Connect with us
Advertisement
Advertisement

Uncategorized

Dirgelwch Dewi Emrys

Published

on

dewi emosSUT DDYN oedd y bardd Dewi Emrys Yr oedd y cwestiwn Gofynnwyd gan y ddrama Dewi Emrys: Cythraul yr Awen ddydd Sul diwethaf ar S4C. Yr oedd y cwestiwn Gofynnwyd gan y ddrama Dewi Emrys: Cythraul yr Awen ddydd Sul diwethaf ar S4C. Mewn rhifyn arbennig o Pethe ar ddydd Mawrth, edrychodd Twm Morys i mewn i leoliad y barddol yn cadeirio enillodd Dewi Emrys 

Galwodd Dewi Emrys (1881- 1952) ei gymeriad yn ‘gerddorfa o gymhlethdod’, ac yn Dewi Emrys: Cythraul yr Awen byddwn yn gweld pam roedd bywyd Dewi mor helbulus. Bydd cyfraniadau gan rai oedd yn adnabod Dewi a chawn glywed eu hargraffiadau nhw o’r bardd oedd yn dod o Gei Newydd yn wreiddiol, ond a symudodd i Sir Benfro pan oedd yn saith oed. Aeth i’r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i’r weinidogaeth. Ar ôl y Rhyfel Mawr, ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o’i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr a oedd erbyn hyn i’w weld yn canu y tu allan i’r eglwysi, a’i gap yn ei ddwylo. Yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi Rhigymau’r Ffordd Fawr. Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar gystadleuaeth Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith gyda’r gerdd a fyddai’n dod yn un o’i weithiau mwya adnabyddus, “Pwllderi”. Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi’r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, a hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe. Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl, 1929 (“Dafydd ap Gwilym”), Llanelli, 1930 (“Y Galilead”), Bangor, 1943 (“Cymylau amser”), a Phen-y-bont ar Ogwr 1948, (“Yr alltud”). Mae sawl Cymro wedi galw’r bardd Dewi Emrys yn arwr ac yn gymeriad rhamantaidd. Ond roedd yn gymeriad dadleuol yn ei gyfnod, ac yn dadlau â sawl un. Ond meddai Emyr Llew am Dewi, “Fe oedd gelyn mwyaf ei hunan.” Un person oedd yn adnabod Dewi orau, oedd ei ferch Dwynwen. Mae Dwynwen bellach wedi newid ei henw i Nina Watkins, ac yn byw yn Ne Lloegr. Dywed fod ei magwraeth wedi bod yn gyfnod anodd iddi hi. “Roedd e’n amser trawmatig iawn i mi, a chefais nifer o brofiadau negyddol.” Dyma’r tro cyntaf i Nina Watkins siarad yn agored am ei thad, ac mae’r hyn mae hi’n ei ddweud yn gwrthddweud y fytholeg ramantaidd am Dewi. Cafodd fywyd lliwgar iawn, treuliodd gyfnod fel gweinidog ac fel cardotyn ar hyd strydoedd Llundain, ac roedd yn ferchetwr o fri. Ond yn ôl Nina, “Doedd e ddim yn dad da iawn.” Mae Dewi Emrys: Cythraul yr Awen yn dramateiddio perthynas Dewi gyda dwy fenyw oedd wedi dylanwadu’n enfawr ar Dewi. Y ddwy oedd Dilys Cadwaladr, mam Nina; ac Eluned Phillips, cyfaill Dewi. Bydd Sharon Morgan yn actio Eluned Phillips, a Judith Humphreys yn chwarae Dilys Cadwaladr. Profiad arbennig i Judith Humphreys oedd actio Dilys Cadwaladr, disgrifia Judith, sydd yn byw ym Mhenygroes yn Nyffryn Nantlle, fywyd a phersonoliaeth Dilys fel un “cymleth.” Dywed Judith iddi hi fwyhau dysgu am elfennau o’r cyfnod, ac am hanes bywyd Dilys a Dewi; “Roedd hi’n gyfle gwych i mi ddysgu am hanes y cyfnod, a hanes bardd mawr o’r cyfnod. Roedd hi’n braf i gael perpectif merch ar y cyfan, ac roedd Dilys yn ferch ddeallus, a chlyfar. Roedd hi hefyd yn fraint i gael y cyfle i bortreadu person oedd a sawl elfen i’w phersonoliaeth. Roedd hi’n berson sensitif, trist, dyrys a chymleth.” Roedd Dilys hefyd yn fardd, a hi oedd y ferch gyntaf i ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1953. Ond roedd ei pherthynas hi a Dewi hefyd yn un cymleth yn ôl Judith; “Roedden nhw’n byw yn dlawd iawn. Roedd Dewi yn berson bregus, ac roedd hi eisiau ei achub o, ac edrych ar ei ôl o, a’i helpu gyda’i ansicrwydd . Roedd hi yn edmygu ei allu a’i ddoniau yn fawr.” Roedd Eluned Phillips hefyd wedi gwirioni ar Dewi Emrys yn ôl Sharon Morgan, sy’n portreadu Eluned yn Dewi Emrys: Cythraul yr Awen. “Dwi’n meddwl ei bod hi a Dewi yn gymeriadau tebyg, fel sgwennwyr a hefyd dau o’dd yn casau culni a rhagfarn y ‘sefydliad. Dwi’n meddwl ei bod hi’n ei edmygu fe fel merch ifanc yr adeg, wedi gwirioni ar y rebel ynddo, ond yna nes ymlaen dwi’n meddwl bod ei perthynas yn fwy cydradd. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n berthynas rhywiol ar unryw adeg” dywed Sharon. Ond roedd portreadu Eluned Phillips, enillodd y goron ddwy waith un waith yn Eisteddfod Genedlaethol Bala yn 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983, yn her yn ôl Sharon Morgan “O’dd e’n her ac yn fraint ymgeisio i bortreadu person goiawn, bydd amryw yn cofio, o’dd yn gymeriad mor unigryw, a hefyd mewn cyfnod penodol, sef y 70au.” Bydd y bardd Twm Morys, yn clywed bod Dewi Emrys yn un o ddau fardd i ennill pedair cadair yn yr Eisteddfod, Dyfed oedd y bardd arall. Oherwydd ei lwyddiant ysgytwol ef, penderfynodd yr Eisteddfod newid y rheol, a dim ond dwy gadair gall prifeirdd Cymru eu hennill bellach. Ond er i Dewi ennill y nifer fwyaf o gadeiriau, ef hefyd oedd y bardd a gollodd y fwyaf o gadeiriau. “Un go flêr oedd Dewi Emrys yn methu dal gafael ar swydd na chartref yn hir, yn cysgu weithiau mewn clawdd ar stryd, ac mi werthodd yr unig goron Eisteddfod yr enillodd o er mwyn talu ei ddyledion” dywed Twm Morys. Yn Eisteddfod Llanelli 1930, enillodd Dewi Emrys gadair yr ŵyl am ei bryddest ‘Y Galilead’. Ond yn gynnar wedi ei fuddugoliaeth aeth y gadair hon ar goll. Ac mae’r un yn wir am gadeiriau ei awdlau buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl (1929), Bangor (1943) a Phen-y-bont ar Ogwr (1948). Bydd taith Twm Morys a’r Cadeiriau Coll yn ei arwain ar hyd Cymru a thu hwnt. O dafarn i ysbyty, o gastell i neuadd ddinesig, aiff ar drywydd cadeiriau Dewi Emrys a nifer o feirdd eraill. Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur: “Bu farw Dewi Emrys yn ysbyty Aberystwyth ar Fedi’r 20fed 1952 a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Ychydig iawn o bobl a welodd yn dda i ddod i’r angladd. Yn wir, roedd y capel yn hanner gwag.” Mae cofeb i hyn mwyaf cythryblus o feirdd yn sefyll ar Pwllderi, o ba le y cymerodd ei ysbrydoliaeth mwyaf

