Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Published

on

AR GYFER ein taith gyntaf yn y flwyddyn newydd, buom yn ardal Llangrannog gyda Ros Price-Jones a Russ Price yn arwain.

Aethom ar daith gylch bleserus iawn o ryw dair milltir ac ar y ffordd clywon ni hanes Rhydcolomennod a Gwersyll yr Urdd wrth fynd heibio iddynt. Ymlaen wedyn at lwybr yr arfordir heibio i Bendinas Lochtyn ac wedyn i lawr i’r pentref ger y traeth, lle aeth y rhan fwyaf ohonom i fwynhau lluniaeth yn y Pentre Arms.

Ddydd Sadwrn 9fed Chwefror byddwn yn ardal Aberteifi a Patch, gyda Pob Thomas yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio (tâl) ar bwys yr hen archfarchnad ar lan Afon Teifi (SN 175 459; Cod post: SA43 1HR) am 10:30.

Awn ar daith unffordd, ddwy awr o ychydig yn llai na 3 milltir ar dir gwastad; byddwn yn dilyn Llwybr yr Arfordir yr holl ffordd i’r maes parcio rhwng Penyrergyd a Gwbert (Jubilee) lle gosodir ceir ymlaen llaw i fynd â’r gyrwyr yn ôl i Aberteifi. Cerddwn ddwy filltir ar lwybr troed (a all fod yn fwdlyd mewn mannau) i Nantydderwen a’r filltir olaf ar y palmant wrth ochr y ffordd. Ni fydd sticlau. Cawn ddysgu am hanes a byd natur yr ardal wrth gerdded. Wedyn bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth yng Nghaffi Gorffwysfa’r Pysgotwyr wrth y man cychwyn.

Fis Mawrth 9fed, awn i ardal Rhos-y-bwlch (Rosebush) gyda Gwyndaf a Heather Tomos yn arwain. Byddwn yn gadael maes parcio’r pentref (SN 075 295; Cod post: SA66 7QX) am 10:30yb a mynd ar daith gylch ychydig yn llai na dwy awr o ryw ddwy filltir a chwarter ar draciau cadarn a thir gwastad.

Cerddwn heibio i flaenau tai teras y pentref tuag at y Preselau cyn troi i’r chwith ac yn nes ymlaen i’r chwith eto i ddychwelyd i’r maes parcio. Ni fydd sticlau. Byddwn i’n dysgu ychydig am hanes pentref Rhos-y-bwlch / Rosebush, y chwareli llechi a’r rheilffordd, a byd natur yr ardal. Ar ôl cerdded, bydd yn bosibl cael lluniaeth yn y Dafarn Sinc.

Mae croeso cynnes i bawb ar bob taith. Darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad: a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.

Isod, mae manylion bras ein teithiau nesaf. Os hoffech ragor o fanylion, neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â philippa.gibson@gmail.com 01239 654561
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.

9 Chwefror: Ardal Aberteifi a Patch
Gadael y maes parcio (tâl) ar lan afon Teifi (SN 175 459) (Cod post SA43 1HR) am 10.30yb.

Arweinydd: Pob Thomas
9 Mawrth: Rhos-y-bwlch / Rosebush
Gadael maes parcio Rosebush (SN075 295) (Cod post SA66 7QX) am 10.30yb.

Arweinwyr: Gwyndaf a Heather Tomos
13 Ebrill: Llanbedr Pont Steffan
Gadael maes parcio Clwb Rygbi Llambed (SN578 486) (Cod post SA48 7HZ) am 10.30yb.

Arweinydd: Gillian Jones

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Dogfen DRYCH ar restr fer Gwobrau Grierson 2020

