Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Anrhydeddu cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd

Published

on

El Alamein: Carcharorion Rhyfel Eidaleg

MAE seremoni syrpréis wedi’i chynnal ar gyfer cyn-filwr nodedig a fu’n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd.

Trefnwyd y cyflwyniad gan Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd David Jenkins, er mwyn diolch i John Hall Jones o Lan-saint a fu’n ymladd yn yr wythfed byddin wrth ochr y Desert Rats.

Yn y digwyddiad dywedodd John, sydd bellach yn 96 oed: “Dyma beth oedd syrpréis i mi. Hebryngodd fy wyrion fi yn y car a ro’n i’n meddwl fy mod i’n mynd mewn i Gaerfyrddin i gael cip ar y siopau a dyma ni’n dod fan hyn. Pe bawn i’n gwybod bydden i wedi cerdded bant, ond gwnaeth pawb fi’n gartrefol felly des drwyddi.”

Yn bresennol yn y cyflwyniad yr oedd Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed; Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Irfon Jones; y cyn-Is-gyrnol David Mathias; y Cynghorydd David Jenkins, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin; yr Aelod Lleol – y Cynghorydd Mair Stephens; Dewi Treharne o Bensiynwyr Chelsea a oedd yn yr un gatrawd â John Hall Jones, ynghyd â theulu Mr Jones. Yr oedd ambell i aelod o’r teulu wedi teithio’r holl ffordd o Wlad Belg i fod yn bresennol yn y cyflwyniad syrpréis.

Ganed John Hall Jones ym Mhenrhiwtyn, Castell-nedd yn 1921. Symudodd y teulu’n ddiweddarach i Langennech.

Yn 1937 anfonwyd John i Lundain i weithio i gwmni Almaenig fel prentis gwneuthurwr offer.

Pan oedd yn ddeunaw oed (1939) galwyd John i’r fyddin i ymuno â Chatrawd Frenhinol Swydd Warwick.

Ar ôl cael hyfforddiant fe’i trosglwyddwyd i’r Corfflu Signalau fel rhan o’r North Somerset Yeomanry.

“Es i ogledd Cymru ar gwrs signalau ac ym mis Mehefin 1941 hwyliasom o Lerpwl. Doedd dim syniad gennym i ble roedden yn mynd,” meddai John.

Cafodd John ei anfon i’r Dwyrain Canol ym mis Gorffennaf 1941 ond nid oedd hi’n siwrnai hwylus. Cafodd y llong yr oedd arni ei tharo gan dorpido yn nyfroedd Môr Iwerydd.

“Ar ôl i’r torpido daro cawsom ein taflu o un pen i’r cabin i’r llall ac roedd 30 ohonom yn bentwr ar ben ein gilydd. Anghofia i byth mo’r distawrwydd yn yr ystafell honno, tan i ryw wag ddweud “Fi’n credu bo’ ni wedi cael ein taro bois” a dyma ni i gyd yn chwerthin.”

Fe’i casglwyd gan long a oedd ar ei ffordd i Ganada felly treuliodd dri mis yno hyd nes y canfuwyd llong i fynd â nhw’n ôl i Ogledd Affrica. Yng Nghanada lletywyd John gyda theulu lleol ac maen nhw’n dal i gyfnewid llythyrau a galwadau ffôn hyd heddiw.

Ym mis Tachwedd 1941 symudwyd John i Anrhydeddu cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd yn yr Aifft a bu’n gwasanaethu’r holl ffordd i Tripoli.

Treuliodd dri phen-blwydd yn anialwch Gogledd Affrica.

“Yn Tripoli, (ar ôl i’r brwydro orffen yno), aethom ar long yn ôl i’r Aifft ac ar gwrs dwys arall cyn hwylio eto. Roeddem yn meddwl ein bod yn mynd i Ffrainc ond na, glanio yn Sisili a wnaethom, yn Syracuse.”

Roedd John ynghlwm wrth oresgyniad Sisili ac wrth yr ymgyrch yn yr Eidal yr holl ffordd i Sienna.

Aeth y gatrawd adre ond anfonwyd John i Wlad Groeg am flwyddyn arall.

