Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Galw am £10 miliwn i’r Coleg Cymraeg

Published

on

Dim ond 0.3% o prentisiaethau yn Cymraeg: Toni Schiavone, Cymdeithas i'r Iaith

DYLAI Llywodraeth Cymru glustnodi deg miliwn o bunnau o’i chyllideb prentisiaethau i’r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod llawer mwy ar gael yn Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, o 2014/15, dim ond 0.3%, neu 140 prentisiaeth, a gwblhawyd yn y Gymraeg yn unig, allan o gyfanswm o 48,345. Y llynedd, cynyddodd Llywodraeth Cymru ei buddsoddiad mewn prentisiaethau o £96m i £111m fel rhan o addewid i ddarparu dros gan mil o brentisiaethau dros gyfnod o bum mlynedd.

Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael eu hymestyn i gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau. Fodd bynnag, nid oes cyhoeddiad wedi bod am arian ychwanegol i’r Coleg er mwyn iddo allu cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y sector.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r diffyg darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn destun pryder mawr iawn i ni – mae 0.3% yn chwerthinllyd o isel. Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, ac mae hynny’n gwbl gywir, ond mae’n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu weithio yn Gymraeg. Wedi’r cwbl, mae cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn allweddol i bolisi iaith y Llywodraeth. Yn y byd sydd ohoni, mae gormod o bobl, gan gynnwys gweision sifil, yn derbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg.

“Ers nifer o flynyddoedd, cynhelir cyfran eithriadol o fach o brentisiaethau drwy’r Gymraeg… Gwyddom eich bod yn sylweddoli bod eich penderfyniad clodwiw i ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg Cymraeg i’r maes hwn yn cynnig cyfle pwysig i wneud gwir wahaniaeth yn hyn o beth … er mwyn taclo’r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, galwn arnoch i glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o’r gyllideb prentisiaethau o dros £111.51 miliwn i fod dan reolaeth y Coleg Cymraeg yn 2019/20 (oddeutu 9%) er mwyn dechrau gweddnewid y sefyllfa. Gofynnwn i’r arian a glustnodir i’r Coleg Cymraeg ar gyfer prentisiaethau gynyddu i ganran sy’n cyfateb i ganran siaradwyr Cymraeg y boblogaeth bresennol oddeutu 20%, neu £22 miliwn y flwyddyn ar sail y gyllideb bresennol, o fewn tair blynedd, hynny ydy erbyn 2021/22.

“Ni fyddai’r polisi hwn yn costio’r Llywodraeth yr un ceiniog ychwanegol – mater o drosglwyddo arian o’r gyllideb bresennol i’r Coleg Cymraeg fyddai fe. Fodd bynnag, byddai’r penderfyniad yn galluogi gweddnewid y sefyllfa er lles y Gymraeg a’i lle yn y gweithle. Credwn y byddai nifer o fuddion yn deillio o fabwysiadu’r polisi hwn – byddai o fudd i sefydliadau a chwmnïau sydd am wella ar eu darpariaeth Gymraeg, o fudd ieithyddol, addysgol a diwylliannol I’r myfyrwyr, a chyfrannu at leihau allfudiad siaradwyr Cymraeg ifanc o Gymru a’u cymunedau.”

Parha’r llythyr: “Mewn ymateb i feirniadaeth am y sefyllfa [gyda phrentisiaethau Cymraeg], mae’ch swyddogion wedi newid y ffordd mae’r ystadegau yn cael eu cyflwyno. Bellach maen nhw’n cyhoeddi ffigwr arall, sef nifer y prentisiaethau gyda “rhywfaint o ddysgu dwyieithog”. Gallai hynny golygu cyn lleied â chyflwyno un adnodd dysgu dwyieithog i’r myfyrwyr, ac felly nid ydym yn credu ei fod yn ystadegyn o werth. Ymhellach, pryderwn fod awydd swyddogion i ganolbwyntio ar yr ystadegyn hwnnw, yn ffordd o osgoi newid polisi a thaclo hunan-fuddiannau’r darparwyr presennol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Mae y byd yn dod i Langollen

Published

on

“Y byd yn uno mewn dathliad lliwgar a llawen”: Yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

BOB BLWYDDYN mae’r byd yn dod i Langollen, tref fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan drawsnewid y dref gysglyd gyda môr o liw, can a dawns ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Os na fedrwch fod yno, bydd S4C yn dod â bwrlwm yr ŵyl i’ch ystafell fyw gyda darlledu byw o’r pafiliwn a rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos.

