Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Anrhydeddu Cymru yng Ngŵyl Rhyng-geltaidd Lorient

Published

on

RHWNG y 3ydd a’r 12fed o Awst 2018, bydd Gŵyl Rhyng-geltaidd Lorient yn dod a chenhedloedd Celtaidd y byd at ei gilydd am y 48ain tro. Eleni, Cymru yw’r wlad anrhydeddus. Yn ôl traddodiad, mae poster yr ŵyl yn dathlu’r wlad anrhydeddus honno. Bydd y dyluniad yn cael ei ddefnyddio ym mhob dull o gyfathrebu a hysbysebu. Isod, rydym ni’n amlinellu ein proses greadigol a’r bwriad tu ôl iddi…

Y DDRAIG: SYMBOL PWERUS

Wrth ddylunio Cymru’n weledol, byddai’n amhosibl peidio â chyfeirio at y ddraig sy’n hawlio’r faner Gymreig. Yma, daw’r ddraig â gwir ymdeimlad o nerth i’r llun: mae wedi’i darlunio gyda’i cheg yn agored, yn barod i danio strydoedd Lorient!

Caiff amlinelliad y ddraig ei ffurfio o’r delyn a gwisg y delynores. Mae cen ar groen y creadur yn awgrymu ei fod newydd godi o ddyfnderoedd y môr. Daw hyn ag elfen o symudiad sy’n dwyn i’r cof y cysylltiad arforol rhwng Llydaw ac Ynysoedd Prydain.

Y ddraig, gyda’i ymarweddiad llon a dyluniad graffeg addas i lyfrau plant, yw masgot yr ŵyl eleni.

GWLAD Y GÂN

Slogan y wlad anrhydeddus eleni yw ‘Tiroedd Arthur, caneuon y beirdd a chof yr hynafiaid’, ac fe fu hyn yn ganolog i’r broses greadigol a dylunio’r gwaith gweledol. Mae’r delynores yn symbol o drosglwyddo diwylliant a hanes Cymru drwy ganeuon a straeon. Y delyn yw’r offeryn o ddewis mewn parti Cymreig.

MWYNAU’R TIR

Mae Cymru yn doreithiog o ffosiliau, llechi a siâl. Mae’r poster yn consurio’r agwedd fwynaidd yma yng ngwead y cefndir sy’n defnyddio arlliwiau gwyrdd, eto fyth yn cyfeirio at liwiau’r faner genedlaethol.

Dehongliad deuol: beth welwch chi?

Nod y poster yw cynrychioli elfennau neilltuol Cymru: y ddraig goch a ttadaeth ddiwylliannol gyfoethog – traddodiad llafar – sy’n fwy haniaethol ac felly yn anos ei gynrychioli. Mae’r darlun yn uno’r ddwy elfen yn un: hanner-draig, hanner-telynores. Mae’r dimensiwn chwareus hwn, neu’r dehongliad deuol hwn yn tynnu sylw at natur aml-ochrog y wlad anrhydeddus eleni.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Gwaith adeiladu’n dechrau ar y llwybr cyd-ddefnyddio newydd rhwng IBERS a Phenrhyn-coch

Published

on

Mae’r gwaith o adeiladu ail gam y llwybr cyd-ddefnyddio newydd rhwng Bow Street a Phenrhyn-coch newydd ddechrau. Bydd y llwybr yn cael ei adeiladu yn unol â Chanllawiau Dylunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol.

Y llynedd cafodd y cam cyntaf ei gwblhau, sef llwybr newydd i feicwyr a cherddwyr rhwng Bow Street ac IBERS. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau arian grant yn ystod y flwyddyn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i barhau â’r llwybr a chysylltu â Phenrhyn-coch.

Bydd y rhan fwyaf o’r berth ffawydd bresennol yn cael ei symud ac – o dan gyfarwyddyd Ecolegydd Priffyrdd y Cyngor – bydd y berth yn cael ei thorri’n isel er mwyn sbarduno’i thwf y flwyddyn nesaf gan wella’r siawns y bydd y broses drawsleoli’n llwyddiannus. Bydd clawdd newydd – lle nad oes un ar hyn o bryd – yn cael ei blannu wrth ochr y llwybr newydd a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol ac yn cael ei hau â hadau cyfoethog eu rhywogaethau.

Bydd 150 metr o glawdd newydd yn cael ei blannu gyferbyn ag adeilad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, a fydd yn cyfrannu at gynnydd cyffredinol yn nifer y cloddiau a choed newydd a fydd yn cael eu plannu fel rhan o’r cynllun hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a Thai: “Mae swyddogion Priffyrdd y Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth fel bod y llwybr hwn yn gallu cysylltu Penrhyn-coch â datblygiad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2020. Bydd y llwybr hefyd yn cysylltu â Gorsaf Reilffordd Bow Street y mae disgwyl iddi gael ei chwblhau ym mis Hydref eleni.

“Mae’r datblygiadau hyn yn newyddion gwych i gymunedau Penrhyn-coch a Bow Street oherwydd bydd y cynllun yn eu cysylltu’n well â gwasanaethau, cyfleusterau a gwaith yn lleol. Mae cynlluniau o’r math hwn yn helpu pobl i wneud llai o siwrneiau yn y car, gan gyfrannu’n gadarnhaol at leihau newid hinsawdd ac allyriadau CO2 a hefyd galluogi ein trigolion i fyw bywydau iachach a mwy llesol.”

Bydd y gwaith o blannu’r clawdd newydd yn cael ei wneud yn hwyrach eleni, yn ystod yr hydref, yn unol ag argymhelliad yr Ecolegydd. Bydd hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y plannu’n llwyddo gan ddarparu cynefin gwerthfawr yn yr hirdymor.

Continue Reading

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Popular This Week