Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff yn gwneud mwy ar gyfer ymyrraeth iechyd nag erioed o’r blaen

Published

on

Mynychodd 35,069 o gyfranogwyr ddosbarthiadau Cyfeirio Ymarfer Corff yn ystod 2640 awr o ddosbarthiadau iechyd yn 2019 – y nifer uchaf erioed.

Mae’r Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS) yn gynllun ymyrraeth iechyd wedi’i seilio ar dystiolaeth sy’n ymgorffori gweithgaredd corfforol a thechnegau newid ymddygiad i gefnogi cleientiaid a atgyfeiriwyd i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw i wella eu hiechyd a’u lles.

Mae NERS Ceredigion wedi gweld cynnydd dramatig yn y galw dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cydlynydd a phedwar gweithiwr ymarfer corff llawn amser yn gweithio i gyflawni’r cynllun, gan ddarparu 73 dosbarth yr wythnos. Mae oedran y cyfranogwyr yn amrywio o 16 oed, gyda’r cyfranogwr hynaf yng Ngheredigion yn 95 oed.

Ymhlith yr opsiynau ymarfer corff ar gael, mae’r Gampfa, Cylchdaith, Sefydlogi’r Osgo, Beiciau Troelli, Aqua Aerobeg, Tai Chi a Pilates. Ymhlith y lleoliadau mae canolfannau cyngor a chymuned yn Aberystwyth, Aberaeron, Llambed, Tregaron, Aberteifi a Llandysul.

Nododd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Hamdden, buddion y cynllun, “Mae yna lawer o fuddion corfforol, seicolegol a chymdeithasol i fod yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys magu hyder, gwell hunan-barch, cwrdd â phobl newydd a bod yn gyffredinol yn fwy ffit ac yn iach. Mae Tîm Ymyrraeth Iechyd cymwys iawn Ceredigion Actif yn darparu cyfleoedd i wneud ymarfer corff sy’n hwyl, yn werth chweil ac y gellir ei ymgorffori ym mywyd bob dydd.”

Mae NERS Ceredigion yn targedu pobl â chyflwr meddygol trwy amrywiol lwybrau gan gynnwys generig, adsefydlu cardiaidd, ysgyfeiniol, cwympiadau, adsefydlu strôc, iechyd meddwl, canser a rheoli pwysau. Cyflwynir y rhaglen ymarfer corff 16 wythnos wedi’i theilwra gan dîm o weithwyr proffesiynol ymarfer corff cymwysedig Lefel 4 sy’n tywys cyfranogwyr a gyfeiriwyd tuag at gyflawni eu nodau unigol.

Dywedodd cyfranogwr yn Aberystwyth, “Dyma oedd y peth gorau i mi ei wneud erioed. Rwyf wedi ffynnu o wneud gwahanol weithgareddau a gwthio fy hun allan o beth rydw i wedi ei arfer gyda sydd nid yn unig wedi helpu fy hunan-barch ond hefyd fy iselder a phopeth arall gan gynnwys fy mhoen. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd nad oeddwn hyd yn oed yn ystyried y byddai’n digwydd. Nid yn unig ydym ni’n cymdeithasu ond rydym yn cael hwyl hefyd sy’n fonws”.

Mae hyfforddwyr yn monitro’n barhaus gydag asesiadau dilynol ar ôl 16 wythnos yn ogystal ag ar ôl eu cwblhau yn 52 wythnos. Mae opsiynau ‘cynnal a chadw’ tymor hir ar gael ar ôl 16 wythnos sy’n cynnwys parhad dosbarthiadau ymarfer corff ynghyd â chyfleoedd i ymuno â chlybiau fel cerdded pêl-fasged, cerdded pêl-droed, sesiynau golff a rygbi cerdded.

Yn ystod 2018-2019 cyfeiriwyd 913 at y cynllun. Er mwyn cael mynediad i’r cynllun, mae angen i berson gael ei atgyfeirio gan Weithiwr Iechyd Proffesiynol, fel arfer Meddyg Teulu, Nyrs Ymarfer neu Ffisiotherapydd penodol i gyflwr.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Cymraeg

Disgyblion Ceredigion yn clywed profiadau goroeswr yr Holocost

Published

on

I nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, cafodd ddisgyblion Ceredigion y cyfle i glywed hanes goroeswr yr Holocost.

Ar 27 Ionawr 2020, roedd hi’n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid Auschwitz-Birkenau. Roedd Dr Martin Stern MBE yn bump oed pan gafodd ei arestio yn ei ysgol.

Roedd ei daith yn un anodd gyda nifer o adegau lle’r oedd yn agos at farwolaeth. Symudodd Dr Stern i Brydain yn 1950 gan ddod yn Ddoctor. Y dyddiau yma, mae Dr Stern yn addysgu pobl ifanc am yr hyn a ddigwyddodd. Ar 29 Ionawr 2020, daeth i Aberaeron i siarad gyda llond neuadd o bobl ifanc Ceredigion.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, “75 mlynedd yn ôl, gwelodd y byd ddelweddau o bobl yn dod allan o’r gwersylloedd a dod i delerau gyda’r hyn a oedd wedi digwydd. Rydym mor ddiolchgar i Dr Martin Stern am ddod i Geredigion i rannu ei stori a’i brofiadau. Nid hawdd mae’n siwr yw siarad am amser tywyll iawn yn hanes y byd. Rwy’n gobeithio bod ein disgyblion ni wedi ystyried yr hyn yr oeddem wedi ei glywed. O’r tawelwch llethol oedd yn yr ystafell pan oedd Dr Stern yn siarad, rwy’n credu iddynt werthfawrogi’r prynhawn yn fawr.”

Roedd y prynhawn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng gwasanaeth ysgolion Cyngor Sir Ceredigion a ERW.

Continue Reading

Popular This Week