Mae’r cyflwynwyr Nia Roberts a Trystan Ellis-Morris yno i’n tywys trwy’r hwyl mewn rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol gyda chymorth arbenigwyr i drafod a dadansoddi’r cystadlaethau corawl, dawns, unigol ac offerynnol. Un o arbenigwyr eleni fydd y soprano Elin Manahan Thomas, un o berfformwyr Gala yr Eisteddfod y llynedd a wnaeth hefyd berfformio yn ystod priodas Dug a Duges Sussex, Tywysog Harry a Meghan Markle fis Mai eleni.

Fel rhan o’r uchafbwyntiau nosweithiol bydd eitemau arbennig wedi eu ffilmio o flaen llaw yn dilyn cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon ac Indonesia i ddangos pwysigrwydd yr Eisteddfod Ryngwladol i bobl o ddiwylliannau amrywiol o amgylch y byd.

Y cyflwynydd Morgan Jones fydd yn cyflwyno gyda Elin Llwyd yn fyw o’r maes ar brynhawn dydd Sadwrn gan roi blas o’r cyffro o amgylch y maes ac yn y dref. “Dwi wedi cael cyfle i fynd allan i gwrdd â grwp ddawns Al Zhir yn Jakarta, Indonesia, un o ddinasoedd fwya’r byd. Cawn ddod i nabod y cystadleuwyr yn yr eitemau a byddwn ni’n dilyn eu hanes wrth iddyn nhw gystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol,” meddai cyn ychwanegu, “Dwi’n edrych mlaen i groesawu criw Jakarta i Gymru!”

“Bob blwyddyn dwi’n edrych ymlaen at y teimlad o frawdgarwch rhwng cenhedloedd. Dyma yw pam fod gymaint o’r cystadleuwyr yn dod nôl bob blwyddyn oherwydd ei fod yn ŵyl o fri sy’n cael ei pharchu yn rhyngwladol, ac mae pawb yn awyddus i fod yn rhan o’i hanes cyfoethog ac i fod yn rhan o’r hwyl sydd i’w gael ar y maes ac yn y dref,” meddai Morgan.

Bydd yr wythnos yn gorffen gyda crescendo ar nos Sadwrn wrth i enillwyr y corau ieuenctid, cymysg, merched, dynion a’r categorïau agored cystadlu am deitl mawreddog Côr y Byd 2018, tlws Luciano Pavarotti a gwobr ariannol gwerth £3,000.

Ymunwch â ni yn n fechan Llangollen am wledd o gerddoriaeth a dawns wrth i’r Eisteddfod Ryngwladol dod a’r byd yn un am wythnos arbennig.

Continue Reading

Cymraeg

Eglwys Madagascar yn ymweld â Cheredigion

Published

on

Dwy gan mlynedd o bartneriaeth: Pwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion

AR DDYDD Iau, 7 Mehefin, cwrddodd nifer o bwysigion o Fadagascar gydag aelodau Cyngor Sir Ceredigion fel rhan o ddathliadau y cafodd eu cynnal yng Ngheredigion i ddathlu deucanmlwyddiant o’r cenhadon cyntaf a deithiodd o ardal Aberaeron i Fadagascar.

Ymwelodd y pwysigion o Fadagascar, gan gynnwys Mr Marc Ravalomanana, cyn-Lywydd Madagascar a Chadeirydd Pwyllgor Dathliadau Deucanmlwyddiant Eglwys Iesu Grist ym Madagascar (FJKM), Ceredigion dros gyfnod o ddiwrnodau. Fe wnaethant fynychu cyngherddau dathlu a gweld arddangosfeydd a oedd yn arddangos coffau o ymdrechion ac etifeddiaeth y cenhadwyr o gapel Neuaddlwyd a sefydlodd eglwys ar ynys Madagascar 200 mlynedd yn ôl – eglwys sy’n llwyddiannus ac yn cael ei fynychu’n dda hyd heddiw.

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Hag Harris, a gyflwynodd Mr Ravalomanana gyda plac o crest y Cyngor, “Roedd yn anrhydedd i groesawu’r ymwelwyr o Fadagascar i Geredigion a chlywed sut wnaeth y cenhadwr hwylio a sefydlu eglwys yno, sy’n dal i fod yn gryf heddiw. Mae cyfleoedd fel hyn yn ein galluogi ni i adlewyrchu a dathlu ar y cysylltiadau sydd gan ein sir ni gyda lleoedd ledled y byd a’r cyfraniadau cadarnhaol y gallwn eu darparu i eraill.”

