Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Eisiau dianc rhag hynt a helynt gwleidyddiaeth?

Published

on

MAE HI’N anodd cadw trac ar yr holl newidiadau gwleidyddol sy’n digwydd o’n cwmpas. Does dim bwletin yn mynd heibio heb newyddion yn torri o Fae Caerdydd, San Steffan… neu hyd yn oed Washington, DC.

Ond ydi’r holl drafod gwleidyddol yn mynd yn drech?

Yr wythnos hon ar Adre, bydd Nia Parry yn cael cwmni un o wynebau amlycaf gwleidyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Ond peidiwch â phoeni, cyfle i ddianc rhag hynt a helynt gwleidyddiaeth yw pennod yr wythnos hon, gan weld ochr wahanol i un o wleidyddion arloesol Cymru.

Nid yn unig un, ond bydd dau wyneb cyfarwydd yn croesawu Nia i’w cartref nos Fercher 30 Ionawr am 8.25 ar S4C. Power couple mwyaf eiconig ein dydd – na, nid Posh a Becks, a chwaith nid Jay Z a Beyoncé – ond Dafydd Wigley ac Elinor Bennett. Gyda’r ddau wedi ennill eu plwyf mewn meysydd sydd bellteroedd byd o’i gilydd, mae Nia am gael gwledd gerddorol a gwleidyddol yr wythnos hon ar aelwyd y cwpl yn Y Bontnewydd ger Caernarfon.

Yn gerddor heb ei hail, ac wedi rhyddhau pymtheg albwm ledled y byd, mae Elinor Bennett yn delynores amlwg sydd wedi meithrin sawl talent dros y blynyddoedd. A hithau wedi dathlu 50 mlynedd o briodas gyda’i gŵr Dafydd Wigley nôl yn 2017, tybed beth yw’r gyfrinach?

“Rhan amser! Mae Dafydd yn Llundain hanner yr amser,” chwardda Elinor, sy’n aml yn treulio ei hamser yng Nghaerdydd yn gwarchod ei hwyrion. “Bod yn nain ydi’r peth mwya’ pleserus yn y byd.”

A hithau yn ugain mlynedd eleni ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, chwaraeodd Dafydd Wigley rôl holl bwysig yn yr ymgyrch i gael Cynulliad i Gymru. Yn ogystal, mae Dafydd yn eicon am ei gyfraniad calonogol tuag at hawliau pobl anabl, yn enwedig ei gyfraniad tuag at basio Deddf Personau Anabl 1981. Bydd Nia yn cyffwrdd â’r mater sy’n agos iawn at galonnau’r cwpl yn y rhaglen, gan iddynt golli dau o feibion oedd yn dioddef o anableddau difrifol.

“Tydi rhywun ddim yn llwyr ddod drwy golli plentyn – dydi o ddim yn dy adael di,” meddai Dafydd. “Nes i ddysgu llawer iawn am fyd anabledd o ganlyniad, a ges i gyfle yn y Senedd i weithredu ar hynny, a chael deddf 1981 trwodd yn seiliedig ar y profiad.”

“Wrth edrych nôl, mae rhywun yn sylweddoli erbyn rŵan fod pethau wedi agor llawer iawn mwy i bobl efo anableddau,” ychwanegodd Elinor, “roedd ‘na ryw fath o dabŵ nôl yn y saithdegau. Oedda’ ni isho bod yn agored, ac odd y ffaith fod Dafydd yn Aelod Seneddol yn golygu ei bod hi’n haws i ni fod yn agored.”

Ag yntau’n treulio llawer iawn o’i amser yn Llundain o hyd gyda’i sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae Dafydd Wigley wrth ei fodd yn cael dychwelyd o brysurdeb San Steffan i Ogledd Cymru. Gyda cherddoriaeth yn cael ei gweld fel ffordd arbennig o ymlacio, tybed a ydi taro tant ar un o nifer o delynau Elinor yn ddiddordeb ganddo?

“Yn anffodus, dwi’n gwbl angherddorol – dwi’n gadael yr ochr yna yn llwyr i Elinor. Ond dwi’n hoff iawn o wrando,” meddai Dafydd.

