Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cyfweliad Herald: Alun Lenny

Published

on

Alun Lenny: ‘Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia’

Alun Lenny: ‘Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia’

CAWSOM sgwrs efo’r cynghorydd, Alun Lenny, am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal dementia, yr emynydd mawr William Williams a’i ddylanwad, ac am gapel Heol Dŵr, sydd wedi cau eu drysau.

Daeth Alun yn ymwybodol yn 2008, wrth ymweld â phobl mewn cartrefi preswyl, bod dim llawer o sylw yn cael ei roi i hawliau siaradwyr Cymraeg. Eglurodd y sefyllfa: “O ni yn mynd mewn i gartref a gweld pobol yn eistedd mewn cylch mawr gyda ‘Countdown’ neu ‘Channel 4 Racing’ ar y teledu er bod neb llawer yn gwylio. Doedd neb yn ystyried falle y byddai’r bobol yno yn hoffi gweld Prynhawn Da neu rhaglen debyg ar S4C, a roedd gymaint o sŵn ‘o chi’n ffili clywed eich hunan yn siarad gyda’r person. O ni’n meddwl bod hyn yn gwadu Hawliau Dynol pobol o dan deddf 1991 y Cenhedlwyd Unedig sydd yn dweud bod rhaid i bobol gael gofal mewn cartref preswyl trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.”

Cafodd y mater ei godi mewn cyfarfod o Undeb yr Annibynwyr, ac ar ôl hynny aeth Alun a’r Parchg Beti Wyn James i siarad efo’r gweinidog roedd yn gyfrifol am ofal cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Gwenda Thomas. Yn y cyfarfod, fe wnaeth Gwenda gydymdeimlo efo’r sefyllfa, gan ddweud bod pwyllgor wedi ei sefydlu i edrych mewn i hyn.

Dros gyfnod o rai blynyddoedd, fe wnaeth y llywodraeth lunio strategaeth ‘Mwy Na Geiriau’ sydd nawr wedi dod lawr i lefel y Cyngor Sir. Dywedodd Alun bod y Cyngor Sir yn gweithredu’r strategaeth trwy geisio gwneud yn siŵr bod un aelod o staff ar pob shifft yn siarad Cymraeg. Eglurodd y gall hi fod yn anodd annog pobol i ddysgu Cymraeg ond bod y strategaeth yn awgrymu ystyried penodi staff dwyieithog lle mae angen hynny.

Wrth siarad am wasanaethau sydd yn cefnogi pobol sydd yn dioddef o dementia, fe wnaeth e ganmol y gwaith gwirfoddol: ”Does dim digon o sylw wedi bod i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn gwasanaethau dementia yn yr gorffennol ond ma pethau yn newid oherwydd strategaeth ‘Mwy Na Geiriau.’”

Mewn dementia, mae pobol yn tueddi i anghofo beth ma nhw wedi dysgu olaf. Mae hynny’n cynnwys iaith. Gall pobol sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf golli’r gallu i siarad Saesneg wrth i’r salwch fynd yn waeth : “Mae hynny’n reswm clinigol, meddygol pam bod angen gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn iechyd a gofal.”

Adroddodd stori am gynghorydd aeth i weld perthynas mewn cartref yn Lloegr, lle bu’r dyn yn byw ers blynyddoedd lawer. Nid oedd ei deulu yn gallu siarad Cymraeg, ac yn dweud ei fod wedi colli’r gallu i siarad. Pan aeth y cynghorydd i’w weld a siarad Cymraeg â fe, fe wnaeth ateb yn syth yn yr iaith honno, gan synnu pawb.

Mae canlyniad llwyddiannus yr ymgyrch i gael gofal yn Gymraeg i bobol fel hyn yn dangos bod rôl bwysig gan y capeli i’w chwarae: “Dyma’r math o beth ddylen ni fel Cristnogion ei wneud. Os ‘y ni’n gweld bod cam yn cael ei wneud, neu bod angen mawr, dyle ni ddechrau ymgyrchoedd fel hyn a neud rhywbeth amdano fe. Mae mwy i grefydd na mynd i’r capel ar fore dydd Sul.”

