Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dathlu llwyddiant dysgu gydol oes yn Aber

Published

on

Grŵp Cymraeg y Flwyddyn: Sarah Graham, Tim Hollinghurst (Clonc a Chinio Llanandras)

Grŵp Cymraeg y Flwyddyn: Sarah Graham, Tim Hollinghurst (Clonc a Chinio Llanandras)

CYNHALIWYD Gwobrau Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth Ddydd Iau 21 Hydref i gydnabod rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu.

Cafodd llwyddiannau unigolion a grwpiau eu dathlu mewn seremoni arbennig oedd yn gyfle i longyfarch myfyrwyr a thiwtoriaid fel ei gilydd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Athrofa Datblygiad Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Judy Broady- Preston: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn llwyddiant oedolion sy’n dysgu sgiliau newydd. Mae’n dysgwyr ni wedi dangos ymroddiad mawr, ac mae eu hymdrechion yn fuddiol iddyn nhw, i’w teuluoedd a’u cymunedau.”

GWOBR CYMRAEG YN Y TEULU

Gwobr yw hon ar gyfer dysgwyr Cymraeg sydd wedi cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu a’r enillydd eleni oedd Vicky Thomas a’r teulu o Faesymeillion, Llandysul.

Mae Vicky’n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd. Fe symudodd hi, ei gwr a’u pedwar o blant bach i Geredigion ym mis Awst 2015. Daeth Vicky a’i gŵr i adnabod ei gilydd yn Saesneg, a Saesneg a siaradai hi â’r ddau blentyn hynaf cyn dechrau dysgu Cymraeg. Bellach mae’r teulu cyfan yn siarad Cymraeg â’i gilydd. Mae Vicky hefyd yn gyfforddus i siarad Cymraeg yn y gymuned.

“Dw i’n gobeithio y bydd fy mhlant yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf, fel y gwnaethon ni’ medd Vicky, ‘ac y galla i siarad Cymraeg efo’r wyrion!’

Roedd dysgu Cymraeg tra’n magu teulu ifanc yn heriol, ond erbyn hyn mae siarad Cymraeg yn rhan annatod o fywyd y teulu.

GWOBR GRŴP CYMRAEG Y FLWYDDYN

Gwobr i grŵp a ddaeth ynghyd i drefnu a chynnal gweithgaredd newydd yn y Gymraeg dros gyfnod o dri mis neu ragor, er mwyn hybu dysgwyr i ddefnyddio mwy o Gymraeg y tu allan i’r dosbarth ffurfiol ac ennill mwy o hyder i siarad Cymraeg. Yr enillydd eleni oedd Clonc a Chinio o Lanandras ym Mhowys.

Dechreuwyd Clonc a Chinio ym mis Medi 2015 yn Llanandras (Presteigne), tref ar y ffin rhwng Cymru a Lloger. Dechreuodd fel sesiwn sgwrsio yn ystod yr awr ginio rhwng dwy wers. Yn fuan iawn, daeth dysgwyr eraill i ymuno â nhw, ac erbyn hyn mae cymuned fach wedi dod at ei gilydd a thyfu yn y dref. Mae’r grŵp yn trefnu nifer o weithgareddau a digwyddiadau – un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd cynnal cyngerdd i ddathlu Gŵyl Dewi.

Bu dysgwyr o’r grŵp hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2015 ym Meifod ac yn 2016 yn y Fenni, ac fe enillon nhw’r gystadleuaeth sgets yn Eisteddfod y Dysgwyr yn Aberhonddu ym mis Ebrill 2016.

GWOBR CYMRAEG YN Y GWEITHLE

Gwobr yw hon i gyflogwyr sy’n cefnogi eu staff i ddysgu Cymraeg ar gyrsiau gyda Phrifysgol Aberystwyth a’i phartneriaid. Cyfoeth Naturiol Cymru enillodd eleni.

Cafodd 22 o staff Cyfoeth Naturiol Cymru eu rhyddhau yn ystod oriau gwaith i ddilyn cyrsiau dysgu Cymraeg â Phrifysgol Aberystwyth yn 2015/16.

Mae dysgwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle drwy gynllun mentora, lle gall dysgwyr sgwrsio’n anffurfiol gyda siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae nifer o’u swyddfeydd hefyd yn cynnal sesiynau ‘siop siarad’ neu ‘sgwrs dros baned’ anffurfiol er mwyn ymarfer siarad Cymraeg, ac mae rhai swyddfeydd yn cynnal teithiau cerdded Cymraeg amser cinio.

Mae’r staff a fu’n dysgu Cymraeg yn fwy hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae hynny’n gwella’r dewis iaith i’r cwsmer, gan fod mwy o staff yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg â’r cyhoedd.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Hoffem longyfarch y dysgwyr Cymraeg a’u tiwtoriaid sydd wedi gweithio mor galed i gyrraedd safon mor uchel. Rydyn ni’n falch fod yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn cael ei ddathlu yn y seremoni hon a hoffem ddymuno pob llwyddiant a mwynhad wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.”

