Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Gymraeg yn cysylltu mam gyda’i chymuned

Published

on

Ali Evans: Mae dysgu Cymraeg o fudd mawr

MAE MAM o Sir Benfro yn teimlo bod ganddi fwy o gysylltiad â’i chymuned leol ar ôl dysgu Cymraeg ac mae’n galw ar eraill i wneud yr un fath fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion.

Dechreuodd Ailinor Evans, 48, o Gilgerran yn Sir Benfro, ddysgu Cymraeg dair blynedd yn ôl gan ei bod am deimlo’n rhan o’i chymuned leol. Magwyd Ali yn yr ardal mewn teulu di-Gymraeg a symudodd i ffwrdd yn 16 oed a cholli pob Cymraeg yr oedd wedi’i ddysgu yn iau. Ar ôl symud yn ôl 19 mlynedd yn ddiweddarach, teimlodd bod angen iddi ailafael yn yr iaith.

Fodd bynnag, fel mam brysur yn gweithio, doedd ganddi byth yr amser i ddysgu Cymraeg. Yn 2015, ar ôl colli ei swydd dechreuodd weithio yng Nghymdeithas Tai Sir Benfro, sef Grŵp Ateb bellach. Cynigiodd y sefydliad ddosbarthiadau Cymraeg amser cinio am ddim fel rhan o’i bolisi Cymraeg a manteisiodd Ali ar y cyfle ac mae hi wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Buan y daeth Ali i sylweddoli nad oedd awr yr wythnos yn ddigon ac roedd am ddysgu’n gynt, felly mentrodd a dechrau ar ddosbarthiadau nos. Bellach, mae ar fin ennill ei chymhwyster Canolradd fis nesaf ac yn bwriadu ymgymryd â’i thystysgrif Uwch yn y Gymraeg yn y dyfodol.

Mae Ali yn cefnogi Wythnos Addysg Oedolion 2018, a gynhelir rhwng 18 a 24 Mehefin i dynnu sylw at gyfleoedd i ddal ati i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd fel oedolyn a dathlu effaith bositif addysg oedolion ar sgiliau a chyflogadwyedd.

Meddai Ali: “Rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn rhugl yn y Gymraeg, ond heb deimlo tan nawr bod gen i’r amser i ymrwymo i hynny. Pan gyflwynodd fy nghyflogwr wersi Cymraeg a oedd yn cael eu cynnal yn yr ystafell drws nesaf i fy swyddfa, doedd gen i ddim esgus mwyach.

“Rydw i’n byw mewn cymuned wledig lle mae tua 60% yn siarad Cymraeg rhugl. Dydw i erioed wedi cael fy ngwneud i deimlo’n anesmwyth yma, ond roeddwn i’n awyddus i ddysgu Cymraeg er mwyn integreiddio’n llawn yn y gymuned. Mae’r rhan fwyaf o’n busnesau, siopau, tafarndai a chaffis lleol yn gweithredu yn y Gymraeg felly rydw i wrth fy modd yn gallu cynnal sgwrs a byw fy mywyd bob dydd yn hyderus yn y Gymraeg.

“Mae dysgu Cymraeg wedi bod o fudd yn fy ngwaith hefyd. Rydw i’n gorfod siarad â thenantiaid yn aml yn fy ngwaith i holi a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon neu faterion maen nhw am eu codi ac mae’n braf eu bod yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg os ydyn nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus yn gwneud hynny. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn ar fy nhaith ddysgu ac yn neilltuo amser i mi astudio a’r amser i sefyll arholiadau.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg i wneud hynny. Os nad ydych chi am ymrwymo i gwrs nos, mae llawer o opsiynau llai dwys sy’n cynnig blas i chi yn gyntaf. Mae llawer o gymunedau lleol yn cynnal boreau coffi neu yn cydweithio â mentor lleol lle gallwch gyfarfod a sgwrsio yn Gymraeg gyda’ch gilydd. Mae’r gymuned Gymraeg yn gefnogol iawn ac yn annog dysgwyr cymaint ag y gallan nhw.”

Cynhelir Wythnos Addysg Dysgwyr 2018 rhwng 18 a 24 Mehefin ac mae’n dathlu dysgu gydol oes – yn y gwaith, fel rhan o gwrs addysg cymunedol, yn y coleg, mewn prifysgol neu ar-lein. Mae’r wythnos wedi ei chynnal yn flynyddol ers 27 mlynedd bellach, gan hyrwyddo’r cyrsiau amrywiol sydd ar gael i oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadura, o ofal plant i gyllid.

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Rydyn ni’n aml yn meddwl am addysg fel rhywbeth rydyn ni’n ei wneud yn ifanc, ond mae dysgu yn weithgarwch gydol oes.

