Uncategorized

Mae’n rhaid i Gynghorau Sir ystyried effaith polisïau ar yr iaith Gymraeg

Polisi’r Cyngor cynllunio: F flatiau un ystafell, y genhedlaeth nesaf!
Polisi’r Cyngor cynllunio: F flatiau un ystafell, y genhedlaeth nesaf!

DYDY CYNGHORAU sir ddim wedi newid y ffordd maen nhw’n trin y Gymraeg wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio, er gwaethaf newid diweddar i’r gyfraith, yn ôl canlyniadau arolwg gan Gymdeithas yr Iaith.

O’r cynghorau sir a ymatebodd i ymholiad y Gymdeithas ynglŷn â’r ffordd maen nhw’n addasu eu polisïau cynllunio yn sgil pasio Deddf Cynllunio ym mis Mai eleni, nid oedd yr un cyngor bwriadu, nag yn cynllunio i, newid eu hymdriniaeth o’r iaith. Mae’r ddeddf yn gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol i’r system gynllunio am y tro cyntaf erioed, gan roi grym statudol i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith. Bydd rhaid hefyd i’r gyfundrefn yn ei chyfanrwydd hybu datblygu cynaliadwy, sydd yn cynnwys ystyriaeth o anghenion y Gymraeg. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau wneud asesiad o effaith eu cynlluniau datblygu ar yr iaith yn y tymor hir.

Mae canllawiau cynllunio’r Llywodraeth yn nodi bod modd i awdurdodau ail-ystyried eu cynlluniau datblygu os oes newid mawr i bolisi neu ddeddfwriaeth genedlaethol. Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Conwy eu bod yn ystyried “bod y Cynllun Datblygu Lleol eisoes yn bodloni gofynion y Bil Cynllunio o ran y Gymraeg, ac felly mae’n annhebygol y byddai angen adolygiad ar y sail hon”. Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion “nid yw’r rheidrwydd newydd sydd yn y Ddeddf yn peri bod angen adolygu’r CDLl yn gynharach” ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn aros am ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Cyngor Wrecsam bod gyda nhw “Nodyn Canllaw Cynllunio Lleol yn barod o ran cynllunio a’r iaith Gymraeg sydd i’w gael ar ein gwefan sy’n nodi pa wybodaeth rydym ei angen fel rhan o unrhyw ymgais a lle mae’r Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol”.

Daw’r newyddion wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi dogfen polisi ar faes yr Eisteddfod ynghylch sicrhau bod y stoc tai presennol yn cyfrannu at y nod o atal yr allfudiad a chreu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ymysg y siaradwyr yn y lansiad bydd cynrychiolwyr o’r mudiad sy’n ymgyrchu dros hawliau pobl ifanc yng Ngheredigion i dai , ‘Ble ti’n mynd i fyw?’ a chynrychiolydd o Shelter Cymru.

Wrth siarad cyn y lansiad ar y maes, rhybuddiodd Tamsin Davies llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, nad oedd cyrff yn paratoi ar gyfer y newidiadau: “Mae ymatebion y cynghorau yn awgrymu bod dim wedi newid yn sgil y ddeddfwriaeth. Mae angen i’r Llywodraeth a’r cynghorau weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod symud ymlaen i weithredu’r newidiadau pwysig a cafwyd drwy’r ddeddfwriaeth. Mae angen amserlen gan y Llywodraeth o ran dod ag adrannau’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud a’r iaith i rym – ydyn nhw’n bwriadu ei weithredu cyn yr etholiadau fis Mai nesaf? Neu ydyn nhw’n mynd i lusgo eu traed?

“Mae nifer o gynghorau dan yr argraff bod modd iddyn nhw barhau yn yr un ffordd ag o’r blaen, ond dylen nhw fod yn paratoi a phwyso ar y Llywodraeth am arweiniad. Mae’r newid yn y gyfraith yn creu cyfle i gynghorau weithredu’n flaengar o blaid y Gymraeg. Fel mae pethau, mae perygl y bydd y sefyllfa yn arwain at ddryswch a llanast, fel mae profiad yng Ngheredigion yn dangos. Yn syth wedi pasio’r ddeddfwriaeth fe ysgrifennon ni at y Llywodraeth i ofyn beth oedd eu cynlluniau i sicrhau bod cynghorau yn derbyn arweiniad, ond nid oes cynlluniau clir ganddyn nhw i ddiweddaru’r canllawiau.”

Ddechrau Gorffennaf, pleidleisiodd cynghorwyr Ceredigion dros gadw at bolisi sy’n golygu bod angen asesu effaith iaith ar rai datblygiadau unigol nad ydynt yn y Cynllun Datblygu Lleol: polisi sy’n groes i gyngor technegol cenedlaethol ar gynllunio – TAN20. Rhybuddiodd swyddogion y cyngor nad oes sicrwydd bod penderfyniad cyngor i gadw at y polisi yn gyfreithlon.

Ychwanegodd Ms Davies: “Er bod swyddogion Cyngor Ceredigion wedi dweud bod polisi eu cynghorwyr yn mynd yn groes i ganllawiau presennol, TAN20, pe na bai’r Cyngor yn gofyn am asesiad effaith iaith ar ddatblygiadau o’r fath, gallai’r Cyngor fod yn agored i her gyfreithiol oherwydd bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol i ddatblygiad penodol. Felly mae TAN20 a’r ddeddfwriaeth newydd yn gwrthddweud ei gilydd.”

Wrth sôn am alwad y mudiad am Fesur Cartrefi Fforddiadwy i Bawb, ychwanegodd: “Er y dylai’r Gymraeg, yn y pendraw, fod yn fwy o ystyriaeth yn y gyfundrefn gynllunio yn sgil y Ddeddf Cynllunio, os yw’r Gymraeg i ffynnu am y blynyddoedd i ddod, mae angen mynd i’r afael â defnydd o’r stoc tai presennol. Mae’n glir bod costau tai a rhentu yn rhai o’r ffactorau sy’n cyfrannu at allfudo a symudoledd poblogaeth – patrymau sydd, ar y cyfan, yn niweidiol iawn i’r Gymraeg. Felly mae angen ymdrech i wneud y stoc tai’n fwy fforddiadwy.”

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment