl Cymru i’w gwrthwynebu hefyd.”

“Cefais i gyfarfod gyda dau o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith wythnos hon, ac ry’n ni’n bendant yn anghytuno ar le mae’r pwyslais,” ychwanegodd Heini Gruffudd.

“Maen nhw fel pe bai’n nhw’n rhoi’r pwyslais i gyd ar Gomisiynydd, dw i’n ofni bod rhoi pwyslais ar hawliau unigol ond yn mynd i effeithio ar ganran fach iawn o’r boblogaeth.

“Mae angen rhywbeth llawer iawn mwy eang na hynny. Dydyn ni ddim yn erbyn Comisiynydd, dw i’n deall bod Comisiynwyr Ewrop eisiau cadw Comisiynydd yng Nghymru, popeth yn dda.

“Ond beth sydd ddim yng Nghymru yw’r math o gynllunio iaith ar lefel drylwyr iawn, traws-lywodraeth sydd wedi bod yn digwydd gyda’r Basgiaid a Chatalwnia.

“Dw i ddim yn gweld bod eisiau mynd am un neu’r llall, buaswn i’n dweud bod y maes y byddai’r Comisiwn yn delio gyda fe yn llawer ehangach na’r hyn sy’n cael ei ddelio ‘da fe o dan hawliau.

“Os ydych chi’n edrych ar Wlad y Basg, y peth cyntaf wnaethon nhw oedd hyfforddi 7,000 o weision sifil ac athrawon. Buddsoddi mawr ar raddfa eang er mwyn Basgeiddio’r system addysg a’r llywodraeth. Dyw’r system Comisiynydd ddim yn mynd i gyflawni hynny.”

Fydd neb yn synnu ar Cymdeithas a Dyfodol cael ei wrthwynebu. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, bod barn Dyfodol i’r Iaith yw heb gymorth gan sefydliadau eraill.

Mae clwstwr o fudiadau iaith Cymru wedi beirniadu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru gan ddweud ei fod yn tynnu sylw oddi wrth yr ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mi gafodd y Papur Gwyn ei lansio ar faes prifwyl Môn eleni ac un o’i brif argymhellion yw sefydlu Comisiwn y Gymraeg a fyddai’n disodli rôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Ond yn ôl y mudiadau sy’n gweithredu o dan yr enw ‘Dathlu’r Gymraeg’ does dim tystiolaeth i gyfiawnhau diddymu rôl y Comisiynydd.
Am hynny maen nhw’n galw am “bwyllo ac oedi” cyn cyflwyno cynlluniau’r papur gwyn.

Mae’r mudiadau sydd wedi arwyddo’r llythyr agored yn cynnwys Mentrau Iaith Cymru, undeb athrawon UCAC, Cymdeithas yr Iaith, Rhieni dros Addysg Gymraeg a’r Mudiad Meithrin.

Mae’r llythyr yn cydnabod yr angen am “reoleiddiwr annibynnol a grymus” i wella hawliau i’r Gymraeg.

Ond maen nhw’n nodi y gall y Papur Gwyn “ddargyfeirio ymdrechion y Llywodraeth o’r gwaith pwysig o weithredu Strategaeth y Gymraeg, sydd wedi ennyn cefnogaeth o bob cwr o Gymru.”

“Credwn felly y byddai mantais pwyllo ac oedi cyn cyflwyno newidiadau mor bellgyrhaeddol â’r rhai sydd yn y papur gwyn,” meddai’r llythyr.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Community

CERED wins Careers Wales Valued Partners Award

Published

on

CERED staff were presented with a Silver Award Certificate, based on the work the Menter is doing to help students prepare for their future careers, at a special awards ceremony in Cardiff on 14 November.

The Valued Partners Award, which is organised by Careers Wales, recognises the support CERED provides to schools and young people to help them better understand the world of work and more specifically the importance and value of Welsh in the workplace.

Non Davies, CERED Manager said, “CERED is delighted to be recognized as a Valued Partner. The work that Rhodri Francis and the rest of the staff have done delivering Welsh in the Workplace sessions is extremely important to ensure that our young people understand the value of the Welsh language. The information presented often changes young people’s attitudes towards the Welsh language and positively influences their decisions when considering their future.”

Careers Wales creates links between education and employers by bringing schools and businesses together to inform, inspire and engage young people in their future careers.

Launched in 2018, the Business Education Exchange now offers schools the opportunity to engage with over 13,500 employers across Wales through a host of different activities.

As a Valued Partner, CERED has worked with Careers Wales for a number of years now delivering a ‘Welsh in the Workplace’ session to Year 9 pupils as part of ‘Your Choice, Your Future’ days. These career days are held at every Secondary School in Ceredigion on an annual basis.

More than 50 companies from all over Wales attended the awards ceremony in Cardiff, with BBC Radio Wales presenter Jason Mohammed at the helm.

Nikki Lawrence, Chief Executive of Careers Wales, said, “The Valued Partners Award scheme is vital to the work that Careers Wales does, and we really appreciate the support we receive from all our Valued Partners. Ultimately, we would love for employers to contribute to the national curriculum to ensure that the skills students develop will be useful for evolving workplaces.”

“Without our Valuable Partners, we would not have been able to reach so many students so early in the process, for which we are very grateful.”

For more information on how to work with Careers Wales to help raise young people’s awareness and spark their interest in the world of work, email employerengagement@careerswales.co.uk

CERED yn ennill Gwobr Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru

Cyflwynwyd Tystysgrif Gwobr Arian i staff CERED ar sail y gwaith mae’r Fenter yn ei wneud yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd.

