Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Galwad i ddatganoli darlledu

Published

on

Rhys Ifans: Wedi llofnodi llythyr agored

MAE’R ACTOR Rhys Ifans a’r academydd Yr Athro Richard Wyn Jones ymysg dros bedwar deg o Gymry adnabyddus sydd wedi llofnodi llythyr agored at Brif Weinidog Prydain yn galw arni ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.

Daw’r newyddion ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, y mae disgwyl iddo ystyried, ymysg materion eraill, datganoli cyfrifoldeb dros S4C o San Steffan i’r Cynulliad. Derbyniodd yr adolygiad ddeiseb gyda thros fil o enwau arni yn galw am i bwerau symud o Lundain i Gaerdydd.

Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i’r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae dros hanner cant o bobl yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu. Mae’r Cymry adnabyddus, sy’n cynnwys yr actores Sharon Morgan, Y Prifeirdd Christine James, Osian Rhys Jones a T James Jones, cyn-bennaeth gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru Yr Athro Thomas Watkins, cyn-gadeirydd Ofcom Cymru Ian Clarke a’r gantores Gwenno Saunders, yn dweud yn y llythyr: “Credwn fod angen llawer iawn mwy o gyfleoedd arnom fel cenedl ac fel pobl i siarad â’n gilydd, i gynnal trafodaethau ac i ddadlau: trafodaethau cynhwysol o ran holl amrywiaeth y profiad Cymreig sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun ein hanes fel cenedl. “Ar hyn o bryd, mae’r cyfleoedd hynny yn hynod gyfyngedig oherwydd bod pwerau darlledu wedi’u cadw’n ôl yn San Steffan.

“Mae diffyg craffu gan y cyfryngau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru: mae’r system bresennol yn methu ar hyn o bryd ac yn or-ddibynnol ar un darparwr yn unig. Nid yw’r sefyllfa bresennol yn iach i’n democratiaeth leol, i ddemocratiaeth Cymru nac i ffyniant y Gymraeg.”

Ychwanega’r llythyr: “Gresynwn at y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, ynghyd â thoriadau o 36% i gyllideb S4C ers 2010 a’i sefyllfa ariannol ansicr bresennol. Yn ogystal, pryderwn am y cwymp yn y ddarpariaeth leol a Chymraeg ar radio masnachol ynghyd â’r ddarpariaeth fregus o isel o gynnwys lleol a Chymraeg ar orsafoedd teledu lleol.

“Yn 2013, cydnabu Comisiwn Silk – adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – y galwadau cynyddol am roi grymoedd darlledu i Senedd Cymru. Argymhellodd y Comisiwn y dylid trosglwyddo cyfrifoldeb am gyllid llywodraeth sy’n mynd yn uniongyrchol i S4C o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r Llywodraeth hyd yn oed wedi cymryd y cam bach hwnnw ymlaen.

“Mae cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i’r newid hwn, gydag arolwg barn diweddar yn dangos bod 65% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli darlledu i Senedd Cymru. Erfyniwn arnoch nawr i wneud yr hyn sy’n iawn i Gymru a datganoli pwerau darlledu i’r Cynulliad Cenedlaethol.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

The Little Mill Players yn cyflwyno Robin Hood and the Babes in the Wood gan Ben Crocker

Published

on

Robin Hood and the Babes in the Wood’ yw Pantomeim y Little Mill Players eleni. Bydd y perfformiadau yn Theatr Felinfach o Nos Iau 30 Ionawr i Nos Sadwrn 01 Chwefror am 7:30pm. Cynhelir perfformiad matinée hefyd ar brynhawn Sadwrn, 01 Chwefror am 2:30yp.

Efallai mai Robin Hood yw’r saethwr gorau yn yr ardal, ond a wnaiff e lwyddo i ddianc o grafangau Siryf Nottingham ac achub y babanod? Dewch i ymuno â Winnie Widebottom, Marion, Little Joan, Friar Tuck a’r cymeriadau eraill (a hefyd, er syndod, Sefydliad y Merched ‘Smugglers Cove’ sydd wedi dod i Goedwig Sherwood ar wyliau gwersylla a llwyddo i gael eu dal yn yr antur). Dewch i floeddio, hisian a chael gwledd o hwyl trwy chwerthin a chân yn y cynhyrchiad teuluol hwn.

Mae’r Little Mill Players wedi bodoli ers cychwyn Theatr Felinfach yn 1972. Daw aelodau’r cwmni o wahanol rannau o Geredigion a hyd yn oed Sir Gaerfyrddin. Mae ystod oedran y cast yn amrywio o 7 i 60+ ac mae eu swyddi’n amrywio o waith llafur i reolwyr yn ogystal â disgyblion ysgol a myfyrwyr. Eleni maent wrth eu bodd eto o gael sawl wyneb newydd ac maent yn obeithiol y bydd y duedd hon yn parhau.

