Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Published

on

K​irsty Williams: Mae hwn yn gam pwysig ymlaen

AR DYDD MAWRTH, 12 Rhagfyr, cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, fod rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn mynd i gael ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach a’r sectorau dysgu seiliedig ar waith.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn yn ffurfiol argymhellion yr adolygiad o weithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y Coleg yn gwneud cyfraniad allweddol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch ac y dylid ehangu ei gylch gwaith.

Roedd sefydlu’r adolygiad yn rhan allweddol o’r Cytundeb Blaengar rhwng Prif Weinidog Cymru a Kirsty Williams.

Gofynnir i’r Coleg nawr weithio gyda Llywodraeth Cymru i greu cynllun gweithredu ffurfiol i ddatblygu darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf, a sefydlu bwrdd cynghori ôl-16 o arbenigwyr yn y maes i roi cyngor ar ddatblygu’r cynllun ac unrhyw ymyriadau yn y dyfodol.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Nod Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a lansiwyd yn yr haf, yw datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol i helpu pawb, beth bynnag yw eu gafael ar yr iaith, i ddatblygu sgiliau Cymraeg i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i ddatblygu cyfleoedd i bob dysgwr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rwy’n falch y bydd y Coleg yn gallu gweithredu ar yr argymhellion hyn a’i fod eisoes mewn cysylltiad â’r sector ôl-16 ac yn datblygu ei weithgareddau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Delyth Evans, a gadeiriodd y grŵp gorchwyl a gorffen a gynhaliodd yr adolygiad: “Rwy’n falch bod yr adroddiad wedi cael ei groesawu a bod yr argymhellion i gyd wedi eu derbyn. Bydd yn gyfnod cyffrous i’r Coleg yn y dyfodol ac rwy’ wrth fy modd bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi gallu cyfrannu i’r datblygiad ac wedi creu sylfaen ar gyfer newidiadau i’r dyfodol.”

Continue Reading
2 Comments

2 Comments

  1. LastIla

    January 17, 2018 at 12:52 am

    I have noticed you don’t monetize your blog, don’t waste your traffic, you can earn extra
    cash every month because you’ve got hi quality content.

    If you want to know how to make extra bucks, search for:
    Mertiso’s tips best adsense alternative

  2. BestAngelia

    August 17, 2018 at 9:17 pm

    I have noticed you don’t monetize your website, don’t waste your traffic,
    you can earn additional bucks every month.
    You can use the best adsense alternative for any type of website (they approve all websites), for more info simply search in gooogle:
    boorfe’s tips monetize your website

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Cymraeg

Disgyblion Ceredigion yn clywed profiadau goroeswr yr Holocost

Published

on

I nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, cafodd ddisgyblion Ceredigion y cyfle i glywed hanes goroeswr yr Holocost.

Ar 27 Ionawr 2020, roedd hi’n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid Auschwitz-Birkenau. Roedd Dr Martin Stern MBE yn bump oed pan gafodd ei arestio yn ei ysgol.

Roedd ei daith yn un anodd gyda nifer o adegau lle’r oedd yn agos at farwolaeth. Symudodd Dr Stern i Brydain yn 1950 gan ddod yn Ddoctor. Y dyddiau yma, mae Dr Stern yn addysgu pobl ifanc am yr hyn a ddigwyddodd. Ar 29 Ionawr 2020, daeth i Aberaeron i siarad gyda llond neuadd o bobl ifanc Ceredigion.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, “75 mlynedd yn ôl, gwelodd y byd ddelweddau o bobl yn dod allan o’r gwersylloedd a dod i delerau gyda’r hyn a oedd wedi digwydd. Rydym mor ddiolchgar i Dr Martin Stern am ddod i Geredigion i rannu ei stori a’i brofiadau. Nid hawdd mae’n siwr yw siarad am amser tywyll iawn yn hanes y byd. Rwy’n gobeithio bod ein disgyblion ni wedi ystyried yr hyn yr oeddem wedi ei glywed. O’r tawelwch llethol oedd yn yr ystafell pan oedd Dr Stern yn siarad, rwy’n credu iddynt werthfawrogi’r prynhawn yn fawr.”

Roedd y prynhawn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng gwasanaeth ysgolion Cyngor Sir Ceredigion a ERW.

Continue Reading

Popular This Week