Mae Gwobr Partneriaid Gwerthfawr, sy’n rhoddedig gan gwmni Gyrfa Cymru, yn cydnabod y cymorth mae CERED yn ei roi i ysgolion a phobl ifanc i’w helpu i ddeall y byd gwaith yn well ac yn fwy penodol pwysigrwydd a gwerth y Gymraeg yn y gweithle. Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd ar 14 Tachwedd.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr CERED, “Mae CERED yn bles iawn o gael ei gydnabod fel Partner Gwerthfawr. Mae’r gwaith mae Rhodri Francis a gweddill y staff wedi ei wneud yn cyflwyno sesiynau Cymraeg yn y Gweithle yn hynod bwysig i sicrhau bod ein pobl ifanc yn deall gwerth y Gymraeg. Yn aml mae’r wybodaeth a gyflwynir yn newid agweddau pobl ifanc at y Gymraeg ac yn dylanwadu yn bositif ar eu penderfyniadau wrth ystyried eu dyfodol.”

Mae Gyrfa Cymru yn creu cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr trwy ddod ag ysgolion a busnesau ynghyd i hysbysu, ysbrydoli a thanio diddordeb pobl ifanc yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cafodd y Gyfnewidfa Addysg Busnes ei lansio yn 2018, ac erbyn hyn mae’n cynnig cyfle i ysgolion ddod i gysylltiad â dros 13,500 o gyflogwyr ledled Cymru trwy gyfrwng llu o wahanol weithgareddau.

Fel Partner Gwerthfawr, mae CERED wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ers nifer o flynyddoedd bellach gan gyflwyno sesiwn ‘Cymraeg yn y Gweithle’ i ddisgyblion Blwyddyn 9 fel rhan o ddiwrnodau ‘Eich Dewis, Eich Dyfodol’. Caiff y diwrnodau gyrfa hyn eu cynnal ym mhob Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion yn flynyddol.

Roedd dros 50 o gwmnïau o bob cwr o Gymru yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, a Jason Mohammed, cyflwynydd BBC Radio Wales, oedd wrth y llyw.

Meddai Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, “Mae cynllun Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn hollbwysig i’r gwaith mae Gyrfa Cymru yn ei wneud, ac rydym wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawn gan bob un o’n Partneriaid Gwerthfawr. Yn y pen draw, byddem wrth ein bodd pe bai cyflogwyr yn cyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol er mwyn sicrhau y bydd y sgiliau mae myfyrwyr yn eu datblygu yn ddefnyddiol i weithleoedd sy’n esblygu.”

“Heb ein Partneriaid Gwerthfawr, ni fyddai modd i ni gyrraedd cynifer o fyfyrwyr mor gynnar yn y broses, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.”

I gael mwy o wybodaeth am sut i weithio gyda Gyrfa Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc a thanio eu diddordeb yn y byd gwaith, e-bostiwch employerengagement@careerswales.co.uk

Continue Reading

Cymraeg

Parcio am ddim yng Ngheredigion am dair dydd Sadwrn cyn y Nadolig

Published

on

BYDD parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig eleni.

Bydd costau parcio mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn cael eu hepgor ar 7, 14 a 21 Rhagfyr 2019.

Rhodri Llwyd yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Dywedodd: “Bydd busnesau bach yn cystadlu yn erbyn busnesau ar-lein am fasnach y Nadolig hwn. Rydym am wneud yr hyn a allwn i gefnogi busnesau Ceredigion ar yr adeg bwysig hon o’r flwyddyn. Rydym yn gobeithio y bydd y cam hwn yn annog mwy ohonom i siopa’n lleol y Nadolig hwn a mwynhau’r hyn sydd gan fusnesau gwych Ceredigion i’w cynnig.”

Mae’r penderfyniad hwn yn cyfrannu tuag at un o flaenoriaethau corfforaethol y cyngor, sef hybu’r economi.

Continue Reading

Cymraeg

Ysgol Bro Pedr yn codi arian i brynnu offer achub bywyd

Published

on

Mae disgyblion Ysgol Bro Pedr wedi llwyddo i godi digon o arian i brynu peiriant diffibriliwr ar gyfer yr ysgol.

Daeth y syniad ar ôl i 15 o ddisgyblion o flwyddyn 11 gyflawni eu Cymhwyster Cymorth Cyntaf Brys Lefel 3 gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Roedd y disgyblion yn teimlo bod hi’n hynod o bwysig bod ganddyn nhw ac eraill yn yr ysgol y sgiliau, y wybodaeth a’r offer i’w defnyddio mewn argyfwng.

Cododd Mrs Caryl Jones a disgyblion Ysgol Bro Pedr swm anhygoel o £1,150 trwy drefnu sêl gacennau yn yr ysgol ar 28 Mawrth 2019. Mae’r ysgol yn estyn eu diolch i fusnesau Llambed ‘Oh My Cod’ ac ‘Y Becws’ am y eu rhodd garedig tuag at y gwerthiant.

Dywedodd Guto Crompton, Gweithiwr Ieuenctid yn yr Ysgol: “Er nad yw cymorth cyntaf yn rhan orfodol o’r cwricwlwm addysg yng Nghymru, roedd pobl ifanc yn Ysgol Bro Pedr yn teimlo y dylai fod yn rhywbeth yr oedd pob disgybl yn gwybod amdano. Byddent wedyn yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng, boed hynny yn yr ysgol neu allan yn y gymuned. Gweithiodd y disgyblion yn galed i gyflawni eu cymhwyster Cymorth Cyntaf a oedd yn ymdrin ag agweddau megis CPR, rheoli damweiniau a defnyddio diffibriliwr.”

Bydd y peiriant diffibriliwr yn cael ei osod yn nerbynfa’r ysgol.

Continue Reading

Popular This Week