“Mae Ali yn enghraifft berffaith o rywun sydd wedi elwa ar ddysgu Cymraeg fel oedolyn. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, a beth bynnag yw’ch oedran dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu. Mae mwy o gyfleoedd nag erioed i bobl o bob oed ddechrau dysgu Cymraeg, yn yr ysgol, coleg neu fel oedolyn. Bydd pob unigolyn sy’n manteisio ar y cyfle i ddysgu ein hiaith yn ein helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a fydd yn croesawu’r iaith ac yn ei defnyddio ym mhob cyd-destun.

“Gobeithio y bydd yr Wythnos Addysg Oedolion yn ysgogi pobl o bob oedran ledled Cymru i ddysgu sut gallant ddatblygu eu sgiliau. Mae’r Porth Sgiliau i Oedolion hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad o bob math ar yrfaoedd i unrhyw un sydd am wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd neu ddychwelyd i’r gwaith.”

Meddai David Hagendyk, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae mynd yn ôl i’r byd addysg yn cynnig manteision enfawr i oedolion. Dengys y dystiolaeth y gall wella eich iechyd, bywyd teulu, y cyfle i gael gwaith, neu ddyrchafiad yn y gwaith. Gall cymryd y cam cyntaf yn ôl i addysg oedolion ymddangos yn dalcen caled i ddechrau, ond mae rhywun wastad wrth law i’ch cefnogi ar y daith.

“Mae’r Wythnos Addysg Oedolion wedi’i chynnal yng Nghymru ers 27 mlynedd ac wedi helpu cannoedd ar filoedd o oedolion ar hyd a lled y wlad. Mae’n adeg ragorol i fentro i ddysgu sgil newydd, cwrdd â phobl newydd a dysgu am rywbeth sydd wedi mynd â’ch bryd erioed. Gyda’r byd yn newid mor gyflym, mae’n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn dysgu gydol ein bywydau. Nawr yw’r amser perffaith i ddechrau.”

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn cael ei tnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.

Am ragor o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion, ewch i https://bit.ly/2JUkeXS neu ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @skillsgatewaycw.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Nyrsys – angylion ac arwyr Covid-19

Published

on

DROS y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ffordd y mae’r byd yn gweld nyrsys a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru wedi newid wrth i bandemig Covid-19 fwrw Cymru.
Mae nyrsys wedi bod yna i ni erioed – yr angylion tawel sy’n gofalu amdanom ni trwy gydol ein hoes. Yn ystod 2020, maen nhw wedi esblygu i fod yn arwyr go iawn gyda phobl yn dod allan o’u tai yn wythnosol i ddathlu a chlodfori’r dynion a’r merched ymroddedig a dewr yma.
Mae Nyrsys – cyfres newydd sy’n dechrau ar S4C ar Nos Fercher, 25 Tachwedd – yn mynd â ni at lygad y ffynnon trwy ddilyn gwaith nyrsys cymunedol Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin Cymru drwy gyfnod y pandemig.
Mae nyrsys y gymuned yn gofalu am y cleifion mwyaf bregus yn eu cartrefi. Yn ystod blwyddyn unigryw, mae’r pwysau ar nyrsys cymunedol gorllewin Cymru yn fwy nag erioed o’r blaen.
Yn y rhaglen gyntaf, byddwn yn dilyn Elen Lewis, nyrs yn ardal Aberteifi, sydd wedi cael profiad personol o effaith Covid-19. Fe gollodd Elen ei modryb, Undeg, ym mis Ebrill ac roedd y golled yn sioc i’r teulu cyfan.
Meddai Elen: “Ar ddechre mis Ebrill, o ni yn gwybod ei bod hi yn sâl gartre – a doedd hi ddim yn gwella. Nath y doctor hala hi mewn i Ysbyty Glangwili, a gath hi ei hala bron yn syth wedyn i’r uned gofal dwys lan fan ‘na. Ond yn anffodus, ddath hi byth gartre.
“Ar ôl iddi fynd mewn i’r ysbyty, achos y lockdown oedd neb yn gallu mynd mewn i weld hi.  Roedd ei gŵr, Tudur, wedyn ‘di gorfod dod gartre a chael galwad ffôn wedyn i ddweud bod hi wedi mynd. A fi jyst yn meddwl shwt oedd e’n teimlo ddim yn gallu bod yna, ddim yn gallu mynd lan i ddala ei llaw hi, oedd e jyst yn greulon colli rhywun y ffordd ‘na.”
“Y gwir yw sdim neb yn saff wrth y feirws ‘ma. Ma fe dal yma. Diogelu cleifion, diogelu ein hunain, wel ‘na gyd y’ ni yn gallu neud.”
Mae Siân Williams, nyrs yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin yn cytuno. “Ni ‘di cael haf eitha’ gwael gyda Covid, fel nyrsys. Mae ‘di bod yn rili anodd treial addasu i weithio’n wahanol,  treial neud y penderfyniadau sydd yn iawn i’r cleifion, neud siŵr bod nhw’n saff, neud siŵr bod ni’n saff…”
Yn ystod y rhaglen gyntaf cawn weld cymaint y mae cleifion yn dibynnu ar y nyrsys cymunedol nid yn unig i ddarparu gofal ond fel cwmni hefyd.
Gan fod cleifion yn fwy caeth na’r arfer i’w cartrefi yn y cyfnod clo, mae ‘na groeso mawr i Elen ar ambell aelwyd gan gynnwys Molly James sydd yn ei 90au ac yn dioddef gyda chlwyf poenus ar ei choes.
Mae Elen hefyd yn mynd i drin Bernadette Dolan sy’n gwella ar ôl cael pum llawdriniaeth ar ei choes yn dilyn cwymp fis Rhagfyr diwethaf. Fe gafodd blatiau metel wedi’u gosod yn ei choes ond fe wnaeth ei chorff eu gwrthod felly bu’n rhaid iddi gael llawdriniaeth i dynnu’r cyfan allan ym mis Mehefin yn ystod y Clo Mawr.
Draw i Cross Hands, Sir Caerfyrddin ac rydym yn dilyn y nyrs Siân Williams wrth iddi hi ymweld â George, dyn ifanc 18 oed â spina bifida. Roedd George i fod i gael llawdriniaeth ar ei goluddyn fyddai’n sicrhau ei fod yn gallu byw yn fwy annibynnol, ond mae hynny wedi cael ei ohirio yn sgil Covid-19, felly bydd rhaid iddo aros tan y flwyddyn nesaf.
Yn y rhaglen hon hefyd, fe fyddwn yn gweld sut mae Siân yn ymateb i achos brys. Mae’r tîm yn cael galwad bod gwraig wedi cwympo ar lawr yn ei chartref ac wedi bod yno dros nos. Cawn weld y cyffro i gyd yn y ganolfan iechyd ac ar leoliad wrth iddyn nhw alw’r gwasanaethau brys i agor y drws a mynd â’r wraig i’r ysbyty.
Yn yr ail raglen yn y gyfres, byddwn yn cwrdd â Teleri Gwyther sy’n gweithio fel Nyrs Methiant y Galon yng Ngheredigion. Mae ganddi bron 40 mlynedd o brofiad yn gweithio fel nyrs. Fe fydd yn ymweld â Trevor Peregrine, gafodd ddwy stent wedi’i osod yn ei galon yn ddiweddar, ond er hynny, mae’n ŵr ffit ac iach yn ei 90au sydd wedi teithio’r byd yn ystod ei fywyd.
Byddwn hefyd yn dilyn Lowri Davies, nyrs ifanc, ar ei diwrnod cyntaf o drin cleifion ar ei phen ei hun. Fe glywn am ei theimladau a’i nerfusrwydd o orfod mynd i mewn i gartrefi cleifion a gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.
Continue Reading

Cymraeg

Cau busnes yng Ngheredigion am dorri rheoliadau’r Coronafeirws

Published

on

Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Hysbysiad cau wedi’i gyflwyno i Tafarn Ffostrasol Arms yn Ffostrasol, Llandysul gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd oherwydd diffyg cydymffurfio parhaus â Rheoliadau Coronafeirws. Roedd hysbysiad gwella wedi’i gyflwyno i’r safle o’r blaen, ond sefydlwyd bod tramgwyddau pellach o’r rheoliadau wedi’u nodi ac er mwyn diogelu’r cyhoedd, penderfynwyd cau’r safle. Bydd Tafarn Ffostrasol Arms yn aros ar gau hyd nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi cynyddu eu gorfodaeth o ran busnesau sy’n methu â chadw eu cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau nad yw achosion Covid-19 yn cynyddu yn y Sir.

Ceir tystiolaeth gynyddol ledled y wlad, lle nad oes digon o reoli, bod tafarndai, clybiau a bariau yn cynyddu’r risg y bydd Covid-19 yn lledaenu yn y gymuned. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiadau cau pellach, lle bo angen, i sicrhau cydymffurfio â’r rheoliadau.

Bydd y Cyngor yn bendant yn gweithredu os darganfyddir bod unrhyw fusnes yn euog o dorri rheoliadau Covid-19. Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae angen i bob busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r rheoliadau drwy’r amser.

