Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Mae clasuron o gerddoriaeth Gymraeg yn dychwelyd

Published

on

Joseph Parry: Un o’r cyfansoddwyr y gerddoriaeth sydd ar gael

MAE TŶ CERDD ac S4C yn cyd-weithio er mwyn darparu mynediad at daflenni cerddoriaeth werthfawr catalog Hughes a’i Fab.

Mae catalog taflenni cerddoriaeth Hughes a’i Fab yn cynnwys llawer iawn o hoff ganeuon yr iaith Gymraeg yn eu plith ‘Gwahoddiad’ (trefniant TTBB gan John Tudor Davies, sy’n cael ei ystyried yn glasur); ‘Cân yr Arad Goch’ (Idris Lewis); ‘Aderyn Crist’ (Dilys Elwyn-Edwards); ‘Cwm Pennant’, ‘Gwynfyd’, ‘Y Llyn’ (Meirion Williams), ynghyd â channoedd yn rhagor, yn eu plith mae darnau gan gyfansoddwyr arwyddocaol megis Joseph Parry, R. S. Hughes, ac W. S. Gwynn Williams.

Mae’r catalog wedi bod dan ofal S4C ers 1982 a nawr mae’r sianel wedi rhoi caniatâd i ail-osod y gwaith cerddorol mewn rhifynnau newydd gan Gyhoeddiadau Tŷ Cerdd, gyda’r nod o warchod harddwch ac eglurder y sgoriau gwreiddiol, yn ogystal â diweddaru elfennau gweledol y gerddoriaeth er mwyn cyd-fynd â’r arddull gyfredol.

Tŷ Cerdd yw’r asiantaeth hyrwyddo ar gyfer cerddoriaeth glasurol Gymreig. Meddai Deborah Keyser, cyfarwyddwr y sefydliad; “Rydym yn falch iawn o’r cydweithio hwn gydag S4C: pwrpas a nod Tŷ Cerdd yw cyflwyno cerddoriaeth Cymru i’r gynulleidfa ehangaf posib, ac mae catalog Hughes a’i Fab yn rhan werthfawr o’n treftadaeth genedlaethol. Ein nod yw sicrhau bod y darnau pwysig yma ar gael yn eang i’r cyhoedd.” Meddai Ethan Davies, Swyddog Cyhoeddi Tŷ Cerdd: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gloddio yn y drysorfa hon o gerddoriaeth Gymraeg ac i gael cyfrannu, mewn rhan fach, at alluogi perfformiadau parhaus o gerddoriaeth ein hanes diwylliannol.”

Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, fod y sianel yn falch o weithio gyda Tŷ Cerdd er mwyn darparu mynediad i’r cyhoedd at y casgliad yma, sy’n cael ei drysori fawr gan y sianel; “Rydym yn falch iawn o weithio ar y cyd â Tŷ Cerdd er mwyn rhoi ffordd haws i’r cyhoedd ddefnyddio cynnwys cerddorol catalog Hughes a’i Fab. Gyda’u harbenigedd a’u gwybodaeth eang, mi fydd trysorau’r casgliad unigryw hwn yn cael eu dwyn o’r archif ac yn cael eu diogelu ar gyfer y genedl am flynyddoedd i ddod.”

Bydd copi llawn o’r catalog sy’n cael ei ail-hargraffu ar gael ar www.tycerdd.org (neu mae modd derbyn copi PDF ar gais drwy gysylltu â enquiries@tycerdd.org) ac mi fydd y sgôr yn cael ei werthu ar www.tycerddshop.com, tra bydd fersiynau digidol ar gael ar www. discoverwelshmusic.com

Mi fydd rhai darnau ar gael ar unwaith o www.tycerddshop.com a, cyn bo hir, www.discoverwelshmusic. com ac mi fydd rhagor o deitlau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. I wneud cais am sgôr o’r catalog, cysylltwch â ethan.davies@ tycerdd.org fydd yn gallu trefnu blaenoriaethu’r argraffiadau.

Continue Reading

Community

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd Aberystwyth

Published

on

Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 30 Medi).
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rhan ganolog o’r safle newydd yw Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychu ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref a gwasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’ i gynllunio a gofal acíwt.
Mae’r offer addysgu newydd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi heneiddio a modelau dynol sy’n efelychu ystod eang o gyflyrau iechyd.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi.
Disgwylir y bydd y datblygiadau newydd yn hwb mawr i ymdrechion i gadw a recriwtio staff i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: “Rwy’n falch iawn o agor y ganolfan newydd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n gydweithrediad ardderchog rhwng y byrddau iechyd a’r Brifysgol a bydd yn hwb o ran recriwtio nyrsys yn yr ardal yma.
“Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn helpu i gyflawni ein cynlluniau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, fel y nodir yn ein strategaeth Mwy na Geiriau.”
Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd a gychwynnodd eleni y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure:
“Anrhydedd fawr yw cael y Gweinidog yn ymweld i agor y Ganolfan, sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i’r Canolbarth. Rwy’n ffyddiog bydd hyn yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect. Hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru“
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr bydd y Ganolfan newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Dyma ni heddiw yn gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Continue Reading

Cymraeg

Cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron

Published

on

Mae Ysgol Ciliau Parc yn un o'r ysgolion y bwriedir iddi gau

YN 2019, ymatebodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n caffael tir ar gyfer yr ysgol ardal newydd, a gall gadarnhau bod tir wedi’i brynu at y diben hwn yn y lleoliad isod.

Ysgol Ardan Dyffryn Aeron lleoliad

Roedd barn gref bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felinfach yn unol ag un o’r opsiynau arfaethedig gwreiddiol.

Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y Cyngor wedi llwyddo i brynu’r lleoliad hwn ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron.”

Gall y Cyngor nawr fwrw ymlaen â’r camau nesaf, sy’n cynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law.

Continue Reading

Cymraeg

Hwyl ar y beics i blant bach

Published

on

Mae tîm Actif wedi ymweld â'r feithrinfa i gynnig cefnogaeth

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!

Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.

Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.

“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”

Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru 

Continue Reading

Popular This Week