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Uncategorized

Aberaeron: Playing field gains Centenary Field status

Published

on

THE PARK known as Square Field in the centre of Aberaeron has been designated a Centenary Field and named as Cae Canmlwyddiant Ceredigion Centenary Field – Cae Sgwâr / Square Field, Aberaeron.

In gaining the Centenary Field status, the field will be protected in perpetuity to honour the memory of the millions who lost their lives in the First World War. Cae Canmlwyddiant Ceredigion Centenary Field – Cae Sgwâr / Square Field, Aberaeron is the first Centenary Field in Ceredigion.

Ceredigion County Council’s Armed Forces Champion, Councillor Paul Hinge said, “I am delighted that Aberaeron Town Council’s application to dedicate this fantastic green space as a Centenary Field has been accepted by Fields in Trust, and that the County Council was able to support it. It pays an important tribute to those who lost their lives in the First World War, including many young Ceredigion men went to war and didn’t return.

This has been an interesting journey and one that as the Armed Forces Champion and a veteran, I am proud to support.”

A plaque commemorating the status was unveiled by Her Majesty’s Lord Lieutenant of Dyfed, Miss Sara Edwards.

The Mayor of Aberaeron and Local Member, Councillor Elizabeth Evans, said, “Aberaeron residents are rightly proud of Cae Sgwâr’s new status as the designated Centenary Field of Ceredigion, it has a proud history of being the towns recreational field and there isn’t one community in Ceredigion whose children haven’t played on it at some point. It is a fitting commemoration in this hundredth anniversary year of the ending of the First World War and as we remember the past, we also look to the future and Cae Sgwar’s newly protected status in perpetuity as a recreational field, thanks to the Centenary Field Trust.”

A short ceremony was held to unveil the plaque where Miss Edwards, Councillor Hinge and Councillor Evans spoke alongside Ceredigion County Council’s Chairman, Councillor Hag Harris and the Fields in Trust Chairman, Brynmor Williams.

David Lewis, Aberaeron Branch of The Royal British Legion; Miss Elin Jones AM; Councillor Hag Harris, Ceredigion County Council Chairman; Councillor Paul Hinge, Ceredigion County Council Armed Forces Champion; Councillor Elizabeth Evans, Mayor of Aberaeron and Local Member; Miss Sara Edwards, Her Majesty’s Lord Lieutenant of Dyfed; John Lewis, Aberaeron Town Improvement Committee; Carwyn Lloyd-Jones, The Lord Lieutenant’s Cadet; Robin Williams, Fields in Trust; Brynmor Williams, Fields in Trust Chairman; Alun Williams, Ceredigion County Council Corporate Lead Officer for Policy and Performance; Huw Evans, Aberaeron Memorial Hall Committee.

Continue Reading

News

Workshop held on Ceredigion’s economic future

Published

on

A WORKSHOP was held for Elected Members on Thursday, March 8, to discuss Ceredigion’s Economic Future bringing together some of the county’s biggest organisations to share what they had to offer and what partnership working could look like in the future.

With an introduction and background to Growing Mid Wales by Chief Executive of Ceredigion County Council, Eifion Evans, Ceredigion’s Economic Future Members Workshop proceeded to discuss partnership working with the organisations. Aberystwyth University, Qinetiq Group PLC, West Wales Airport Ltd, Thales Group and Volac International Ltd were in attendance talking about future investment opportunities and outlining significant plans in the county for growth.

Councillor Ellen ap Gwynn, Chair of the Growing Mid Wales Partnership and Ceredigion County Council Leader, said: “Holding this workshop and working together with some of the county’s organisations shows the strong position that we are in to develop. I’m looking forward to seeing the exciting developments of Growing Mid Wales in the coming years and particularly so in terms of longer term prospects. The workshop was very important for Members in making them aware of these opportunities and the session was welcomed by all who attended.”

Significant opportunities were recognised as the Mid Wales region starts to develop its response to the Government on the possibilities for a Growth Deal.

Continue Reading

Uncategorized

Council services returning to normal

Published

on

WITH the snow and ice thawing across Ceredigion, Council services are returning to normal after wintry weather, but weather conditions continue to affect some services.

Council workers have recently spread 1,560 tons of grit on the roads and have carried out seven continuous 12 hour shifts. Council vehicles responding to the wintry weather have travelled approximately 10,100 miles. The B4343 has now reopened.

All waste collection teams were deployed today (5 March), however access issues in some locations may impact on the ability to provide a full service. Information on any waste service disruption can be found at http://www.ceredigion.gov.uk/resident/bins-recycling/recycling-bin-collection-dates/waste-disruptions/ or by contacting 01545 572 572.

The Council’s Household Waste sites have reopened. It is likely all waste services will be functioning as usual during the first half of the week.

Councillor Ray Quant MBE, the Cabinet member responsible for Technical Services said, “Council staff have been out in all conditions and every hour throughout the day and night to keep Ceredigion residents safe. The outstanding teamwork and dedication shown during the adverse weather situation is to be highly commended and I’m sure everyone is very grateful for their work. It’s also important to keep in mind that the planning work that was carried out before the weather hit Ceredigion has allowed staff to prioritise and uses resources effectively for maximum impact.”

Ysgol Bro Teifi remains closed today due to water supply disruption. Pupils and staff from Rhos-y-wlad Campus, Ysgol Rhoshelyg will transfer to Llangeitho Campus for a few days due to water leakage. Dihewyd School and Canolfan Aeron sent pupils home due to water supply disruption. Every other school in Ceredigion has reopened after being closed on Thursday and Friday (01 and 02 March 2018) due to wintry weather.

Continue Reading

Popular This Week