Mae cyfarwyddwr y sioe, Stephen Entwistle, wedi bod yn aelod o’r grŵp ers dros 16 mlynedd. Dechreuodd fywyd gyda’r grŵp fel y Cyfarwyddwr Cerdd, yna aeth ymlaen i’r llwyfan a bellach ef yw’r bos!

Un o’r aelodau sydd wedi gwasanaethu hiraf yn y cast cyfredol yw Dilys Megicks, cynorthwyydd cynhyrchu’r sioe, ac mae wedi bod yn aelod ers rhyw 24 mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw mae hi wedi portreadu amrywiaeth eang o gymeriadau gan gynnwys dynes ddrwg, cyw iâr ac ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Sefydliad y Merched Smuggler’s Cove! Mae hi’n mwynhau pob agwedd o’r pantomeim traddodiadol.

Aelod arall, sydd bellach yn aelod sefydlog o’r cast yw Andrew Tyrrell sydd, dros y blynyddoedd, wedi perchenogi rôl y panto ‘Dame’ iddo’i hun. Yn sicr, fe yw digrifwr y cast. Mae Andrew hefyd yn gyfrifol am adeiladu propiau ac unrhyw anghenion adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad.

Cofiwch ddilyn tudalen Facebook Theatr Felinfach i gael cyfleoedd i ennill tocynnau i’r cynhyrchiad. Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy theatrfelinfach.cymru. Prisiau’r tocynnau yw £9 i oedolion, 8 i bensiynwyr a £6 i blant.

Continue Reading

Cymraeg

Galw am wirfoddolwyr GIG yng Ngheredigion

Published

on

Gall gwirfoddoli i’r GIG fod yn hynod werth chweil ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’u gwasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd yng Ngheredigion.

Mae yna lawer o resymau pam y gallwch chi ystyried gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’n ffordd wych o gael profiad o amgylchedd ysbyty os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes iechyd. Gall hefyd eich helpu i roi rhywbeth yn ôl os ydych chi wedi bod yn glaf eich hun neu os oedd gennych berthynas yn yr ysbyty.

Mae yna lawer o wahanol rolau gwirfoddol ar gael fel bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau neu groesawu ymwelwyr i’r ysbyty wrth y dderbynfa ac rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl a fyddai’n gallu helpu gyda’r troli siop a bod yn gyfaill i’n cleifion ar ein wardiau yn Ysbyty Bronglais.

Bydd sesiynau gwybodaeth gwirfoddolwyr yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a gall unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ddarganfod mwy trwy gysylltu â’r tîm Gwirfoddoli dros Iechyd ar 01267 244401 neu HDd.VolunteerForHealth@wales.nhs.uk.

Dywedodd David Fretwell, Rheolwr Gwirfoddolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Un o’r buddion mwyaf y gall gwirfoddolwyr ei gynnig i’r GIG yw’r gefnogaeth a’r cysur a rowch i’n cleifion. Rydyn ni eisiau sefydlu troli siop yn Ysbyty Bronglais ond rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n lleol i Geredigion ac sydd eisiau gwirfoddoli i gysylltu. ”

I ddarganfod mwy am Wasanaeth Gwirfoddoli dros Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i: www.hywelddahb.wales.nhs.uk/Gwirfoddoli

Continue Reading

Cymraeg

Menter Iaith leol ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Published

on

Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith. Mae’r Seremoni Wobrwyo, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, yn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.

Mae CERED, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli a sefydlwyd gan Steffan Rees, un o Swyddogion Datblygu CERED, ym mis Hydref 2018. Mae’r gerddorfa yn perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a’r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg ac yn gweld Iwcadwli fel cyfle i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gerddorfa yn mynd o nerth i nerth ac mae Steffan bellach yn cynnal sesiynau ychwanegol i gynnig hyfforddiant i’r rhai sydd am ymuno a’r gerddorfa am y tro cyntaf.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae Cerddorfa Iwcadwli wedi bod yn gyfle arbennig i hybu’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth gan dynnu aelodau o bob oed ac o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Mae aelodaeth y gerddorfa yn parhau i dyfu ac mae’n braf gweld cymaint yn cael mwynhad o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw.”

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Digwyddiad’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar 22 Ionawr, 2020.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru gan anelu i gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn unol a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

Gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma: http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/

Continue Reading

Popular This Week