Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Datblygu dyfodol ar gyfer doniau Cymru

Published

on

Hijras: galeidosgopaidd i mewn i fywydau dirgel a chreulon cymuned drawsryweddol

MAE’R garfan ddiweddaraf hon ar lyfrau Ffilm Cymru Wales yn dangos sbectrwm eang o storïau gan leisiau amrywiol; mae pob un o’r prosiectau yn cynnwys menyw yn brif gymeriad neu’n gyd-brif gymeriad, a chydag o leiaf un fenyw yn y tîm creadigol craidd; mae bron i hanner yn cynnwys doniau BAME a/neu LGBTQ yn rôl yr awdur, y cyfarwyddwr neu’r cynhyrchydd, yn ogystal â chynrychiolaeth ar y sgrin; ac mae 40% o’r prosiectau yn yr iaith Gymraeg.

Wrth gyflwyno’r dyfarniadau datblygu newydd hyn, meddai Kimberley Warner, Pennaeth Busnes Creadigol Ffilm Cymru Wales, “Mae Ffilm Cymru Wales yn falch i fedru denu rhai o’r doniau mwyaf cyffrous a gwreiddiol ym myd creu ffilm yng Nghymru. Gwelsom gynnydd o 300% yn nifer y prosiectau datblygu sy’n bwrw ymlaen i gael eu cynhyrchu dros y tair blynedd diwethaf, ac mae llawer o’r diolch am hynny i’n system Magnifier sy’n cefnogi doniau, yn ogystal â’n hymrwymiad i ddiwylliant ffilm cynhwysol.”

Lluniwyd dull Magnifier Ffilm Cymru Wales i helpu’r cyfranogwyr i nodi ac adeiladu eu cynulleidfaoedd a’u ffrydiau refeniw gan gychwyn ar gamau datblygu cynharaf y prosiect, a’u hannog i fanteisio’n llawn ar eu syniadau.

HIJRA

Dyma naid liwgar, galeidosgopaidd i mewn i fywydau dirgel a chreulon cymuned drawsryweddol hynaf y byd. Mae’r Hijra yn Delhi ar fin ailddiffinio eu hunaniaeth wrth i gyfreithiau newydd ac ymgyrchydd penderfynol ddechrau creu cynnwrf. Yn y prosiect hwn, mae’r cyfarwyddwr Indiaidd-Gymreig, Ila Mehrotra Jenkins, a’r cynhyrchydd Andrew Smith yn symud i fyd ffilmiau dogfen hir, wedi iddynt fod yn cydweithio ar lawer o ymchwiliadau a rhaglenni dogfen oriau brig o ansawdd uchel ar gyfer BBC4, Channel 4, ITV a Vice News.

HOW BLACK MOTHERS SAY I LOVE YOU

Yn seiliedig ar ddrama lwyfan lwyddiannus Trey Anthony, mae’r ddrama ddeifiol hon yn dilyn hanes gweithwraig gymdeithasol lesbiaidd ddu sy’n dychwelyd i’w t enedigol i ddod i delerau â’i mam sydd ar ei gwely angau. Mae’r wneuthurwraig ffilm Gymreig-Ganadaidd, Carys Lewis, ar waith ag addasu’r sgript i’r sgrin ar y cyd â Trey Anthony, a Clement Virgo (Greenleaf, The Wire) fydd yn cyfarwyddo. How Black Mothers Say I Love You fydd ffilm hir gyntaf Carys Lewis, yn dilyn ei ffilmiau byr, Stuffed ac Afiach a gefnogwyd gan Ffilm Cymru Wales a RHWYDWAITH BFI. Mae Lewis hefyd yn un o gydsylfaenwyr cydweithfa SHIFFT Female Filmmakers, ac yn ddiweddar fe’i penodwyd yn Wneuthurwraig Ffilm Breswyl gyntaf Opera Cenedlaethol Cymru.

