Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru

Published

on

O GALEDI’r tloty i foethusrwydd tŷ bonedd, bydd cyfres newydd sbon ar S4C yn agor y drws ar straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru.

Bydd Waliau’n Siarad yn dathlu hanes a phensaernïaeth ein gwlad drwy straeon y bobl fu’n byw neu’n gweithio mewn chwe adeilad arbennig.

Bob wythnos, bydd y cyflwynwyr Aled Hughes a Sara Huws yn cael rhwydd hynt i grwydro coridorau a chorneli un adeilad penodol.

Ffermdy hynafol yng Ngheredigion gyda chysylltiadau ag oes y tywysogion, yr abatai a’r Greal Sanctaidd gaiff eu sylw yn y rhaglen gyntaf am 8yh nos Sul 12 Ionawr 2020.

Bydd Aled a Sara yn holi pam, sut a phryd y cafodd Mynachlog Fawr ei godi drws nesa at abaty eiconig Ystrad Fflur ger Tregaron.

Maen nhw’n sgwrsio gyda Charles Arch a’i chwaer Beti Williams am eu magwraeth ar y ffarm ganol y ganrif ddiwethaf, a’r ddau yn dwyn i gof hen ffordd Gymreig o fyw ac amaethu.

Mae Aled a Sara hefyd yn clywed am gyfraniad mynachod y Canol Oesoedd at ddiogelu’n llenyddiaeth, a damcaniaeth am greu canolfan tebyg i Abaty Westminster yn Ystrad Fflur i weinyddu Cymru annibynnol.

Yn gyflwynydd y gyfres gwis Rhannu ar S4C a sioe foreol BBC Radio Cymru, mae Aled wrth ei fodd yn clywed hanesion ac atgofion gan ystod eang o gyfranwyr.

“Mae gwneud y gyfres yma wir wedi bod yn fraint,” meddai Aled, sy’n dod o Lanbedrog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ar Ynys Môn.

“Dw’i a Sara wedi cael cyfle prin i fynd i mewn a chanfod mwy am chwech adeilad sy’n bwysig i’n hanes a’n hunaniaeth ni fel gwlad. Maen nhw’n gymaint mwy na waliau sych. Mae gan bob un eu straeon unigryw ac mae’r rheiny’n dod yn fyw wrth sgwrsio gyda phobl, a chlywed am eu profiadau nhw ac eraill fu’n byw neu’n gweithio yn yr adeiladau hyn.”

Mae Sara Huws yn wyneb newydd ar S4C ond fel hanesydd adeiladau mae ganddi brofiad helaeth o weithio ym maes archif a hanes pensaernïaeth.

“Beth oedd yn wych am Waliau’n Siarad oedd cael cyfle i fusnesu mewn adeiladau sydd fel arfer ynghau i’r cyhoedd. Mae llefydd fel Coleg Harlech yn rhan o’n hanes ni i gyd yng Nghymru ac roedd yn fraint cael mynediad at y lle. Mae mor bwysig i ni ddathlu ac ymfalchïo yn y trysorau pensaernïol yma, a gwneud yn siwr nad yw eu straeon yn mynd yn angof,” meddai Sara sy’n gweithio yn Adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Gwasanaethau gofal cymdeithasol lleol yn wynebu pwysau aruthrol

Published

on

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i flaenoriaethu oedolion sydd mewn perygl a'r rhai sydd angen gofal a chefnogaeth hanfodol a brys fwyaf.

Mae gwasanaethau gofal cartref ledled Ceredigion yn wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i’r pandemig.

Er bod y cyfyngiadau wedi llacio yng Nghymru, mae’r pandemig yn parhau i gyflwyno anawsterau o ran darparu gwasanaethau gofal cartref i oedolion ar gyfer y rheiny sydd eu hangen.

Mae’r sefyllfa yng Ngheredigion yn adlewyrchu problemau rhanbarthol a chenedlaethol lle mae staff gofal cymdeithasol ac iechyd wedi syrffedu dros gyfnod estynedig gan arwain at nifer yn dewis gadael y sector.

Yng Ngheredigion a ledled Cymru, mae’r galw am gymorth ymarferol a gofal personol wedi cynyddu’n gyflym tra bo gallu’r Cyngor, asiantaethau partner a darparwyr lleol o dan bwysau mawr. Yn anffodus, mae hyn yn effeithio ar barhad ac argaeledd y gwasanaethau.

