Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddoriaeth Cymraeg i hedfan efo’r gronfa lawnsio!

Published

on

Wedi'i ddewis: Cally Rhodes

MAE 34 o artistiaid a bandiau talentog o bob cwr o Gymru wedi llwyddo i ennill bwrsariaeth gerddoriaeth sy’n werth cyfanswm o £35,000.

Fe fydd artistiaid fel Regime er enghraifft, sef grwp hip-hop o Sir Benfro, yn defnyddio’r cyfle i wneud ffilm yn Neuadd y Frenhines, Arberth. 06 Rhag 2017

Mae’r cerddorion addawol, sydd i gyd yn gweithio o Gymru, wedi cael hyd at £2,000 yr un i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u cerddoriaeth a chynnal gweithgareddau eraill a fydd o gymorth iddynt i wireddu eu potensial.

Mae’r Gronfa Lawnsio yn rhan o gynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes newydd. Derbyniwyd dros 175 o geisiadau o bob rhan o’r wlad a daeth dau banel o 21 o arbenigwyr ynghyd i ddewis yr ymgeiswyr buddugol.

Agorwyd ceisiadau i’r Gronfa Lawnsio ym mis Hydref ar gyfer artistiaid a bandiau yng Nghymru sy’n ysgrifennu, yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol.

Ers eu creu yn 2014, mae Gorwelion a’r Gronfa Lawnsio wedi cefnogi dros 135 o artistiaid, o fwy na 50 o drefi, mewn 20 o siroedd Cymru.

Eleni, ymgeisiodd 34 artist llwyddiannus am arian i gefnogi ystod o syniadau: o logi lleoedd ymarfer i weithio gyda chynhyrchwyr talentog a recordio’n broffesiynol.

Mae llawer wedi cael cymorth â’u gwaith creadigol, gyda grantiau tuag at amser stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf, hyrwyddo gwaith newydd, prynu offer, cynhyrchu fideos a chostau mynd ar daith.

“Rydym yn hynod falch unwaith eto o gael gweithio gyda BBC Cymru i wneud gwahaniaeth i yrfaoedd cerddorion sy’n datblygu yng Nghymru. Roeddem yn ffodus o gael cymorth panel ardderchog – pobl sy’n angerddol ynghylch cerddoriaeth – i wneud y penderfyniadau anodd yn dewis artistiaid. Ond mae’r ffaith ei bod wedi bod mor anodd dewis rhyngddynt yn arwydd da o gryfder ac amrywiaeth y gerddoriaeth newydd sy’n cael ei chreu yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld a chlywed y cyfleoedd y bydd y Gronfa Lawnsio’n eu darparu dros y flwyddyn nesaf.” Lisa Matthews, Cyngor Celfyddydau Cymru
Meddai aelod o’r panel, Eddie Al-Shakarchi (Cerddor a Chynhyrchydd): “Roedd yn wych cael bod yn rhan o griw o bobl y mae ots gwirioneddol ganddynt am gerddoriaeth ac sy’n deall cerddoriaeth, ac sy’n meddwl yn anad dim am les yr artistiaid. Da o beth hefyd oedd clywed cymaint o gerddoriaeth newydd yn dod o Gymru.”

Aelod arall o’r panel oedd, Ryan Richards, Raw Power Management, “Mae’r Gronfa Lawnsio’n fenter hynod bwysig er mwyn datblygu artistiaid yng Nghymru; nid yn unig o safbwynt ariannol, ond hefyd oherwydd yr adborth a’r gefnogaeth gan y tîm sydd y tu cefn i hyn oll.”

Dywedodd y panelwr, Julie Weir, Sony Music, “Does unman yn debyg i Gymru … ei phobl, ei thirwedd a’i diwylliant – mae yma gynhesrwydd na cheir mohono yn yr yn genedl arall. Ac mae panel Gorwelion hwythau’n griw gwych ac amrywiol o unigolion gwybodus o bob pegwn o’r diwydiannau cerddorol a chreadigol, sy’n cynnig golwg gyffredinol dreiddgar ar bob elfen o yrfa’r artist. Roedd safon y ceisiadau o bob cwr o’r wlad yn uchel iawn a bu’n rhaid cael trafodaethau manwl dros ben cyn cynnig y cyllid i amryw helaeth o artistiaid talentog iawn. Doedd hynny ddim yn waith hawdd!”

