Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cantores yn ‘class act’ yn Llais Llwyfan Llanbed

Published

on

screen-shot-2016-09-12-at-12-30-26DAETH cynulleidfa deilwng ynghyd i neuadd Ysgol Bro Pedr nos Sul, Awst 28ain ar gyfer rownd derfynol Llais Llwyfan Llanbed 2016, cystadleuaeth i gantorion ifanc dan 30 oed sy’n rhan o benwythnos Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen. 

Cynhaliwyd y rhagbrawf yn y prynhawn a dewiswyd pump o gantorion i ganu yn yr hwyr.

Y beirniaid eleni oedd Brian Hughes, cyfansoddwr poblogaidd ac athro canu llwyddiannus o Rosllannerchrugog, (a fu hefyd yn beirniadu yn 2007 pan gipiodd y soprano o Fethania, Gwawr Edwards y wobr), a Iona Jones Caerdydd, athrawes llais ac enillydd Gwobr Goffa David Ellis yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000. Bu hithau hefyd yn beirniadu’r gystadleuaeth yn y gorffennol a hynny yn 2011 pan gipiwyd y wobr gan Mari Wyn Williams, Llanberis. Dwy soprano yn dod i’r brig gyda’r beirniad yn 2007 a 2011 – oedd hynny’n awgrymu rhywbeth am 2016?

Sefydlwyd y gystadleuaeth yma yn 1993 a’r enillydd y flwyddyn honno oedd y tenor o Bencader, Aled Hall. Mae Aled erbyn hyn yn enw cyfarwydd a phoblogaidd ar lwyfannau opera Prydain gan cynnwys cyfnodau yn CoventGarden gyda’r Cwmni Opera Brenhinol, Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Holland Park ac Opera North eleni. Bu Jeannette Massochi yn cyfeilio i’r gystadleuaeth o’r flwyddyn gyntaf hynny ac unwaith eto eleni disgrifiwyd ei chyfraniad i lwyddiant y gystadleuaeth fel un hollol amhrisiadwy.

Yn unol â gofynion y gystadleuaeth roedd angen i’r cantorion berfformio rhaglen amrywiol heb fod yn hwy na 20 munud gan gynnwys un gân gan gyfansoddwr Cymreig i’w chanu yn Gymraeg.

Elen Roberts o Lithfaen agorodd y cystadlu. Ar ôl gadael Ysgol Glan y Môr, Pwllheli aeth Elen ymlaen i astudiocerddoriaeth ym Mhrifysgol Durham gan raddio llynedd. Bydd yn cychwyn ar gwrs ôl radd yn yr Academi Gerdd Brenhinol yn Llundain fis nesaf.

Ffion Haf o Dryslwyn ger Llandeilo a chyfreithwraig yn Abertawe, ddaeth i’r llwyfan nesaf. Mae Ffion yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Eisteddfod Llanbed a hi gipiodd y Rhuban Glas i gantorion dros 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod llynedd.

Ar twitter, fel ‘Cymro balch o Sir Gâr’ mae’r tenor o Gaerfyrddin, Gethin Lewis, yr unig bachgen yn y gystadleuaeth, yn disgrifio’i hunan. Pan yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, profodd Gethin tipyn o lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd ac ar ôl gadael yr ysgol aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Cerddoriaeth a Drama’r Guildhall yn Llundain. Yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ddechrau’r mis enillodd Gethin Ysgoloriaeth Goffa David Lloyd i’r tenor mwyaf disglair yn y cystadlaethau lleisiol dan 25 oed.

Soprano o Geredigion oedd y nesaf i gystadlu, er bod Catrin Woodruff, sy’n wreiddiol o Lanrhystud ac yn gynddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn byw yn Sussex erbyn hyn. Astudiodd Catrin gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caer Efrog cyn symud ymlaen i’r Coleg Cerddoriaeth Brenhinol ym Manceinion gan ennill gradd Meistr ddwy flynedd yn ôl.

Fel i Gethin, bu Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn un llwyddiannus i unawdydd olaf y noson hefyd, sef Heulen Cynfal o’r Parc ger Y Bala, lle’r enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd soprano dan 25 oed. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Berwyn ac Ysgol Gerddoriaeth Cheetham’s, Manceinion, aeth Heulen ymlaen i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Gerddoriaeth Brenhinol yn Llundain lle mae erbyn hyn yn dilyn cwrs Meistr ôl radd.