Mae staff y Cyngor yn gweithio’n ddiflino ar y cyd â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i fynd i’r afael â’r anawsterau cyfredol. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i flaenoriaethu oedolion sydd mewn perygl a’r rheiny sydd angen gofal a chymorth hanfodol fwyaf.

Cysylltir â defnyddwyr y gwasanaeth i drafod eu pecynnau cymorth ac fe’u hanogir i ystyried opsiynau hunangymorth a chymorth teulu a chymuned lle bo hynny’n bosibl.

Mae ymateb Ceredigion i argyfwng COVID-19 wedi bod yn drawiadol gydag unigolion, teuluoedd, cymunedau a gwasanaethau lleol yn cydweithio i wneud ymdrechion estynedig a chynaliadwy i gadw pobl fregus yn ddiogel.

Gyda’n gilydd, gallwn fod yn hyderus y byddwn oll yn parhau i fynd i’r afael â’r anawsterau cyfredol ac yn ymrwymo i wneud ein gorau i gefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth amlwg i’r Cyngor yn ystod y pandemig a bydd yn parhau i fod felly.

Os hoffech wybodaeth neu gyngor ar eich llesiant, neu os hoffech wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, ewch i wefan Dewis Cymru: https://www.dewis.wales/ Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y sector gofal hefyd ar gael ar wefan Gofalwn Cymru: https://gofalwn.cymru/

Os ydych yn poeni am eich diogelwch neu eich llesiant, gallwch ffonio’r Cyngor ar 01545 574000.

Continue Reading

Cymraeg

Peidiwch â cholli eich llais – annog trigolion Ceredigion i wirio bod eu manylion cofrestru i bleidleisio yn gyfredol

Published

on

Gydag etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yng Ngheredigion ar 5 Mai 2022, mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion

Mae trigolion Ceredigion yn cael eu rhybuddio i beidio â cholli eu llais ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw drwy sicrhau bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol.

Gan y bydd etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal yng Ngheredigion ar 5 Mai 2021, mae hwn yn gyfle pwysig i drigolion sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan. Mae hefyd yn bwysig bod ar y gofrestr etholiadol ar gyfer eich statws credyd.

Mae’r canfasiad blynyddol yn sicrhau y gall Ceredigion sicrhau bod y gofrestr etholiadol yn gyfredol, gan nodi unrhyw breswylwyr nad ydynt wedi’u cofrestru i bleidleisio fel y gellir eu hannog i wneud hynny. Gan fod pobl ifanc 16-17 oed a phobl o bob cenedl bellach yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, bydd hwn yn gyfle pwysig i sicrhau y gall y pleidleiswyr newydd hyn gael eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol cyn etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf. 

Mae angen i drigolion gadw llygad am lythyr gan Wasanaethau Etholiadol Ceredigion fel y gallwn sicrhau bod gennym y manylion cywir ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yng Ngheredigion. Sicrhewch eich bod yn gwirio’r manylion ar y llythyr. Os nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Os nad ydych chi wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos ar y llythyr y byddwn yn ei anfon at eich cyfeiriad. Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote neu gallwch gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol drwy e-bostio electoralservices@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 572032.

Yn arbennig, anogir pobl sydd wedi symud yn ddiweddar i ddarparu eu manylion cywir i Wasanaethau Etholiadol Ceredigion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol a gyhoeddwyd yn 2019 yn nodi bod y rheini sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r rheini sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser hir.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Does dim ots ble cawsoch chi eich geni. Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn gallwch bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, ond dim ond os byddwch yn cofrestru i bleidleisio yn gyntaf. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru yng Ngheredigion, sicrhewch eich bod yn darparu’r wybodaeth angenrheidiol i ni pan fydd ei hangen ac yn cofrestru i bleidleisio ar-lein ar www.gov.uk/register-to-vote.”

Mae gwybodaeth ynglŷn â chofrestru i bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Gall trigolion sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion drwy electoralservices@ceredigion.gov.uk neu 01545 572032.

Continue Reading

Cymraeg

Y Cyngor yn annog trigolion i gael yr help sydd ei angen arnynt

Published

on

Mae'r Cyngor yn annog preswylwyr i gael yr help sydd ei angen arnynt

Nawr bod y wlad ar Lefel Rhybudd 0 a bod cyfyngiadau Covid wedi llacio’n sylweddol ers yr haf diwethaf, dim ond nawr y mae nifer o drigolion Ceredigion yn profi effaith ariannol y pandemig yn llawn.