Mae hysbysiadau gwella hefyd yn cael eu cyflwyno i fusnesau yn eu cynghori i weithredu neu wynebu canlyniadau tebyg. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn falch o weld bod cymaint o fusnesau yn gweithredu’n dda i ddarparu amgylchedd diogel i’w cwsmeriaid. Mae llawer o’r busnesau yr ymwelwyd â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud gwelliannau pellach yn dilyn derbyn cyngor gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor Sir.

Yn ystod yr ymweliadau cydymffurfio, mae swyddogion yn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac mae ganddynt y pŵer i gau safleoedd, gorfodi gwelliannau neu adolygu’r drwydded neu dystysgrif safle’r clwb.

Rhaid i bob tafarn a chlwb sicrhau’r canlynol:

Bod system Profi, Olrhain, Diogelu ar waith er mwyn cofnodi’n gywir bob ymweliad â’r safle fel y gellir cysylltu â chwsmeriaid yn hawdd os bydd achos cadarnhaol yn cael ei gysylltu â’r lleoliad. Mae hyn yn cynnwys enw a rhif ffôn y cwsmeriaid.
Bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn cael ei gynnal, gydag arwyddion digonol, bod pellter digonol rhwng y byrddau a’r seddau, a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli mannau cerdded ac ardal y toiledau.
Rhaid i bob safle ddarparu gwasanaeth wrth y byrddau yn unig h.y. dim archebu wrth y bar.
Rhaid bwyta ac yfed wrth y byrddau yn unig.
Nid yw cwsmeriaid i yfed a sefyll wrth y bar.
Nid yw cwsmeriaid i yfed alcohol tra’n sefyll, oni bai eu bod yn sefyll wrth fwrdd tal – ym mhob achos arall rhaid eu bod eistedd.
Nid oes cerddoriaeth fyw, a bod cerddoriaeth wedi’i recordio ond yn cael ei chwarae yn isel yn y cefndir.
Rhaid i fusnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, gau am 10pm.

Daeth Hysbysiad Cau Tafarn Ffostrasol Arms i rym ar 15 Hydref 2020 am 16:40 a gellir ei weld ar dudalen gwe y Coronafeirws o dan ‘Hysbysiadau Gwelliant a Cau’: www.ceredigion.gov.uk/Coronafeirws

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o’i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-leihaur-risg-o-ddod-i-gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-gweithleoedd

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu’r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Continue Reading

Cymraeg

Cyhoeddwyd dau hysbysiad gwella pellach yng Ngheredigion

Published

on

Bu’n ofynnol i ddau dafarn gwledig yng Ngheredigion wella’r mesurau a gymerant i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn eu hadeiladau.

Mae Tafarn Ffostrasol Arms yn Ffostrasol, Llandysul a Thafarn Vale of Aeron yn Felinfach wedi cael hysbysiad gwella ar ôl ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.

Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gwella Safle, a gyflwynir o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, yn y ddau dafarn ar ddydd Mercher 14 Hydref, 2020.

Yn ystod eu hymweliad a Thafarn Vale of Aeron yn Felinfach, gwelodd y swyddogion nad oedd digon o fesurau ar waith i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid, a bod alcohol yn cael ei weini wrth y bar, yn hytrach na thrwy’r gwasanaeth gorfodol ar gyfer safleoedd trwyddedig. Mae’r hysbysiad gwella yn gofyn am gamau i sicrhau bod seddau’n cael eu symud a’u bod yn cael eu rheoli i sicrhau bod cwsmeriaid ar wahanol aelwydydd estynedig yn eistedd o leiaf ddau fetr oddi wrth ei gilydd, ac mai dim ond wrth fwrdd y cwsmeriaid y maent yn gweini alcohol, yn hytrach nag wrth y bar.

Yn ystod eu hymweliad â’r tafarn Ffostrasol Arms, gwelodd y swyddogion nad oedd digon o fesurau ar waith i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid a staff, lle gwelwyd cwsmeriaid yn eistedd wrth y bar, gyda staff y tu ôl i’r bar ddim yn gwisgo masg. Mae’r hysbysiad gwella yn gofyn am gamau i sicrhau bod stôl wrth y bar yn cael eu symud fel na all cwsmeriaid eistedd wrth y bar, ac y dylai staff wisgo masg.

Mae’n ofynnol i’r ddau dafarn roi’r mesurau ar waith erbyn dydd Gwener 16 Hydref 2020. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gyflwyno Hysbysiad Cau Safle, erlyniad, neu’r ddau.

Continue Reading

Popular This Week