Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Steffan yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2016

Published

on

screen-shot-2016-11-01-at-13-44-38‘TRI CHYNNIG i Gymro’ medden nhw, ac ar nos Sul, Hydref 16 fe brofodd hynny yn wir i Steffan Hughes o Sir Ddinbych wrth iddo gipio Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016 mewn noson wefreiddiol yn Y Stiwt,

Rhosllannerchrugog. Noddir y wobr eleni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth gwerth £4,000 i Steffan o flaen cynulleidfa’r Stiwt, ac yn fyw ar raglen arbennig ar S4C.

Y gystadleuaeth oedd penllanw gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd eleni.

Disgrifiodd y pump beriniad Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan berfformiad Steffan fel un cyfareddol. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd mae bellach yn astudio cwrs BMus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd gofyn i Steffan a’i gyd-gystadleuwyr greu rhaglen berfformio 12 munud o hyd ar gyfer y noson. Dewisodd Steffan gynnwys ‘Cyrraedd Pen y Siwrnai’ (‘I can go the Distance’) allan o’r ffilm ‘Hercules’ gan Alan Menken (cyfieithiad Steffan Rhys Hughes), ‘Nid fi yw mab fy Nhad’ (‘I’m not my father’s son’) allan o’r sioe ‘Kinky Boots’ gan Cynthia Lauper (cyfieithiad Steffan Rhys Hughes), ‘Mae gen i Freuddwyd’ gan Gwyn Thomas ar gainc ‘Tannau Tawe 02’ gan Elfair Jones (Alaw gan Dr Meredydd Evans a threfniant cerddorol gan Steffan Rhys Hughes, a ‘Ti go iawn’ (‘Brand New You’) allan o’r sioe ‘Musical 13’ gan Jason Robert Brown (cyfieithiad Elin Williams) yn ei berfformiad wedi derbyn cyngor gwych gan y gantores enwog, Siân James, mewn dosbarthiadau meistr a gynigiwyd i bob un o’r cystadleuwyr fel rhan o’r gweithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth.

Dywedodd Steffan: “Roedd yn wych cael cystadlu heno, gan gael y cyfle i ddewis darnau fy hun a cheisio rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’r darn Cerdd Dant. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl gan mod i wedi bod yna ddwywaith o’r blaen a heb ennill! Mi oedd pawb mor dda heno – hollol ffantastig.

Gydag arian yr Ysgoloriaeth rwyf yn gobeithio datblygu fel perfformiwr gan ddefnyddio’r arian i dalu am hyfforddiant pellach a gwersi.”

Yn ôl Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r panel o feirniaid ““Roedd safon y gystadleuaeth heno yn aruchel gyda phob un ohonyn wedi ein cyffwrdd mewn rhyw ffordd. Mi oeddem ni yn chwilio am gyfanwaith a dyna beth a gafwyd gan Steffan – mi oedd yr amrywiaeth a’r dyfeisgarwch yn ei raglen yn wych.

“Mae’r Ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle nid yn unig i ni anrhydeddu unigolyn, ond hefyd i chwech perfformiwr ifanc arddangos eu talentau. Mae’n brawf o gyfoeth y bobl ifanc sydd gennym fel cenedl.”

Dywedodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Unwaith yn rhagor eleni rydym wedi profi bod cyfoeth talent anhygoel ymysg pobl ifanc Cymru. Cawsom Eisteddfod wych yn Sir y Fflint yn ôl ym mis Mai, a dyma ni yn cau pen y mwdwl ar weithgareddau’r ŵyl yma yn Y Stiwt gyda chyngerdd wefreiddiol yr Ysgoloriaeth uchel ei bri hon.

“Pob hwyl i Steffan wrth iddo ddatblygu ei yrfa gyda help yr Ysgoloriaeth, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at glywed sut fydd yr hwb yma yn ei helpu i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, “Llongyfarchiadau gwresog i Steffan ar ei lwyddiant a hefyd i’r cystadleuwyr i gyd ar safon eu perfformiadau. Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth sy’n annog pobl ifanc i fentro yn eu gwahanol ddisgyblaethau i anelu’n uchel. Mae’n gystadleuaeth bwysig sy’n meithrin doniau pobl ifanc yng Nghymru ac mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o’i chefnogi.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Cymorth a chanllawiau newydd i ddarparwyr llety gwyliau yng Ngheredigion

Published

on

Mae canllawiau a chymorth newydd yn cael eu cyhoeddi yng ngoleuni newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau a’r gorchmynion i gau darpariaethau llety gwyliau, gan fanylu ar rai eithriadau penodol.

Mae’r cyfyngiadau sydd wedi dod i rym yn sgil y coronafeirws wedi ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy’n darparu safleoedd a llety gwyliau yng Ngheredigion gau eu safleoedd, neu roi’r gorau i ddarparu eu gwasanaethau yn ystod yr argyfwng hwn, a hynny’n amodol ar rai eithriadau. Mae’r mathau hyn o lety gwyliau yn cynnwys safleoedd gwersylla, gwestai, llety gwely a brecwast, fflatiau gwyliau, hosteli a thai preswyl.

Mae eithriad i’r gofyniad i gau yn cynnwys pan nad oedd unigolyn, a oedd yn aros mewn llety o’r fath pan ddaeth y gofynion i rym, yn gallu dychwelyd i’w brif breswylfa, neu’n defnyddio’r llety dan sylw fel ei brif breswylfa ar y pryd. Dylai busnesau sicrhau bod yr eithriadau’n cael eu rhoi ar waith mewn modd priodol ac, os bydd amheuaeth, dylent ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion. Nid yw’r eithriad penodol hwn yn berthnasol i safleoedd gwyliau a gwersylla.