Cafodd tystysgrifau hefyd eu cyflwyno i ddysgwyr Cymraeg sydd wedi llwyddo yn arholiadau Defnyddio’r Gymraeg Canolradd ac Uwch CBAC a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ogystal, cyflwynwyd tystysgrifau Dysgu Gydol Oes i fyfyrwyr sydd wedi ennill 120 credyd mewn ystod o bynciau ym meysydd ieithoedd modern, ysgrifennu creadigol, celf a dylunio, ecoleg maes, astudiaethau achyddol a seicoleg.

GWOBRAU DYSGU GYDOL OES

Yng Ngwobrau Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth, Judie Christie enillodd Myfyriwr Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn.

“Mae brwdfrydedd Judie at ddysgu yn afieithus, mae hi’n gweithio’n galed ac mae’n gydwybodol ymhob agwedd o’i gwaith,” yng ngeiriau ei thiwtor Angharad Taris. “Mae’n rhannu’r cyfoeth o wybodaeth sydd ganddi am hanes celf a diwylliant gweledol gyda gweddill y dosbarth mewn ffordd sensitif ac ysgogol. Mae’n annog myfyrwyr eraill ac mae eu sylwadau yn gefnogol, yn ddefnyddiol ac yn berthnasol.”

Am y tro cyntaf erioed, cafodd gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn ei dyfarnu i bedwar tiwtor gan nad oedd y panel yn gallu dewis rhwng y pedwar a ddaeth i frig yr enwebiadau. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr: Margaret Howells (Ecoleg), Anne Kelly (Ieithoedd Modern), Judy Macklin (Celf) a Jill Rolfe (Uwchgylchu Dillad).

Dyma eiriau un o fyfyrwyr Margaret Howells: “Wrth yngan enw Margaret, mae pawb yn gwenu; mae ei hymroddiad, ei hamynedd a’i hawydd i ddysgu myfyrwyr am blanhigion a’i chariad tuag at ei maes yn serennu. Dwi’n adnabod pobl fu’n dysgu ar ei chyrsiau ddeng mlynedd yn ol a bellach yn gweithio mewn sefydliad blaenllaw yn y sector cadwraeth.”

Caiff cyfraniad Anne Kelly (Ieithoedd Modern) eu dathlu gyda’r geiriau hyn: “Pwy fyddai’n meddwl bod addysg yn gymaint o hwyl! Mae ei gwybodaeth o’i phwnc yn amlwg pan mae’n dysgu. Mae’n rhagorol ymhob agwedd ac mae wastad yn hoelio sylw ei dysgwyr. Gwych!”

Dywed yr enwebiad ar gyfer Judy Macklin (Celf): Mae’n ein hannog ni i ganfod pethau drosom ein hunain. Mae ei dysgu yn rhagweithiol ond nid yw’n bwydo pob gwybodaeth. Mae ganddi bob amser gywreinrwydd am ei maes ac mae wrth ei bodd yn gwneud ac yn rhannu darganfyddiadau newydd ei hun, gan feithrin teimlad o rannu ymhlith y dysgwyr fel ei gilydd.”

Caiff dull brwdfrydig Jill Rolfe (Uwchgylchu Dillad) o addysgu ei gymeradwyo yn y datganiad yma gan fyfyriwr gwerthfawrogol: “Mae ganddi wybodaeth sy’n deillio o weithio yn y theatr ac yn y diwydiant ffasiwn am nifer o flynyddoedd. Mae hi wedi dod a gwisgoedd ei hun i’r dosbarth sydd wedi ysbrydoli myfyrwyr i addasu er mwyn gweithio gyda nhw ar eu prosiectau eu hunain. Mae’r diwrnodau gwnïo wastad yn hwyl diolch i Jill. Mae’n defnyddio straeon o’i phrofiadau personol o fod yn gwneud gwisgoedd mewn ffordd ddifyr ac mae hyn yn ein oll yn ein helpu ni i gofio pa broblemau i’w hosgoi.”

GWOBR GOFFA ROB STRACHAN

Yn olaf, cafodd gwobr ei chyflwyno er cof am Rob Strachan, ecolegydd mamaliaid a chadwraethwr a fu’n dysgu ar gyrsiau Ecoleg Dysgu Gydol Oes rhwng 2009 a 2013.

Roedd Rob yn adnabyddus am y darluniau hardd a wnaeth yn ei lyfrau nodiadau maes. Bu farw ym mis Mai 2014 ar ôl salwch byr. Cafodd Gwobr Goffa Rob Strachan ei dyfarnu i’r myfyriwr a gynhyrchodd y llyfr nodiadau maes gorau ar y cwrs Mamaliaid sef Louisa Haywood- Samuel.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

The Little Mill Players yn cyflwyno Robin Hood and the Babes in the Wood gan Ben Crocker

Published

on

Robin Hood and the Babes in the Wood’ yw Pantomeim y Little Mill Players eleni. Bydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach o Nos Iau 30 Ionawr i Nos Sadwrn 01 Chwefror am 7:30pm. Cynhelir perfformiad matinée hefyd ar brynhawn Sadwrn, 01 Chwefror am 2:30yp.

