Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cyngor Sir Ceredigion yn ôl ar y brig ar gyfer ailgylchu a charbon

Published

on

screen-shot-2016-09-12-at-12-16-43YN YSTOD 2015/2016 ailgylchodd Ceredigion fwy o wastraff nag erioed o’r blaen. 

58% oedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer y 12 mis hyd ddiwedd mis Mawrth 2016.

Llwyddodd Cymru gyfan i ailgylchu 60%, ond Ceredigion a ddaeth i’r brig gyda ffigur gwych o 68% (2% yn unig o dan darged 2025).

Esboniodd Huw Morgan, Cyfarwyddwr Strategol y Cymunedau Cynaliadwy fod yna nifer o resymau dros berfformiad mor wych.

Un ohonynt yw parodrwydd y trigolion i gymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu y mae’r Cyngor Sir yn ei ddarparu. Mae Ceredigion yn darparu sachau plastig clir ar gyfer ailgylchu amrywiaeth fawr o ddeunyddiau. “Mae’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n boblogaidd gan y trigolion. Mae ein data’n awgrymu bod 98% o’r tai sydd yng Ngheredigion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu o leiaf rhan o’r amser, sy’n dipyn o gamp” meddai..

Rheswm arall sydd wedi helpu Ceredigion wneud hyn yw’r newid yn y ffordd y mae’r Cyngor yn delio â gwastraff gweddillol (y sachau duon) ar ôl eu casglu o dai pobol. Yn y gorffennol roedd y gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at safleoedd tirlenwi. Yn ddiweddar mae Ceredigion wedi bod yn cydweithio â Chyngor Sir Benfro, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff gweddillol yn cael ei ddanfon at orsaf bŵer yn Sweden. Yn yr orsaf bŵer, mae’r gwastraff gweddillol yn cael ei losgi er mwyn cynhyrchu gwres a thrydan. Mae’r lludw sy’n cael ei gynhyrchu yn sgil y broses yn cael ei ailgylchu ac mae hynny wedi ychwanegu at berfformiad ailgylchu Ceredigion. Nid oes nwyon gwenwynig yn cael eu rhyddhau i’r awyr yn y broses yma, ac mae’r orsaf bŵer yn un o’r rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop gyfan; mae delio â’r gwastraff na ellir ei ailgylchu trwy’r dull yma’n well i’r amgylchedd na thirlenwi.

Mae’r Cyngor hyd yn oed yn ailgylchu’r ysgubiadau y mae’n eu casglu yn ymyl y ffordd ac mae hynny wedi gwella perfformiad Cyngor Sir Ceredigion lle mae ailgylchu yn y cwestiwn yn ddirfawr yn ystod 2015/2016.

Nid yn unig mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni’n dda i’r Sir, mae hefyd yn llesol i’r blaned gyfan. Mae ailgylchu’n lleihau allyriadau’r nwyon tŷ gwydr oherwydd mae’n golygu nad yw’r gwastraff yn pydru mewn safleoedd tirlenwi nac yn cael ei losgi mewn llosgwr – mae hefyd yn lleihau’r angen i gloddio am y deunyddiau crai o grombil y ddaear a’r holl ynni sydd ei angen i wneud hynny. Cyhoeddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion wedi cyrraedd y brig yn y Mynegai Ailgylchu Carbon blynyddol. Mae tabl y cynghrair, sy’n cael ei baratoi gan gwmni Ymchwil ac Ymgynghori Eunomia, yn cyfrifo cyfanswm yr allyriannau carbon deuocsid sydd wedi eu harbed o ganlyniad i ymdrechion y trigolion lleol i ailgylchu.

Arbedodd gwasanaeth ailgylchu’r cyngor 104kg o Garbon Deuocsid i bob person yn yr ardal, a dyma’r gwasanaeth mwyaf effeithiol o ran lleihau allyriadau carbon trwy Gymru gyfan – er ei bod yn gystadleuaeth glos iawn ac enillwyr llynedd, Powys, yn dynn ar ein sodlau, gydag 1kg y person yn llai. Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr aelod portffolio ar gyfer Gwastraff: “Rydym yn falch iawn o’r hyn y mae’r trigolion lleol wedi ein helpu ni gyflawni, ac mae’n wych bod ar y brig ar gyfer ailgylchu a’r Mynegai Carbon. Mae’r canlyniad yn dangos bod ymroddiad y trigolion ddidoli eu sbwriel yn talu ei ffordd o ran arbed carbon”.

Ond nid yw’r Cyngor yn gorffwys ar ei fri. Esboniodd Huw Morgan: “Roedd perfformiad llynedd yn wych ond nid da lle gellir gwell. Fel Cyngor bach gwledig, rydym weithiau yn ei chael hi’n anodd darparu’r gwasanaethau y mae’r trigolion yn eu disgwyl ac yn eu haeddu. Rydym yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth gwastraff ac i wneud hynny bydd angen ymdrech ar ran y staff, y contractwyr a’r trigolion fel ei gilydd. Bydd angen inni fod yn fwy hyblyg yn y dyfodol er mwyn gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd gennym. Rydym yn chwilio am gyfleoedd newydd i ailgylchu mwy ac i leihau’r costau ar bob adeg. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n wedi ein helpu ni gyrraedd y brig ac i barhau â’r gwaith da fel y bydd modd i ni ailgylchu mwy byth y flwyddyn yma”.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Published

on

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Cymraeg

Mae treth newydd yn cefnogi prosiectau amgylcheddol

Published

on

MAE PROSIECTAU, fel gwelliannau i fannau gwyrdd lleol, ardal addysgol awyr agored i blant a rhaglenni cadwraeth i ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion prin, ar fin elwa ar fwy na £1miliwn oddi wrth Gynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) Llywodraeth Cymru.