Yn ddiwethar, fe wnaeth Capel Heol Dŵr gau ei ddrysau am y tro olaf. Gofynnais iddo sut effaith gafodd ar y dre a’r gymuned. Dywedodd nad oedd wedi cael fawr o effaith ar y gymuned Cristnogol gan fod yr achos wedi bod yn mynd i lawr ers blynyddoedd, ond bod hi’n drist iawn i’r dyrnaid oedd ar ôl yno.

Eglurodd y cylch dieflig sy’n arwain ar gau capel. Mae’n costi’n ddrud i gadw adeiladau mawr, gyda llai a llai yn mynd yno: “Ma’ sawl capel yn penderfynu os yw gweinidog yn cwpla: ‘o gew ni ddim weinidog nawr achos mae’n costi gormod i gadw’r adeilad’ – a dyna ddechrau’r diwedd. Mae’r aelodaeth yn mynd lawr yn gynt heb weinidog a’r gost yn syrthio ar llai o bobol. Yn y pendraw, mae’r lle yn cau.”

Mae natur cymdeithas yn newid ac mae Alun yn meddwl mae’n rhaid i ni dderbyn hynny: “Ma’ pethe eraill i dynnu ei sylw ar fore Sul – rygbi neu nofio gan y plant, siopa ac yn y blaen ,neu aros yn y gwely!” Ma patrwm crefydd wedi newid: “Dyw pobol ddim yn hoffi eistedd lawr a gwrando ar rhywun, fel pregethwr, yn dweud wrthynt beth i wneud, heb yr hawl i ateb yn ôl. Yn yr oes ddigidol interactive ma’ pawb yn disgwyl ateb yn ôl.”

Dywedodd am prosiect newydd Undeb yr Annibynwyr – Y Ffordd – lle mae fideo yn cael ei ryddhau pob tri mis ar wahanol themâu crefyddol, gan annog pobol i wylio’r fideo a’i thrafod.

Siaradom am un o arwyr Cristnogol Cymru, sydd a’i emynau’n dal yn berthnasol i Gymru heddiw – William Williams, Pantycelyn. Mae William Williams o statws rhyngwladol. Cyfansoddodd dros fil o emynau, gyda nifer yn dal i gael eu ganu mewn capeli bob dydd Sul. Cyfieithiad o un o emynau Williams, gan Peter Williams o Gaerfyrddin, yw’r enwog “Bread of Heaven” sydd i’w glywed mewn gemau rygbi.

Dywedodd Alun bod gwaith William Williams yn rhan o hunaniaeth Cymru: “Ma emynau Williams yn rhan o’r psyche Cymraeg mewn gwirionedd, dim jyst i bobol sydd yn mynd i gapel neu eglwys. Pantycelyn oedd llais y Diwygiad Efengylaidd mawr newidiodd holl natur cymdeithas Cymru yn y 18fed ganrif, ar ddechrau’r cyfnod arweiniodd at godi’r capeli mawr oedd yn orlawn.”

“Yn 2017, bydd hi’n 300 ers geni William Williams – cyfle da i bobol a phlant Cymru ddysgu mwy amdano achos roedd e’n ganolog i’r hyn ffurfiodd y Gymru gyfoes.” Mae teulu Williams yn dal i fyw yn ffermdy Pantycelyn ar bwys Llanymddyfri, ac yn rhoi croeso mawr i unrhyw un sydd am alw i weld cartref un o arwyr mwyaf Cymru.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

The Little Mill Players yn cyflwyno Robin Hood and the Babes in the Wood gan Ben Crocker

Published

on

Robin Hood and the Babes in the Wood’ yw Pantomeim y Little Mill Players eleni. Bydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach o Nos Iau 30 Ionawr i Nos Sadwrn 01 Chwefror am 7:30pm. Cynhelir perfformiad matinée hefyd ar brynhawn Sadwrn, 01 Chwefror am 2:30yp.