THE PROMISE

Yn dilyn ei ffilm hir gyntaf ysgytwol, The Passing / Yr Ymadawiad, mae cyfarwyddwr Y Gwyll / Hinterland yn cyflwyno’r ffilm arswyd gyfnod seicolegol hon. Mewn cymuned arunig yng nghanolbarth Cymru ym 1890, caiff merch ifanc, Mari, ei hystyried yn hwren wedi iddi ddod i gyswllt ag ysgolfeistr gwadd. Wrth i’r gymuned droi’n greulon yn erbyn Mari, dyma hi’n troi ar y Diafol i’w helpu i dalu’r pwyth. Mae’r cynhyrchydd Ed Talfan a’r cyfarwyddwr Gareth Bryn yn gweithio gyda’r awduron Caryl Lewis a Mark Andrew; yn ddiweddar, bu’r tîm yn cydweithio ar gyfres ddrama 8 rhan Severn Screen, Craith / Hidden. Cyd-grëwyd y gyfres gan Mark Andrew ac Ed Talfan a chaiff ei darlledu gan y BBC yn nes ymlaen eleni.

RHIANNON

Y modd yr aeth awdurdod pwerus, di-hid, ati i foddi Tryweryn yw’r cyd-destun ehangach i’r prosiect hwn, wrth i un ddynes wynebu torcalon personol a phenodol iawn yng nghanol y distryw. Stori Gymraeg o golled a bregusrwydd yw Rhiannon, sy’n cael ei hysgrifennu gan Manon Eames, a hithau wedi derbyn clod y beirniaid am ei nofel a’i drama lwyfan, Porth y Byddar. Bethan Eames (Eldra, Cwcw) fydd yn cynhyrchu, a bydd Roger Williams (Bang) yn Gynhyrchydd Gweithredol.

TREMBLE

Dyma ffilm gyffro ddwyieithog yn seiliedig ar hanes gwir Henry Tremble, bwtler yn Sir Gaerfyrddin a gynllwyniodd i lofruddio ei gyflogwr a’i deulu un diwrnod ym 1876. Dyma ffilm hir gyntaf yr awdur-gyfarwyddwr o Gymru, Tracy Spottiswoode, ac mae hefyd yn archwilio cyfleoedd i gyfuno theatr byw a ffilm gan ddefnyddio technoleg ymdrochol. Caiff Tremble ei chynhyrchu gan Kathy Speirs, Moon Dogs.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Cymraeg

Disgyblion Ceredigion yn clywed profiadau goroeswr yr Holocost

Published

on

I nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, cafodd ddisgyblion Ceredigion y cyfle i glywed hanes goroeswr yr Holocost.

Ar 27 Ionawr 2020, roedd hi’n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid Auschwitz-Birkenau. Roedd Dr Martin Stern MBE yn bump oed pan gafodd ei arestio yn ei ysgol.

Roedd ei daith yn un anodd gyda nifer o adegau lle’r oedd yn agos at farwolaeth. Symudodd Dr Stern i Brydain yn 1950 gan ddod yn Ddoctor. Y dyddiau yma, mae Dr Stern yn addysgu pobl ifanc am yr hyn a ddigwyddodd. Ar 29 Ionawr 2020, daeth i Aberaeron i siarad gyda llond neuadd o bobl ifanc Ceredigion.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, “75 mlynedd yn ôl, gwelodd y byd ddelweddau o bobl yn dod allan o’r gwersylloedd a dod i delerau gyda’r hyn a oedd wedi digwydd. Rydym mor ddiolchgar i Dr Martin Stern am ddod i Geredigion i rannu ei stori a’i brofiadau. Nid hawdd mae’n siwr yw siarad am amser tywyll iawn yn hanes y byd. Rwy’n gobeithio bod ein disgyblion ni wedi ystyried yr hyn yr oeddem wedi ei glywed. O’r tawelwch llethol oedd yn yr ystafell pan oedd Dr Stern yn siarad, rwy’n credu iddynt werthfawrogi’r prynhawn yn fawr.”

Roedd y prynhawn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng gwasanaeth ysgolion Cyngor Sir Ceredigion a ERW.

Continue Reading

Popular This Week