Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Archifau Cymru yn elwa o gyllid partneriaeth

Published

on

Florrie Hamer: Mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau, cofiannau, llythyrau, ffotograffau ac effemera

ER MWYN helpu i gynnal gwaith cadwraeth ar eitemau bregus ac sydd wedi’u difrodi yn eu casgliadau, bydd gwasanaethau archifau Caerdydd a Cheredigion yn derbyn dros £12,000 o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol (NMCT).

Mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu i ddiogelu eitemau sy’n cael eu cadw ar hyn o bryd. Ychydig sy’n cael eu trafod oherwydd eu cyflwr bregus, ond bydd y gwaith yn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch i fyfyrwyr, ymchwilwyr a defnyddwyr lleol.

Mae oddeutu £2900 yn cael ei ddyrannu i Brifysgol Caerdydd i ddiogelu ysgrifau Edward Thomas (1878-1917), un o feirdd Prydeinig mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd yr arian yn caniatáu i set o lawysgrifau a nodiaduron personol iawn, sy’n disgrifio dull artistig Edward Thomas, gael eu diogelu.

Bydd y gwaith yn caniatáu i’r llawysgrifau a’r nodiaduron hyn gael eu rhannu â chynulleidfaoedd ac ymchwilwyr trwy’r byd. Mae’n cyd-fynd â chynhadledd sy’n cael ei chynnal eleni gan Brifysgol Caerdydd i gofio canmlwyddiant marw Edward Thomas.

Bydd oddeutu £9200 yn cael ei ddyrannu i Archifau Ceredigion i ddiogelu’r ‘Florrie Hamer Papers’.

Mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau, cofiannau, llythyrau, ffotograffau ac effemera Flora Hamer (1903 – 1994) a oedd yn ferch i weithwyr ystâd ac yn gymdeithes.

Gweithiodd Flora â thri theulu mawr lleol, gan gynnwys Yr Arglwydd Ystwyth o Danybwlch, y teulu Pryse o Ogerddan a’r teulu Powell o Nanteos. Roedd ei pherthynas unigryw gyda’r bonedd Seisnigaidd yn yr ardal mor Gymreig hon yn ddrws iddi at ffordd o fyw a oedd eisoes wedi dechrau ei ddirywiad anochel.

Mae’r casgliad yn arwyddocaol gan ei fod mor brin. Mae’n ficrocosm o ryfeddod cenedlaethol, yn fyfyrdod ar ddiwrnodau olaf ffordd o fyw a oedd wedi parhau am gannoedd o flynyddoedd. Bydd y gwaith cadwraeth yn cynnal ac yn diogelu’r eitemau, gan gadw cymaint o’u cymeriad gwreiddiol â phosib.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Rwy’n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am eu cefnogaeth barhaus i brosiectau cadwraeth archifau Cymru. Ers 2008 rydym wedi ail-ddarganfod casgliadau ardderchog ac wedi caniatáu mynediad atynt. Nid yw eleni’n eithriad gan y byddwn yn dechrau gwaith cadwraeth ar ddau gasgliad; nodiaduron Edward Thomas, un o feirdd mwyaf arwyddocaol y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r casgliad unigryw o ddeunydd a gasglwyd gan Florrie Hamer sydd yng ngofal Archifau Ceredigion ac sy’n darparu cipolwg hyfryd o oes a fu.”

Ers 2008, mae’r NMCT, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 37 o brosiectau ac wedi gwneud gwaith cadwraeth ar eitemau a chasgliadau sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol mewn archifau ledled Cymru. Mae’r eitemau’n cynnwys llythyrau o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, Achau Teuluol a mapiau hanesyddol.

Bydd y gwaith cadwraeth yn gwella mynediad at yr eitemau unwaith y byddant mewn cyflwr sefydlog, gallant gael eu hastudio, eu trin a’u digideiddio’n ddiogel, ac o ganlyniad, eu darparu i gynulleidfaoedd ehangach dros y we.

Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Genedlaethol: “Rydym yn falch bod gwaith NMCT ar y cyd â Llywodraeth Cymru wedi arwain at gefnogi mwy o brosiectau cadwraeth o safon yng Nghymru. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Colwinston am eu cefnogaeth gyda’r prosiectau hyn. Diolch i bartneriaeth NMCT â Llywodraeth Cymru, rydym wedi dyfarnu dros £200,000 o grantiau ers 2008. Mae’r grantiau hyn yn sicrhau bod cannoedd o fapiau, llawysgrifau, papurau a chasgliadau arwyddocaol yn cael eu cadw a’u gwneud yn hygyrch – cyfraniad pwysig at ddiogelu hanes Cymru.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Community

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd Aberystwyth

Published

on

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 30 Medi).
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rhan ganolog o’r safle newydd yw Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychu ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref a gwasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’ i gynllunio a gofal acíwt.
Mae’r offer addysgu newydd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi heneiddio a modelau dynol sy’n efelychu ystod eang o gyflyrau iechyd.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi.
Disgwylir y bydd y datblygiadau newydd yn hwb mawr i ymdrechion i gadw a recriwtio staff i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: “Rwy’n falch iawn o agor y ganolfan newydd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gydweithrediad ardderchog rhwng y byrddau iechyd a’r Brifysgol a bydd yn hwb o ran recriwtio nyrsys yn yr ardal yma.
“Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn helpu i gyflawni ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, fel y nodir yn ein strategaeth Mwy na Geiriau.”
Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd a gychwynnodd eleni y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure:
“Anrhydedd fawr yw cael y Gweinidog yn ymweld i agor y Ganolfan, sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i’r Canolbarth. Rwy’n ffyddiog bydd hyn yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect. Hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru“
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr bydd y Ganolfan newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Dyma ni heddiw yn gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Continue Reading

Cymraeg

Cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron

Published

on

Mae Ysgol Ciliau Parc yn un o'r ysgolion y bwriedir iddi gau

YN 2019, ymatebodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n caffael tir ar gyfer yr ysgol ardal newydd, a gall gadarnhau bod tir wedi’i brynu at y diben hwn yn y lleoliad isod.

Ysgol Ardan Dyffryn Aeron lleoliad

Roedd barn gref bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felinfach yn unol ag un o’r opsiynau arfaethedig gwreiddiol.

Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y Cyngor wedi llwyddo i brynu’r lleoliad hwn ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron.”

Gall y Cyngor nawr fwrw ymlaen â’r camau nesaf, sy’n cynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Continue Reading

Cymraeg

Hwyl ar y beics i blant bach

Published

on

Mae tîm Actif wedi ymweld â'r feithrinfa i gynnig cefnogaeth

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!

Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.

Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.

“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”

Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru 

Continue Reading

Popular This Week