Uncategorized

John ‘Bwlchllan’ yn ei gwrcwd ar lawr


1974 OEDD Y FLWYDDYN. Mis Mai. Gwesty Scotts yng Ngill Airne yng ngorllewin Gweriniaeth Iwerddon oedd y lleoliad. Yr achlysur oedd yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Roedd yno rialtwch. Roedd yno sŵn a swae. Roedd hi’n hwyrhau. Clywsom lais dwfn Elfed Lewys yn canu baledi. Clywid offerynne gwerin yn y cefndir. Pwy eisteddai ar lawr yn ei gwrcwd yng nghanol y cyfan yn tynnu ar ei bȋb ond y Dr John Davies.

Eisteddodd tri neu bedwar ohonom o’i amgylch. Cawsom ddarlith fyrfyfyr am hanes Iwerddon. Hoeliwyd ein sylw. Bu rhaid i eraill gamu drosom i fynd heibio gan arllwys eu diodydd arnom. Ond fe’n syfrdanwyd gan y wybodaeth a’r dadansoddi treiddgar. Roedd ‘Bwlchllan’ yn ei elfen a ninne’n wrandawyr eiddgar.

Ble ond yn Iwerddon y gellid cael sefyllfa o’r fath? Wel, yn Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth efalle yn ystod teyrnasiad John fel warden dros 15 mlynedd. Ond y noson honno yn Killarney roedd deng munud yng nghwmni’r athrylith yn ddigon i argyhoeddi’r amheuwr pennaf pa mor bwysig yw hanes i ddiwyllio’r unigolyn.

Pa hanesydd arall fyddai wedi gosod ei hun yn y fath sefyllfa? Pa hanesydd arall fyddai wedi mynychu gŵyl o’r fath? Erbyn bore trannoeth roedd John Davies wedi’i sefydlu ei hun yn arwr ac yn gymeriad yn ein plith. Fel ‘Bwlchllan’ y cyfeiriem ato wedyn. Rhoddai hynny ef ar yr un pedestal â ‘Doshan’, fel y cyfeiriem at Eirwyn Jones, Pontsian. Roedd dawn y cyfarwydd gan y ddau. Bu’r naill yn astudio yng Nghaergrawnt tra broliai’r llall iddo fod yno ar gefn beic.

Pan gyhoeddwyd y gyfrol ‘Hanes Cymru’ yn 1990 dychmygwn Bwlchllan yn traethu ar ei gwrcwd wrth imi ddarllen y 700 o dudalenne. Ni fedraf ddychmygu’r un Cymro twymgalon heb gopi o’r gyfrol ar ei silff. Fe’i cyhoeddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg gan Penguin. Mae’n gyfrol i ymestyn ati o bryd i’w gilydd pe bai dim ond i ryfeddu fod gan y genedl y fath hanes yn ei hawl ei hun. Nid atodiad i’r un genedl arall mohonom. Mae gennym ein cof ein hunain a hwnnw wedi’i groniclo gan Bwlchllan. Mae’r gyfrol yn werth llawer mwy na’r pris o £30 a godwyd amdani.

A nodweddiadol o’r awdur oedd iddo ysgrifennu’r clasur tra ar ei deithie ar draws dinasoedd Ewrop mewn amgylchiade tebyg i Westy’r Scotts yn aml iawn. Nid wrth ddesg mewn llyrfgell lwchlyd ond ar fwrdd mewn clwb nos swnllyd. Roedd y ffeithie ar flaenau ei fysedd a’i gamp oedd eu gosod yn eu cyd-destun gan roi ystyr i’n bodolaeth.

Teithiodd Gymru benbaladr gan sugno’r wlad i’w gyfansoddiad. Ffrwyth yr adnabyddiaeth drylwyr honno oedd y gyfrol ‘Cymru – y 100 lle i’w gweld cyn marw’ a gyhoeddwyd yn 2009. Gwelodd Bwlchllan nhw i gyd. Mae’r gyfrol ar fin cael ei hail-argraffu ar ôl bod mas o brint.

Nodweddiadol o ehangder ei ddiddordebe mewn materion Cymreig oedd ei ymwneud ag ymchwiliad cyhoeddus answyddogol, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Gifford, wedi’r achos cynllwynio yn erbyn aelodau o’r Mudiad Gweriniaethol Sosialaidd Cymreig yn Llys y Goron Caerdydd yn 1983. Cofiaf ei holi droeon wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen a chael ei atebion yn ddifefl gytbwys.

Dyledus wyf iddo am ei eiriau caredig wrth feirniadu cystadleuaeth llunio pennod gyntaf llyfr crwydro ar y thema o ddilyn un o afonydd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 1990. Dal heb eu sgrifennu mae gweddill y penodau am Cleddau Ddu. Ar ôl dilyn y nentydd nid euthum ymhellach na Phont Hywel. Ofnwn na fedrwn efelychu joie de vivre llenyddol y beirniad ei hun. Rhaid fydd i mi shiffto fy stwmps gwlei.

Pan ddarlledwyd hunan-bortread ohono ar S4C yn 2013 nid pawb gynhesai at y rhaglen. Nodweddiadol o’r gwrthrych oedd iddo ddewis ymddeol i ardal Grangetown o’r brifddinas yn hytrach nag i un o’r maestrefi goludog. Roedd wrth ei fodd yng nghanol y concrid aml-ddiwylliannol. Dyna oedd ei Gymru fodern. Ond wedyn roedd ei ardd ym Mwlchllan ym mherfeddion Ceredigion.

Wrth derfynu ei gampwaith ysgolheigaidd cyfeiria at gwestiwn yr Athro Gwyn Alf Williams, un arall o’r cewri hanes, pan ofynnodd, ‘pa bryd y bu Cymru?’ Ateb Bwlchllan oedd: ‘Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn y ffydd a’r hyder na fu hi eto yn ei llawnder’.

Gyda marwolaeth y Dr John Davies, y gŵr o’r Rhondda, ar Chwefror 15 yn 76 oed, collwyd clamp o Gymro.

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment