Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

UAC yn diolch i’w haelodau hiraf o staff

Published

on

Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones, Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans

Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones,
Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans

CYNHALIODD UNDEB AMAETHWYR CYMRU seremoni wobrwyo arbennig yn ddiweddar er mwyn cydnabod yn gyhoeddus a diolch i’r aelodau hynny o staff sydd wedi rhoi 25 mlynedd a mwy o wasanaeth i’r Undeb.

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae hyn yn wobr newydd sy’n cydnabod ac yn dangos ein gwerthfawrogiad i nifer o aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Undeb ers 25 mlynedd neu’n fwy.

“Dywedir yn aml fod cwmni ond cystal â’i gweithwyr. Mae gan UAC ddigon o staff ardderchog, ymroddedig sy’n parchu’r sefydliad ac sy’n anrhydeddu gwerthoedd yr Undeb.

“Heddiw, rwy’n falch iawn medru cydnabod a gwobrwyo pum aelod o staff sydd wedi bod gyda ni ers 25 mlynedd neu fwy. Rhwng Kate Ellis Evans, Margaret Shepherd, Dai Jones, Huw Jones a Peter Davies, mae yna fwy na 125 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt.

Yr un sydd wedi bod gyda’r Undeb hiraf yw Kate Ellis Evans, a hynny ers 37 mlynedd ar ôl ymuno gyda’r Undeb ym mis Ionawr 1979 fel Swyddog Cyllid.

“Mae Kate yn uchel ei pharch, ac yn aelod o staff effeithiol a chymwys dros ben. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddi am ei ffyddlondeb a’i gwaith gwych,” dywedodd Glyn Roberts.

Yn ogystal â’i gwaith gyda’r Undeb, mae Kate hefyd yn helpu ar y fferm deuluol yn Llanon gyda’i gŵr Ben. Mae’r cwpwl yn cadw oddeutu 700 o ddefaid ac yn rhedeg siop gig yn Llanon, yn ogystal â busnes bythynnod gwyliau.

Ymunodd Margaret Shepherd gyda UAC ym mis Mawrth 1981 ac mae wedi cael ei chyflogi gan yr Undeb ers 35 mlynedd. Dechreuodd Margaret fel Clerc/Teipydd, ac yna ymunodd gyda’r Adran Gyllid.

Yna, dechreuodd Margaret gyda’r gwaith gweinyddol, ac ers nifer fawr o flynyddoedd, hi yw goruchwyliwr y swyddfa. Mae’n briod â Jimmy, postmon o Aberystwyth, ac mi fydd ei mab Bryn, yn dechrau ar ei swydd fel athro yn ysgol gynradd Penllwyn, Capel Bangor ym mis Medi.

“Margaret sy’n gyfrifol am redeg y brif swyddfa yn Aberystwyth ac mae’n gweithio’n agos gydag aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog. Mae Margaret yn aelod o staff gwerthfawr, ardderchog ac yn tu hwnt o gymwys, ac nid wyf yn siŵr beth y byddem yn ei wneud hebddi,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae Dai Jones wedi bod yn gweithio gyda UAC ers 30 mlynedd fel Gweithredydd Cyfrif ar gyfer gogledd Ceredigion, sef yr ardaloedd o’r gogledd o Lanrhystud i Bonterwyd.

Ymunodd â UAC ym mis Rhagfyr 1986, a chyfarfod ei wraig, Elen, yng Nghynhadledd Busnes Flynyddol yr Undeb. Ar y pryd, roedd Elen yn Swyddog Ardal UAC yng Nghaernarfon.

Mae’r cwpwl yn rhedeg tyddyn 25 erw ac yn cadw oddeutu 60 o ddefaid. Mae’r ferch, Manon, yn gyfreithwraig dan hyfforddiant gyda Chyfreithwyr Arnold Davies a Vincent Evans a’r mab yn Llanbedr Pont Steffan ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r mab, Dewi, newydd gwblhau ei ail flwyddyn yn astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi fydd yn treulio blwyddyn o brofiad gwaith gyda Menter a Busnes cyn dychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau ei astudiaethau cyn graddio ac ennill gradd yn amaethyddiaeth.

Dechreuodd Huw Jones fel ysgrifennydd sirol ym 1988 yn y swyddfa yn Nolgellau. Mae’n briod â Eirian, ac mae ganddynt ddwy ferch sef Glesni a Mererid.

Graddiodd Huw o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes. Yn wreiddiol, ymunodd a Banc Barclays a bu gyda’r banc am bedair blynedd a hanner yn gweithio yng nghangen Llanllieni cyn ymuno gyda UAC.

“Mae Huw wedi gweithio’n ddiflino a diolchwn iddo heddiw am ei holl waith caled. Mae’n uchel iawn ei barch ac yn aelod gwych o staff ac yn rhoi gwasanaeth rhagorol i aelodau. Nid oes amheuaeth ei fod bob amser yn sicrhau bod yr Undeb yn weithgar ac yn amlwg yn y gymuned amaethyddol ym Meirionnydd.

“O drefnu digwyddiadau megis y brecwastau o fewn ei sir, mae Huw hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian arall megis, Her y Tri Chopa a cherdded Llwybr Arfordir Cymru,” dywedodd Glyn Roberts.

Dechreuodd Peter Davies fel Swyddog Gweithredol Sirol gyda’r Undeb yng Nghaerfyrddin ym 1991 ac yna cafodd ei benodi fel Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth ym 2006. Derbyniodd Peter yr MBE fel rhan o restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1996. Mae’n briod â Barbara ac mae ganddynt 3 o blant sef Michael, Robert a Kate.

Mae wedi bod yn gyfrifol am nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ar ran yr Undeb. Mae’r rhain yn cynnwys trefnu brecwastau Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, Tŷ’r Arglwyddi ac yn y senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, cinio noson cyn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin, ac arwain tarw Du Cymreig o amgylch Parc y Scarlets er mwyn hyrwyddo ansawdd cig eidion Cymreig cyn gem y Scarlets yn erbyn tîm o Ffrainc yng Nghwpan Ewropeaidd Heineken.

Peter hefyd oedd yn gyfrifol am dair gwobr newydd sydd bellach yn cael eu cydnabod fel digwyddiadau urddasol yn y calendr amaethyddol. Cyflwynir y gwobrau i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghymru; gwasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, a gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghaerfyrddin.

Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau yn sir Gaerfyrddin, gan gynnwys protest yn erbyn mewnforion cig eidion o Frasil. Hefyd, arweiniodd Peter brotestiadau yn erbyn y fyddin yn defnyddio tir amaethyddol lleol at ddefnydd hyfforddi er mwyn dangos yr angerdd yn erbyn gwahardd hela gyda chŵn.

Tu allan i amaethyddiaeth, mae ganddo brofiad helaeth o sefydliadau arall. Bu Peter yn Gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin am 12 mlynedd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Ymddiriedolaeth am bron iawn yr holl amser yna.

Gwasanaethodd fel aelod o fwrdd S4C ac mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas Tai Cantref ac Antur Teifi.

“Mae Peter wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus gyda ni yma yn UAC – a gobeithio bydd hyn yn parhau am flynyddoedd eto i ddod. Rydym yn gwerthfawrogi ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad. Ar ran yr Undeb, rwy’n diolch iddo am ei gyfraniadau a’i waith gwych,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Addunedau diogelwch cymunedol wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Aberystwyth

Published

on

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio pump ‘adduned gymunedol’ fel rhan o’i chynlluniau i sicrhau diogelwch myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach wrth iddi baratoi i groesawu myfyrwyr yn ôl yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae addunedau’r Brifysgol yn nodi pum pwynt i fyfyrwyr, staff a chymuned ehangach y dref. Y pum pwynt yw:

Cadw arferion glendid da – golchi’n dwylo’n rheolaidd
Cadw’n pellter – dilyn y canllawiau
Gwybod pwy sy’n gwmni i ni – mae profi ac olrhain cysylltiadau yn achub bywydau
Gwarchod y rhai sydd o’n cwmpas – gwisgo gorchudd wyneb os gofynnir i ni
Parchu’n gilydd – bod yn garedig

Daw’r addunedau ar ben mesurau diogelwch cynhwysfawr mae’r Brifysgol eisoes wedi eu cyflwyno.

Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno systemau un ffordd, newid cynllun ystafelloedd dosbarth ac arwyddion, yn ogystal â threfniadau glanhau a hylendid gwell gan gynnwys darparu gorsafoedd hylif diheintio dwylo a glanhau rheolaidd o arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.

Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi ail-strwythuro’i hamserlen ddysgu er mwyn cefnogi ymbellhau cymdeithasol, ac olrhain cysylltiadau mewn cydweithrediad â’r cyngor a’r bwrdd iechyd lleol, ac yn disgwyl i holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr wisgo gorchudd wyneb tra dan do ar holl safleoedd y Brifysgol.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure: “Wrth i ni ddod â dysgu yn ôl i’r campws ym mis Medi, ein blaenoriaeth yw sicrhau lles a diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers sawl mis i addasu ein campws a’n gweithgareddau yn sgil y pandemig byd-eang. Mae’r mesurau cynhwysfawr yn cynnwys glanhau ychwanegol, sicrhau ymbellhau cymdeithasol, olrhain cysylltiadau a disgwyl i bawb wisgo gorchudd wyneb dan do ar safleoedd y Brifysgol. Cyflwynwyd yr addasiadau wedi i ni gynnal rhaglen eang o asesiadau risg er mwyn adnabod a lliniaru risgiau.

“Mae’r trefniadau manwl hyn wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr ynghyd â thrafodaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws y DU. Ers dechrau’r pandemig presennol, mae diogelwch wedi bod ar flaen ein meddylia a bydd yn parhau felly am y flwyddyn academaidd newydd.”

Mae’r ymrwymiadau newydd wedi cael eu cefnogi gan Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr, a Maer Aberystwyth.

Dywedodd Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod trefniadau ar waith i groesawu myfyrwyr yn ôl i’r Sir yn ddiogel. Rydym yn cefnogi’r amrywiaeth o fesurau diogelwch y mae Prifysgol Aberystwyth wedi’u rhoi ar waith yn ogystal â’r ‘addewidion cymunedol’ er mwyn i’r myfyrwyr ddychwelyd a dod yn rhan o’r gymuned yn Aberystwyth unwaith eto. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd nesaf i sicrhau diogelwch y myfyrwyr a diogelwch y gymuned leol.”

Ategodd Charlie Kingsbury, Maer Tref Aberystwyth: “Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r gwaith caled mae’r Brifysgol wedi’i wneud i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i Aberystwyth. Mae mesurau synhwyrol, sydd yn ymwybodol o risg yn hanfodol wrth i ni groesawu myfyrwyr yn ôl, ac mae gen i bob hyder yn ymrwymiad y Brifysgol i gefnogi iechyd cymuned Aberystwyth.”

Dywedodd Nate Pidcock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; “Mae’r ymrwymiadau hyn yn rhan bwysig o becyn o addasiadau sydd yn cael eu gwneud yn sgil y pandemig. Gyda myfyrwyr yn dychwelyd yn raddol i’r campws, mae’r newidiadau hyn yn mynd i fod yn rhywbeth newydd i bawb. Rydyn ni’n mynd i wneud ein gorau glas, ochr yn ochr â phartneriaid eraill, i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r normal newydd hwn. Rydyn ni i gyd yn mynd i wneud popeth y gallwn ni i weithio gyda’n gilydd er mwyn diogelu holl bobl a chymunedau Aberystwyth a Cheredigion.”

Ers dechrau’r pandemig mae’r Brifysgol wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol er mwyn cadw nifer yr achosion o’r haint yn isel yng Ngheredigion, gan gynnwys darparu adnoddau i’r bwrdd iechyd lleol a chyflenwi offer diogelwch personol. Mae’r Brifysgol wedi cynllunio ar gyfer dychweliad graddol myfyrwyr y mis hwn, gan gynnwys darpariaeth arbennig ar gyfer myfyrwyr sydd angen hunan-ynysu unwaith y byddant wedi cyrraedd Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Amgueddfa Ceredigion yn derbyn grant Art Fund ar gyfer arddangosfa Cwiltiau Cymreig: Edau Bywyd

Published

on

Diolch i grant ‘Ymateb ac Ailddychmygu’ yr Art Fund, bydd cwilt digidol arloesol yn cael ei greu ar gyfer arddangosfa gwiltiau a fydd yn croesawu ymwelwyr yn ôl i Amgueddfa Ceredigion. Y cwilt fydd yr arddangosyn cyntaf a fydd ar gael yn ddigidol ar gyfer ymwelwyr sydd ddim yn gallu dod i’r Amgueddfa yn gorfforol.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: “Mae’r amgueddfa wrth ei bodd yn derbyn y grant hwn. Bydd y cwilt digidol yn cofnodi profiadau pobl Ceredigion yn ystod pandemig COVID-19. Hefyd bydd y prosiect yn rhoi cyfle inni ymgynghori â chymunedau ynghylch y ffordd orau o’u gwasanaethu o hyn ymlaen wrth inni ddysgu i fyw gyda’r mesurau a gyflwynwyd i reoli’r haint.”

Bydd yr amgueddfa yn creu dau gwilt ar gyfer yr arddangosfa, y naill yn ffisegol a’r llall yn ddigidol. Gofynnwyd i’r rheiny sydd am gyfrannu anfon ffotograffau, darnau sain, ffilmiau, cerddi neu ddarluniau er mwyn gwneud y cwilt digidol gan esbonio pam eu bod wedi anfon y cyfraniad, beth mae’n ei olygu iddyn nhw a beth yw’r stori y tu ôl iddo. Bydd artist yn gweithio gyda chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd i sicrhau eu bod yn cael llais hefyd.

Anfonodd Rose Thorn ffotograffau o gwilt i gyd-fynd â’r cwilt digidol. Dywedodd: “Mae haenau o ystyr yn perthyn i’r dyluniad hwn i mi. Mae’r triongl canolog yn nodi’r fasnach gaethwasiaeth sy’n rhan o hanes fy nghyndeidiau. Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (BLM) wedi ysgogi llawer o bobl dduon i sôn am eu profiadau o hiliaeth yma yn y Deyrnas Unedig. Es ar yr orymdaith yn Aberteifi gyda fy mhartner, Marie Lewis; roedd 150 o bobl yno, a oedd yn galonogol, ond mae llawer o bethau sydd angen eu newid… Mae’r cyfnod clo wedi gwneud imi fyw yn y presennol, wedi fy nghysylltu â’m gorffennol ac wedi gwneud imi feddwl sut yr wyf am fyw yn y dyfodol.”

Bydd proses yr arddangosfa yn ystyried y gwerthoedd yr hoffem eu gadael yn y gorffennol a’r rhai yr hoffem eu cymryd i’n dyfodol newydd, gan godi cwestiynau ymhlith y sawl sy’n cyfrannu a’r ymwelwyr, a hwyluso trafodaeth rhwng gwahanol gymunedau.

Mae’r Amgueddfa yn dal i gasglu cyfraniadau i’r ddau gwilt; y dyddiad cau ar gyfer y clytiau cwilt ffisegol yw’r ail o Hydref a’r dyddiad cau ar gyfer y cwilt digidol yw 27 Tachwedd. Mae’r Amgueddfa am i’r cwiltiau adlewyrchu amrywiaeth eang o brofiadau, yn rhai cadarnhaol a heriol, ledled Ceredigion – o’r rheiny sy’n gweithio ar y rheng flaen i’r rhai sy’n gweithio gartref, o’r rheiny sy’n dysgu sgiliau newydd, i rieni a drodd yn athrawon yn y cartref, o’r cenedlaethau hŷn a ddaeth ynghyd ar-lein i’r bobl ifanc fu’n partïo ar-lein. Gallwch anfon lleisiau, fideos, ffotograffau, barddoniaeth, darluniau, seinweddau, caneuon ac ati at carrie.canham@ceredigion.gov.uk