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddi ‘geiriadur’ o Enwau Lleoedd Cymru

Published

on

'Un gam o’r ffordd': Dai Lloyd, AC

BYDD RHESTR gynhwysfawr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Mehefin, fydd yn cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae’r rhestr, fydd ar gael ar-lein ar wefan Comisiynydd y Gymraeg, yn cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’ i wirio sut i sillafu enwau lleoedd. Mae bron i 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni bu’r Comisiynydd yn gofyn i ymwelwyr brofi’r rhestr ddigidol ar ei stondin. Erbyn diwedd yr wythnos roedd dros 750 o binnau wedi eu rhoi ar y map yn nodi fod enw tref neu bentref wedi ei wirio ac mae unrhyw enwau oedd yn ymddangos ‘ar goll’ wrthi’n cael eu hychwanegu at y rhestr.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, “Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru. Mae’r digwyddiad hwn yn benllanw blynyddoedd o waith ymchwil gan ein tîm bychan o fewn Comisiynydd y Gymraeg mewn ymgynghoriad â phanel o arbenigwyr ar enwau lleoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r arbenigwyr hyn am eu cyfraniad anhepgor at y prosiect hwn yn sicrhau bod sail gadarn i bob un o’r argymhellion.

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr. Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Un o’r sefydliadau sydd eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn gwneud defnydd o’r rhestr newydd yw’r Arolwg Ordnans.

Yn ôl Pam Whitham, Rheolwr Perthnasau’r Arolwg Ordnans, “Mae gennym bartneriaeth werthfawr â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ac maen nhw wedi chwarae rôl allweddol wrth i ni ddatblygu ein Polisi Enwi Cymraeg a sicrhau cysondeb o ran enwau lleoedd yng Nghymru yn ein holl gynnyrch. Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio â’r Comisiynydd ac yn croesawu’r rhestr hon fel adnodd gwerthfawr i ddiffinio enwau lleoedd yng Nghymru.”

Bydd y rhestr yn cael ei lansio mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd, dan nawdd Dr Dai Lloyd AC. Gwnaeth Dr Dai Lloyd ymgais ym Mawrth 2017 i gyflwyno mesur fyddai’n diogelu enwau lleoedd yng Nghymru, ond pleidleisiodd y Cynulliad yn erbyn y cynnig ar y pryd.

Dywedodd Dr Lloyd, “Mae rhoi’r enwau ar gof a chadw ar restr fel hon yn mynd gam o’r ffordd at sicrhau bod y ffurfiau safonol yn cael eu cofnodi a’u parchu. Er mwyn gwirioneddol ddiogelu’r enwau lleoedd, a sicrhau na ddaw enwau eraill i gymryd eu lle’n fympwyol, credaf bod angen statws cyfreithiol i’r rhestr hon, fel sydd wedi digwydd mewn nifer o wledydd eraill.”

Wrth safoni enwau lleoedd, mae’r panel o arbenigwyr wedi bod yn dilyn canllawiau pendant. Maent yn talu sylw i ynganiad a tharddiad yn ogystal â defnydd lleol a defnydd hanesyddol o’r enw.

Mae Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd yn aelod o’r panel. Dywedodd, “Mae enwau lleoedd yn rhan o’n treftadaeth a’n hunaniaeth – dyna pam y mae cymaint ohonom â diddordeb byw ynddynt. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafodd system sillafu’r Gymraeg ei safoni’n drylwyr. Bu enwau lleoedd yn araf deg yn dilyn y drefn honno: mae sillafiad megis Caernarvon yn edrych yn Seisnig a dieithr inni heddiw, ond dyna’r ffurf sydd ar gadair Eisteddfod Genedlaethol 1935!

“Nid mater du a gwyn yw sillafu enwau lleoedd, ac nid pawb a fydd yn cytuno â phob argymhelliad. Ond mae cytuno ar ffurfiau safonol mewn cronfa fel hon yn rhywbeth hanfodol os yw’r Gymraeg i fod yn iaith fodern ac addas ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni.”

Bydd y rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg: https://bit.ly/2tjAvOG.

Continue Reading

Popular This Week