Rhaglen ariannu newydd yw’r cynllun sy’n cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Bydd grantiau’n cael eu rhoi i gyfanswm o 27 o brosiectau ledled Cymru yn rownd ariannu gyntaf y cynllun.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru greu’r cynllun i gefnogi cymunedau lleol a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd y mae safleoedd tirlenwi wedi effeithio arnyn nhw. Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) newydd Cymru, a gymerodd le Treth Tirlenwi’r DU ym mis Ebrill 2018, fydd yn talu amdano.

Mae’r LDT yn dreth ar yr hyn y ceir gwared arno mewn safleoedd tirlenwi a chaiff ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff.

Dyma’r tro i cyntaf i arian o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei ddefnyddio i gefnogi cynllun ariannu penodol Gymreig.

Bydd hyd at £50,000 yr un ar gael i helpu prosiectau llwyddiannus sy’n ymdrin â’r amgylchedd, natur, ailddefnyddio, bioamrywiaeth a rheoli gwastraff.

Dyma rai o’r prosiectau fydd yn cael arian:
Pembrokeshire Remakery – £49,900 i helpu prosiect cymunedol sy’n ailaddysgu’r gymuned sut i atgyweirio a thrwsio a chyfrannu at leihau’r gwastraff sy’n mynd i domennydd sbwriel.

Canolfan Teuluoedd y Betws, Sir Gaerfyrddin – £8,000 i brosiect i wella safle awyr agored lle gall rheini a’u plant ddysgu sut i arddio, tyfu eu bwyd eu hunain a gwneud mwy o weithgarwch corfforol.

Ysgol y Lawnt, Caerffili – £10,600 i gefnogi prosiect i weddnewid tir yr ysgol o fod yn goedlan brysgwydd wyllt a segur yn safle ar gyfer gweithgareddau ac addysg awyr agored fydd yn gwella lles disgyblion a bioamrywiaeth.

Menter Môn – £49,900 i gefnogi prosiect sy’n mynd i’r afael â’r minc ar Ynys Môn a’i fygythiad i fioamrywiaeth yr ynys. O wneud dim, gallai’r ysglyfaethwr estron hwn ddifa llygod y dŵr a rhydyddion yr ynys.

Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn y Gogledd – £49,900 ar gyfer prosiect sy’n gweithio gyda chymunedau lleol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr newydd i helpu’r boblogaeth o felaod i ymadfer ac i oroesi yn y tymor hir.

Mae ceisiadau ar gyfer yr ail rownd ariannu newydd gau. Ond caiff dwy rownd ariannu eu cynnal bob blwyddyn. Roedd yr ail rownd ariannu’n gwahodd prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol sy’n costio rhwng £50,000 a £250,000 i ymgeisio.

Roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn uchel ei chlod o’r cynllun a dywedodd y byddai’n arwain at nifer o fuddiannau amgylcheddol ehangach: “Rwy wrth fy modd bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi helpu 27 o brosiectau gyda rhagor na £1miliwn trwy Gynllun Cymunedol newydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

“Daw’r prosiectau hyn â manteision mawr i gymunedau, yr amgylchedd a natur a bydd eu heffaith yn para am genedlaethau.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: “Gyda heriau Brexit ar ein gwarthaf, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ariannu prosiectau ymarferol sy’n dod â budd i’r bobl.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n gwneud cais yn y rownd nesaf.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA: “Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynrychioli amrywiaeth gyffrous o brosiectau o bob rhan o’r wlad. O weithredu i wella cyfleusterau cymunedol lleol, gwella’r amgylchedd naturiol a lleihau gwastraff, caiff y prosiectau hyn effaith ardderchog yng Nghymru.

“Gwnaeth y rownd gyntaf ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac mae WCVA yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i roi’r cynllun hwn ar waith.”

Continue Reading

Cymraeg

Brecwastau FUW wedi codi bron £15,000 i elusen

Published

on

MAE WYTHNOS Brecwast Ffermdy blynyddol FUW wedi codi mwy nag ymwybyddiaeth o’r bwyd gwych sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr trwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod yr wythnos (21-27 Ionawr) cynhaliwyd dros 27 o frecwastau ledled Cymru, sydd wedi codi bron £15,000 ar gyfer apêl elusen Llywydd yr FUW.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd FUW: “Mae ein staff, aelodau a’r gwirfoddolwyr gwych wedi gwneud gwaith anhygoel unwaith eto eleni. Bydd yr arian sydd wedi cael ei godi yn mynd i’n hachosion elusennol – Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r FCN – ac mae bron £35,000 yn y gronfa hon hyd yn hyn.

“Mae cymunedau ffermio yn gymunedau clos ac mae hyn yn brawf o beth y gellir ei gyflawni pan pawb yn dod at ei gilydd, ac yn rhannu’r un nod gyffredin. Drwy’r digwyddiadau hyn, rydym wedi eistedd o amgylch bwrdd y gegin i siarad, rhannu ein syniadau am #AmaethAmByth, ac wedi cryfhau cysylltiadau cyfredol, yn ogystal â sefydlu rhai newydd.

“Bydd yr arian a godwyd yn ein cymunedau gwledig yn mynd tuag at helpu eraill yn ein cymunedau – ni ddylem byth anghofio mai pobl sy’n ffurfio ein cymunedau a bod modd cyflawni pethau anhygoel”.

Continue Reading

Popular This Week