Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cofio 100 mlynedd o bleidleisiau i fenywod

Published

on

SUFFRAGISTIAU: Yn Caerdydd, 1912

Mae Arweinydd y Tŷ, Julie James wedi cyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i nodi 100 mlwyddiant rhoi’r hawl i fenywod bleidleisio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron i £300k i nodi Canmlwyddiant Rhoi’r Bleidlais i Fenywod gydag amrywiol weithgareddau ar y themâu Dathlu, Addysgu a Chymryd Rhan.

Bydd cymunedau ledled Cymru yn medru gwneud cais am grantiau ar gyfer digwyddiadau i ddathlu llwyddiannau menywod. Bydd cyfle hefyd i’r cyhoedd bleidleisio er mwyn penderfynu pa ddwy fenyw ddylai gael eu cofio mewn cerflun am eu cyfraniad i gymdeithas a hanes Cymru.

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:”Heddiw rydym ni’n dathlu canmlwyddiant arwyddocaol iawn Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, a basiwyd ar 6 Chwefror 1918. Roedd y Ddeddf hon yn galluogi pob dyn a rhai menywod dros 30 oed i bleidleisio am y tro cyntaf.

Mae’n werth nodi, fodd bynnag, mai deng mlynedd yn ddiweddarach y cafodd menywod yr hawl i bleidleisio ar yr un telerau â dynion, pan basiwyd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 gan roi hawl i fenywod bleidleisio yn 21 oed. Felly ar 2 Gorffennaf eleni gallwn nodi 90 mlwyddiant y Ddeddf honno.

Rwy’n sylweddoli hefyd bod y canmlwyddiant hwn yn gorgyffwrdd â rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 Llywodraeth Cymru, sy’n nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd cyfraniad menywod at ymdrechion y rhyfel ar y pryd o’r pwys mwyaf ac yn rhan o’r
ysgogiad dros sefydlu Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1918.”

Mewn datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol, amlinellodd raglen o weithgareddau i ddathlu a chydnabod llwyddiannau menywod, sydd bron yn anweledig yn rhy aml yn ein hanes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru i gyflawni prosiect i ddathlu’r ‘100 uchaf’ o fenywod Cymru.

Yn yr hydref, bydd cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros y menywod o Gymru y maen nhw’n teimlo sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf. Bydd dau gerflun yn cael eu comisiynu o ganlyniad i’r prosiect hwn.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chwarae Teg a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu cynllun i gomisiynu placiau porffor i gynifer â phosib o’r 100 a enwebwyd yn wreiddiol.

Ychwanegodd Julie James: “Bydd y canmlwyddiant a’r gweithgareddau cysylltiedig yn edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl. Ein nod yw tynnu sylw at fenywod hynod Cymru ddoe a heddiw, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch eu llwyddiannau a choffau nifer sylweddol ohonynt, gan adrodd eu straeon yng nghyd-destun eu cymunedau lleol. Maen nhw’n esiamplau pwerus i fenywod a merched heddiw.

Mae’n iawn ein bod ni’n dathlu’r cynnydd a wnaed dros y can mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn iawn cofio’r ymdrechion a’r aberth a wnaed i sicrhau’r cynnydd hwn. Rhaid i ni gynnal ein momentwm, er mwyn cryfhau democratiaeth ymhellach, cynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau pwysig, a pharhau i herio anghydraddoldeb a chamwahaniaethu annheg.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading

Cymraeg

Gall Cymru gael ei phweru gan ynni morol

Published

on

GALL Cymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ynni’r môr, mae Lesley Griffiths yn addo.

Mae gan ynni’r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Pan oedd hi’n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr yn Nulyn ar Dydd Llun (30 Medi), gwnaeth y Gweinidog amlinellu’r llwyddiannau mae busnesau wedi’u cael wrth alluogi ynni’r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a’r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy’n caniatáu i hyn ddigwydd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy’n gysylltiedig ag ynni’r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru, meddai hi.

Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.

Mae’r busnesau sydd wedi elwa’n cynnwys:

• Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae’r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i’w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni’r môr.

• Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi’r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu’r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.

• Gwnaeth y datblygwyr ynni’r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.

Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Rydyn ni’n benderfynol y bydd ynni’r môr yn rhan allweddol o’n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy’n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.

“Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau’n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau’r dyfodol.

“Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.

“Mae ynni’r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o’r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru.”

Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni’r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Continue Reading

Cymraeg

Prifysgol Aberystwyth yn noddi Penwythnos Mawr Pride Cymru

Published

on

Prifysgol Aberystwyth yw un o brif noddwyr Penwythnos Mawr Pride Cymru sy’n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 23 – 25 Awst 2019.
Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r Brifysgol, a gafodd ei chynnwys ymhlith 100 cyflogwr gorau’r DU am gynhwysoldeb yn y gweithle gan Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, noddi’r digwyddiad.
Mae presenoldeb y Brifysgol yn Pride Cymru yn rhan o raglen lawn o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn sy’n ymwneud â rhwydwaith LGBTA Enfys Aber.
Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn y datganiad newyddion ynghlwm neu cliciwch arlein: https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2019/08/title-225387-cy.html
Continue Reading

Popular This Week