Mae grantiau ‘Ymateb ac Ailddychmygu’ yr Art Fund yn cynnig arian hyblyg ac ymatebol i fynd i’r afael â’r heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig ag argyfwng Covid-19 ac i ailddychmygu ffyrdd o weithio at y dyfodol. Yn y rownd gyntaf rhoddwyd 18 o grantiau o blith cyfanswm o 114 o geisiadau. Mae’r grantiau, a ddatblygwyd drwy ymgynghori ag amgueddfeydd ac orielau, yn cwrdd ag anghenion mewn pedwar maes blaenoriaeth sef casgliadau, cynulleidfaoedd, maes digidol a gweithlu. Hefyd gallant gefnogi costau sydd ynghlwm ag ailagor, yn ogystal ag ysgogi prosiectau creadigol ac arloesol wrth i sefydliadau geisio ailagor ar sail modelau gweithredu gwahanol iawn.

Bydd grantiau Ymateb ac Ailddychmygu yn darparu £1.5m yn 2020 i gefnogi amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, llyfrgelloedd ac archifdai, yn ogystal â sefydliadau celfyddydol gweledol nad ydynt wedi’u seilio ar leoliad. Mae’n rhan o becyn cyllid Art Fund gwerth £2m i gefnogi amgueddfeydd drwy’r argyfwng. Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o grantiau Ymateb ac Ailddychmygu yw 17 Awst 2020, a bydd rownd arall, derfynol yn cael ei chynnal yn yr hydref.

Continue Reading

Cymraeg

Atgoffir busnesau lletygarwch Ceredigion o fesurau diogelwch Llywodraeth Cymru

Published

on

Atgoffir bariau, caffis a bwytai yng Ngheredigion nad yw rheolau’r cyfnod clo yn caniatáu i bobl o wahanol aelwydydd estynedig neu ‘swigod cymdeithasol’ gwrdd â’i gilydd er mwyn yfed neu fwyta y tu mewn i’w safleoedd.

Gall pobl o wahanol swigod cymdeithasol gwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored, ond dylent gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran cadw pellter cymdeithasol ac aros 2 fetr ar wahân. Mae’n ofynnol i fusnesau barhau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl o wahanol swigod cymdeithasol yn cynnal pellter o 2 fetr, gan gynnwys yn yr awyr agored.

Dim ond am nifer cyfyngedig o resymau y mae’r gyfraith yn caniatáu i bobl o wahanol swigod cymdeithasol gwrdd dan do i wneud rhywbeth gyda’i gilydd. Mae’r rhesymau hyn yn cynnwys gwaith, derbyn cymorth meddygol, gofal plant, a mynychu priodasau, angladdau, neu fannau addoli.

Nid yw’r cyfyngiadau o ran cwrdd dan do yn berthnasol i aelodau o’r un aelwyd, eu gofalwyr, ac aelwydydd estynedig sy’n rhan o’u ‘swigen gymdeithasol’.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar fusnesau o hyd i ddarparu gwybodaeth i’r rheini ar eu safle ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu arwyddion i’w defnyddio dan do ac yn yr awyr agored y gall busnesau eu defnyddio i atgoffa cwsmeriaid o’r cyfyngiadau sy’n parhau o ran cwrdd ag eraill dan do. Gwahoddir bariau, caffis a bwytai i ddefnyddio’r arwyddion hyn neu eu hysbysiadau tebyg eu hunain.

Mae busnesau Ceredigion wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y sir yn aros yn ddiogel wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio. Fodd bynnag, gellir cyflwyno hysbysiad cau neu hysbysiad gwella i safleoedd os yw swyddogion gorfodi o’r farn bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Continue Reading

Popular This Week