Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Myfyrwraig Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn cyhoeddi nofel Gymraeg

Published

on

screen-shot-2017-01-05-at-11-42-16MAE MYFYRWRAIG o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl, wedi cyhoeddi nofel newydd ddoniol am griw o ddysgwyr.

Daw Sarah Reynolds yn wreiddiol o Reigate yn Surrey ac mae’n astudio am ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bu’n dysgu Cymraeg ers saith mlynedd a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf yn yr iaith, Dysgu Byw, gan Gwasg Gomer ym mis Hydref.

Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt criw o ddysgwyr mewn dosbarth nos, ac fe’i disgrifiwyd gan y cyhoeddwr fel ‘romp comig’ sy’n ‘hynod ddoniol’.

Cafodd hefyd ganmoliaeth uchel gan yr awdures a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, Bethan Gwanas.

Yn ôl Bethan mae’r nofel yn ‘berl’ ac yn ‘chwa o awyr iach’, a dywedodd ei bod wedi ‘gwenu, gwingo a chwerthin yn uchel’ wrth ei darllen.

Mae’r nofel yn dechrau gyda hanes tiwtor y dosbarth, Siwan James, sy’n dymuno bod yn unrhyw le arall ond yn sefyll o flaen y criw amrywiol o ddysgwyr.

Bu Siwan yn actores ar Pobol y Cwm ar un adeg (nid bod neb yn cofio hynny!) ac mae hi’n dymuno bod yn ôl yn seren ar y sgrin, nid yn gwywo wrth wrando ar bobl yn manglo’r iaith ac yn merwino’i chlustiau.

Mae Sarah nawr yn ysgrifennu nofel newydd – yn Saesneg y tro hwn, a’i gobaith yw gallu plethu’r bywyd ysgrifennu gyda gyrfa academaidd.

Dywedodd: “Ro’n i’n ffodus iawn i gipio ysgoloriaeth i astudio ar gyfer doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yma ym Phrifysgol Aberystwyth. Dwi ar fin gorffen fy nhymor cyntaf ac yn joio mas draw. Mae pawb yn yr adran wedi bod yn groesawgar iawn. Un uchafbwynt oedd cael taith dywysedig drwy grombil y Llyfrgell Genedlaethol – mae’r lle yn nefoedd i lyfrgarwr fel finnau! Er hynny, wedi gweld y ffilm Y Llyfrgell, ro’n i’n hanner disgwyl dod o hyd i gorff!”

Cyfarfu Sarah â’i gŵr yn Llundain, lle’r oedd y ddau yn gweithio ym myd teledu, a Sarah yn gweithio ar gyfresi fel Big Brother.

Ar ôl priodi, symudodd y ddau i fyw i Gaerfyrddin, ac aeth Sarah ati o ddifrif i ddysgu’r Gymraeg.

“Nes i briodi Cymro Cymraeg… Nes i gwrdd â fe ar blind date yn Llunden, a nath e ddysgu fi i ddweud ‘prynhawn da’ ar y date cyntaf hwnnw, a dyna lle ddechreuodd y cyfan i fi… O’n i’n deall o’r cychwyn pa mor bwysig odd yr iaith Gymraeg iddo fe.”

Cyrhaeddodd Sarah rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, a defnyddiodd beth o’i phrofiadau o ddysgu’r Gymraeg wrth ysgrifennu Dysgu Byw.

Ychwanegodd: “Dyw’r daith ddim wedi bod yn hawdd wrth i fi ddysgu ond dwi wedi chwerthin llawer ar hyd y ffordd. Ro’n i eisiau rhannu peth o’r straeon hynny gyda phobl ynghyd â phrofiadau pobl eraill dwi’n nabod sydd wedi dysgu hefyd.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Community

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd Aberystwyth

Published

on

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 30 Medi).
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rhan ganolog o’r safle newydd yw Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychu ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref a gwasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’ i gynllunio a gofal acíwt.
Mae’r offer addysgu newydd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi heneiddio a modelau dynol sy’n efelychu ystod eang o gyflyrau iechyd.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi.
Disgwylir y bydd y datblygiadau newydd yn hwb mawr i ymdrechion i gadw a recriwtio staff i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: “Rwy’n falch iawn o agor y ganolfan newydd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gydweithrediad ardderchog rhwng y byrddau iechyd a’r Brifysgol a bydd yn hwb o ran recriwtio nyrsys yn yr ardal yma.
“Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn helpu i gyflawni ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, fel y nodir yn ein strategaeth Mwy na Geiriau.”
Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd a gychwynnodd eleni y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure:
“Anrhydedd fawr yw cael y Gweinidog yn ymweld i agor y Ganolfan, sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i’r Canolbarth. Rwy’n ffyddiog bydd hyn yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect. Hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru“
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr bydd y Ganolfan newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Dyma ni heddiw yn gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Continue Reading

Cymraeg

Cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron

Published

on

Mae Ysgol Ciliau Parc yn un o'r ysgolion y bwriedir iddi gau

YN 2019, ymatebodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n caffael tir ar gyfer yr ysgol ardal newydd, a gall gadarnhau bod tir wedi’i brynu at y diben hwn yn y lleoliad isod.

Ysgol Ardan Dyffryn Aeron lleoliad

Roedd barn gref bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felinfach yn unol ag un o’r opsiynau arfaethedig gwreiddiol.

Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y Cyngor wedi llwyddo i brynu’r lleoliad hwn ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron.”

Gall y Cyngor nawr fwrw ymlaen â’r camau nesaf, sy’n cynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Continue Reading

Cymraeg

Hwyl ar y beics i blant bach

Published

on

Mae tîm Actif wedi ymweld â'r feithrinfa i gynnig cefnogaeth

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!

Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.

Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.

“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”

Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru 

Continue Reading

Popular This Week