Efallai mai Robin Hood yw’r saethwr gorau yn yr ardal, ond a wnaiff e lwyddo i ddianc o grafangau Siryf Nottingham ac achub y babanod? Dewch i ymuno â Winnie Widebottom, Marion, Little Joan, Friar Tuck a’r cymeriadau eraill (a hefyd, er syndod, Sefydliad y Merched ‘Smugglers Cove’ sydd wedi dod i Goedwig Sherwood ar wyliau gwersylla a llwyddo i gael eu dal yn yr antur). Dewch i floeddio, hisian a chael gwledd o hwyl trwy chwerthin a chân yn y cynhyrchiad teuluol hwn.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers cychwyn Theatr Felinfach yn 1972. Daw aelodau’r cwmni o wahanol rannau o Geredigion a hyd yn oed Sir Gaerfyrddin. Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae eu swyddi’n amrywio o waith llafur i reolwyr yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni maent wrth eu bodd eto o gael sawl wyneb newydd ac maent yn obeithiol y bydd y duedd hon yn parhau.

Mae cyfarwyddwr y sioe, Stephen Entwistle, wedi bod yn aelod o’r grŵp ers dros 16 mlynedd. Dechreuodd fywyd gyda’r grŵp fel y Cyfarwyddwr Cerdd, yna aeth ymlaen i’r llwyfan a bellach ef yw’r bos!

Un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y cast cyfredol yw Dilys Megicks, cynorthwyydd cynhyrchu’r sioe, ac mae wedi bod yn aelod ers rhyw 24 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys dynes ddrwg, cyw iâr ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Sefydliad y Merched Smuggler’s Cove! Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’r pantomeim traddodiadol.

Aelod arall, sydd bellach yn aelod sefydlog o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd, dros y blynyddoedd, wedi perchenogi rôl y panto ‘Dame’ iddo’i hun. Yn sicr, fe yw digrifwr y cast. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am adeiladu propiau ac unrhyw anghenion adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach i gael cyfleoedd i ennill tocynnau i’r cynhyrchiad. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy theatrfelinfach.cymru. Prisiau’r tocynnau yw £9 i oedolion, 8 i bensiynwyr a £6 i blant.

Continue Reading

Cymraeg

Galw am wirfoddolwyr GIG yng Ngheredigion

Published

on

Gall gwirfoddoli i’r GIG fod yn hynod werth chweil ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’u gwasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd yng Ngheredigion.

Mae yna lawer o resymau pam y gallwch chi ystyried gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n ffordd wych o gael profiad o amgylchedd ysbyty os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes iechyd. Gall hefyd eich helpu i roi rhywbeth yn ôl os ydych chi wedi bod yn glaf eich hun neu os oedd gennych berthynas yn yr ysbyty.

Mae yna lawer o wahanol rolau gwirfoddol ar gael fel bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau neu groesawu ymwelwyr i’r ysbyty wrth y dderbynfa ac rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl a fyddai’n gallu helpu gyda’r troli siop a bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau yn Ysbyty Bronglais.

Bydd sesiynau gwybodaeth gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a gall unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ddarganfod mwy trwy gysylltu â’r tîm Gwirfoddoli dros Iechyd ar 01267 244401 neu HDd.VolunteerForHealth@wales.nhs.uk.

Dywedodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Un o’r buddion mwyaf y gall gwirfoddolwyr ei gynnig i’r GIG yw’r gefnogaeth a’r cysur a rowch i’n cleifion. Rydyn ni eisiau sefydlu troli siop yn Ysbyty Bronglais ond rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n lleol i Geredigion ac sydd eisiau gwirfoddoli i gysylltu. ”

I ddarganfod mwy am Wasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/Gwirfoddoli

Continue Reading

Cymraeg

Menter Iaith leol ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Published

on

Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith. Mae’r Seremoni Wobrwyo, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, yn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.

Mae CERED, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli a sefydlwyd gan Steffan Rees, un o Swyddogion Datblygu CERED, ym mis Hydref 2018. Mae’r gerddorfa yn perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg ac yn gweld Iwcadwli fel cyfle i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gerddorfa yn mynd o nerth i nerth ac mae Steffan bellach yn cynnal sesiynau ychwanegol i gynnig hyfforddiant i’r rhai sydd am ymuno a’r gerddorfa am y tro cyntaf.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae Cerddorfa Iwcadwli wedi bod yn gyfle arbennig i hybu’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth gan dynnu aelodau o bob oed ac o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Mae aelodaeth y gerddorfa yn parhau i dyfu ac mae’n braf gweld cymaint yn cael mwynhad o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw.”

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Digwyddiad’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar 22 Ionawr, 2020.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru gan anelu i gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn unol a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

Gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma: http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/

Continue Reading

Popular This Week