O’r diwedd dychwelodd John i Brydain a hynny yn howld fomiau Halifax bomber, ond nid oedd croeso tywysogaidd yn ei aros am fod y rhyfel wedi dod i ben flwyddyn ynghynt. Cafodd John ei ryddhau o’r fyddin ym mis Medi 1946 ac yntau ond yn 24 oed.

Derbyniodd John Hall Jones bum medal filwrol, gan gynnwys Seren Affrica a Seren yr Eidal.

“Mae rhyfel yn wastraff amser llwyr,” meddai. “Rhaid bod ateb arall. Pan oeddem yn llanciau a newydd ymrestru, ni wyddem beth oedd rhyfel” meddai. “Cawsom ein iwnifform a byddem yn martsio lan a lawr y strydoedd ac yn mynd i ddawnsfeydd a chwrdd â merched, a chredem fod bywyd yn grêt – tan i’r realiti ein taro yn ein talcen ac roedd yn rhaid inni dyfu lan dros nos. Hyd hynny, doedden ni ddim yn deall beth oedd mynd i ryfel. Roedd y cyfan yn dipyn o jôc.”

Yn dilyn y rhyfel cyfarfu John â’i wraig Gladys mewn dawns a phriododd y ddau chwe mis yn ddiweddarach. Cawsant ddau fab, Trevor a Gareth. Bu’r ddau’n briod am dros 65 o flynyddoedd. Bu farw Gladys y llynedd, ond deufis cyn y byddent wedi dathlu 70 mlynedd o briodas.

Ar ôl y rhyfel bu John yn heddwas am 20 mlynedd gyda Heddlu Porthladd Llundain.

Ymddeolodd yn 1968 ac yna bu’n gweithio fel swyddog diogelwch a thân ym mhencadlys BP yn Llundain, ac yna fel swyddog diogelwch yn Llys y Goron Chelmsford hyd nes iddo ymddeol yn 65 oed.

Dychwelodd y cwpwl i Nanternis, pentref bach y tu fas i Gei Newydd. Yn 1996 symudodd y ddau i Lan-saint.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Mr Jones wedi cael bywyd hynod ac mae’n briodol ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn. Mae ein dyled iddo ac i eraill tebyg iddo yn fawr iawn.”

Dywedodd y cyn-Is-gyrnol David Mathias: “Dyma stori ryfel ysgubol. Nid yw geiriau’n ddigon ond cewch ein parch a’n diolchgarwch tragwyddol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Cymraeg

Disgyblion Ceredigion yn clywed profiadau goroeswr yr Holocost

Published

on

I nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, cafodd ddisgyblion Ceredigion y cyfle i glywed hanes goroeswr yr Holocost.

Ar 27 Ionawr 2020, roedd hi’n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid Auschwitz-Birkenau. Roedd Dr Martin Stern MBE yn bump oed pan gafodd ei arestio yn ei ysgol.

Roedd ei daith yn un anodd gyda nifer o adegau lle’r oedd yn agos at farwolaeth. Symudodd Dr Stern i Brydain yn 1950 gan ddod yn Ddoctor. Y dyddiau yma, mae Dr Stern yn addysgu pobl ifanc am yr hyn a ddigwyddodd. Ar 29 Ionawr 2020, daeth i Aberaeron i siarad gyda llond neuadd o bobl ifanc Ceredigion.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, “75 mlynedd yn ôl, gwelodd y byd ddelweddau o bobl yn dod allan o’r gwersylloedd a dod i delerau gyda’r hyn a oedd wedi digwydd. Rydym mor ddiolchgar i Dr Martin Stern am ddod i Geredigion i rannu ei stori a’i brofiadau. Nid hawdd mae’n siwr yw siarad am amser tywyll iawn yn hanes y byd. Rwy’n gobeithio bod ein disgyblion ni wedi ystyried yr hyn yr oeddem wedi ei glywed. O’r tawelwch llethol oedd yn yr ystafell pan oedd Dr Stern yn siarad, rwy’n credu iddynt werthfawrogi’r prynhawn yn fawr.”

Roedd y prynhawn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng gwasanaeth ysgolion Cyngor Sir Ceredigion a ERW.

Continue Reading

Popular This Week