Cymraeg
Gwyndaf Evans ar bwysigrwydd Rali Cymru GB

GYDA MWY o yrwyr rali rhyngwladol yn cymryd rhan yn Rali Cymru GB eleni nag erioed o’r blaen, mae’r rali bellach yn cael ei hystyried fel un o’r pwysicaf ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd, yn ôl cyn-bencampwr Rali Prydain, Gwyndaf Evans.
Bydd 77 o yrwyr yn cystadlu dros y penwythnos, wrth iddyn nhw rasio mewn 21 cymal ar hyd siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Meirionnydd, Powys a Cheredigion. Ar ddiwedd pob diwrnod o’r rali, o ddydd Iau, 26 Hydref hyd at ddydd Sul, 29 Hydref, bydd criw Ralïo+ yn darlledu uchafbwyntiau cymalau’r dydd, cyn dangos uchafbwyntiau o’r rali gyfan yn ogystal â’r rali Cenedlaethol, nos Lun, 30 Hydref.
Hefyd, bydd y cyflwynwyr, Emyr Penlan, Hana Medi, Llinos Lee a Howard Davies yn dadansoddi’r rali bob nos yng nghwmni’r gyrrwr ifanc o Fachynlleth, Osian Pryce, a’r cyn-yrrwr o Ddolgellau, Gwyndaf Evans, sydd hefyd yn dad i’r gyrrwr, Elfyn Evans. Cawsom sgwrs gyda Gwyndaf wrth iddo edrych ymlaen at y rali eleni.
Beth mae gyrwyr yn ei fwynhau fwyaf am Rali Cymru GB?
Mae o’n rali boblogaidd iawn dros y byd a chyn belled ag y mae entries yn y cwestiwn, un o’r mwyaf. Mae bob un o enwau mawr y gamp yn rhoi Rali Cymru ar dop ei restr. Mae hynny’n credit i’r trefniant ac i gynnwys y cymalau a beth mae coedwigoedd Cymru yn cyfrannu at y cyfan. Mae Rali Cymru yn un o’r cryfaf ym Mhencampwriaeth y Byd a bob blwyddyn mae canlyniad y Bencampwriaeth gyfan yn y fantol erbyn i’r gyrwyr gyrraedd Cymru. Felly mae ‘na lot o bwysau ar y rali sy’n gwneud pethau’n gyffrous a dweud y lleiaf.
Ar hyn o bryd, mae’r ras am Bencampwriaeth y Byd i’r gwneuthurwyr a’r gyrwyr yn dal yn agored. Sebastien Ogier ac M-Sport yw’r ceffylau blaen yn y Pencampwriaethau yma ond fyddan nhw ddim eisiau gwneud camgymeriad. Mae’r cymalau yn gallu bod yn llithrig ac yn her fawr i’r gyrwyr.
Pa mor wahanol yw’r gamp ers i chi ddechrau eich gyrfa fel gyrrwr?
Mae’r gamp wedi mynd i fyny ac i lawr dros y blynyddoedd. Roedd hi’n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Colin McRae a Richard Burns ac wedyn mae o ‘di bod trwy gyfnod lle mae’n mynd i lawr dipyn. Ond yn sicr eleni efo’r gyrwyr o Brydain ac Iwerddon, Kris Meeke, Craig Breen ac Elfyn, mae pethau’n edrych i fyny eto. Maen nhw ‘di dod â cheir newydd allan hefyd ac maen nhw’n dipyn mwy o anifeiliaid o ran golwg, cyflymdra, sŵn a phob dim arall. Mae hynny wedi ychwanegu mwy o gyffro.
Beth yw eich barn chi ar dymor Elfyn hyd yma?
Mae hwn wedi bod yn dymor da i Elfyn. Mae o wedi creu argraff ar y Bencampwriaeth mewn sawl rali, ond yn enwedig ar ôl iddo ddod yn ail yn yr Ariannin a’r Ffindir. Mae hynny wedi rhoi hyder iddo yn sicr. Dwi’n teimlo ei fod o wedi symud i fyny gêr a phob lwc iddo i’r dyfodol.
Pa mor hyderus ydy Elfyn wrth baratoi ar gyfer Rali Cymru GB eleni?
Mae’r rali yma’n siwtio Elfyn ac efo’r car a’r tîm sydd ganddo, alla i ddim gweld pam na allai fo fod yn llwyddiannus yn y rali. Yn sicr, os bydd y tywydd yn llithrig ac yn wlyb, fe allith o fod yno gyda’r gorau. Mae ganddo siawns dda ac mae’n argoeli’n dda. Pan aethon ni i Sbaen, doedden ni ddim yn disgwyl llawer ond ‘da ni’n mynd i’r rali yma’n obeithiol.
Cymraeg
Cadarnhau lleoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron

YN 2019, ymatebodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i’r ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar leoliad ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron.
Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n caffael tir ar gyfer yr ysgol ardal newydd, a gall gadarnhau bod tir wedi’i brynu at y diben hwn yn y lleoliad isod.

Roedd barn gref bod rhanddeiliaid yn dymuno gweld yr ysgol yn cael ei lleoli ar safle newydd, ac nid ar gampws Theatr Felinfach yn unol ag un o’r opsiynau arfaethedig gwreiddiol.
Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd i gyd yn cau er mwyn ffurfio ysgol newydd yn Nyffryn Aeron.
Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o weld bod y Cyngor wedi llwyddo i brynu’r lleoliad hwn ar gyfer yr ysgol ardal newydd. Bydd yr ysgol newydd yn darparu offer a chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd a bydd yn sicr yn ychwanegiad cyfoethog i Ddyffryn Aeron.”
Gall y Cyngor nawr fwrw ymlaen â’r camau nesaf, sy’n cynnwys sefydlu Corff Llywodraethu Cysgodol ar gyfer yr ysgol newydd.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi maes o law.
Cymraeg
Hwyl ar y beics i blant bach

Mae plant bach meithrinfa yn Llanarthne yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i reidio beic!
Mae plant cyn-ysgol Cwtsh y Clos wedi cael eu hysbrydoli gan Daith Prydain 2021 pan fu rhai o feicwyr gorau’r byd yn rasio drwy’r pentref.
Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif y cyngor yn gweithio’n agos gyda lleoliadau cymunedol fel Cylchoedd Meithrin a chanolfannau teulu i ddarparu hyfforddiant a chymorth parhaus i staff i sicrhau bod plant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol o oedran cynnar.
Mae beiciau ‘Toddlebikes’ ar gael mewn Cylchoedd Meithrin i blant eu defnyddio yn ystod ‘chwarae rhydd’ a hefyd sesiwn hwyliog strwythuredig lle byddant yn dysgu’r camau cyntaf tuag at reidio beic yn annibynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Mae Toddlebikes yn ffordd wych o annog plant i ddechrau dysgu reidio beic. Ar ôl i blant allu cerdded yn annibynnol, gallant ddechrau chwarae gyda Toddlebikes.
“Mae’n wych gweld plant Cwtsh y Clos yn egnïol ac yn mwynhau eu hunain, pwy a ŵyr efallai bod Geraint Thomas y dyfodol yn eu plith!”
Mae tîm Actif wedi ymweld â’r feithrinfa i gynnig cefnogaeth ac i gyflwyno sesiynau Amser Stori Actif i’r plant gyda’r nod o ddod â straeon yn fyw drwy hwyl a gemau.
Ceir rhagor o wybodaeth am sut y mae’r cyngor yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan ar y wefan actif.cymru
Cymraeg
Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.
Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain
Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.
Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.
Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.
Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.
Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.
Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.
Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”
Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.
Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.
Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”
Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/
I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/
Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd
Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.
-
crime1 week ago
Police appeal for information on incident in Black Lion Hotel
-
News6 days ago
Scheme to enhance the town of Tregaron for the National Eisteddfod
-
Business1 week ago
Exam Success for Ashmole & Co Accountants
-
News1 week ago
New ward extension opens at Werndale Hospital
-
Health1 week ago
Possible super-hospital plans released as Pembrokeshire site ruled out
-
News1 day ago
Police appeal following road traffic collision in Cwmystwyth
-
News1 week ago
A sweeping week as Ceredigion welcomed the National Eisteddfod of Wales 2022
-
Education6 hours ago
St. Michaels School celebrates excellent A-Level results