Uncategorized

Ffermwr anfoddog yw enillydd hynaf y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain

Mae Glyn Baines wedi treulio oes yn mireinio ei sgiliau yn gyson.
Mae Glyn Baines wedi treulio oes yn mireinio ei sgiliau yn gyson.

MAE CYN-FFERMWR, a adawodd y busnes teuluol pan oedd yn ei dridegau i ddilyn ei freuddwyd o fod yn artist, wedi ennill y Fedal Aur yn 84 mlwydd oed. Ef yw’r person hynaf erioed i dderbyn y gydnabyddiaeth hon.

Bydd Glyn Baines, 84 mlwydd oed, o’r Bala yn derbyn y wobr gan drefnwyr yr arddangosfa celfyddyd weledol eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfres o collages lled-haniaethol. Bydd hefyd yn derbyn siec am £5,000 ar ôl curo cystadleuaeth gan amrywiaeth o geisiadau cryf.

Mae’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn un o ddim ond ychydig o wobrau cenedlaethol a roddir i artistiaid a gwneuthurwyr Cymreig, a’i nod yw ceisio anrhydeddu rhagoriaeth, gweledigaeth a dyfeisgarwch ymysg artistiaid gweledol yng Nghymru.

“Mae rhai artistiaid yn cyrraedd eu hanterth yn rhy gynnar, rhai eraill yn profi llanw a thrai, gan ddod yn ôl i’r amlwg gyda chasgliadau newydd wrth iddynt aeddfedu. Mae Glyn Baines wedi treulio oes yn mireinio ei sgiliau yn gyson, ac yn 84 mlwydd oed mae’n cynhyrchu ei waith cryfaf hyd yn hyn,” meddai Angharad Pearce-Jones, un o aseswyr y wobr.

“Mae’r gweithiau diweddaraf hyn yn ymgorffori blynyddoedd o hyfforddi’r llygad i sylwi, dethol a symleiddio – o gynfasau ag olew trwm i collages lled-haniaethol, o ambell fotiff y gellir ei adnabod i haniaeth llwyr. Gyda banc y cof gweledol sydd gan Åμr yn ei wythdegau, mae Glyn Baines yn gallu taro i mewn ac allan ac nid yw’n teimlo’r angen i atgynhyrchu’r byd fel y mae pawb arall yn ei weld.”

Wrth sôn am ei gasgliad, dywedodd Mr Baines: “Rwy’n hoffi disgrifio fy ngwaith fel dathliad o liw a bywyd. Pan rwy’n edrych allan o’r ffenestr gartref mae pob bore yn wahanol – mae nodwydd gwyrdd tywyll ein ffynidwydden yn cyferbynnu â’r awyr ocr cynnes weithiau ond yn edrych yn hollol wahanol yn erbyn yr awyr las llachar bryd arall, ac mae’r newidiadau yma’n rhan o’r hyn sydd wedi ysbrydoli’r casgliad hwn.

“Mae yna saith darn i gyd, ac mae pob un yn golygu llawer i mi. Dydw i ddim yn un am wobrau fel arfer ond mae adborth aseswyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyffwrdd fy nghalon, ac rwy’n edrych ymlaen i’w gweld yn cael eu harddangos ym Meifod, sef lle mor brydferth ar gyfer yr Åμyl.”

Cafodd Mr Baines ei eni yng Ngharrog ger Corwen, a gadawodd yr Ysgol Ramadeg i Fechgyn yn y Bala yn bymtheg mlwydd oed yn 1948 a mynd i weithio ar fferm y teulu. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i fferm fwy o faint yn Sarn ger Botwnnog yn LlÅ·n ond celf oedd ei wir gariad a dechreuodd fynychu dosbarthiadau nos gydag athro celf brwdfrydig o’r enw DC Roberts.

Roedd Roberts wedi ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan gynhaliwyd hi ym Mhwllheli yn 1955, ac ysbrydolodd ef Mr Baines i fynd i ysgol gelf. Gan rentu ystafelloedd mewn ffermdy lleol a gweithio fel labrwr i gefnogi ei wraig a’i ddau fab ifanc, cwblhaodd Mr Baines gwrs tair blynedd yn Wrecsam. Treuliodd flwyddyn arall yn hyfforddi i fod yn athro yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, cyn symud yn ôl i’r Bala i fod yn athro celf. Aeth yn ei flaen i dreulio 23 mlynedd yn athro celf yn Ysgol y Berwyn, Bala hyd nes yr ymddeolodd yn 1989.

Roedd ei ddisgyblion yn Ysgol y Berwyn yn cynnwys Iwan Bala, a aeth yn ei flaen i ddod yn adnabyddus fel artist, awdur ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bu Bala yn artist preswyl yn yr Oriel Genedlaethol yn Zimbabwe ac yn guradur yn Galeri Caernarfon. Cafodd Bala yntau’r Wobr Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997.

Parhaodd Mr Baines i ddilyn ei gariadatbaentiohaniaetholganymuno â Gweled – Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, a thua diwedd ei yrfa fel athro, agorodd ei stiwdio ei hun yn y Bala. Ar ôl iddo ymddeol, parhaodd i arddangos ei waith mewn sioeau ledled gogledd Cymru a Chaer. Y tro diwethaf iddo arddangosfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd yn 1995 pan gynhaliwyd yr Åμyl yn Abergele.

Dywedodd Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Cymru: “Roedd detholwyr y wobr yn unfryd eu barn y dylid rhoi’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain i Glyn Baines am gasgliad sydd, er ei fod yn haniaethol ei natur, wedi tynnu’n gryf oddi ar brofiad yr artist yn ei amgylchfyd.

“Mae ei waith yn ychwanegiad i’w groesawu i’r arddangosfa celfyddydau gweledol eleni, sy’n cynnwys darnau gan 22 o artistiaid a ddisgrifiwyd yn ‘brydferth, gonest a chyfareddol’ gan y curaduriaid. Mae’r arddangosfa’n ceisio apelio at groestoriad o bobl sy’n caru celf, ac eleni mae’n cynnwys ffilm fywgraffiadol fer am yr artistiaid a ddetholwyd yn ogystal â deunydd deongliadol am eu gwaith. Edrychwn ymlaen i arddangos rhai o’r doniau artistig gorau un yng Nghymru i ymwelwyr dros yr wyth niwrnod.”