Byddwn yn dathlu llwyddiant artistiaid Cronfa Lawnsio 2017 mewn tri digwyddiad ar ddydd Mercher 6 Rhagfyr, gyda pherfformiadau byw, gwesteion arbennig ac wrth gwrs yr artistiaid eu hunain. Cynhelir brecwast yng Nghaerdydd, sioe ddiwedd y prynhawn yn Llandrillo-yn-rhos a digwyddiad gyda’r nos yng Nghasnewydd.

Cynnwys y 34 artist llwyddiannus:

  • Adwaith, Caerfyrddin, offer ac ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer albwm
  • Cally Rhodes, Ceredigion, recordio gyda Rich James yn stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth
  • Names, Sir Gaerfyrddin, amser stiwdio yn StudiOwz, Hwlffordd a gwneud fideo cerddoriaeth
  • Regime, Sir Benfro, recordio cyngerdd yn Neuadd y Frenhines, Arberth, yn fyw

Cymraeg

Plufio tyrcwn, Hywel Gwynfryn a menyn mewn peiriant golchi…

Published

on

Clin Lan y Archif S4C: Beth arall mae Elis James wedi'i weld?

MAE ELIS JAMES wedi bod yn loetran ‘rownd y bac’ yn S4C, ble mae hen dapiau’r archif yn cael eu taflu. Wrth dyrchu at ei benelin yn y sgip, mae e wedi dod o hyd i ambell classic i’w rhannu gyda’r byd yn y gyfres newydd Elis James: Cic Lan yr Archif.

O wneud menyn mewn peiriant golchi, i dechnoleg ddiweddaraf ffonau symudol maint bricsen, mae Elis wedi dod o hyd i’r pethe rhyfeddaf wrth dwrio drwy archif S4C, BBC Cymru a HTV.

Technoleg sy’n cael sylw yn y bennod gynta’ ar nos Fercher, 25 Ebrill, ond does dim byd – o ffermio i chwaraeon – na neb, y tu hwnt i’w hiwmor, gan gynnwys yr Eisteddfod.

Meddai Elis, “Wrth edrych ar raglenni technoleg, ti’n chwerthin ar faint y ffonau symudol a gweld pobl yn rhyfeddu at dechnoleg oedd yn mynd i newid y byd yn 1985. Ti’n sylwi nawr fod neb wedi prynu nhw; fel y ddyfais i osgoi cheque fraud. Sa’i wedi ysgrifennu siec ers pymtheg mlynedd!

“Ti jyst yn edrych ar y rhaglenni, ac maen nhw i gyd yn addo mai fel hyn y byddwn ni’n byw yn y flwyddyn 2000. Ac, fel rhywun wnaeth fyw drwy’r flwyddyn 2000, sa’ i’n gwybod amdanoch chi, ond doedd dim fax machine symudol gyda fi!”

Mae’r gyfres wedi rhoi cyfle i Elis ehangu ei obsesiwn gyda Hywel Gwynfryn – “trysor cenedlaethol a genius” yn ôl Elis, gan fanteisio ar y cyfle i dynnu coes hefyd. A bydd ambell eicon arall, gan gynnwys Arfon Haines Davies a Sulwyn Thomas, yn cael y driniaeth ‘cic lan yr archif’ gan Elis hefyd, a hynny ar ffurf clipiau a sgetsys.

“Fi’n meddwl bod Hywel Gwynfryn yn drysor cenedlaethol,” meddai Elis. “Mae’n gweithio ar lefel hollol wahanol i bawb arall, achos wnaeth e gymaint o raglenni gwahanol. Oedd e fel utility player. Oedd S4C jyst yn towlu Hywel mewn a doedd e byth yn achwyn, byth yn conan. Ac mae e wastad yn fodlon gwneud pethau peryglus a gwneud ffŵl o’i hunan.”

Awydd Elis i ddarganfod mwy amdanom ni’r Cymry yw’r sbardun y tu ôl i’r gyfres. A drwy ddefnyddio’r archif mae e wedi creu darlun o hanner canrif o fywyd yng Nghymru, o’r digri’ i’r hollol absẃrd! Ac mae un clip wedi’i leoli yn ei filltir sgwâr ei hun yn sefyll allan fel darlun da o’r 1960au.

“Ges i real syndod faint mae bywyd wedi newid dros yr hanner canrif ddiwetha’,” meddai Elis. “Dychmygwch y 60au; Mae’r Beatles newydd ryddhau Sgt. Pepper, Bob Dylan wedi mynd yn drydanol, mae’n Summer of Love ym Mhrydain – ac mae pobol mewn clwb yng Nghroesyceiliog ger Caerfyrddin yn cwrdd i blufio tyrcwn! Ti’n sylwi cyn lleied o adloniant oedd i’w gael yng nghefn gwlad Cymru!”

