Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Menter Iaith leol ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Published

on

Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith. Mae’r Seremoni Wobrwyo, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, yn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.

Mae CERED, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli a sefydlwyd gan Steffan Rees, un o Swyddogion Datblygu CERED, ym mis Hydref 2018. Mae’r gerddorfa yn perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg ac yn gweld Iwcadwli fel cyfle i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gerddorfa yn mynd o nerth i nerth ac mae Steffan bellach yn cynnal sesiynau ychwanegol i gynnig hyfforddiant i’r rhai sydd am ymuno a’r gerddorfa am y tro cyntaf.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae Cerddorfa Iwcadwli wedi bod yn gyfle arbennig i hybu’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth gan dynnu aelodau o bob oed ac o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Mae aelodaeth y gerddorfa yn parhau i dyfu ac mae’n braf gweld cymaint yn cael mwynhad o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw.”

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Digwyddiad’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar 22 Ionawr, 2020.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru gan anelu i gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn unol a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

Gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma: http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Pobl ifanc yn cymryd rhan mewn diwrnod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg

Published

on

Ar ddydd Sadwrn 15 Chwefror, daeth dros hanner cant o bobl ifanc de Ceredigion at ei gilydd yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ar gyfer diwrnod ‘Ti’n Gêm?’. Gêm gymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg a drefnwyd gan Cered: Menter Iaith Ceredigion gyda chydweithrediad yr Urdd a Tatl Gaming.

Bwriad y diwrnod oedd rhoi cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu a mwynhau amrywiol weithgareddau gan gynnwys gemau cyfrifiadurol a hynny oll trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy gynnal diwrnod o’r math y gobaith yw bod plant yn sylweddoli eu bod yn medru defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Yn ystod y dydd bu cyfle i chwarae gemau cyfrifiadurol Splatoon, FIFA a Minecraft yn ogystal â chymryd rhan mewn twrnamaint Mario Kart 8 cyn profi cyffro saethyddiaeth, y wal ddringo a’r cwrs rhaffau uchel.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered: “Bu’r diwrnod yn llwyddiannus tu hwnt gyda phawb i weld yn mwynhau. Roedd ymateb y plant i’r gweithgareddau yn ffantastig a’r hyn oedd yn allweddol oedd eu bod nhw’n mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Y gobaith yw cynnal diwrnodau tebyg yn y dyfodol. Diolch i Tatl Gaming am gydweithio gyda ni a hefyd i’r Urdd am drefnu cyfres o ddigwyddiadau ymarferol i’r plant.”

Mae Cered yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar draws y Sir fel bod pobl o bob oedran yn cael y cyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi cysylltwch â Cered ar 01545 572350 neu cered@ceredigion.gov.uk.

Continue Reading

Cymraeg

Arwain y ffordd mewn rheoli cynllunio

Published

on

Mae un o Swyddogion allweddol Ceredigion yn arwain y ffordd wrth rannu sut beth yw cael gyrfa ym maes cynllunio.

Russell Hughes-Pickering yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio, ac mae hyn yn cynnwys bod yn bennaeth cynllunio. Mae wedi bod yn rhan o erthygl addysgiadol yn rhifyn mis Chwefror 2020 o ‘The Planner’, sef cylchgrawn swyddogol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).

Mae Russell Hughes-Pickering yn un o’r deuddeg Swyddog Arweiniol Corfforaethol sy’n rhan o Grŵp Arweiniol y cyngor. Dywed ef fod angen i gynllunwyr fod “yn wleidyddol graff ac edrych uwchlaw cynlluniau a pholisïau”. Mae hyn yn golygu deall y sefydliad, eu rôl wrth gyflawni’r amcanion corfforaethol a meddwl yn strategol “fel y gallant weld beth yw eu rôl ar draws y gwasanaethau ac yn eu tro helpu i ddarparu gwell wasanaethau a gwell leoedd i bobl.”

Gadawodd Russell Goleg Llanymddyfri ym 1985 er mwyn gwneud gradd mewn cynllunio ym Mhrifysgol Westminster. Dechreuodd weithio fel cynlluniwr ym Mwrdeistref Hounslow yn Llundain ym 1989 cyn cael ei benodi’n swyddog arweiniol ym maes cynllunio ym 1997.

Mae erthygl yr RTPI yn archwilio gyrfaoedd prif swyddogion cynllunio ac yn ymgyrchu i benaethiaid cynllunio gael eu cynnwys yn uwch dimau rheoli awdurdodau lleol ymysg pryderon y bydd proffil cynllunio gofodol yn dirywio a bydd ei bresenoldeb corfforaethol yn lleihau.