Published

on

MAE S4C a Chwmni Da yn falch o gyhoeddi bod dogfen Eirlys, Dementia a Tim ar restr fer Gwobrau Grierson 2020.
Y Gwobrau Grierson, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The British Documentary Awards, yw digwyddiad mwyaf yng nghalendr dogfennau yn y DU. Mae’r gwobrau yn adnabod ac yn dathlu dogfennau sy’n profi safon, creadigrwydd, gwreiddioldeb a rhagoriaeth.
Mae’r ddogfen, a gafodd ei chynhyrchu gan Gwmni Da ar gyfer cyfres DRYCH S4C – cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw – wedi ei henwebu yng nghategori ‘Dogfen Sengl Orau – Cartref’.
Mae Eirlys, Dementia a Tim, rhaglen a gafodd ei ddarlledu’n wreiddiol ym mis Ionawr 2020, yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ddogfen yn rhoi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gyda Alzheimer’s ac yn dosbarthu neges bwerus gan Eirlys, i beidio bod ofn.
Meddai’r Cynhyrchydd, Sion Aaron: “Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu. Mae gan Tim Lynn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w ddweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau yn ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau ac rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Meddai Dylan Huws, Uwch Gynhyrchydd y rhaglen: “Mae’r Gwobrau Grierson yn wobrau mawreddog ac mae hi’n fraint bod ymysg yr enwau mawr ar y rhestr. Mae hyn yn dangos ein bod ni’n gallu cynhyrchu straeon heriol ac atyniadol yn y Gymraeg sy’n sefyll ymysg y gorau yn y byd.”
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C: “Weithiau, mae ‘na gomisiwn sy’n wirioneddol yn cyffwrdd y galon. Mae Eirlys, Dementia a Tim yn enghraifft wych o hynny. Dyma raglen ddogfen a lwyddodd i roi portread gwahanol i’r arfer o berson sy’n byw gydag Alzheimers gan gyfleu neges bwerus a phositif i beidio bod ofn. Dwi’n hynod falch fod y ffilm hon wedi ei henwebu ac yn cael ei gweld ochr yn ochr gyda dogfennau mwyaf pwerus y DU. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm i gyd.”
Gyda holl ddarlledwyr y DU yn gallu cystadlu, Eirlys, Dementia a Tim yw unig gynrychiolydd Cymru yng Ngwobrau Grierson.
Mi fydd y noson wobrwyo ar y 10fed o Dachwedd 2020 yng Nghanolfan Southbank, Llundain.

Continue Reading

Cymraeg

Ail-ymweld â Gwesty Aduniad

Published

on

DROS y blynyddoedd mae ‘na westy arbennig sydd wedi newid bywydau am byth. Mae’r gyfres Gwesty Aduniad wedi dod â phobl yn ôl at ei gilydd, a hynny weithiau ar ôl oes ar wahân.
Roedd rhai eisiau dweud diolch; eraill angen ymddiheuro cyn iddi fod yn rhy hwyr. O deuluoedd ar wasgar i arwyr wnaeth achub bywydau, o gyn-gariadon i ddarganfod perthynas am y tro cyntaf, mae’r Gwesty hwn wedi dad-gloi stôr o straeon.
Ond sut beth oedd darganfod teulu neu ffrindiau coll? A sut wnaeth bywyd newid ar ôl yr aduniadau?
Mewn cyfres newydd, Goreuon Gwesty Aduniad, sy’n dechrau ar 17 Awst, cawn ail ymweld â rhai wnaeth brofi’r wefr o wireddu breuddwydion, a chael gwybod ychydig mwy am y broses o sut i ddod o hyd i deulu gwaed, wrth brofi eto rhai o aduniadau mwyaf cofiadwy’r gyfres – a chlywed be ddigwyddodd wedyn.
Bydd thema arbennig i bob rhaglen, gan gynnwys ‘Chwilio am Dad’ ‘Cyfrinachau’, ‘Ffrindiau Oes’, ‘Brodyr a Chwiorydd’ ‘Dweud Diolch’ ac ‘O Ben Draw Byd’. Ond troi at luniau mae’r rhaglen gyntaf, ‘Y Stori tu ôl i’r Llun’, lle cawn ail-fyw stori dau berson oedd yn chwilo am deulu gwaed a chlywed eu hanes wedyn ar ôl bod yn y gwesty.
Pan ddaeth Cheryl Davies o hyd i lun o fabi yn ei thŷ yn San Clêr yn 2017 fe sylweddolodd mai hwn oedd y cliw oedd angen arni i geisio dod o hyd i’r ferch fach roddodd ei chwaer i’w mabwysiadu 50 mlynedd ynghynt. O fewn 6 mis wedi i Cheryl gysylltu â Gwesty Aduniad gyda’r gobaith o ddod ag oes o chwilio i ben, daeth newyddion da.
“Ar ôl addo i Elinor byddwn i’n ffindo Helen, doeddwn i ddim yn gwybod byddai mor galed” meddai Cheryl.
Cawn glywed sut wnaeth y wybodaeth angenrheidiol yn y llun hollbwysig helpu darganfod ei nith oedd wedi’i magu dan yr enw Virginia, a chawn ail-fyw’r aduniad bythgofiadwy.
“Pan weles i hi, dwi ddim yn gallu esbonio sut o’n i’n teimlo, achos roedd hi yna – dim jest meddwl amdani fel o’n i wedi gwneud am 50 mlynedd. Heblaw am Westy Aduniad byddwn i ddim wedi dod o hyd iddi” ychwanega Cheryl.
Ond beth ddigwyddodd nesaf? Yn y gyfres cawn glywed am y llawenydd wedi’r aduniad wrth i bawb ddod at ei gilydd a chreu teulu cyflawn o’r diwedd.
Stori am sut mae hen lun yn medru camarwain pobl oedd un John Jones o Lechryd, Ceredigion pan drodd at Westy Aduniad wedi blynyddoedd o chwilio am hanes ei dad.
A llun fu’n ganolog i stori Trebor Roberts o Lansannan hefyd – llun oedd wedi’i gario yn ei waled am ddegawdau.
Mae gan y tri hyn bellach stôr o luniau newydd i’w trysori i’r dyfodol. Ymunwch â’r daith emosiynol, fydd yn cynhesu’r galon yn y gyfres newydd hon.