Yn hytrach, yn nes at natur mae ei hafan, yn yr ardd lysiau godidog sydd i’w gweld ar y rhaglen.

“Does ‘na’m dwywaith fod garddio’n therapi. Mae o’n le da i hel meddyliau,” meddai Dafydd.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Noson hudolus yn Llyfrgell Aberystwyth

Published

on

Cynhaliwyd Noson Llyfrau Harry Potter yn Llyfrgell Aberystwyth ddydd Gwener, 07 Chwefror. Hon oedd y bedwaredd noson o’r fath.

Ar ôl iddi nosi, roedd hi’n amser i edmygwyr y llyfrau ddathlu’r gyfres eiconig gyda digwyddiadau ledled y byd.

Cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion y digwyddiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth, ac addurnwyd y llyfrgell gyda phob math o bethau sy’n gysylltiedig â Harry Potter.

Trefnwyd y noson gan Emyr Lloyd a Delyth Huws, Llyfrgellwyr Cynorthwyol. Roeddent yn falch iawn â llwyddiant y noson a’r nifer oedd yn bresennol yn y digwyddiad. Dywedodd Emyr Lloyd, “Rydym yn mwynhau cynnal nosweithiau Llyfrau Harry Potter. Nid oedd y bedwaredd noson o’r fath yn eithriad; mynychodd 86 o blant y digwyddiad am ddim, a derbyniwyd adborth cadarnhaol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn swyno’r hen a’r ifanc i fwynhau darllen.”

Daeth tair tylluan o Adar Ysglyfaethus Cei Newydd i’r digwyddiad, a bu Luke yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hud a’i ledrith. Diddanwyd y plant hefyd gyda darlleniad o un o’r llyfrau ac ardal gweithgareddau a chrefftau.

Dilynwch ddigwyddiadau Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion ar Facebook @llyfrgellceredigionlibrary. Y digwyddiad nesaf yw arwerthiant stoc ar 22 Chwefror rhwng 10am a 4pm yn y Bandstand yn Aberystwyth.

Continue Reading

Cymraeg

Cyffro’r ffenomenon ôl-apocalyptaidd yn dod yn fyw

Published

on

Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi’n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae’r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy’n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae’r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i’r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi – does ddim amheuaeth mai hon yw un o’r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni’r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

Continue Reading

Cymraeg

Disgyblion Ceredigion yn clywed profiadau goroeswr yr Holocost

Published

on

I nodi Diwrnod Cofio’r Holocost, cafodd ddisgyblion Ceredigion y cyfle i glywed hanes goroeswr yr Holocost.

Ar 27 Ionawr 2020, roedd hi’n 75 mlynedd ers rhyddhau gwersyll crynhoi a marwolaeth y Natsïaid Auschwitz-Birkenau. Roedd Dr Martin Stern MBE yn bump oed pan gafodd ei arestio yn ei ysgol.

Roedd ei daith yn un anodd gyda nifer o adegau lle’r oedd yn agos at farwolaeth. Symudodd Dr Stern i Brydain yn 1950 gan ddod yn Ddoctor. Y dyddiau yma, mae Dr Stern yn addysgu pobl ifanc am yr hyn a ddigwyddodd. Ar 29 Ionawr 2020, daeth i Aberaeron i siarad gyda llond neuadd o bobl ifanc Ceredigion.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion, “75 mlynedd yn ôl, gwelodd y byd ddelweddau o bobl yn dod allan o’r gwersylloedd a dod i delerau gyda’r hyn a oedd wedi digwydd. Rydym mor ddiolchgar i Dr Martin Stern am ddod i Geredigion i rannu ei stori a’i brofiadau. Nid hawdd mae’n siwr yw siarad am amser tywyll iawn yn hanes y byd. Rwy’n gobeithio bod ein disgyblion ni wedi ystyried yr hyn yr oeddem wedi ei glywed. O’r tawelwch llethol oedd yn yr ystafell pan oedd Dr Stern yn siarad, rwy’n credu iddynt werthfawrogi’r prynhawn yn fawr.”

Roedd y prynhawn wedi ei drefnu ar y cyd rhwng gwasanaeth ysgolion Cyngor Sir Ceredigion a ERW.

Continue Reading

Popular This Week