Efallai mai Robin Hood yw’r saethwr gorau yn yr ardal, ond a wnaiff e lwyddo i ddianc o grafangau Siryf Nottingham ac achub y babanod? Dewch i ymuno â Winnie Widebottom, Marion, Little Joan, Friar Tuck a’r cymeriadau eraill (a hefyd, er syndod, Sefydliad y Merched ‘Smugglers Cove’ sydd wedi dod i Goedwig Sherwood ar wyliau gwersylla a llwyddo i gael eu dal yn yr antur). Dewch i floeddio, hisian a chael gwledd o hwyl trwy chwerthin a chân yn y cynhyrchiad teuluol hwn.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers cychwyn Theatr Felinfach yn 1972. Daw aelodau’r cwmni o wahanol rannau o Geredigion a hyd yn oed Sir Gaerfyrddin. Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae eu swyddi’n amrywio o waith llafur i reolwyr yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni maent wrth eu bodd eto o gael sawl wyneb newydd ac maent yn obeithiol y bydd y duedd hon yn parhau.

Mae cyfarwyddwr y sioe, Stephen Entwistle, wedi bod yn aelod o’r grŵp ers dros 16 mlynedd. Dechreuodd fywyd gyda’r grŵp fel y Cyfarwyddwr Cerdd, yna aeth ymlaen i’r llwyfan a bellach ef yw’r bos!

Un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y cast cyfredol yw Dilys Megicks, cynorthwyydd cynhyrchu’r sioe, ac mae wedi bod yn aelod ers rhyw 24 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys dynes ddrwg, cyw iâr ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Sefydliad y Merched Smuggler’s Cove! Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’r pantomeim traddodiadol.

Aelod arall, sydd bellach yn aelod sefydlog o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd, dros y blynyddoedd, wedi perchenogi rôl y panto ‘Dame’ iddo’i hun. Yn sicr, fe yw digrifwr y cast. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am adeiladu propiau ac unrhyw anghenion adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach i gael cyfleoedd i ennill tocynnau i’r cynhyrchiad. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy theatrfelinfach.cymru. Prisiau’r tocynnau yw £9 i oedolion, 8 i bensiynwyr a £6 i blant.

Continue Reading

Cymraeg

Galw am wirfoddolwyr GIG yng Ngheredigion

Published

on

Gall gwirfoddoli i’r GIG fod yn hynod werth chweil ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’u gwasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd yng Ngheredigion.

Mae yna lawer o resymau pam y gallwch chi ystyried gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n ffordd wych o gael profiad o amgylchedd ysbyty os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes iechyd. Gall hefyd eich helpu i roi rhywbeth yn ôl os ydych chi wedi bod yn glaf eich hun neu os oedd gennych berthynas yn yr ysbyty.

Mae yna lawer o wahanol rolau gwirfoddol ar gael fel bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau neu groesawu ymwelwyr i’r ysbyty wrth y dderbynfa ac rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl a fyddai’n gallu helpu gyda’r troli siop a bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau yn Ysbyty Bronglais.

Bydd sesiynau gwybodaeth gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a gall unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ddarganfod mwy trwy gysylltu â’r tîm Gwirfoddoli dros Iechyd ar 01267 244401 neu HDd.VolunteerForHealth@wales.nhs.uk.

Dywedodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Un o’r buddion mwyaf y gall gwirfoddolwyr ei gynnig i’r GIG yw’r gefnogaeth a’r cysur a rowch i’n cleifion. Rydyn ni eisiau sefydlu troli siop yn Ysbyty Bronglais ond rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n lleol i Geredigion ac sydd eisiau gwirfoddoli i gysylltu. ”

I ddarganfod mwy am Wasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/Gwirfoddoli

Continue Reading

Cymraeg

Menter Iaith leol ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Published

on

Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith. Mae’r Seremoni Wobrwyo, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, yn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.

Mae CERED, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli a sefydlwyd gan Steffan Rees, un o Swyddogion Datblygu CERED, ym mis Hydref 2018. Mae’r gerddorfa yn perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg ac yn gweld Iwcadwli fel cyfle i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gerddorfa yn mynd o nerth i nerth ac mae Steffan bellach yn cynnal sesiynau ychwanegol i gynnig hyfforddiant i’r rhai sydd am ymuno a’r gerddorfa am y tro cyntaf.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae Cerddorfa Iwcadwli wedi bod yn gyfle arbennig i hybu’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth gan dynnu aelodau o bob oed ac o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Mae aelodaeth y gerddorfa yn parhau i dyfu ac mae’n braf gweld cymaint yn cael mwynhad o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw.”

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Digwyddiad’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar 22 Ionawr, 2020.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru gan anelu i gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn unol a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

Gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma: http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/

Continue Reading

Popular This Week