Oddi ar 24 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i bobl sy’n gyfrifol am safleoedd gwyliau a gwersylla wneud eu gorau glas i fynnu bod unrhyw unigolyn sy’n aros ar eu safle yn gadael. Bydd yr ymdrechion hynny’n cynnwys cymryd camau cadarnhaol i ofyn i bobl adael y safle. Os na fydd y busnes yn teimlo bod yna reswm credadwy a chymhellol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i bobl barhau ar y safle, yna dylai ofyn iddynt adael, neu ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Efallai y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i fusnesau ddarparu llety i weithwyr allweddol, ac i ddibenion penodol eraill. Os gofynnir i fusnes ddarparu llety y tu hwnt i’r eithriadau uchod, yna mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael tystysgrif eithrio gan Gyngor Sir Ceredigion yn manylu ar y diben y gall aros ar agor, ynghyd ag i ba raddau y gall wneud hynny. Gall busnesau wneud cais am dystysgrif eithrio trwy anfon cais dros e-bost at dîm Diogelu’r Cyhoedd: publicprotection@ceredigion.gov.uk, neu trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion ar 01545 570881.

Anogir unrhyw fusnes sy’n darparu llety i weithwyr allweddol ar hyn o bryd, ac nad yw’r Awdurdod wedi gofyn eto iddo aros ar agor i’r diben hwnnw, gysylltu â’r Tîm Diogelu’r Cyhoedd i gael cyngor pellach ar unwaith.

Er eglurder, oni bai bod Gweinidogion Cymru neu Awdurdod Lleol Ceredigion wedi gofyn yn benodol i fusnesau yng Ngheredigion aros ar agor, rhaid iddynt barhau AR GAU. Bydd unigolion a fydd yn gyfrifol am gynnal busnesau (gan gynnwys perchnogion a rheolwyr) yn destun camau gorfodi os na fyddant yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau. Mae’r opsiynau posibl yn cynnwys erlyn, a allai arwain at ddirwyon diderfyn wrth gael eu heuogfarnu.

Mae’r gorchmynion cau yn berthnasol i fusnesau sy’n cynnig llety gwyliau yn unig, ac nid ydynt yn effeithio ar gartrefi a llety preifat.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru: https://gov.wales/coronavirus-guidance-local-authorities-and-owners-holiday-accommodation (Tudalen Saesneg yn unig).

Continue Reading

Cymraeg

Council’s budget for 2020/21 approved

Published

on

At the Council meeting on 5 March 2020, Ceredigion County Council’s service budgets for 2020/21 were approved after receiving the final settlement from Welsh Government on 25 February.

This is the best settlement for local government and the Council since 2007/08, with an increase of 4.2%. This is equivalent to an increase of £7.609m in the Council’s budget.

Ellen ap Gwynn, Leader of the Council, said: “We have had to cut £45m from our budget since 2012. Despite these enormous cuts, the Council has been able to deliver all the services it delivered before the cuts were made thanks to a dedicated workforce and some very creative and innovative ways of working. It is a welcome relief that Ceredigion will not be receiving any additional cuts from Welsh Government for 2020/21. I welcome the increase in the settlement which will help us to ensure that we can continue to provide quality services for our residents.”

Also, as part of the budget setting process, a 4% increase in the Council Tax rate was approved. Despite the increased settlement, a 4% Council Tax increase is the minimum increase that would result in a standstill budget and would mean that no further cuts will need to be made this year.

This means that Band D properties in Ceredigion will pay £1,364.82 of Council Tax each year. This is equivalent to an increase of approximately £1 per week.

The proposal was approved after the Cabinet of Ceredigion County Council recommended the increase in order to ensure that there are no further cuts to council services in the next financial year.

Councillor Gareth Lloyd, Cabinet member with responsibility for Finance and Public Protection, said: “Council Tax and business rates only make up about 29% of the council’s budget. We understand that raising council tax is unpopular but this increase in Council Tax will help to alleviate the increasing pressure placed on the budgets of different services.”

A specific formula is applied by Welsh Government to calculate the funding allocated to each Council.

Continue Reading

Cymraeg

Cyngor yn datgan argyfwng hinsawdd byd-eang

Published

on

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang mewn cyfarfod o’r Cyngor ar 05 Mawrth 2020.

Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i sicrhau bod Ceredigion yn awdurdod lleol carbon net sero erbyn 2030, ac i ddatblygu cynllun clir ar gyfer llwybr a fydd yn arwain at garbon sero net o fewn 12 mis.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, gynigodd y cynnig. Meddai, “Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang. Rydym yn ymroddgar i ddiogelu’r amgylchedd a gwneud yr hyn a allwn i leihau ein hôl troed carbon. Rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon blynyddol 45% ers 2007. Mae gennym nifer o brosiectau yr ydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach fyth.”

Eiliodd y Cynghorydd Mark Strong y cynnig a dywedodd, “Mae’r datganiad yma yn cydymffurfio gydag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Wrth symud ymlaen, yr amcan yw lleihau ein defnydd carbon yn ein cartrefi a sicrhau defnydd gorau o greu egni yn lleol. Mae hyn i wneud yn siwr ein bod yn lleihau ein defnydd carbon yn sylweddol.”

Mae’r penderfyniad hwn yn cefnogi dwy o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, sef Buddsoddi yn Nyfodol y Bobl a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.

Continue Reading

Popular This Week