Wedi dwy awr o gystadlu brwd ac egwyl fer er mwyn i’r beirniaid gael cyfle i drafod daeth y ddau yn ôl i’r neuadd i draddodi’r feirniadaeth. Canmolwyd lleisiau rhagorol y cantorion, eu techneg, y rhaglenni amrywiol a’u gallu i ganu mewn amrywiol arddulliau a ieithoedd. Yn ei sylwadau fe wnaeth Brian Hughes hefyd longyfarch pwyllgor yr eisteddfod am barhau i gynnal y gystadleuaeth, un yn ei eiriau ef “sy’n bwysig iawn i’r cantorion ifanc ac yn un y mae nifer o gantorion yn anelu i’w ennill oherwydd ei statws uchel”.

Yn dilyn hyn cyhoeddwyd y canlyniad fel hyn –

  • 1af Catrin Woodruff (yn ennill £1000 yn rhoddedig gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen a Thlws gwydr hardd yn rhoddedig gan Yr Athro Densil a Mrs Ann Morgan)
  • 2il Gethin Lewis (£500 Cyngor Sir Ceredigion)
  • 3ydd Heulen Cynfal (£300 Cyngor Tref Llanbed’)
  • 4ydd Elen Roberts (£200 Las Recycling Ltd/LAS PropertyWales)
  • 5ed Ffion Haf (£100 Cyfri Cyf, Llanbed’)

Yn ystod y noson hefyd cyhoeddodd Twynog Davies (Cadeirydd Pwyllgor Cerddoriaeth yr Eisteddfod) mai Godfrey Williams, Froncysyllte oedd wedi dod i’r brig eleni am gyfansoddi tôn i emyn Dai Rees Davies, ‘Estyn Llaw’, a chafwyd perfformiad o’r emyn-dôn fuddugol gan Lowri Elen gyda Delyth Medi yn cyfeilio iddi.

Rydych yn gallu i ddarllen mwy am y newyddion sy’n bwysig i chi yn y rhifyn diweddaraf o Clonc, sydd ar werth nawr.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Community

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd Aberystwyth

Published

on

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 30 Medi).
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rhan ganolog o’r safle newydd yw Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychu ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref a gwasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’ i gynllunio a gofal acíwt.
Mae’r offer addysgu newydd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi heneiddio a modelau dynol sy’n efelychu ystod eang o gyflyrau iechyd.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi.
Disgwylir y bydd y datblygiadau newydd yn hwb mawr i ymdrechion i gadw a recriwtio staff i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: “Rwy’n falch iawn o agor y ganolfan newydd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gydweithrediad ardderchog rhwng y byrddau iechyd a’r Brifysgol a bydd yn hwb o ran recriwtio nyrsys yn yr ardal yma.
“Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn helpu i gyflawni ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, fel y nodir yn ein strategaeth Mwy na Geiriau.”
Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd a gychwynnodd eleni y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure:
“Anrhydedd fawr yw cael y Gweinidog yn ymweld i agor y Ganolfan, sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i’r Canolbarth. Rwy’n ffyddiog bydd hyn yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect. Hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru“
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr bydd y Ganolfan newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Dyma ni heddiw yn gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Continue Reading

Cymraeg

Cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron

Published

on

Mae Ysgol Ciliau Parc yn un o'r ysgolion y bwriedir iddi gau

YN 2019, ymatebodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n caffael tir ar gyfer yr ysgol ardal newydd, a gall gadarnhau bod tir wedi’i brynu at y diben hwn yn y lleoliad isod.

Ysgol Ardan Dyffryn Aeron lleoliad

Roedd barn gref bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felinfach yn unol ag un o’r opsiynau arfaethedig gwreiddiol.

Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y Cyngor wedi llwyddo i brynu’r lleoliad hwn ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron.”

Gall y Cyngor nawr fwrw ymlaen â’r camau nesaf, sy’n cynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Continue Reading

Cymraeg

Hwyl ar y beics i blant bach

Published

on

Mae tîm Actif wedi ymweld â'r feithrinfa i gynnig cefnogaeth

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!

Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.

Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.

“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”

Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru 

Continue Reading

Popular This Week