Continue Reading

Cymraeg

Mae defnydd cynyddol o dechnoleg yn helpu dysgwyr Cymraeg

Published

on

MAE Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi pwyso ar y niferoedd uwch nag erioed sy’n dysgu Cymraeg yn ddigidol i gymryd rhan yn Eisteddfod rithiol AmGen eleni.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn rhithiol eleni mewn ymgais i sicrhau y gall pobl ddal i gwrdd i ddathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, datgelodd y Gweinidog ei bod wrth ei bodd yn clywed mai’r Gymraeg yw’r seithfed iaith fwyaf poblogaidd i’w dysgu ar ap iaith Duolingo yn y DU, a’i bod felly yn fwy poblogaidd na Tsieineeg.
Cofrestrodd mwy o bobl y DU nag erioed i ddysgu Cymraeg ar yr ap rhwng Mawrth a Mehefin eleni.
Mewn ymgais i estyn allan at ddysgwyr Cymraeg sy’n cynhesu at yr iaith, bydd yna weithgareddau dyddiol, megis sesiynau blasu Cymraeg, a digwyddiadau i ddysgwyr.
Bydd yna ddigwyddiadau hefyd i roi cyfleoedd i blant barhau i siarad a chlywed y Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys straeon, gemau a cftau, a chaiff hyn ei gysylltu ag ymgyrch Llond Haf o Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol, sef sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae am gyrraedd y nod drwy strategaeth Cymraeg 2050.
Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Gweinidog gyfraniad ychwanegol o £500,000 tuag at Eisteddfod eleni, yn ogystal â chyllid craidd Llywodraeth Cymru o £603,000, er mwyn sicrhau dyfodol ariannol yr Eisteddfod a chaniatáu i’r Eisteddfod rithiol ddigwydd.
Yn ystod sesiwn banel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru, dywed y Gweinidog fod y cyfnod clo yn rhoi’r cyfle perffaith i bobl fireinio eu sgiliau Cymraeg.
Meddai Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld cymaint o bobl yn achub ar y cyfle i ddefnyddio technoleg i wella eu Cymraeg.
“A’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn gweld cynnydd nodedig yn y bobl sy’n cofrestru i ddysgu ar-lein, mae’n dangos sut y gall technoleg ei gwneud yn bosibl i genhedlaeth newydd ddysgu’r Gymraeg.
“Mae’n siom na all yr Eisteddfod ddigwydd fel arfer eleni, ond dw i’n ei llongyfarch am greu AmGen a dw i’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn panel i drafod gwahanol agweddau ar ddwyieithrwydd yng Nghymru.
“Mae dyfnhau ein dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn rhan allweddol o’n hymdrechion i hyrwyddo strategaeth Cymraeg 2050.”

Continue Reading

Popular This Week