Uncategorized

SGADENYN HALLT PENCÂR – dylid gwneud ffilm o fywyd Dewi Emrys

o garreg y fendithRHODDWYD cryn sylw i un o sgadan hallt Shir Bemro dros gyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol. Cafwyd rhaglen deledu gydag elfen o ddrama ynddi, Dewi Emrys: Cythraul yr Awen. A’r bardd a’r pregethwr anwadal oedd testun prif ddarlith y Babell Lên yn Llanelli. Traddodwyd y ddarlith, yn ei ddull dihafal ei hun, gan Emyr Llywelyn o Ffostrasol. Trwy ei dad, y prifardd T. Llew Jones, a’i adnabyddiaeth o feirdd y Cilie, roedd gan Emyr ddarlun cytbwys o Dewi y dyn a’r cymeriad. O ran y rhaglen deledu roedd yn amlwg y dylid fod wedi cynhyrchu ffilm yn hytrach na rhaglen ddogfen rad.

Er y dyfeisgarwch a ddangoswyd trwy ddefnyddio dwy actores i bortreadu’r ddwy ddynes a chwaraeodd ran amlwg ym mywyd Dewi sef Dilys Cadwaladr ac Eluned Phillips, a’r ddyfais o ddefnyddio llais ei ferch, Dwynwen neu Nina Watkins (merch Dilys) fel y geilw ei hun bellach, fel petai’n siarad ar donfedd radio, roedd y cyfan yn sgrechen am gael ei droi’n ffilm. Yn y dwylo iawn gallai’r ffilm fod yr un mor lwyddiannus â chyfres Y Gwyll. Mae’r deunydd crai i gyd yno.

Meddyliwch am ail-greu Pencâr ei blentyndod, y golygfeydd a’r rhamant a esgorodd ar y gerdd ‘Pwllderi’ yn ddiweddarach, a’r tyndra wedyn yn Y Mans yn Rhosycaerau wrth i’w dad ymaflyd â’r iselder ysbryd a’i llethai. Gadawodd y graith honno ei ôl ar Ddewi weddill ei fywyd. Gallai’r penrhyn gryfhau ei apêl i ymwelwyr am resyme na ŵyr llawer o’r tacle sydd yno ddim amdanynt ar hyn o bryd.

Mae ardal Y Borth eisoes wedi elwa wrth i wylwyr Y Gwyll gael eu denu i dreulio eu gwylie yno. Y cwestiwn fydde angen ei ofyn yw pwy fydde’n chware rhan Dewi Emrys James? Bydde’n rhaid wrth grwt i chware ei ran yn yfed cawl â ‘sêrs ar ei wmed’ yn Nolgâr wrth gwrs. Ond y Dewi hŷn wedyn? Wel, beth am Dafydd Hywel? Cyfle iddo chware un rhan gwirioneddol fawr ym machlud ei yrfa. Ond rhaid cofio am Ifan Huw Dafydd wedyn.

Yr actor o Aberteifi oedd yn portreadu cymeriad Dewi debyg ar ei gythlwng ar strydoedd Llunden yn y gyfres deledu Y Palmant Aur. Rhaid peidio ag anghofio am Rhodri Ifan chwaith. Yn sicr, ni ellir gwrthod gwneud ffilm ar y sail nad oes yna actor cymwys ar gael i chwarae rhan y picileryn. Mae Sharon Morgan a Judith Humphreys yn gymwys i chware rhannau’r ddwy ddynes hŷn am iddyn nhw fynd o dan groen y cymeriade yn y rhaglen ddogfen.

Ond a fydde angen rhywun iau i bortreadu Dilys yn nyddie ei charwriaeth â Dewi? Daw enwau Sara Lloyd-Gregory ac Alexandra Roach i’r meddwl. Hwyrach y bydde un ohonyn nhw’n portreadu Mrs Dewi James? Ond jawch beth wdw i’n boddran? Dim ond dyfalu wdw i. Ddaw yna ddim ohoni siawns. Emyr Llywelyn ddywedodd yn y rhaglen deledu mai Dewi oedd ei elyn pennaf ef ei hun. Dyna chi eirda os buodd yna eirda erioed ar gyfer creu prif gymeriad ffilm.

Ac os buodd yna weinidog erioed a syrthiodd oddi ar ras, wel, Dewi oedd hwnnw. Ymddengys nad oedd ganddo drefn ar ei fywyd. Doedd e ddim yn berson ymarferol. Ni fedrai gymryd cyfrifoldeb ohono’i hun. Arall oedd ei athrylith fel yr esboniodd Emyr yn ei ddarlith athrylithgar. Wel, nid pob darlithydd gaiff bum munud o gymeradwyaeth wedi iddo draethu ac roedd hynny ar ben dwy funud dda o gymeradwyaeth cyn iddo ddechre traethu.

Ond, jawch, meddyliwch am yr olygfa yng Ngwesty’r Mackworth yn Abertawe ar achlysur ennill y goron genedlaethol yn 1926? Yr un wythnos enillodd Dewi ar y gerdd dafodiaith ac mae’n rhaid fod ‘Pwllderi’ wedi’i hadrodd ganddo droeon yng nghanol y rhialtwch. Dyna chi olygfa ffilm. Yn ôl cofiant Eluned Phillips iddo roedd ei hen gyfaill, Daniel Rees, y baswr a’r codwr canu yn Rhosycaerau, yno yng nghanol y dathlu. Ond, na, medde rhai o drigolion y fro wrtha i. Fydde Daniel ddim i’w weld yn y fath le ar ei grogi. Oes yna gof gwerin all fwrw goleuni ar y materion hyn o gofio i Dewi farw yn 1952?

About the author

Dayne Stone

Add Comment

Click here to post a comment