Mae pryderon ynglŷn â chael gwared ar y taliad ychwanegol o £20 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol ac ailddechrau’r llawr isafswm incwm ar gyfer pobl hunangyflogedig sydd ar Gredyd Cynhwysol, ac mae’r ddau beth hynny i fod i ddigwydd ym mis Medi. Mae cymorth ffyrlo wedi dechrau lleihau’n raddol ac mae gan gyflogwyr benderfyniadau anodd i’w gwneud ynglŷn â’u lefelau staffio.

Mae cost bwyd a thanwydd wedi codi’n sydyn a disgwylir i’r Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan o 6 mis gael ei adolygu ym mis Medi, a allai leihau diogelwch tenantiaid i’r lefelau yr oeddent cyn y pandemig. Bydd unrhyw un sydd angen symud ymlaen hefyd yn teimlo effaith y cynnydd diweddar yn y galw am dai wrth i ddewis, argaeledd a fforddiadwyedd leihau. Mae llawer o bobl yn gweld eu biliau trydan a nwy yn codi, ac o fis Hydref bydd cynnydd yn lefel y cap ar brisiau ynni, sy’n effeithio ar hyd yn oed mwy o aelwydydd. Gall siarad â thîm ynni Cyngor ar Bopeth helpu i sicrhau bod eich biliau’n aros mor isel â phosibl a’ch bod yn hawlio unrhyw gymorth ychwanegol y mae gennych hawl iddo.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw cadeirydd Is-grŵp Mynd i’r Afael â Chaledi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Dywedodd: “Mae llawer o gefnogaeth a chymorth ar gael, ac mae’n bwysig bod pobl yn ystyried hyn fel eu hawl absoliwt. Rydym wedi dwyn ynghyd swyddogion o’n gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau, gwasanaeth Opsiynau Tai, gwasanaeth y Wasg a Chyfathrebu a Phrif Swyddogion Gweithredol CAVO a Chyngor ar Bopeth Ceredigion i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y rheini sy’n ei chael hi’n anodd yn gallu cael gafael ar y budd-daliadau a’r cyngor y mae ganddynt hawl i’w cael. Mae llawer o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar y dudalen ynglŷn â budd-daliadau ar wefan Cyngor Ceredigion, felly cymerwch olwg. Mae Cyngor ar Bopeth yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau eraill i gyrraedd pobl a gall tenantiaid tai cymdeithasol gysylltu â’u swyddog cefnogi tenantiaeth am gymorth gydag arian a materion eraill.”

Serretta Bebb yw Prif Swyddog Gweithredol Swyddfa Cyngor ar Bopeth Ceredigion. Dywedodd: “Mae pobl yn tueddu i ddod at Gyngor ar Bopeth pan fyddant mewn argyfwng. Yn ddelfrydol, hoffem i bobl gysylltu pan fydd pethau’n dechrau mynd yn galed arnynt, oherwydd po gynharaf y bydd pobl yn gofyn am gymorth, po fwyaf o opsiynau sydd ar gael i atal pethau rhag gwaethygu. Mae ein cynghorwyr yn brofiadol iawn a gallant helpu gyda hawliadau budd-daliadau, dyledion, materion tai, iechyd a diogelwch yn y gwaith, tai a llawer mwy. Mae’r holl faterion hyn yn hynod o straenus ac yn effeithio ar iechyd a lles pobl. Mae Cyngor ar Bopeth Ceredigion wedi parhau i helpu miloedd o gleientiaid drwy gydol y pandemig dros y ffôn, drwy e-bost, ac wyneb yn wyneb drwy fideo, felly cysylltwch â ni. Gallwn hefyd eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth, er enghraifft, gall tenantiaid tai cymdeithasol hefyd gysylltu â’u Landlordiaid am gymorth gydag arian a materion eraill.”

Mae’r Cyngor yn annog trigolion sy’n wynebau’r heriau hyn i beidio â dioddef yn dawel a chael yr help sydd ei angen arnynt. Mae llawer o wybodaeth ar gael i drigolion ar y dudalen ynglŷn â budd-daliadau ar wefan y Cyngor.

https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/budd-daliadau/

Gellir cysylltu â Swyddfa Cyngor ar Bopeth Ceredigion drwy ffonio 01239 621974 neu anfon e-bost at enquiries@cabceredigion.org.uk.

Continue Reading

Popular This Week