Aeth Russell yn ei flaen i ddweud, “Po fwyaf yr wyf i wedi cael fy nghynnwys yn y gwaith o baratoi cynlluniau corfforaethol neu raglen ddatblygu’r cyngor, yr hawsaf yw hi i weld, dylanwadu, a sicrhau bod yr adran gynllunio’n cael ei chynnwys ar yr adeg iawn. Mae hyn wedi helpu i osgoi problemau pan fydd prosiectau mawr yn mynd drwy’r cam cynllunio, boed hynny’n ddatblygiad canol tref, yn newid i gartref gofal, neu’n ysgol newydd. Rwyf yn lwcus iawn fyd mod yn rhan o grŵp arweiniol gwych lle mae’r diwylliant yn canolbwyntio ar wella a helpu ein gilydd i sicrhau gwasanaethau gwell.”

Symudodd yn ôl i Aberystwyth yn 2000 ar ôl derbyn rôl y Prif Swyddog Blaen-gynllunio gyda Cheredigion, cyn dod yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio yn 2006. Esblygodd y swydd hon o gylch gwaith cynllunio yn bennaf i un a oedd hefyd yn cynnwys rheoli adeiladu a materion tai. Ym mis Mai 2013, penodwyd ef yn Bennaeth Perfformiad a Gwella, yna daeth yn Bennaeth Perfformiad a’r Economi yn 2015. Ers 01 Ebrill 2018, Russell yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Cyngor ar gyfer yr Economi ac Adfywio.

Pan ofynnwyd pa gyngor y byddai Russell yn ei roi i gydweithwyr iau, dywedodd ei fod yn awyddus i weld mwy o awdurdodau’n gwella’r trefniadau ar gyfer prosiectau datblygu mawr drwy sefydlu grwpiau datblygu corfforaethol a grwpiau rheoli prosiectau, a chynnwys cynllunwyr yn y grwpiau hynny. Dywedodd, “dylai cynllunwyr ifanc gymryd rhan yn y rhain cymaint â phosib fel eu bod yn cael eu cynnwys mewn ystod eang o welliannau i wasanaethau, yn cofleidio prosiectau a datblygiadau newydd, yn ceisio ffyrdd o helpu i’w datblygu a’u gwella, ac yn cymryd rhan mewn modd cadarnhaol.”

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio, sy’n cynnwys cynllunio. Dywedodd, “Rydym yn ddiolchgar iawn i Russell am ei weledigaeth a’i lais cryf ar gyfer materion cynllunio yng Ngheredigion. Mae gan gynlluniwr ran fawr i’w chwarae wrth helpu i ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau corfforaethol. Mae’n siapio dyfodol ein sir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae penderfyniad y cyngor i flaenoriaethu’r broses gynllunio yn dangos bod y cyngor yn gweithio tuag at gyflawni ei flaenoriaeth gorfforaethol o Hybu’r Economi a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

Continue Reading

Cymraeg

Cymeradwyo cynnig ynghylch dyfodol Hen Gartref Gofal

Published

on

Yng nghyfarfod y Cabinet ar 25 Chwefror 2020, cymeradwywyd cynnig ynghylch dyfodol hen gartref gofal, Penparcau, Aberystwyth.

O ystyried yr angen parhaus am dai fforddiadwy yn y Sir, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda’r argymhelliad i gysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gyda’r gobaith y gellir cytuno ar werthiant o fewn 3 mis. Os nad oes modd cyflawni hyn, yna bydd y safle’n cael ei werthu ar y farchnad agored heb nodi unrhyw ddefnydd penodol.

Rhoddwyd y safle ar y farchnad i ddechrau ar ôl rhoi terfyn ar y ddarpariaeth gofal preswyl a phob gwasanaeth arall ym Modlondeb ar 31 Mawrth 2018. Rhoddwyd blaenoriaeth i brynwyr a oedd yn bwriadu defnyddio’r safle fel Cartref Nyrsio i’r Henoed Eiddil eu Meddwl, Cartref Gofal Preswyl Dementia, neu Lety i Bobl Ifanc sydd angen Tai Cymdeithasol. Er y dangoswyd diddordeb yn yr eiddo, nid oedd y darpar brynwr yn gallu bwrw ymlaen â’r gwerthiant, ac nid oedd y cais arall a dderbyniwyd yn bodloni’r defnyddiau a ffefrir.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd “Siomedig oedd peidio â sicrhau gwerthiant ar gyfer un o’r defnyddiau ffafriol cychwynnol. Mae hi bellach yn amser priodol i ystyried opsiynau eraill er mwyn gwella’r apêl i brynwyr posib eraill. Gobeithio y bydd sgyrsiau rhwng Swyddogion a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn bositif. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr adeilad hwn yn cael bywyd newydd. Bydd hyn yn ei dro yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol o Galluogi Cydnerthedd Unigolion a Theuluoedd yn ogystal a Hybu’r Economi.”

Bydd yr arian a wneir o ganlyniad i werthu Bodlondeb yn cael ei glustnodi er mwyn buddsoddi yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer cartrefi preswyl y Cyngor.

Continue Reading

Popular This Week