Continue Reading

Cymraeg

Prif Gwnstabl yn Croesawu Gŵr o Sir Gâr i’w Brif Dîm

Published

on

Mae croeso cynnes: (Ch- Dde) Mark Collins, Richard Lewis, Darren Davies)

D​DOE cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys y Prif Gwnstabl Cynorthwyol (PGC) Richard Lewis yn aelod diweddaraf eu Tîm Prif Swyddogion (ar ddydd Llun, Ebrill 16).

Mae Richard, sy’n Gymro Cymraeg o Sir Gaerfyrddin, wedi codi drwy’r rhengoedd ers ymuno â’r heddlu fel Cwnstabl 18 mlynedd yn ôl (yn 2000), ac y mae wedi gweithio fel swyddog heddlu lifrog ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Meddai’r PGC Richard Lewis: “Mae’n anrhydedd gen i gael fy mhenodi’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol yn fy heddlu cartref.

“Rwy’n byw yn lleol ac mae gen i deulu yma, felly y mae’n bwysicach fyth i mi fy mod yn gwneud y gorau y gallaf i wasanaethu cymuned Dyfed-Powys.”

Daw ei benodiad ym mlwyddyn dathlu hanner canmlwyddiant Heddlu Dyfed-Powys, pan welir yr heddlu dan arweiniad Tîm Prif Swyddogion sydd ar y cyd â dros 50 mlynedd o wasanaeth yn Heddlu Dyfed-Powys. Mae ganddynt 80 mlynedd o brofiad yn plismona ar draws y DU.

Parhaodd: “Mae cymaint o waith da’n digwydd ar draws yr heddlu i gadw pobl yn ddiogel – rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar hwn fel aelod o’r Tîm Prif Swyddogion, wrth i ni anelu at ddod yn heddlu rhagorol.

“Hoffwn ddiolch i’r Prif Gwnstabl a’r Dirprwy Prif Gwnstabl am y cyfle anhygoel hwn.”

Yn 2010 treuliodd y PGC Lewis chwe mis ar Fulbright – rhaglen addysgol glodfawr – ym Mhrifysgol Talaith Pensylfania ac Adran Heddlu Efrog Newydd, lle bu’n astudio’r defnydd o daser yn UDA. Y mae hefyd yn astudio ar gyfer PhD mewn plismona cudd.

Meddai’r Prif Gwnstabl Mark Collins: “Rydw i wrth fy modd yn dyrchafu Richard i rôl y PGC. Daw â chyfoeth o brofiad o wasanaethu ein cymunedau lleol.

“Y mae’n gaffaeliad i Dîm y Prif Swyddogion. Gyda’i egni a’i ymroddiad ef does gen i ddim amheuaeth na fyddwn yn parhau ar daith gwelliant yr heddlu.”

Bydd Richard yn cychwyn yn swyddogol yn ei swydd ar Ebrill 22, 2018. Bydd yn dod yn arweinydd Cymru gyfan ar gyfer Swyddogion Cymunedol yr Heddlu (SCCH).

Continue Reading

Cymraeg

Cyllid ychwanegol i gynorthwyo Mudiad Meithrin

Published

on

Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn: Meddai Eluned Morgan

DYFARNWYD miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i Fudiad Meithrin, i gynorthwyo’r sefydliad i feithrin gallu ychwanegol a chyfrannu tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dydd Llun Ebrill 16 fe ymwelodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan a Chylch Meithrin Pont-y-pwl i glywed mwy am y gwaith gan Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

Bydd y sefydliad yn cael £3.031 miliwn y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031 miliwn o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglyn â’r gyllideb.

Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i Fudiad Meithrin:

  • gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau â blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd
  • cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.

Fel rhan o’r gwaith hwn mae Torfaen wedi’i adnabod fel un o’r ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer datblygu darpariaeth newydd. Mae Mudiad Meithrin yn gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y lleoedd ychwanegol fydd yn cael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf yn cael eu targedu yn effeithiol a galluogi cymaint o blant a phosib i gychwyn ar y daith i ddwyieithrwydd.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth gyhoeddi’r cyllid: “Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o’r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’. Mae’r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.”

Continue Reading

Popular This Week